Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYLLID
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa ariannol
ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y
gyllideb .
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Rhoddwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y
Cyngor fel a ganlyn –
·
y gyllideb refeniw net ar
gyfer 2024/25 oedd £271.021 miliwn (£250.793 miliwn yn 2023/24)
·
rhagwelwyd y byddai
tanwariant o £479,000 mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol
·
y risgiau a’r rhagdybiaethau
presennol yn ymwneud â chyllidebau corfforaethol a meysydd gwasanaeth
·
arbedion effeithlonrwydd
gan wasanaethau ar gyfer cyllideb 2024/25 (£10.384 miliwn) a chynnydd ar
gyflawni arbedion a gymeradwywyd oedd yn parhau i gael eu holrhain/monitro
·
y wybodaeth ddiweddaraf am
Ysgolion, y Cyfrif Refeniw Tai a Rheoli’r Trysorlys.
Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio
yr Aelodau drwy’r adroddiad. Y
rhagdybiaeth oedd bod tanwariant o £479,000 (ac eithrio ysgolion) o’i gymharu
â’r gorwariant o £400,000 y mis diwethaf.
Mae gwasanaethau yn ei gyfanrwydd yn parhau i orwario mewn meysydd yn
cynnwys Addysg a Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, ac
i raddau llai Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad a Thai a
Chymunedau. Mae’r rhagfynegiad ar yr
alldro presennol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd yn
£510,000 o danwariant oherwydd cynnydd yn y tanwariant ar Ddigartrefedd o
£300,000 (cyfanswm o £1.3m o danwariant) a’r gorwariant mewn Gofal Cymdeithasol
i Oedolion (£790,000). Roedd meysydd
risg uchel yn cynnwys lleoliadau preswyl mewn Gwasanaethau Plant, gofal a
gomisiynir gan Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Chludiant Ysgolion. Mae’r traciwr arbedion wedi cael ei gynnwys
er gwybodaeth ynghyd â’r Cyfrif Refeniw Tai a sefyllfa ysgolion.
Bu i’r Arweinydd ddiolch i’r Aelod
Arweiniol a Phennaeth y Gwasanaeth am yr adroddiad manwl gan nodi fod y
gyllideb wedi cael ei thrafod mewn manylder mewn amryw o fforymau gwahanol.
Yr oedd prif feysydd y drafodaeth yn
canolbwyntio ar y canlynol –
·
Tynnodd y Cynghorydd Rhys
Thomas sylw at y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud gyda’r gwasanaeth
digartrefedd gydag arbedion pellach yn cael eu gwireddu ar y misoedd a fu gyda
chynnydd mewn tanwariant o £300,000 sy’n gyfanswm o £1.3m o danwariant. Roedd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio yn
cytuno gan dynnu sylw at y newid mewn sefyllfa o orwariant i danwariant gan
arddangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy ddilyn ymagwedd Un Cyngor.
·
Bu trafodaeth ynghylch y
risg sy’n gysylltiedig â chymhwysedd y Tîm Cyllid a’r system ariannol newydd
a’r effaith ar fonitro’r gyllideb. Mae’r
system newydd wedi disodli nifer o systemau ariannol gwahanol gyda’r modiwl
rhagdybiaeth yn ei le ac y byddai’n cymryd amser i fireinio’r system gyda’r tîm
o dan bwysau ar hyn o bryd ac felly mae risg yn cael ei nodi o fewn yr
adroddiad hwn. Wrth ymateb i gwestiwn
dilynol gan y Cynghorydd Hugh Irving fe eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio
y sefyllfa bresennol o ran lefelau staffio a throsiant ynghyd â’r anawsterau
gyda recriwtio ar gyfer swyddi penodol yn unol ag eraill yn y sector
gyhoeddus. Sicrhawyd er bod y Tîm
Cyllid o dan bwysau eu bod nhw’n ymdopi ac yn llwyddo i weithio o dan y pwysau
yn ystod y cyfnod hwn.
·
Mae cymhlethdodau cynllunio
cyllideb wedi’i ategu a chafwyd trafodaeth ar ystyr terminoleg benodol sy’n
cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at risg a rhagdybiaeth yn y broses
gyllideb. Cadarnhaodd swyddogion nad
oedd unrhyw gyllideb yn cael ei osod heb elfen o risg ac wrth osod cyllidebau
roedd ystyriaeth yn cael ei roi i batrymau gwariant ac roedd yn hynod o anodd
rhagdybio gwasanaethau statudol sy’n cael eu harwain gan alw ac sy’n rhaid eu
darparu ac felly roedd hynny’n golygu risg o lefel uwch i’r gyllideb. O ran rheoli risg roedd yn bwysig cynnal
lefel digonol o gronfeydd wrth gefn i sicrhau pe bai risgiau yn codi eu bod nhw
ddim yn cael effaith andwyol ar y gyllideb ac yn rhoi amser i ddelio gyda’r
risgiau hynny wrth iddyn nhw godi.
Derbyniwyd bod rhai elfennau o gynllunio cyllideb yn gorfod bod yn
seiliedig ar ragdybiaethau gydag amrywiaethau mewn costau, incwm a galw ond bod
y problemau a wynebwyd dros y blynyddoedd diwethaf o ran cynnydd mewn costau
ynni a chwyddiant ddim wedi gallu cael ei rhagdybio ar yr amser y gosodwyd y
gyllideb a thu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Roedd yn bwysig fod y Cyngor yn onest a thryloyw wrth osod ei gyllideb
ac yn trafod y risgiau a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhain. Pwysleisiodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y
pwysigrwydd o reoli ariannol gofalus a chynnal cronfeydd wrth gefn iach gan
gynghori fod y Cyngor wedi cael ei reoli’n dda yn ariannol dros nifer o
flynyddoedd ac roedd y sefyllfa hynny’n parhau gyda’r Cyngor mewn sefyllfa dda
wrth symud ymlaen i ddelio gyda’r risgiau.
PENDERFYNWYD
bod
y Cabinet yn nodi’r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2024/25 a’r cynnydd yn erbyn
y strategaeth y cytunwyd arni.
Dogfennau ategol:
-
ADRODDIAD CYLLID, Eitem 6.
PDF 241 KB
-
FINANCE REPORT - App 1 Revenue Budget Summary, Eitem 6.
PDF 67 KB
-
FINANCE REPORT - App 2 Service Variance Narrative, Eitem 6.
PDF 115 KB
-
FINANCE REPORT - App 3 Savings Tracker, Eitem 6.
PDF 127 KB
-
FINANCE REPORT - App 4 Capital Plan, Eitem 6.
PDF 87 KB