Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 - 2027/28

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Archwilio (copi ynghlwm) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio, Liz Thomas, y Diweddariad i Strategaeth a Chynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2025/26 – 2027/28 (a gylchredwyd yn flaenorol).

 

Cadarnhawyd bod dau Weithdy Cyllideb wedi'u cynnal i drafod cynnwys yr adroddiad a gwahoddwyd yr Aelodau Lleyg i fynychu fel sylwedyddion. 

 

Roedd y Strategaeth a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig hefyd wedi’u trafod yn y Cyngor Llawn ar 12 Tachwedd 2024.

 

Rhan o rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd ceisio sicrwydd bod gan y Cyngor brosesau effeithiol a chadarn mewn lle ar gyfer pennu cyllidebau cytbwys.

 

Yn ystod y trafodaethau, codwyd y pwyntiau a ganlyn –

 

(i) Heb gyllid digonol, ni fyddai gan ysgolion yr adnoddau hanfodol i ddarparu addysg ddigonol i blant, ac roedd hyn yn peri pryder.   Hefyd roedd y cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr bellach yn ychwanegu at y baich ariannol. 

 

Cadarnhawyd bod y ffigurau oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad wedi eu cyfrifo cyn cyllideb Llywodraeth y DU ac felly nid oeddent yn ystyried y cynnydd yng nghyfraniad Yswiriant Gwladol y Cyflogwr.  Nid oedd cadarnhad eto a fyddai'n ofynnol i Awdurdodau Lleol dalu'r cyfraniad Yswiriant Gwladol ychwanegol ond rhagwelwyd y byddai adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu gan y Llywodraeth er mwyn ariannu'r costau.  Byddai effaith hefyd ar gostau anuniongyrchol oherwydd y cynnydd hwn mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol fyddai'n ychwanegu ymhellach at gostau. 

 

(ii) Roedd aelodau'n ymwybodol bod Arweinwyr a Phrif Weithredwyr 6 Awdurdod Lleol Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog a'r Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol yng Nghaerdydd ynglŷn â'r cyllidebau a phwysleisiwyd bod angen hysbysu aelodau'r cyhoedd am y pwysau ar gyllidebau yr Awdurdodau Lleol a sut yr oeddent yn delio â hyn.   Cadarnhawyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn hyd yn hyn.

 

Cynigiodd Nigel Rudd y pwyntiau canlynol –

 

(i) Roedd holl Gynghorau Cymru mewn sefyllfa hynod o anodd ac angen osgoi senario methdaliad Adran 114 ar bob cyfrif.  Pe bai Sir Ddinbych yn dod o dan orchymyn Adran 114 byddai Comisiynwyr yn cael eu penodi ac fe fyyddai penderfyniadau'n cael eu gwneud heb unrhyw ystyriaeth i ddemocratiaeth yn lleol.  Ni fyddai aelodau a swyddogion yn gallu rheoli na dylanwadu unrhyw un o'r penderfyniadau. 

(ii) Ar draws y DU roedd gwahaniaeth yn y Dreth Gyngor rhwng Cymru a Lloegr.  Yn Lloegr cafodd y Dreth Gyngor ei chapio ar gynnydd o un ai 3% neu 5%.  Yng Nghymru, ni chafodd y Dreth Gyngor ei chapio.  Os yn edrych i gynyddu Treth y Cyngor er mwyn balansio’r llyfrau, roedd yn rhaid ystyried hyn fel opsiwn.  Er enghraifft, os oedd angen cynnydd o 27% er mwyn mantoli'r llyfrau ar gyfer yr Awdurdod Lleol ym mlwyddyn 1 roedd angen ei gyflwyno fel opsiwn.  Pe bai'r Awdurdod Lleol yn cymeradwyo cynnydd mor fawr byddai'n mynd i'r afael â rhai materion hanesyddol.

(iii) Er mwyn osgoi Adran 114, 'roedd yn rhaid canolbwyntio ar y gwasanaethau statudol a hynny er gwaetha’r anfantais a gostyngiad posibl mewn gwasanaethau dewisol neu anstatudol.  Dywedodd pe na bai hynny'n cael ei wneud ac os nad fyddai’r llyfrau'n gytbwys, y Comisiynwyr yn unol ag Adran 114 fyddai’n penderfynu pa wasanaethau a ddarparwyd.   Roedd angen ffocws gwirioneddol anodd ar effaith gwasanaethau anstatudol ym mhroses gosod y gyllideb.  Fel Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio roedd rhaid edrych ar yr holl opsiynau oedd angen eu hystyried o ddifrif.

(iv) Roedd yr Awdurdod wedi perfformio'n arbennig o dda yn ei strategaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac y dylai pawb fod yn falch o hynny ond ni allai barhau i fynd i'r afael â materion ar sail mân doriadau yma ac acw.  Roedd angen iddo weld tystiolaeth fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio bod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried gan gynnwys yr opsiynau mwyaf dadleuol.

 

Mewn ymateb i sylwadau Nigel Rudd, cafwyd yr ymatebion a ganlyn –

(i) Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid y byddai'n trafod gyda'r Pennaeth Cyllid yr opsiwn o godi Treth y Cyngor. 

(ii) Dywedodd y Cynghorydd Ellis hefyd y byddai canolbwyntio ar wasanaethau statudol yn hynod gymhleth gan nad oedd diffiniad eglur o be yn union oedd hyd a lled gwasanaeth e.e. llyfrgelloedd.

(iii) Ymatebodd Liz Thomas ynglŷn â gwasanaethau statudol, gan ddweud mai dyna lle byddai Comisiynydd yn canolbwyntio.  Cytunodd hefyd gyda'r Cynghorydd Ellis nad oedd y diffiniad o statudol yn gwbl eglur.  Ni olygai bod yr holl wasanaethau statudol yn cael eu hamddiffyn yn eu cyfanrwydd gan fod angen iddynt gael eu rhedeg yn dda ac iddynt hefyd fod yn effeithlon yn y ffordd roeddynt yn darparu eu gwasanaethau.

 

Cafwyd trafodaethau pellach fel a ganlyn –

(i) Gofynnwyd i'r adrannau wneud arbedion, a sut roedd yr elfen cyllid craidd yn cael ei chyflwyno i sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu darparu. 

Eglurodd Liz Thomas fod profion yn cael eu cynnal i weld effaith unrhyw arbedion ar y gwasanaeth. 

(ii) Sut y bwriedir ymdrin â chyllid ar gyfer y cyfraniadau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr ychwanegol?

Dywedodd Liz Thomas fod yr Adran Gyllid wrthi yn cyfrifo beth fyddai'r costau ac y byddai angen iddynt fwydo’r wybodaeth i fewn i'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a hynny ochr yn ochr â'r incwm ychwanegol a dderbyniwyd.  Cadarnhawyd na fyddai'r costau'n cael eu nodi heb gynnwys yr incwm ychwanegol.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd mai rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd sicrhau fod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried, a'i farn ef oedd y dylai pob opsiwn gael ei ystyried gan y Cabinet er mwyn sicrhau fod yr aelodau ym meddiant y wybodaeth gyflawn.

 

Ar y pwynt hwn canmolodd Nigel Rudd y Sesiwn Gyllideb a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda chyfraniadau rhagorol gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Graham Boase a Liz Thomas.  Canmolodd y broses hefyd a dywedodd ei fod wedi bod yn un o'r sesiynau cyllideb gorau a welodd mewn unrhyw Awdurdod Lleol. 

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn darparu’r adborth canlynol i'r Cabinet -

(i) Dylai’r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio ar wasanaethau statudol fel ei fod yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol a bod dealltwriaeth glir gan swyddogion ac aelodau o beth oedd y gwasanaethau statudol.

(ii) Dylid cyflwyno ac ystyried yr holl opsiynau o ran Treth y Cyngor pa mor annymunol bynnag ydynt er mwyn i aelodau gael yr ystod lawn o ffeithiau, gan ddangos y risgiau a’r buddion, pan yn cymryd penderfyniadau.

(iii) Dylai'r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod gan drigolion wybodaeth glir a dealladwy am y dewisiadau y mae'n rhaid i'r Cyngor eu gwneud ynghyd â goblygiadau posibl y dewisiadau hynny.

 

 

Dogfennau ategol: