Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

SWYDDOGAETH PENCAMPWYR

I ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (copi’n amgaeedig) ynglŷn â phenodi aelodau i weithredu fel Pencampwyr ar gyfer meysydd arbennig.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barbara Smith, Aelod Arweiniol Moderneiddio a Pherfformiad yr adroddiad yn gofyn i’r Aelodau ystyried y disgrifiadau rôl drafft ar gyfer Hyrwyddwyr a phenodi’r rhai a enwyd yng Nghyfansoddiad y Cyngor ac i drafod y broses lle gellid enwi rolau Hyrwyddwyr eraill fel rhai addas i’w mabwysiadu gan y Cyngor.  Roedd yn helaethu ar swyddi’r pedwar Hyrwyddwr oedd wedi’u nodi yn y Cyfansoddiad ar gyfer y meysydd canlynol -

 

·        Hyrwyddwr Pobl Hŷn

·        Hyrwyddwr Digartrefedd

·        Hyrwyddwr Gofalwyr

·        Hyrwyddwr Anableddau Dysgu

 

Roedd Arweinwyr Grwpiau wedi trafod y broses penodi Hyrwyddwyr ac wedi cytuno y byddai’r enwebedig yn paratoi CV ac y byddai’r Cyngor llawn yn penodi.  Awgrymwyd y dylai’r CVs gael eu cyflwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd erbyn 16 Tachwedd a ystyried y penodiadau gan y Cyngor ar 4 Rhagfyr.  Byddai’r weithdrefn hon yn sicrhau nad oedd un aelod yn cael ei ddifreinio.  Nododd y Cynghorydd Gwyneth Kensler eu bod wedi bod angen eglurhad pellach ar y broses benodi yn dilyn cyfarfod yr Arweinwyr Grŵp ac roedd yn amau ansawdd yr adborth i’r aelodau.

 

Yn ystod y drafodaeth oedd yn dilyn, cytunodd y Cyngor y dylai’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol ystyried rhinwedd penodi Hyrwyddwyr ar gyfer buddiannau eraill a chyflwynwyd nifer o awgrymiadau i’w hystyried fel a ganlyn -

 

·        Cynigiodd y Cynghorydd Jason McLellan Hyrwyddwr Pobl Ifanc gan amlygu’r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’r angen am roi pŵer iddyn nhw a’u cynnwys yn y broses wleidyddol.  Siaradodd aelodau eraill o blaid y cynnig hwnnw ac ychwanegodd y Cynghorydd Carys Guy-Davies y dylai’r grŵp oed targed fod yn 14 - 19 gan ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth wleidyddol.

 

Yn codi o’r cynnig, dywedodd y Cadeirydd fod trefniadau’n cael eu gwneud i ddirprwyaeth o bobl ifanc fynychu Briffio’r Cyngor ym mis Ionawr er mwyn creu diddordeb mewn gwleidyddiaeth. Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield y dylid gwahodd y cynghorwyr iau i ryngweithio gyda’r ddirprwyaeth honno ac i ymgysylltu gyda’r bobl ifanc.  Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Williams fod gwaith ar y gweill mewn ysgolion i gysylltu â phobl ifanc ac roedd pob ysgol wedi ethol Cyngor yr Ysgol.  Teimlai bod gwleidyddiaeth yn y cyfryngau yn digalonni pobl ifanc.

 

·        Amlygodd y Cynghorydd Ann Davies yr angen am Hyrwyddwyr Gofalwyr Ifanc (swydd yr oedd y cyn Gynghorydd Morfudd Jones wedi’i chyflawni yn y gorffennol) i ddarparu rôl fonitro a sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.

 

·        Gofynnodd y Cynghorydd David Smith am ystyried Hyrwyddwyr Craffu, swydd yr oedd ef ei hun wedi’i chyflawni yn y gorffennol gan amlygu pwysigrwydd swyddogaeth graffu ac i fod yn rhan o’r Rhwydwaith Hyrwyddwyr Craffu.

 

Manteisiodd yr Hyrwyddwyr Pobl Hŷn ac Anableddau Dysgu presennol, y Cynghorwyr Bobby Feeley a Ray Bartley ar y cyfle i amlygu pwysigrwydd y rolau hyn a’r gwaith da a’r llwyddiannau yn y meysydd hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Nododd y Cynghorydd Feeley y gwahaniaeth barn a ddylai Hyrwyddwyr gael eu lleoli ar lefel cabinet ai peidio.  Teimlai y dylai awdurdodau unigol benderfynu ar yr ymagwedd a gymerir a chroesawodd enwebiadau gan eraill am y swydd o Hyrwyddwr Pobl Hŷn.  Teimlai’r Cynghorydd Meiryck Davies fod aelodau’r Cabinet yn cario llwyth gwaith llawn ac awgrymodd y byddai’n arfer da i ganiatáu i’r aelodau hynny oedd y tu allan i’r Cabinet yn unig ymgymryd â rolau Hyrwyddwyr.  Teimlai’r Cynghorydd fod angen eglurhad pellach ar rôl Hyrwyddwyr ac awgrymodd mai’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol fyddai’r pwyllgor gorau i ddatblygu rolau unigol ac i ddisgrifio eu rhyngweithiad gydag eraill er mwyn i Hyrwyddwyr ychwanegu gwerth i feysydd arbennig.

 

Roedd y Cynghorydd Barbara Smith yn falch o glywed y ddadl gadarnhaol am werth Hyrwyddwyr.  Wrth ystyried y ffordd ymlaen, awgrymwyd bod aelodau’n cael cyfle arall i gyflwyno awgrymiadau eraill i’w hystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol ynghyd â’r Hyrwyddwyr a gynigiwyd yn barod ar gyfer meysydd eraill.  Byddai gwaith ymchwil yn cael ei wneud hefyd i archwilio’r broses benodi a rolau Hyrwyddwyr mewn awdurdodau eraill i gynorthwyo trafodaethau’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol.  Yn dilyn hyn -

 

PENDERFYNWYD

 

(a)   cyflwyno enwebiadau CV y pedwar Hyrwyddwr a nodwyd o fewn Cyfansoddiad y Cyngor i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd erbyn 16 Tachwedd 2012 er mwyn penodi’r Hyrwyddwyr hynny yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir i’w gynnal ar 4 Rhagfyr 2012;

 

(b)   mabwysiadu’r disgrifiadau rôl a amlinellwyd yn yr atodiadau i’r adroddiad o safbwynt y pedwar Hyrwyddwr i’w penodi, a’u

 

(c)   bod yn gofyn i’r Pwyllgor Rheolaeth Gorfforaethol ystyried a oedd unrhyw fudd mewn penodi Hyrwyddwyr a nodwyd gan aelodau ac i roi eglurhad o’r rolau hyn os bydden nhw’n cael eu hargymell fel rhai addas i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ategol: