Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYNLLUNIO AT ARGYFWNG RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2023/24

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24.

 

11.45am - 12.15pm

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru 2023/24 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i Aelodau.

 

Diben yr adroddiad oedd i hyrwyddo Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru a rhoi hyder i Aelodau fod Sir Ddinbych yn barod pe byddai yna argyfwng. Sicrhaodd Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru fod trefniadau sylweddol ar waith mewn perthynas â chynllunio rhag argyfwng o fewn y Cyngor ac mae’r adroddiad yn nodi’n benodol: 

·       Sut mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn cyfrannu at wytnwch a diogelwch cymunedau yn Sir Ddinbych.

·       Rhaglen waith bresennol y Gwasanaeth.

·       Y strwythur yng Nghyngor Sir Ddinbych i ymateb i argyfwng neu achos brys.

·       Darpariaeth cynllunio rhag argyfwng y tu allan i oriau.

·       Hyfforddiant a Datblygu i staff mewn rolau Cynllunio Rhag Argyfwng.

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydweithio mewn partneriaeth ers sefydlu Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2014.

 

Mae’r Gwasanaeth yn ymgymryd â swyddogaethau’r Cynghorau o ran argyfyngau sifil posibl ac mae’n atebol i Fwrdd Gweithredol sy’n cynnwys uwch swyddogion o’r Cynghorau hynny. Mae Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

 

·       Deddf Argyfyngau Sifil Posibl, 2004

·       Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, 2015

·       Rheoliadau Diogelwch Piblinellau, 1996

·       Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd), 2019

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn nodi’r gwaith y mae Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd fod disgwyl i adroddiad Grŵp Cau Pontydd Afon Menai fod ar gael erbyn diwedd y flwyddyn adrodd bresennol.  Hefyd amlinellodd ran Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn y broses o reoli traffig wedi i borthladd Caergybi gau yn annisgwyl o ganlyniad i’r difrod a achoswyd gan Storm Darragh.

Holodd Aelodau a ddylai’r Cyngor fod yn monitro bygythiadau a oedd yn digwydd o amgylch y byd a gofynnwyd a oedd y broses gynllunio ar gyfer argyfyngau posibl yn ymgorffori’r bygythiadau newydd hyn wrth i’r byd ddod yn fwy ansefydlog.

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes fod yna Gofrestr Risg ac Asesiad ar gyfer y DU a Chymru gyfan a oedd yn nodi’r holl gynlluniau sydd mewn grym ar hyn o bryd. Roedd cynlluniau mewn grym ar gyfer ymosodiadau seibr posibl ac argyfyngau’n ymwneud â newid hinsawdd. Eglurodd y Swyddog Cynllunio Rhag Argyfwng ymhellach fod y tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a oedd wedyn yn hysbysu’r Fforwm Cydnerthedd Aml-Asiantaeth a oedd yn edrych ar sut roedd risgiau i ddod yn cael eu lliniaru’n rhanbarthol.  Roedd cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd o argyfwng yn llawer mwy na dim ond ymagwedd ranbarthol a lleol, roedd yna hierarchaeth cynllunio rhag argyfwng mewn grym.  Yn ddibynnol ar natur y risg byddai Llywodraeth y DU a/neu Llywodraeth Cymru yn nodi’r risgiau a mesurau lliniaru cenedlaethol. Byddai hyn wedyn yn cael ei fwydo i wasanaethau cynllunio rhag argyfwng rhanbarthol i lunio mwy o fesurau lliniaru lleol a chynlluniau lleol i ymateb i’r argyfyngau amrywiol os ydynt yn digwydd.  Mae’r cofrestrau risg rhanbarthol yn cynnwys risgiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.  Roedd disgwyl i Gofrestr Risg Gogledd Cymru gael ei chyhoeddi ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y dyfodol.

Gofynnodd Aelodau a oedd y Cyngor yn barod ar gyfer unrhyw argyfyngau mewn perthynas â’r adnoddau oedd ar gael yn yr hinsawdd ariannol bresennol a holwyd sut y gallai Aelodau gael eu hyfforddi i ymdrin â’r sefyllfa pe bai’n codi.

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes fod y Cyngor mor barod â phosibl. Roedd gan Aelodau lawer o wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw argyfyngau drwy gyfarfodydd y Cyngor, negeseuon e-bost a gâi eu cylchredeg ac amrywiaeth o ffurflenni cyfathrebu. Byddai hyfforddiant ymwybyddiaeth gyffredinol yn edrych ar y systemau cynllunio rhag argyfwng a oedd mewn grym yn cael ei ystyried yn dilyn y cyfarfod gyda chyfranogiad yr Aelod Arweiniol.

Nododd y Swyddog Cynllunio Rhag Argyfwng fod sesiwn friffio wedi ei darparu i Aelodau yn flaenorol ym Mai 2022 ac roedd Llawlyfr Aelodau wedi ei greu ar yr adeg honno ac wedi ei gylchredeg. Roedd y Tîm Cynllunio Rhag Argyfwng yn hapus i ddarparu unrhyw hyfforddiant pellach a oedd ei angen. Cynigodd swyddogion i ail gylchredeg y llawlyfr yn ogystal â dolenni wedi eu diweddaru i Aelodau.

Trafododd Aelodau y posibilrwydd am i restr wirio yn cynnwys gwybodaeth gyswllt mewn argyfwng gael ei chylchredeg. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes y byddai’n cydgysylltu gyda’r Tîm Cynllunio mewn Argyfwng ac yn trafod hyn ymhellach, gan ychwanegu y byddai yn fuddiol i Aelodau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes a’r Swyddogion Cynllunio Rhag Argyfwng am eu presenoldeb yn y cyfarfod. 

 

Felly:

 

penderfynodd y pwyllgor: yn amodol ar yr uchod a darparu’r wybodaeth ofynnol –

 

(i)             gydnabod y gwaith a wnaed gan Wasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru yn ystod 2023/24 fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol; a

(ii)           chymeradwyo ymdrechion y Gwasanaeth yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol hyd yma yn ystod 2024/25 gyda’r bwriad o sicrhau fod trefniadau digonol mewn grym i ymateb a mynd i’r afael ag unrhyw argyfyngau a allai godi.

 

Dogfennau ategol: