Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH DDRAFFT TOILEDAU LLEOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi'n amgaeëdig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Strategaeth Ddrafft Toiledau Lleol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cydnabod y gwaith a gwblhawyd hyd yma yn dilyn adolygiad o anghenion y boblogaeth leol a gynhaliwyd drwy ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cymeradwyo’r asesiad o anghenion terfynol (cafodd yr Asesiad o Anghenion Dros Dro ei atodi fel Atodiad 2 i'r adroddiad);

 

(b)      cymeradwyo’r strategaeth ddrafft a’r cynllun gweithredu (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn unol â Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darpariaeth Toiledau;

 

(c)      dirprwyo awdurdod i Aelod Arweiniol Priffyrdd a’r Amgylchedd i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r strategaeth ddrafft cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar ddrafft o Strategaeth Toiledau Lleol i’r cyhoedd ymgynghori arno.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Mellor nad adroddiad ar gau toiledau ydoedd fel y gwelir yn y wasg ond ei fod yn briodol i’r Cyngor gytuno a mabwysiadu Strategaeth newydd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y ddarpariaeth a gweithrediad o gyfleustodau cyhoeddus wrth symud ymlaen.   Mae’r adroddiad yn cynnwys ychydig o gefndir ar y ddarpariaeth ddeddfwriaethol ynghylch toiledau cyhoeddus a’r gofyniad i awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol sy’n gorfod cynnwys asesiad o’r angen am doiledau.   Mae’r Asesiad o Anghenion Dros Dro Toiledau Lleol  a Strategaeth Toiledau Lleol i Sir Ddinbych (yn cynnwys cynllun gweithredu ar sut y mae’r Cyngor yn bwriadu cwrdd â’r gofyn a dynnwyd sylw ato) wedi cael ei atodi i’r adroddiad ynghyd â chwestiynau cyffredin wrth ymateb i sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad Asesiad o Anghenion Dros Dro, Asesiad Effaith ar Les a’r risgiau a nodwyd.

 

Mynychodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Prif Reolwr (Arlwyo/Glanhau) yr eitem hon.  Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth at waith wedi’i gyflawni hyd yma gan ailadrodd nad oedd penderfyniadau wedi cael eu gwneud ynghylch darparu a gweithredu Cyfleustodau Cyhoeddus yn y dyfodol gan bwysleisio’r pwysigrwydd o Strategaeth a gytunwyd arni fel rhagflas i’r broses gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.   Gofynnwyd i Gabinet gydnabod y gwaith sydd wedi cael ei wneud a chymeradwyo i ymgynghori ar y Strategaeth drafft.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       manylion pellach wedi’u darparu ar sut y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal dros gyfnod o ddeufis er mwyn cyflawni ymgynghoriad mor llawn ac eang ag sy’n bosib gyda gwerthfawrogiad o’r effaith ar nifer o grwpiau gwahanol, amrywiol a chyda phrofiad eang yn y sir a’r natur ddadleuol posib o newid y model gweithredu presennol.  Y gobaith oedd derbyn cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib gan ddefnyddio’r darganfyddiadau i fformiwleiddio sefyllfa derfynol y strategaeth ac i helpu gyda gwneud penderfyniadau yn y dyfodol neu i wneud argymhellion wrth symud ymlaen.

·       Ar hyn o bryd mae un busnes wedi cofrestru â’r Cynllun Toiledau Cymunedol ac roedd yn bwysig targedu busnesau priodol mewn meysydd allweddol i ymuno â’r cynllun er mwyn cwrdd â’r gofyniad am doiledau cyhoeddus yn y sir; derbyniwyd y gall fod yn anodd recriwtio rhai busnesau ond rhoddwyd sicrwydd y byddai llawer o waith yn cael ei wneud i wneud y mwyaf o fuddion y cynllun a oedd yn cynnwys dysgu o gynghorau eraill sydd wedi bod yn llwyddiannus gyda chynlluniau tebyg.

·       Cyfeiriwyd at y feirniadaeth yn y wasg ynglŷn â’r £500 fesul blwyddyn sy’n daladwy am ymuno â’r Cynllun Toiledau Cyhoeddus ac os dylid cynnig rhagor o gymhelliad a cheisio casglu barn ynglŷn â hynny fel rhan o’r broses ymgynghori.   Cynghorodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y gyfradd o £500 yn gyfradd cenedlaethol sy’n cyd-fynd ag awdurdodau lleol eraill a bod yna gydbwysedd rhwng y goblygiadau ariannol yn sgil cynnydd a chynyddu niferoedd i gofrestru â’r cynllun.  O ystyried diffyg cyhoeddusrwydd i’r cynllun hyd yma fe deimlai y byddai’n briodol i ymrwymo cymaint ag sy’n bosib gyda’r gymuned fusnes ar yr un lefel i fesur y lefel o ddiddordeb ac yna i werthuso’r sefyllfa unwaith eto yn dibynnu ar barodrwydd busnesau i ymuno â’r cynllun.  Roedd Cabinet yn awyddus i gael ymgysylltiad wedi’i dargedu gyda busnesau ond gofynnwyd iddo gael ei ail-gyflwyno er mwyn iddyn nhw allu ei ystyried ymhellach mewn achos o nifer isel yn cofrestru ar gyfer y cynllun.

·       Yn ôl yr adroddiad roedd toiledau Changing Places i’w cael yn Ysgol Glan Clwyd a Tesco Prestatyn ac fe adroddodd swyddogion ar ddarpariaeth yng Nghorwen yn y dyfodol trwy’r Gronfa Ffyniant Bro a hefyd ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.   Derbyniwyd fod darparu cyfleusterau o’r fath yn broses ddrud a byddai ymgysylltiad â’r trydydd sector ynghylch unrhyw gyfleoedd posib yn unol â hynny.   Tynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne sylw at y galw am gyfleusterau newid babanod hefyd sydd ddim angen cymaint o le.

·       Bu trafodaethau gyda Chynghorau Tref/Cymuned ynglŷn â chynnal cyfleustodau cyhoeddus gan y cyngor ac i drafod y Strategaeth ddrafft a’r ffordd ymlaen ar yr angen am doiledau cyhoeddus a bu ymateb cymysg ledled y sir gyda rhai yn croesawu a chefnogi’r strategaeth ac eraill ddim yn barod i weithio gyda’r awdurdod lleol - roedd trafodaethau wedi’u cynnal ar sail achos i achos ar gyfer yr ardaloedd dan sylw.

·       Wrth ymateb i gwestiwn bod y nifer o ymwelwyr dydd i Ddinbych yn uwch na Llangollen fe eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth fod data STEAM wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y nifer o ymwelwyr dydd oedd ddim yn cynnwys y cyfanswm sylweddol o ymwelwyr a oedd yn aros dros nos neu am gyfnod hirach yn y cyfrifiad hynny.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cydnabod y gwaith a gwblhawyd hyd yma yn dilyn adolygiad o anghenion y boblogaeth leol a gynhaliwyd drwy ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cymeradwyo’r asesiad o anghenion terfynol (cafodd yr Asesiad o Anghenion Dros Dro ei atodi fel Atodiad 2 i'r adroddiad);

 

(b)      cymeradwyo’r strategaeth ddrafft a’r cynllun gweithredu (Atodiad 1 i’r adroddiad) yn unol â Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017: Darpariaeth Toiledau;

 

(c)      dirprwyo awdurdod i Aelod Arweiniol Priffyrdd a’r Amgylchedd i gytuno ar unrhyw fân newidiadau golygyddol sydd eu hangen i’r strategaeth ddrafft cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a

 

(d)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Ar y pwynt hwn fe ddywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts nad oedd yn ymwybodol fod Cyngor Tref y Rhuddlan heb ei gynnwys o ran y Strategaeth ddrafft ac yr hoffai i swyddogion fynychu cyfarfod yn y dyfodol i drafod y mater.   Gofynnodd yr Arweinydd i’r Swyddog Monitro godi’r pwnc gyda’r swyddog perthnasol y tu allan i’r cyfarfod.

 

 

Dogfennau ategol: