Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR DDIWYGIO LLES

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (copi’n amgaeedig) yn nodi effaith cyfredol Diwygio Lles ar Sir Ddinbych a’i effaith yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Datgelodd y Cynghorydd Barbara Smith fudd personol yn yr eitem hon gan ei bod yn gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau).

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad gyda manylion effaith presennol a thebygol y dyfodol y Diwygio Lles ar Sir Ddinbych.  Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar wybodaeth a gyflwynwyd ynghynt i’r Grwpiau Ardal Aelodau am effaith parhaus newidiadau I Budd-daliadau Tai a Chyngor fel rhan o weithredu cyffredinol y Credyd Cynhwysol.  Er bod yn rhaid cwblhau nifer o fanylion, roedd y Cyngor wedi cymryd ymagwedd proactif gan sefydlu Grŵp Diwygio Lles traws-wasanaeth i rannu gwybodaeth, cefnogi cwsmeriaid a nodi’r effaith posibl ar Sir Ddinbych.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau (H:F&A) yr adroddiad oedd yn cynnwys y prif feysydd canlynol –

 

·        Credyd Cynhwysol

·        Budd-daliadau Tai

·        Lleoli Budd-dal Treth Cyngor, a

·        Newidiadau arwyddocaol eraill i fudd-daliadau.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, cafwyd manylion effaith newidiadau diwygio lles unigol ar Sir Ddinbych gan yr H:F&A ac amlygodd gymhlethdodau o fewn y system fudd-daliadau a’r goblygiadau o’r herwydd i’r hawlwyr a’r awdurdod.  Amlygodd hefyd y risgiau ariannol sylweddol ynghlwm â’r newidiadau oedd yn cael eu cymhlethu gan yr ansicrwydd presennol a’r amserlen fer ar gyfer gweithredu.  Roedd rhagdybiaethau wedi’u cynnwys yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor oedd yn codi o golli incwm i’r awdurdod.    Roedd y pwyntiau pwysedd yn cynnwys mwy o alwadau ac effaith ar adnoddau staffio Refeniw a Budd-daliadau; casglu rhent a’r effaith ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.    Roedd newid pwysig a gyhoeddwyd yn ddiweddar nad oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â thoriad o £10bn ychwanegol mewn taliadau lles.

 

Mynegodd yr Aelodau eu pryderon am effaith y newidiadau ar drigolion y sir, gan amlygu’r angen am ddiogelu’r rhai mwyaf bregus pan oedd yn bosibl.  Mynegwyd pryderon hefyd am yr effaith negyddol ar incwm ac adnoddau’r awdurdod o ganlyniad i’r diwygio lles; yr ansicrwydd oedd yn ymwneud â’r newidiadau i’r system fudd-daliadau a’r amserlenni tyn ar gyfer gweithredu’r newidiadau hyn. Er eu bod yn cymeradwyo’r ymagwedd proactif a gymerwyd gan yr awdurdod o safbwynt sefydlu’r Grŵp Diwygio lles a rhannu gwybodaeth, teimlai’r Aelodau y dylid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau a’r effaith ar unigolion gan awgrymu’r defnydd o’r bws gwybodaeth symudol, canolfannau adnoddau a Llais y Sir.  Roedden nhw hefyd yn awyddus i ariannu’r asiantaethau cyngor lles yn ddigonol a rhoi adnoddau iddyn nhw oherwydd y gwasanaeth hanfodol roedden nhw’n ei gyflenwi.  Codwyd cwestiynau penodol am newidiadau lles a thrafododd yr Aelodau eu pryderon gyda’r swyddogion oedd yn ymateb fel a ganlyn -

 

·        mae asiantaethau cyngor lles yn gweithio’n agos gyda’i gilydd ond roedd diogelu data’n gwahardd rhannu gwybodaeth gyda chyrff eraill

·        roedden nhw’n cymryd ymagwedd wedi’i dargedu at rannu gwybodaeth ar ôl derbyn cyngor pendant ac roedd llythyrau wedi’u hanfon at unigolion oedd yn cael eu heffeithio gan newidiadau penodol; cadwyd tudalen gyfan yn rhifyn mis Ionawr o Lais y Sir i roi gwybodaeth am newidiadau i’r Dreth Cyngor

·        roedden nhw’n cytuno i’r awgrym bod cynghorwyr yn cymryd mwy o ran yn y broses er mwyn rhannu gwybodaeth o fewn eu trefi a’u cymunedau

·        er bod asiantaethau lles wedi bod yn rhan hanfodol o helpu pobl i sicrhau eu hawliadau budd-daliadau, awgrymwyd bod angen mwy o bwyslais ar roi cyngor ar gyllidebu a rheoli arian

·        adroddwyd ar ganlyniadau rhai o’r cynlluniau peilot oedd yn cael eu cynnal cyn gweithredu’r newidiadau’n llawn a chydnabuwyd yr amserlen fer wrth ddelio â’r problemau a nodwyd

·        nid oedd y swyddogion yn ymwybodol o unrhyw ostyngiadau a gynlluniwyd mewn ariannu asiantaethau cynghori

·        amlygwyd y cyhoeddusrwydd negyddol posibl a allai godi o’r cynnydd tebygol yn nifer erlyniadau’r awdurdod am beidio â thalu

·        roedd y Grŵp Diwygio Lles wedi adnabod y problemau ynghlwm â’r math ac argaeledd tai sy’n codi o gyflwyno'r rheolau meini prawf maint h.y. ‘treth ystafell wely’ ac roedd strategaeth dai’n cael ei llunio ar gyfer hyn

·        dywedwyd nad oedd gan y cyngor, fel landlord, unrhyw ddyletswydd o fewn y ddeddf i ail-gartrefi tenantiaid oedd yn cael eu heffeithio gan y ‘dreth ystafell wely’ nac i dalu eu treth ond roedd dyletswydd ar y cyngor i gasglu’r dreth

·        dywedwyd bod pensiynwyr wedi’u heithrio o’r ‘dreth ystafell wely’

·        ni fyddai landlordiaid preifat yn cael eu heffeithio pan gyflwynwyd y ‘dreth ystafell wely’ oherwydd roedd taliadau wedi’u seilio’n barod ar feini prawf maint

·        cytunwyd y gallai problemau godi o dalu budd-daliadau tai’n uniongyrchol i denantiaid yn hytrach nag i landlordiaid. Dylid canfod y rhain yn ystod cyfnod y cynllun peilot

·        roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gwneud llawer o waith ymchwil wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun Treth Cyngor er mwyn dylanwadu ar ei luniad a’i weithredu

·        cadarnhawyd y byddai’r cynllun ariannu i gynorthwyo pensiynwyr gyda’r Dreth Cyngor yn debygol o barhau mewn dull diwygiedig yn y blynyddoedd i ddod

·        dangoswyd nad oedd unrhyw hawl i ddewis, i bob pwrpas, wedi’i ddangos i gynghorau oedd yn gweinyddu’r cynllun Treth Cyngor yng Nghymru er mwyn diogelu grwpiau neu unigolion arbennig  a bod yr amserlen ar gyfer ei weithredu’n hynod o fyr

·        byddai Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf ar y dyraniad arian ar gyfer y cynllun Treth Cyngor yng Ngweithdy Cyllideb mis Rhagfyr

·        rhannwyd gwybodaeth gyda landlordiaid drwy’r Fforwm Landlordiaid ac roedden nhw’n derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Barbara Smith ar y cyfle i ddiolch i’r H:F&A a Phenaethiaid Refeniw a Budd-daliadau am eu hadroddiad addysgiadol a manwl.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: