Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STATWS BANER LAS I DRAETHAU SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau partner mewn ymgais i dderbyn achrediad statws baner las ar gyfer cynifer o draethau’r sir â phosibl.

 

10.05am – 11.30am

 

EGWYL 11.30am – 11.45am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r aelodau.  Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i’r cyfarfod i gyfrannu at y drafodaeth ac ateb cwestiynau’r Aelodau.  Diolchodd yr Aelod Arweiniol i swyddogion am eu presenoldeb yn y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn galluogi Aelodau i graffu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau partner mewn cais i ennill achrediad statws Baner Las ar gyfer cynifer ag sy’n bosibl o draethau’r sir. Pwysleisiwyd y byddai’n anodd iawn i’r Rhyl gael statws Baner Las gan ei fod mor agos i aber afon Clwyd ac effeithiau’r llanw sy’n dod i mewn.  Cafodd y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu’r Rhyl o ganlyniad i hyn eu hamlinellu yn y cyflwyniadau a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru fel y rhesymau pam roedd traethau Prestatyn wedi symud o ansawdd dŵr rhagorol i ansawdd dŵr da gan arwain at dynnu ei statws Baner Las.

 

Arweiniodd yr Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru aelodau drwy gyflwyniad ar Statws y Faner Las ar gyfer Traethau Sir Ddinbych. Arweiniwyd Aelodau drwy’r broses ddosbarthu a ddefnyddir i benderfynu ansawdd y dŵr ar draethau.

 

Yn 2015 fe ddaeth y broses ar gyfer profi ansawdd dŵr yn fwy llym gyda samplau yn cael eu hasesu ar gyfer bacteria E Coli ysgarthol ac Enterococci Perfeddol. Dangoswyd graffiau manwl i Aelodau yn cynnwys y canrannau o facteria a oedd wedi eu darganfod mewn dŵr dros y blynyddoedd blaenorol. Os oedd y data Darogan a Thynnu yn cofnodi mwy na dau ddiwrnod dilynol o ansawdd dŵr gwael yna nodwyd fod y dŵr yn anaddas i ymdrochi ynddo.  Mewn achosion o’r fath byddai Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion erbyn 10am yn rhybuddio’r cyhoedd fod y dŵr wedi ei ddosbarthu fel dŵr anaddas ar gyfer ymdrochi.

 

Eglurwyd yr effeithiau ar ansawdd dŵr yn Y Rhyl gan gynnwys gwaith carthffosiaeth, gorsafoedd pwmpio a charthffos yn gorlifo ynghyd ag effeithiau amaethyddol fel da byw yn cael at nentydd a thaenu ar y tir a oedd i gyd wedi arwain at oblygiadau o ran ansawdd y dŵr ar draethau’r Rhyl.

 

O ran y dyfodol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru nifer o gynlluniau mewn grym i geisio gostwng y bacteria amaethyddol sy’n arllwys i’r system ddŵr, sef y rheoleiddio parhaus o ran gollyngiadau a ganiateir, Canllaw dosbarthu Gorlif Storm a’r sylw parhaus a roddir i leihau ffynonellau bacteria amaethyddol. Cafodd datrysiadau mwy hirdymor eu hamlinellu a’u hegluro.  Fodd bynnag byddai angen cynnydd sylweddol mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog ar gyfer cynlluniau amaethyddol er mwyn darparu anogaeth i ffermwyr i osod cynlluniau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio am gyflwyniad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Arweiniodd Swyddog Cyswllt Ansawdd Afonydd o Dŵr Cymru yr Aelodau drwy gyflwyniad ar ansawdd dŵr ymdrochi.

 

Roedd Dŵr Cymru yn diheintio’r garthffrwd ger dyfroedd ymdrochi, ond nid dyma’r drefn arferol ar gyfer afonydd. Roedd hyn yn helpu i gynnal yr ansawdd ar gyfer ymdrochi. Roedd gwaith trin dŵr gwastraff Dinbych, Dyserth, Llanelwy a Llanasa i gyd yn derbyn triniaeth UV. Roedd Dŵr Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud rhagor o welliannau a lle nodwyd y rhain byddent yn dod yn rhan o’u cynlluniau buddsoddi pum mlynedd. Hefyd cynhaliodd Dŵr Cymru ymchwiliadau i ansawdd dŵr ymdrochi mewn ardaloedd lle gall eu hasedau gyfrannu at leoliadau statws gwaeth.

 

Rhoddwyd manylion i Aelodau ar orlif dŵr yn ardal traethau’r Rhyl a Phrestatyn. Dros y tymor ymdrochi roedd gorlifoedd storm yn gollwng ar ddau ddiwrnod enghreifftiol gyda thywydd eithriadol o wlyb a gofnodwyd gan y Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyfrannu at ganlyniadau gwael o ran dŵr ymdrochi.

 

Cwblhaodd Dŵr Cymru astudiaeth Dyfroedd Ymdrochi Arfordirol ar gyfer Y Rhyl a Phrestatyn yn 2017 a nododd mai ffynonellau llygredd gwasgaredig oedd y prif ffactor dros effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi. Gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am gymorth pellach gan Dŵr Cymru i gynyddu’r ddealltwriaeth o ffynonellau gwasgaredig ac felly allbwn y Rhaglen Amgylcheddol Naturiol er mwyn i Dŵr Cymru gwblhau astudiaeth dŵr ymdrochi arall ar gyfer 2020-2025. Eglurwyd y data ansawdd dŵr o’r astudiaethau a wnaed yn fanwl i Aelodau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddog Cyswllt Ansawdd Afonydd am gyflwyniad Dŵr Cymru a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cwestiynodd Aelodau y strategaethau a oedd mewn grym ar gyfer gorsafoedd pwmpio a phibellau all-lif. Nododd y Rheolwr Carthffosiaeth fod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud yn rheolaidd ar hyd a lled y sir.  Roedd gorsafoedd pwmpio yn cael eu harchwilio yn wythnosol o leiaf gyda rhai mewn ardaloedd arfordirol a oedd yn fwy agored i gael eu hatal gan dywod yn cael eu harchwilio’n fwy aml.  Hefyd glanhawyd y pibellau yn aml.  Roedd gan Dŵr Cymru lawer o wybodaeth yn ymwneud â’i holl isadeiledd ac roedd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i reoli ei isadeiledd ar sail risg.  Roedd Deallusrwydd Artiffisial hefyd nawr yn dod i’r amlwg o ran rheoli gorlif storm.  Pwysleisiodd swyddogion mai systemau’r afonydd ac nid asedau Dŵr Cymru oedd ffynhonnell rhan helaeth y llygredd a oedd yn mynd i mewn i’r môr.

 

Gofynnodd Aelodau a oedd cyllid yn broblem yn yr hinsawdd bresennol. Nododd y Rheolwr Carthffosiaeth nad oedd cyllid yn broblem ar hyn o bryd.

 

Amlygodd Aelodau yr angen am bartneriaeth waith gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a ffermwyr gan holi pa fentrau oedd mewn grym i annog ffermwyr i weithio ochr yn ochr â’r cynlluniau. Nododd yr Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio nad oedd yna unrhyw fentrau mewn grym ar hyn o bryd ar gyfer ffermwyr. Nid oedd yna unrhyw reoliadau mewn grym yn atal da byw ar ffermydd rhag defnyddio neu fynd i afonydd. Fodd bynnag, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos gyda pherchnogion glannau afonydd i annog gosod ffensys ar lannau afonydd a chanfod ffynonellau dŵr eraill i dda byw eu defnyddio.  Roedd y mater o gyllid posibl wedi ei godi gyda Llywodraeth Cymru fodd bynnag nid oedd unrhyw wybodaeth ar gael i awgrymu fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelodau gwestiynau yn ymwneud â thraethau, afonydd, ffosydd/systemau draenio, yn ogystal â materion cynllunio yn ymwneud â’u wardiau penodol. Awgrymwyd fod y cwestiynau hyn yn cael eu hateb yng nghyfarfodydd Grŵp Ardal yr Aelodau a oedd yn cael eu cynnal i drafod materion yng ngwahanol ardaloedd y sir.  Cytunodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i fynychu cyfarfodydd Grŵp Ardal yr Aelodau i’r diben hwn, yn ddibynnol ar fod pob Grŵp Ardal Aelodau yn darparu briff manwl iddynt ar y materion lle roedd angen eu mewnbwn.  Byddai hyn yn sicrhau fod y swyddogion mwyaf priodol yn bresennol er mwyn darparu atebion cynhwysfawr i’r cwestiynau a fyddai’n cael eu codi.  Dywedodd y ddau sefydliad wrth Aelodau am annog preswylwyr i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau o lygredd, cyflenwad wedi byrstio, llifogydd ayb drwy ddefnyddio eu llinellau cymorth gan mai dyma’r ffordd fwyaf effeithiol iddynt ymateb i ddigwyddiadau ac i wella gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru am fynychu’r cyfarfod i roi eu cyflwyniadau llawn gwybodaeth ac am ddarparu atebion cynhwysfawr i’r ystod eang o gwestiynau gan Aelodau.  Felly:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar yr uchod i –

 

(i)             gydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud gan yr holl sefydliadau partner yn ymwneud â gwella ansawdd dŵr ymdrochi yn Sir Ddinbych, gan gynnwys rôl benodol pob partner mewn perthynas â chael achrediad statws Baner Las ar gyfer cynifer â phosibl o draethau’r sir; a

(ii)           chydnabod parodrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i fynychu unrhyw rai o gyfarfodydd Grŵp Ardal Aelodau’r Cyngor i drafod meysydd penodol/lleol o ddiddordeb neu bryder yn ddibynnol ar fod pob Grŵp Ardal Aelodau yn darparu briff clir i’r sefydliadau ymlaen llaw ar y materion maent yn dymuno eu trafod.

 

Dogfennau ategol: