Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PENNU RHENTI TAI A CHYLLIDEBAU’R CYFRIF REFENIW TAI 2025/26

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Arweiniol - Tai Cymunedol (copi ynghlwm) i archwilio'r broses ar gyfer penderfynu ar yr argymhellion ar lefel y codiadau rhent wythnosol i denantiaid tai cymunedol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i ystyried yr adolygiad o renti tai cymdeithasol a chyllid y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Y cynnydd arfaethedig yn y rhent ar gyfer Tenantiaid Tai Cymunedol yw 2.7% – cynnydd is na’r blynyddoedd diwethaf. Cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol at y pwysau ar wariant cyfalaf blynyddol y CRT – sydd heb ei gyfateb gan gyllid allanol, a’r angen i fenthyg mwy.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai a Chymuned fod adroddiad yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn i’r Cabinet i gefnogi cynnydd yn y rhent i ddod â’r incwm sydd ei angen i reoli stoc tai’r Cyngor. Mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw gynnydd arfaethedig yn y rhenti yn fforddiadwy i’r tenantiaid. Mae Atodiad 3 yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer cynyddu rhenti tai.

 

Crynhodd yr Aelod Arweiniol Tai Cymunedol yr adroddiad fel a ganlyn:

 

·      Mae rhenti wythnosol yn dal yn isel ac o fewn mesurau fforddiadwyedd llym

·      Mae pwysau sylweddol ar gyllidebau – Safon Ansawdd Tai Cymru

·      Mae buddsoddiadau yn rhoi budd i denantiaid

·      Mai cynnydd llai na’r cyfanswm a ganiateir yn golygu llai o fuddsoddiad mewn cartrefi

·      Mae boddhad Gwerth am Arian tenantiaid Sir Ddinbych yn un o’r rhai uchaf yng Nghymru

·      Mae boddhad tenantiaid gyda’r gwasanaeth ymhlith yr uchaf yng Nghymru

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y cynnydd uchaf a ganiateir yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru, sydd fel rheol yn seiliedig ar ffigwr CPI mis Medi + 1%. Ym mis Medi 2024 roedd y CPI yn gymharol isel o gymharu â blynyddoedd eraill, ar 1.7%.

 

Wrth ystyried y cynnydd cynhaliwyd asesiad fforddiadwyedd a oedd yn ystyried:

 

·      Model Rhent Byw Joseph Rowntree Foundation

·      Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol o fis Hydref 2024 ar incwm cyfartalog aelwydydd Sir Ddinbych

·      Y ganradd 30% isaf o incwm gwaith

·      Rhent dim mwy na 28% o’r incwm gwaith isaf

 

Mae rhenti’r awdurdod o fewn y lefelau hyn. Ceir ffeithlun (tudalen 65) sy’n dangos beth fyddai’r cynnydd yn y rhent yn ei olygu i fathau gwahanol o eiddo rhent, pob un yn cynnig rhenti dan y Model Rhent Byw.

 

Eglurodd y Swyddog Cyllid a Sicrwydd sut mae costau cynyddol wedi effeithio ar gynnal a chadw a chodi stoc tai newydd. Mae’r grant a geir gan Lywodraeth Cymru wedi aros yr un fath ac mae hynny wedi arwain at orfod benthyg arian. Mae’r graff yn Atodiad 3 (tudalen 68) yn amlygu y bydd costau cyllido dyledion (llog) yn codi dros y 7 blynedd nesaf a rhagwelir diffyg a mynd i ddyledion yn y 3 blynedd nesaf. Felly, bydd adolygiad manwl o’r CRT a’r rhaglen gyfalaf yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd i sicrhau bod prosiectau cyfalaf yn cael eu hariannu’n gynaliadwy.

 

Atgoffodd y Swyddog Arweiniol: Eiddo Tai yr aelodau am Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023 sy’n sbarduno rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer y stoc tai. Mae cyrraedd y safonau hyn yn achosi nifer o bwysau cyllidebol newydd, yn cynnwys:

 

·      Pympiau Gwres yr Awyr

·      Paneli Solar

·      Insiwleiddio waliau allanol

·      Adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi

·      Cyfleusterau storio tu allan

·      Lloriau newydd

·      Gosod casgenni dŵr

 

I’r dyfodol, bydd mwy o ffocws ar wres fforddiadwy, gyda Thystysgrif Perfformiad Ynni C 75 yn safonol erbyn 2027.

 

Effaith y buddsoddiad hwn yw gwella effeithlonrwydd ynni ac arbedion tanwydd tebygol i aelwydydd a ymatebodd yn gadarnhaol o ran bodlonrwydd tenantiaid dan ‘gwerth am arian’.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Aelodau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod yr adolygiad yn y flwyddyn newydd yn mynd i nodi sut i gyrraedd SATC a darparu tai cymdeithasol newydd o ystyried y cyfyngiadau ariannol. Rhagwelir y byddai adolygiad trylwyr yn noddi mesurau effeithlonrwydd a ellir eu gwneud; byddai methu â chyrraedd SATC yn peryglu cyllid grant pellach gan Lywodraeth Cymru.

 

Clywodd y Pwyllgor fod y gwasanaeth, ar ben y gwaith ar y stoc tai, hefyd yn helpu tenantiaid sy’n wynebu anawsterau wrth dalu eu rhent. Mae’r rhan fwyaf o’r problemau yn codi oherwydd newid i amgylchiadau’r tenant. Mae gan y swyddogion tai ardal bwrpasol i gefnogi a chysylltu â thenantiaid, gan nodi materion ar y cyfle cyntaf. Gwneir pob ymdrech i gynorthwyo’r tenant, gyda hawl ddigolledu yn ddewis olaf os yw’r tenant yn gwrthod ymgysylltu. Mae ôl-ddyledion rhent y sir yn debyg iawn i ôl-ddyledion landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill yng Nghymru. Ni ragwelir y bydd y cynnydd arfaethedig yn arwain at fwy o ôl-ddyledion yn y sir.

 

Mae canran y stoc wag yn oddeutu 10%. Os daw eiddo yn wag rhoddir ystyriaeth i ailfodelu neu waredu’r eiddo – yn dibynnu ar gost ailwampio’r eiddo i gyrraedd SATC. I’r gwrthwyneb, mae’r gwasanaeth yn edrych ar raglen i brynu hen dai cyngor yn ôl (wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru) fel ffordd gost effeithiol i ychwanegu at y stoc tai.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r swyddogion am eu cyflwyniad, yr adroddiad manwl a’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan y gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

      I.         Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chytuno ar gynnwys yr adroddiad; a

 

    II.         Bod y Pwyllgor yn canmol y gwaith cadarnhaol sydd wedi’i wneud.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: