Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 578447
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau wneud penderfyniad ynglŷn â
chais gan Ymgeisydd Rhif 578447 am drwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod Ymgeisydd Rhif 578447 yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu at Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a chymeradwyo’r
cais ar yr amod bod yr awdurdod lleol yn derbyn Tystysgrif GDG gyfredol a
boddhaol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 578447;
(ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos;
(iii)
mae’r Ymgeisydd wedi derbyn euogfarn ym
mis Hydref 2019 ar gyfer ymosodiad cyffredin a heb ddatgan trosedd yrru fechan
ar ei gais (bod yna ddim pwyntiau cosb ar ei drwydded yrru gan y DVLA);
(iv)
darparwyd gwybodaeth gefndir a dogfennau
cysylltiedig yn ymwneud â’r achos yn cynnwys manylion yr euogfarnau a gafwyd ac
eglurhad yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau, datganiad personol, a geirda o ran
cymeriad gan ei gyflogwr presennol;
(v)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a
(vi)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.
Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol er mwyn cefnogi ei gais.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.
Cynghorwyd
Aelodau o’r gofyniad i’r Ymgeisydd gyflwyno Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a
Gwahardd diweddar (o ystyried fod y ddogfen wreiddiol yn fwy na thri mis oed) a
disgwylir y dystysgrif yn fuan. Mae’r
Ymgeisydd wedi sicrhau fod yna ddim newidiadau i’r Dystysgrif y Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd.
Mae’r
Ymgeisydd wedi egluro’r amgylchiadau ynghylch yr euogfarn, heb unrhyw drais neu
fwriad, ac wedi mynegi edifeirwch am y digwyddiad. Mynegodd ei fod yn ddyn teulu a ddim o natur
dreisgar.
Gofynnwyd
am eglurhad ar y dolenni polisi i droseddau yn cynnwys trais yn yr achos hwn ac
fe eglurodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu y diffiniad cyfreithiol a graddfa
symudol gydag ymosodiad cyffredinol ar y lefel isaf heb achosi unrhyw anafiadau
yn yr achos penodol hwn. Darparodd
polisi’r Cyngor grynodeb cyffredinol o droseddau o’r fath ac roedd gwaith yn
cael ei wneud yn genedlaethol er mwyn adlewyrchu’r natur fanwl o droseddau o’r
fath mewn polisi’r dyfodol wrth symud ymlaen.
Wrth ymateb i gwestiynau fe eglurodd yr Ymgeisydd sut yr oedd y llysoedd
wedi cael gwared ar y drosedd a chynghorodd nad oedd wedi cael unrhyw
euogfarnau eraill cyn nac ar ôl y drosedd.
Cadarnhaodd ei alwedigaeth bresennol a oedd yn cynnwys gyrru a dyma’r
rheswm y tu ôl i’w gais a’i fwriad am gyflogaeth yn y dyfodol. Darparodd eglurhad ynghylch y drosedd yrru
fychan a’i fethiant i’w ddatgelu ar y cais.
O ran datganiad
terfynol yr Ymgeisydd fe gadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.
Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –
PENDERFYNWYD bod
Ymgeisydd Rhif 578447 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu at Drwydded Yrru
Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat a chymeradwyo’r cais ar yr amod bod yr
awdurdod lleol yn derbyn Tystysgrif GDG gyfredol a boddhaol.
[Ni
bleidleisiodd y Cynghorydd Paul Keddie ar y mater am nad oedd yn bresennol ar
gyfer yr holl eitem.]
Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd yr
aelodau wedi ystyried y dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad.
Ystyriodd
y Pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi ei gael yn euog am drosedd yn ymwneud â
thrais, a rhoddwyd cryn bwysau i’r euogfarn honno gan mai nod cyffredinol yr
awdurdod trwyddedu wrth wneud ei waith yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr oedd
gwarchod y cyhoedd. Gwelodd hefyd ei
fod yn fater difrifol yn unol â’u canllawiau polisi ynghylch troseddau yn
ymwneud â thrais.
Ystyriodd
yr aelodau’r canllawiau polisi oedd yn nodi na ddylid rhoi trwydded am 10
mlynedd wedi i’r ddedfryd am drosedd yn ymwneud â thrais ddod i ben. Fodd bynnag fe benderfynodd aelodau i wyro
oddi wrth y canllawiau ar yr agwedd hon gan ei fod y lefel isaf o ymosodiad
cyffredin a gan fod cyfnod hir o amser wedi bod ers yr euogfarn a’r ddedfryd, a
bod yr Ymgeisydd wedi egluro’r amgylchiadau ynghylch y drosedd ac oherwydd
hynny roedd yr aelodau’n fodlon. Cafodd
aelodau hefyd eu hannog bod yr Ymgeisydd heb gyflawni unrhyw droseddau eraill
cyn nac ar ôl hynny. Felly, ystyriwyd
nad oedd yr Ymgeisydd yn debygol o droseddu yn yr un ffordd eto a rhoddwyd
pwysau i’r ffactorau hyn wrth benderfynu bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac
addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. Gan gadw hynny yn y cof fe benderfynodd yr
aelodau i gymeradwyo’r cais yn amodol ar ddim euogfarnau pellach yn cael eu
datgelu ar Dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd mwyaf diweddar. Yn yr achos bod Tystysgrif y Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd mwyaf diweddar yn dangos euogfarnau pellach bydd yr achos yn
dod ger bron y Pwyllgor am adolygiad pellach.
Hefyd
mynegodd y Pwyllgor bryder am fethiant yr Ymgeisydd i ddatgelu’r drosedd yrru
fechan ond derbyniwyd yr eglurhad a gafwyd gan Swyddog Gorfodi Trwyddedu a’r
Ymgeisydd mewn perthynas â pheidio â’i datgelu.
Yn
gyffredinol, ystyriodd y Pwyllgor bod cymeriad yr Ymgeisydd a’r holl
amgylchiadau yn ddigon i fod yn drech na’u pryderon wrth benderfynu bod yr
Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a
Cherbydau Hurio Preifat.
Felly,
cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor eu cyfleu i’r Ymgeisydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 10.20am.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./5 yn gyfyngedig