Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 22/2024/0045 - TIR GER PENIARTH, GELLIFOR, RHUTHUN
Ystyried cais i
godi 14 annedd ac un garej ar wahân, gan gynnwys ffurfio mynedfeydd i gerbydau
a gofodau parcio, ffurfio maes parcio i ymwelwyr, tirlunio a gwaith
cysylltiol (copi ynghlwm)
Cofnodion:
Cafodd cais ei gyflwyno i godi 14 annedd ac
un garej ar wahân, gan gynnwys ffurfio mynedfa i gerbydau a gofodau parcio,
ffurfio maes parcio i ymwelwyr, tirlunio a gwaith cysylltiedig.
Siaradwr Cyhoeddus – Robert Jones (Asiant) (O
blaid) – Roedd y cais ar gyfer 14 annedd yn darparu ymateb
cytbwys i’r angen am dai yn lleol tra’n mynd i’r afael ag ystyriaethau
cymunedol ac amgylcheddol allweddol.
Roedd y datblygwr yn un y gellid ymddiried
ynddo gyda hanes cryf o ddarparu tai o ansawdd uchel yn Sir Ddinbych.
Roedd y safle wedi ei neilltuo ar gyfer tai
yng Nghynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir Ddinbych ac roedd wedi ei leoli o fewn
ffin anheddiad lleol Gellifor. Roedd y cais yn parchu cymeriad y pentref tra’n
creu cartrefi effeithlon o ran ynni gyda chymysgedd o dai a ystyriwyd yn ofalus
gan gynnwys cartrefi 2, 3 a 4 ystafell wely a oedd yn cyd-fynd â’r asesiad tai
lleol. Roedd y dyluniad yn cyfuno elfennau pensaernïol traddodiadol a chyfoes i
greu strydlun cydlynol tra’n cynnal cymeriad Gellifor.
Roedd cynaliadwyedd amgylcheddol yn
flaenoriaeth gan gynnwys Strategaeth Dirlunio gyda gwrych, blodau a choed yn
cael eu plannu gyda blychau ystlumod ac adar yn cael eu hymgorffori i annog
bywyd gwyllt.
Roedd y cais hefyd yn cynnwys un tŷ
fforddiadwy 3 ystafell wely. Roedd
gwelliannau i seilwaith yn cynnwys lledu’r ffordd ym mlaen y safle ac ychwanegu
llwybr newydd i gerddwyr i hybu diogelwch a chysylltedd. Nodwedd arwyddocaol
o’r datblygiad oedd gofod parcio cymunedol gyda 11 o ofodau a fyddai’n
lliniaru’r pwysau o ran parcio sydd eisoes yn bodoli yn yr ardal. Er mwyn
sicrhau fod y newidiadau o ran parcio yn cael eu cymeradwyo gan y Gwasanaethau
Priffyrdd byddai’r gwrych presennol yn cael ei symud fel mater o ddiogelwch.
Roedd y cais cynllunio wedi ei ddatblygu gan
weithio’n agos gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol i gydbwyso pryderon
budd-ddeiliaid tra’n bodloni gofynion polisi. Roedd yn darparu cartrefi a
fyddai’n effeithlon o ran ynni, yn gwella isadeiledd ac yn darparu manteision
cymunedol ystyrlon.
Diolchodd y Cadeirydd i Mr Roberts am siarad
gerbron y Pwyllgor Cynllunio ac agorwyd y drafodaeth i Aelodau.
Trafodaeth gyffredinol –
Cefnogodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Huw
Williams, y cais cynllunio.
Amlygodd y Cadeirydd y pryder lleol gan
breswylwyr yn ymwneud â pharcio yn yr ardal a gofynnodd i Swyddogion egluro sut
y byddai’r maes parcio newydd yn cael ei reoli yn y cynlluniau arfaethedig.
Nododd y Prif Swyddog Cynllunio fod ardal i’r
Gorllewin o’r safle wedi ei neilltuo ar gyfer parcio ac roedd wedi ei gynnig i
liniaru’r broblem barcio bresennol yn yr ardal. Cyfeiriwyd Aelodau at amod 14 y
cais cynllunio a oedd yn nodi na chaniateir yr un datblygiad i gychwyn ar
ddarpariaeth maes parcio’r ysgol hyd nes y bydd manylion llawn yn ymwneud â’r
canlynol wedi ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac wedi ei gytuno’n
ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw.
A) Roedd angen
manylion am gynllun, mynediad, gatiau, arwyneb, ymdrin â’r ffin, tirlunio ac
arwyddion.
B) Cytundeb rheoli
maes parcio i gynnwys sut y bydd y maes parcio yn cael ei weithredu, ei reoli
a’i ddiogelu.
Nododd y
Cynghorydd Jon Harland fod y cais yn cyfeirio at Ddatblygu Cynaliadwy fodd
bynnag ni chrybwyllwyd paneli solar o gwbl na phympiau gwres ar ddyluniadau’r
anheddau. Aeth ymlaen i holi a ellid rhoi amod ar y cais i sicrhau fod y
datblygwr yn cynnwys y rhain. Nododd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd yna
unrhyw bolisïau mewn grym a oedd yn golygu fod angen i’r datblygwr gynnwys
paneli solar neu bympiau gwres er y byddai’n cael trafodaeth gyda’r datblygwr
i’w hannog i ystyried y defnydd o bympiau gwres a gosod paneli solar.
Holodd y
Cynghorydd Delyth Jones pryd fyddai’r llwybr cerdded yn barod i’w ddefnyddio.
Nododd y Prif Swyddog Cynllunio y byddent yn cael trafodaethau pellach gyda’r
datblygwr ynglŷn â’r llwybr cerdded a byddai amod 11 sydd eisoes wedi ei
osod ar y cais yn cael ei ymestyn i gynnwys amseru’r llwybr cerdded.
Gofynnodd y
Cynghorydd Andrea Tomlin am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r effaith y
byddai’r datblygiad yn ei gael ar gymeriad y pentref. Cyfeiriodd y Prif Swyddog
Cynllunio yr Aelodau at y Cynllun Lleoliad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd
yn nodi fod y safle a ddyrannwyd yn ddatblygiad cul a oedd yn cyd-fynd â’r
ardal o amgylch. Roedd swyddogion wedi ystyried harddwch a oedd yn cynnwys
dyluniad yr anheddau a’r cynllun ac wedi dod i’r casgliad na fyddai’r
datblygiad yn niweidiol i gymeriad y pentref o amgylch. Roedd yr Awdurdod
Cynllunio Lleol wedi derbyn dwyster is o dai o ganlyniad i gymeriad yr ardal.
Gofynnodd y
Cadeirydd am eglurhad pellach gan y Gwasanaethau Priffyrdd yn ymwneud â
phryderon o ran parcio a thraffig ar yr amseroedd brig yn yr ardal. Nododd
Peiriannydd y Prosiect Datblygu - y Gwasanaethau Priffyrdd y byddai yna le
parcio preifat ar gyfer pob un o’r 14 annedd. Byddai dyluniad manwl a llawn yn
cael ei gynnal ar y llwybr cerdded ac fe ofynnid am archwiliad diogelwch y
ffyrdd os oedd angen. Byddai cytundeb cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu lledu’r
ffordd a’r llwybr cerdded yn cael ei roi mewn grym. Gofynnwyd am amod i reoli’r
safle yn ystod y broses adeiladu er mwyn sicrhau galluogi’r cerbydau adeiladu i
barcio.
Holodd y
Cynghorydd Chris Evans am bris yr anheddau ac a oedd y rhain yn yr ystod pris a
ystyriwyd yn dderbyniol ar gyfer tai fforddiadwy. Nododd y Prif Swyddog Cynllunio fod angen i
10% o’r tai a gâi eu hadeiladu o fewn datblygiad i fod yn dai fforddiadwy. Mewn
perthynas â’r datblygiad hwn, byddai un tŷ 3 ystafell wely yn cael ei
gofrestru fel tŷ fforddiadwy, byddai’r tai eraill yn cael eu gwerthu ar y
farchnad agored.
Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag
argymhellion y swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Alan James.
Pleidlais –
O blaid – 18
Yn erbyn – 0
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y
swyddog.
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD
Penderfynwyd: gwahardd y
Wasg a'r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan Adran
100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail ei bod yn
debygol y byddent yn datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym
Mharagraffau 14 ac 16 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Dogfennau ategol: