Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MARCHNAD Y FRENHINES Y RHYL GWEITHREDIADAU / RHEOLI

Ystyried cyd-adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorwyr Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi'n amgaeëdig) yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu a dyfarnu contract i reoli Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi am ddyfarnu contract i'r parti a enwir ac am y cyfnod a nodir yn adran 3.1 yr adroddiad, fel yr argymhellwyd gan Fwrdd y Prosiect.  Byddai awdurdod dirprwyedig yn destun ymgynghoriad gyda Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a'r Aelodau Arweiniol perthnasol;

 

(b)      cytuno i warantu unrhyw golledion am gyfnod y contract rheoli, yn unol ag adran 6 yr adroddiad.  Rhagwelwyd y gallai hyn gael ei gwmpasu gan gyllideb bresennol, a ddatblygwyd yn benodol at ddiben cefnogi adfywio, a

 

(c)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jason McLellan adroddiad cyfrinachol yn gofyn am gymeradwyaeth gan Gabinet i ddatblygu a dyfarnu cytundeb i reoli Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.

 

Mae ychydig o gefndir wedi’i gynnwys yn yr adroddiad i ddatblygiad Marchnad y Frenhines ynghyd â diweddariad ar y cynnydd hyd yma yn cynnwys dewisiadau wedi’u hystyried gan y Bwrdd Prosiect a’r ffordd ymlaen a argymhellir.   Mae’r rhesymau y tu ôl i’r argymhellion yn cynnwys manteision a risgiau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â’r goblygiadau a’r mesurau lliniaru ariannol posib yn unol â hynny.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Arweiniodd Yr Amgylchedd a’r Economi y Cabinet trwy’r adroddiad gan roi manylion ar y sefyllfa ar hyn o bryd.   O ran y ffordd ymlaen roedd manylion pellach wedi’u darparu ar y cwmni rheoli a ffefrir o ran gwybodaeth a phrofiad a’r cryfderau o ddyfarnu cytundeb iddyn nhw weithredu’r cyfleuster.   Fodd bynnag roedd risg yn perthyn i unrhyw brosiect ac amlygwyd sut y byddai’r risgiau hynny yn cael eu lliniaru gan gynnwys cyfrifoldeb y Cyngor i warantu unrhyw golledion ar gyfer cyfnod y cytundeb rheoli.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ac ailedrychwyd hefyd ar gryfderau’r prosiect gyda’r Cyngor yn caffael safle sy’n adfeiliedig ac yn methu i ddarparu cyfleoedd adfywio cyffrous ac i atynnu mewn buddsoddiad a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ei ddefnydd yn y dyfodol.   Mae Marchnad y Frenhines yn rhan allweddol o weledigaeth adfywio’r Cyngor i’r Rhyl a fyddai hefyd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygiad a buddsoddiad yn y dyfodol.   Cafodd diolch ei ymestyn i’r cyn Gabinet a’r Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans am roi’r prosiect ar waith a’u gwaith caled yn unol â hynny.

 

Trafododd Cabinet agweddau amrywiol yr adroddiad gyda swyddogion ac roedden nhw’n awyddus i sicrhau fod cyfleoedd i fusnesau lleol ac i wneud y mwyaf o’r cymhwysedd a bod y cyfleuster yn cael ei defnyddio trwy gydol y flwyddyn.  Amlygwyd y pwysigrwydd o hyrwyddo a defnyddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y cyfleuster.   Darparodd swyddogion sicrwydd ynghylch y ddarpariaeth a chefnogaeth o safon yn lleol sydd ar gael i ddechrau busnes gyda llawer o’r gwaith yn cael ei wneud gyda lefelau rhent priodol i gyflawni’r nodau hynny ac i ddarparu atyniad o safon uchel trwy gydol y flwyddyn gyda chyfleoedd bellach ar gyfer canol y dref a’r ardal ehangach a chyfeiriwyd hefyd at welliannau adfywio ehangach yn cynnwys y Cyllid Ffyniant Bro ar gyfer gwelliannau i’r parth cyhoeddus a chyllid grant arall a fyddai’n cyfleu agwedd gadarnhaol.   Cydnabuwyd hefyd y gwaith sy’n cael ei wneud o ran diogelwch cymunedol yn yr ardal a chydweithio agos â Heddlu Gogledd Cymru.  Darparwyd sicrwydd hefyd ynglŷn â’r broses o hyrwyddo’r cynnig Cymraeg a bod trafodaethau eisoes wedi’u cynnal gyda’r cwmni rheoli arfaethedig a gwaith a chefnogaeth pellach gydag eraill yn cynnwys Swyddog Cymraeg y Cyngor a Menter Iaith yn unol â hynny.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad yn ofalus yn cynnwys y cryfderau ar gyfer y ffordd ymlaen ynghyd â’r risgiau a’r goblygiadau ariannol

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi am ddyfarnu contract i'r parti a enwir ac am y cyfnod a nodir yn adran 3.1 yr adroddiad, fel yr argymhellwyd gan Fwrdd y Prosiect.  Byddai awdurdod dirprwyedig yn destun ymgynghoriad gyda Swyddog Adran 151, Swyddog Monitro, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, a'r Aelodau Arweiniol perthnasol;

 

(b)      cytuno i warantu unrhyw golledion am gyfnod y contract rheoli, yn unol ag adran 6 yr adroddiad.  Rhagwelwyd y gallai hyn gael ei gwmpasu gan gyllideb bresennol, a ddatblygwyd yn benodol at ddiben cefnogi adfywio, a

 

(c)      chadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 1 i’r adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50am.

 

 

Dogfennau ategol: