Eitem ar yr agenda
SETLIAD ARIANNOL DROS DRO LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL 2025/26
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn diweddaru’r Cabinet ynghylch Setliad
Ariannol Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol 2025/26 a’i
oblygiadau ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn –
(a) nodi effaith Setliad Dros Dro
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 a geir yn adran 4.1 yr adroddiad a’r pwysau
diweddaraf ar y gyllideb a geir yn adran 4.2 yr adroddiad, a
(b) derbyn yr adborth gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a chymeradwyo eu hargymhellion fel y nodir
yn adran 4.4 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad
a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar setliad dros dro
Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2025/26 a’r goblygiadau ar osod
cyllideb gytbwys at 2025/26.
Talodd y Cynghorydd Ellis deyrnged i’r Pennaeth
Cyllid ac Archwilio a’r Tîm Cyllid am y gwaith roeddent wedi’i wneud ar ôl y
setliad dros dro. Er bod effaith y setliad
wedi bod yn gadarnhaol i Sir Ddinbych, roedd diffygion yn parhau i fod o fewn y
broses gyllidebol ac roedd angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r
rheiny. Roedd mesurau darbodus dros y
blynyddoedd diwethaf yn golygu bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac roedd yn
bwysig dal ati i fod yn ddarbodus yn y dyfodol.
Roedd y Cynghorydd Ellis hefyd yn croesawu’r adborth gan y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar ôl iddo adolygu’r Strategaeth a’r Cynllun Ariannol
Tymor Canolig, gan annog derbyn yr holl argymhellion er mwyn bod mor agored â
phosib’ ag aelodau a thrigolion.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio fanylion y
setliad dros dro a gafwyd ym mis Rhagfyr 2024 a’i oblygiadau. Yn fras, roedd swm Cyllid Allanol Cyfun dros
dro’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 yn £215.222 miliwn, o
gymharu â’r swm o Gyllid Allanol Cyfun a gadarnhawyd ar gyfer 2024/25, sef
£205.729 miliwn, a oedd yn gynnydd o £9.493 miliwn neu 4.6%, a oedd yn ffafriol
o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 4.3%.
Roedd y gyllideb a gadarnhawyd yn cynnwys cyllid ychwanegol yn ystod y
flwyddyn gan Lywodraeth Cymru (yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref
2024) a oedd yn gyfanswm o £4.487 miliwn ynghlwm â chyflog athrawon, pensiynau
athrawon a chyflogau staff nad oeddent yn athrawon. Roedd y cyllid ychwanegol wedi cynyddu’r
cyllid yn uwch na’r 4.6% uchod a’r wir effaith oedd cynnydd o £14.427 miliwn
neu 7%. Er bod y cynnydd i’r setliad yn
gadarnhaol ac yn cael ei groesawu, byddai angen cynnydd o tua 11% i ariannu’r
pwysau oedd ar y gyllideb, ac roedd eto angen cyfuniad o arbedion a chynnydd i
Dreth y Cyngor ar gyfer hwnnw. Roedd
pwysau o £21.325 miliwn wedi’i nodi yng nghyllideb 2025/26 ac roedd y dull i
osod cyllidebau cytbwys dros y blynyddoedd nesaf wedi’i bennu. Roedd gwaith i wneud arbedion yn 2025/26
wedi’i fanylu, a rhagor o waith yn cael ei wneud a fyddai’n cael ei ystyried
gan y Cabinet a’r Cyngor ym mis Chwefror 2025 a Gweithdy ar y Gyllideb i’r
Aelodau ar 31 Ionawr i drafod y cynigion ynghlwm â’r gyllideb. Yn olaf, atgoffwyd y Cabinet bod y
Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi’u hystyried mewn gwahanol
bwyllgorau a gofynnwyd i’r Cabinet ystyried yr adborth diweddaraf gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel mae’r adroddiad yn ei nodi.
Croesawai’r Cabinet y setliad gwell na’r disgwyl
ond pwysleisiai fod y pwysau ar y gyllideb oedd wedi’i adrodd yn ystod y
flwyddyn yn parhau ac er nad oedd mor ddifrifol â’r disgwyl, roedd bwlch
sylweddol yn parhau i fod yn y gyllideb. Roedd angen mynd i’r afael â hwnnw
wedi mwyn i’r Cyngor allu sicrhau cyllideb gytbwys yn 2025/26. Diolchodd y Cabinet i’r Aelod Arweiniol, y
Pennaeth Cyllid a’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled ar ôl i’r setliad dros dro
gael ei gyhoeddi ac am barhau i roi gwybodaeth i’r Aelodau am y newidiadau a’r
sefyllfa hyd yma.
Ymatebodd yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth
Gwasanaeth i gwestiynau fel a ganlyn –
·
egluro pam y byddai’r
setliad dros dro’n annhebygol o newid yn sylweddol o ystyried na fyddai’r data
sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y fformiwla gyllid yn newid cyn y setliad
terfynol ac roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i fân newidiadau, gan
fod yn gwbl ymwybodol y byddai angen i awdurdodau lleol weithio i osod eu
cyllidebau cyn i’r setliad terfynol gael ei gyhoeddi
·
rhoi trosolwg o’r fformiwla
gyllid a’r amrywiaeth o ganlyniad iddi yn y cynnydd oedd ar draws awdurdodau
lleol, gyda setliad dros dro Sir Ddinbych ychydig yn well na chyfartaledd
Cymru, sef 4.3%, a’r trafodaethau ynglŷn â’r posibilrwydd i Lywodraeth
Cymru ddarparu cyllid sylfaenol ychwanegol yn y setliad terfynol ar gyfer yr
awdurdodau lleol hynny oedd yn cael setliadau llai
·
manylu ar fanteision
setliadau ar gyfer sawl blwyddyn er mwyn i’r Cyngor gynllunio â mwy o sicrwydd
a chanolbwyntio’n fwy ar newidiadau tymor canolig yn hytrach na blwyddyn ymlaen
llaw, yn enwedig o ystyried faint o bwysau sydd wedi wynebu awdurdodau lleol
dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd
bynnag, mae’n rhaid cydnabod hefyd fod setliadau ar gyfer sawl blwyddyn yn cael
eu rhoi heb unrhyw wybodaeth sicr am amrywiadau yn y dyfodol, fel i chwyddiant,
cyfraddau llog, ac ati, a fyddai’n effeithio ar gyllidebau.
Fe wnaeth y Cabinet hefyd drafod yr adborth gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Roedd y Cynghorydd Ellis yn credu bod y Cyngor eisoes yn gweithio’n unol
â dau o’r argymhellion ynghlwm â chanolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau
statudol wrth osod cyllideb, a pharhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i
drigolion am benderfyniadau oedd yn cael eu gwneud a’u goblygiadau, ac roedd yn
fodlon derbyn y rheiny. Roedd y
Cynghorydd Ellis hefyd o blaid y trydydd argymhelliad ynghlwm â chyfleu, yn
ogystal ag opsiynau eraill, y lefel o Dreth y Cyngor a fyddai ei hangen i
lenwi’r bwlch yn y gyllideb yn gyfan gwbl, a fyddai’n arwain at fwy o
dryloywder o ran opsiynau. Cytunai’r
Arweinydd, gan ychwanegu y byddai cynnwys yr opsiwn hwnnw yn cyfrannu at y
drafodaeth ac yn amlygu’r anawsterau a’r dewisiadau wrth ariannu gwasanaethau.
Gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley, a oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ragor o gwestiynau a chododd
bryderon am yr argymhelliad posib’ i ddefnyddio Treth y Cyngor fel yr unig
ffordd o lenwi’r bwlch yn y gyllideb.
Eglurodd y Cynghorydd Ellis nad oedd unrhyw fwriad o gyflwyno
argymhelliad yn hynny o beth ond i gynnwys yr opsiwn er gwybodaeth a mwy o
dryloywder i ddangos faint y byddai angen codi Treth y Cyngor i gau’r bwlch yn
y gyllideb yn gyfan gwbl. Roedd y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi derbyn y byddai’n opsiwn annymunol ond
y dylid ei ystyried er hynny, gan ei fod yn un o’r offerynnau a oedd ar gael
i’r Cyngor gan nad oedd cap ar Dreth y Cyngor.
Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ragor o gyd-destun i drafodaethau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Cyn y
setliad, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud bod pwysau ar draws
Cymru o £559 miliwn, a fyddai’n gofyn am gynnydd i gyfraddau Treth y Cyngor o
dros 20% i’w ariannu i gyd. Ychwanegodd
y byddai modd adrodd ar y lefel o Dreth y Cyngor oedd yn angenrheidiol i
ariannu’r pwysau ar gyllideb Sir Ddinbych yn y Gweithdy ar y Gyllideb i’r
Aelodau ac yn adroddiadau’r dyfodol os oedd angen.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn –
(a) nodi effaith Setliad Dros Dro
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 yn adran 4.1 yn yr adroddiad a’r pwysau
diweddaraf ar y gyllideb sydd yn adran 4.2 yn yr adroddiad; ac yn
(b) derbyn yr adborth gan y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac yn cymeradwyo eu hargymhellion fel y
nodir yn adran 4.4 yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: