Eitem ar yr agenda
GOSOD RHENTI TAI A CHYLLIDEBAU CYFALAF A REFENIW TAI 2025/26
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod
Arweiniol Tai a Chymunedau (copi ynghlwm) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i
gynyddu rhent blynyddol Tai Sir Ddinbych, Cyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif
Refeniw Tai ar gyfer 2025/26 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.
Penderfyniad:
(a) Mabwysiadu
Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2025/26 (Atodiad 1 yr adroddiad) a
Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad 2 yr adroddiad);
(b) cynyddu
rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti
Tai Cymdeithasol o 2.7% i rent wythnosol cyfartalog o £112.29, i’w weithredu o
ddydd Llun, 7 Ebrill 2025;
(c) nodi’r
adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw
iddynt wrth benderfynu ar yr argymhelliad hwn, a
(d) bod
y Cabinet yn cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4 yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas adroddiad yn gofyn
i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnydd rhent blynyddol ar gyfer Tai Sir Ddinbych, ac
i ofyn am gymeradwyaeth i Gyllidebau Cyfalaf a Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai ar
gyfer 2025/26 a Chynllun Busnes y Stoc Dai.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys y sefyllfa derfynol
ddiweddaraf a ragwelwyd ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a’r gyllideb arfaethedig
ar gyfer 2025/26 a oedd wedi’i chyfrifo i allu darparu gwasanaethau refeniw, y
rhaglen buddsoddi cyfalaf ac i gyflawni safonau ansawdd a datblygu’r rhaglen
adeiladu newydd. O ran y cynnydd rhent blynyddol, roedd Llywodraeth Cymru wedi
gosod uchafswm cynnydd rhent o 2.7% a chynhigiwyd cynyddu rhenti wythnosol o
hynny oherwydd y pwysau ar y Cyfrif Refeniw Tai i fuddsoddi mewn cartrefi er
mwyn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru a cheisio cyrraedd targed y Cynllun
Corfforaethol ar gyfer cartrefi newydd.
Roedd yr adroddiad wedi’i graffu gan Bwyllgor Craffu Cymunedau yr
wythnos ganlynol ac wedi creu argraff.
Cyflwynodd y Pennaeth Tai a Chymunedau y swyddogion
oedd yn bresennol. Rhoddodd drosolwg
o’r adroddiad gan ddarparu sicrwydd ynghylch pa mor fforddiadwy oedd y cynnydd
mewn rhent ar gyfer tenantiaid yn seiliedig ar y matrics rhent a’r bwriad o
wario unrhyw gynnydd i gwrdd â’r Safon Ansawdd Tai Cymru gyda rhaglen sylweddol
o waith sydd ei angen fel y bo’n briodol ynghyd â’r uchelgais i greu mwy o dai
cymdeithasol. Cyfeiriwyd hefyd at y
gefnogaeth a ddarperir i denantiaid o ran unrhyw anawsterau ariannol trwy
gefnogaeth uniongyrchol gan swyddogion a hefyd comisiynu cefnogaeth gan sefydliadau
fel Sir Ddinbych Yn Gweithio a Cyngor ar Bopeth. Yn olaf cyfeiriwyd at Gynllun Busnes y Stoc
Dai a’r Cyfrif Refeniw Tai gyda rhagor o waith manwl wedi’i gynllunio o
ystyried uchelgais y Cyngor ar gyfer ei stoc dai gyda chreu tai newydd sydd ddim
yn fforddiadwy ar hyn o bryd yn seiliedig ar ragamcanion presennol gydag
adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet yn y flwyddyn newydd.
Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y
canlynol –
·
Roedd Cabinet yn falch o glywed
yr adborth yn dilyn craffu’r adroddiad gan Bwyllgor Craffu Cymunedau a oedd yn
rhoi mwy o hyder fyth yn yr argymhellion yn ogystal â’r ystyriaeth drwyadl o’r
holl ffactorau wedi’u manylu yn yr adroddiad ac yn talu teyrnged i waith y Tîm
Tai er budd tenantiaid.
·
Cafodd sylw penodol hefyd
ei wneud i brosiectau datblygu tai cyngor llwyddiannus yn cynnwys Llys
Elizabeth yn y Rhyl a Llys Llên ym Mhrestatyn a phartneriaeth waith agos gydag
eraill yn cynnwys datblygiad tai Clwyd Alyn ar Stryd Edward Henry, y Rhyl i gyd
yn enghreifftiau o dai fforddiadwy o ansawdd gwych.
·
Roedd aelodau’n croesawu’r
ymrwymiad i beidio â throi tenantiaid allan o’u cartrefi oherwydd caledi
ariannol wrth iddyn nhw geisio cydweithio â’r cyngor gan nodi fod y mwyafrif o
denantiaid yn fodlon gofyn am help a chyngor; nodwyd cydweithio agos gyda’r Tîm
Atal Digartrefedd.
·
Roedd ffocws ar y rhaglen
gwres fforddiadwy gydag oddeutu £9m y flwyddyn yn cael ei wario ar waith
cyfalaf gyda thua 13000 o atgyweiriadau cyffredinol yn cael eu cyflawni; y
safon ddiwygiedig sydd ei angen i godi lefelau EPC ar gyfer holl gartrefi hyd
at C75 a thra bod ychydig o gyllid grant yn cael ei ddarparu ar gyfer y diben
hwnnw roedd darparu’r safon hynny yn ddrud ac ar y cyfan ddim yn fforddiadwy ac
erbyn 2027 roedd angen cynllun yn ei le i ddangos sut y byddai’r safon
ddiwygiedig yn cael ei gyflawni erbyn 2030.
·
Roedd cydbwysedd i’w ganfod
rhwng sicrhau fod rhent yn fforddiadwy i denantiaid a sicrhau buddsoddiad yn y
stoc dai i elwa’r tenantiaid hynny a llwyddiant yr ymagwedd sydd wedi’i
weithredu yn Sir Ddinbych fel bod ag un o’r cyfraddau bodlonrwydd tenantiaid
uchaf yng Nghymru o ran gwasanaeth a gwerth am arian.
PENDERFYNWYD –
(a) Mabwysiadu Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai
ar gyfer 2025/26 (Atodiad 1 yr adroddiad) a Chynllun Busnes y Stoc Dai (Atodiad
2 yr adroddiad);
(b) cynyddu rhenti anheddau’r Cyngor yn unol â
Pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol o 2.7% i rent
wythnosol cyfartalog o £112.29, i’w weithredu o ddydd Llun, 7 Ebrill 2025;
(c) nodi’r adroddiad ychwanegol (Atodiad 3 yr
adroddiad) ar yr ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu ar yr
argymhelliad hwn, a
(d) bod y Cabinet yn cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 4
yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.
Dogfennau ategol:
-
HOUSING RENT SETTING REPORTv2, Eitem 6.
PDF 410 KB
-
HRS - Appendix 1 Housing Rent Setting 2025 26, Eitem 6.
PDF 207 KB
-
HRS - Appendix 2 Housing Rent Setting 2025 26, Eitem 6.
PDF 203 KB
-
HRS - Appendix 3 Housing Rent Setting 25 26, Eitem 6.
PDF 1 MB
-
HRS - Appendix 4 WBIA Housing Rent Setting 2025 2026, Eitem 6.
PDF 103 KB