Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM BERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL: EBRILL I FEDI 2024

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno’r Adroddiad Diweddariad Perfformiad ar gyfer y cyfnod Ebrill i Fedi 2024 cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2024 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad ar gyfer ei gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad y Cyngor yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol o fis Ebrill i fis Medi 2024 gan gynnwys yr amcanion Cydraddoldeb Strategol a’r saith maes llywodraethu allweddol.

 

Amlygwyd y cyd-destun ariannol presennol a’r effaith anochel y byddai’n ei gael ar safon gwasanaethau.   Fodd bynnag roedd hefyd yn bwysig cydnabod y gwaith gwych sy’n cael ei wneud er gwaethaf yr heriau eithriadol a chredai’r Cynghorydd Ellis fod hynny’n adlewyrchu gwaith caled a dyfalbarhad staff y cyngor.   Gwnaeth gyfeiriad penodol at y newidiadau cadarnhaol mewn darparu gwasanaethau digartrefedd a oedd hefyd wedi creu arbediad sylweddol a chanlyniad cadarnhaol o Asesiad Perfformiad Panel diweddar.   Pwysleisiwyd pwysigrwydd y ddogfen fel offer rheoli perfformiad ac mewn monitro cynnydd.

 

Mynychodd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Swyddog Cynllun Strategol a Pherfformiad ar gyfer yr eitem hon.   Gofynnwyd eisoes am gymeradwyaeth Cabinet o’r Adroddiad Diweddariad ar Berfformiad cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.   Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cynnydd yn erbyn amcanion perfformiad a hefyd yn adnabod dangosyddion neu weithgareddau a oedd yn Amcanion Cydraddoldeb neu’n cyfrannu at y Gymraeg a Diwylliant ynghyd ag astudiaethau achos fel enghreifftiau o’r gwaith da sy’n cael ei wneud.   Darparodd y Swyddog Cynllun Strategol a Pherfformiad drosolwg cyffredinol o berfformiad a thynnu sylw at rai o’r uchafbwyntiau a gafodd eu trafod yn yr adroddiad eglurhaol.   Ar y cyfan ac o ystyried yr amseroedd heriol yn ariannol mae’r adroddiad wedi dangos fod y cyngor yn gweithio ar werthoedd ac egwyddorion ei hun yn ogystal ag egwyddorion lles i greu canlyniadau ardderchog ledled amrywiaeth o wasanaethau.  Cafodd rhagor o fanylion eu cynnwys ar y camau gweithredu gwelliant a nodwyd.

 

Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion am y trosolwg a’r negeseuon allweddol sy’n codi o’r adroddiad perfformiad.   Roedd Cabinet yn cydnabod y meysydd i’w gwella yn yr adroddiad ac effaith y sefyllfa ariannol ynghyd â’r canlyniadau a chyraeddiadau cadarnhaol er gwaethaf yr heriau ariannol hynny gan dalu teyrnged i waith caled y staff a’r gwaith sydd wedi cael ei wneud i greu’r adroddiad.

 

Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a ddilynodd –

 

·       Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas wedi tynnu sylw yn arbennig at y gwaith da a wnaed yn y sector dai yn cynnwys cynnal perthnasau da gyda thenantiaid a’r ymateb i ddigartrefedd gan ganmol staff am y gwaith y maen nhw wedi’i gyflawni.

·       Mae gofyn i bob awdurdod lleol yng Nghymru i greu Cynllun Corfforaethol (sydd fel arfer yn cynnwys yr amcanion lles disgwyliedig) ond mae ei ymddangosiad a’r cyfnod o amser y mae’n ei drafod yn amrywio dros y gwahanol awdurdodau.

·       Darparodd swyddogion eglurhad o’r fethodoleg rheoli perfformiad sy’n cael ei ddefnyddio gyda pherfformiad un ai’n cael ei feincnodi’n genedlaethol neu’n lleol.   Pan fydd perfformiad yn cael ei feincnodi’n genedlaethol bydd yn cael ei fesur yn erbyn llawer neu bob un o’r awdurdodau lleol eraill yng Nghymru gyda’r chwartel uchaf o berfformiad yn cael ei weld fel y perfformiad gorau; pan nad oes data cenedlaethol cymaradwy bydd gwaith yn cael ei gyflawni gydag arbenigwyr a gwasanaethau i bennu trothwyon perfformiad.

·       Gellir mesur tueddiadau data trwy’r platfform Data Cymru gydag awdurdodau lleol yn cael eu gosod mewn grwpiau teuluol o awdurdodau lleol eraill gyda demograffeg debyg ac ati sy’n rhoi mynediad i ddata cymharol ar nifer o swyddogaethau amrywiol.   Mae mynediad i Ddata Cymru ar gael i bawb a bydd swyddogion yn rhannu manylion pellach gydag Aelodau Cabinet ynglŷn â hynny y tu allan i’r cyfarfod.

·       Cyfeiriodd y Cynghorydd Emrys Wynne at benodiad diweddar y Swyddog Iaith Gymraeg ac mae gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan y swyddog hynny a hefyd y Cefnogwyr Cymraeg ledled y cyngor o ran codi ymwybyddiaeth ymysg staff a darparu cyfleoedd i ymarfer a gwella sgiliau iaith Gymraeg.  

·       Unwaith y bydd Cabinet wedi cymeradwyo cynnwys yr adroddiad bydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad.   Mae’r Hunanasesiad o Berfformiad ar ddiwedd blwyddyn 2024 i 2025 wedi cael ei gynnwys yn y cylch pwyllgorau gydag adroddiadau i Bwyllgor Craffu Perfformiad, Cabinet ac yna’r Cyngor ym mis Mehefin/Gorffennaf 2025.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn ei swyddogaethau ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2024 ac yn cadarnhau cynnwys yr adroddiad i’w gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: