Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD GWASANAETH DYDD GOGLEDD SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad gan Reolwr y Prosiect, Tai Gwarchod Gofal
Ychwanegol (copi’n amgaeëdig) yn nodi’r sefyllfa bresennol mewn perthynas ag
ymgynghori ar ac adolygu Gwasanaethau Dydd Gogledd Sir Ddinbych yng Ngogledd y
Sir.
11.30 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect, Tai Gwarchod Gofal Ychwanegol, yn nodi’r
sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r ymgynghoriad a’r adolygiad o Wasanaethau
Dydd Gogledd Sir Ddinbych a’r cynigion ar gyfer newidiadau yn y modd y mae
gwasanaethau dydd yn cael eu darparu yng Ngogledd Sir Ddinbych, wedi ei
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Oedolion a Busnes
(HABS) yr adroddiad
a oedd yn rhoi adborth ar yr ymgynghoriad ac yn gofyn i’r Pwyllgor gefnogi
gweithredu’r argymhellion. Roedd yr angen i adolygu darpariaeth bresennol
gwasanaethau dydd wedi ei nodi yn y ddogfen Ailalluogi: Symud Ymlaen ac roedd
adolygiad 2008 o Wasanaethau Dydd wedi ailadrodd bod angen cynnig ystod
ehangach o opsiynau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
I sicrhau bod darpariaeth
gwasanaeth cymdeithasol i Bobl Hŷn yn gynaliadwy ac yn cadw i fyny â’r
galw, byddai angen blaenoriaethu darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y rhai mewn
angen mwyaf, Byddai angen i gefnogaeth ganolbwyntio ar ailalluogi yn unol â pholisi
Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, Fframwaith
Gweithredu. Wrth adolygu Gwasanaethau Gofal Dydd byddai’n bwysig gwahaniaethu
rhwng gweithgareddau yn ystod y dydd a gofal dydd ac roedd diffiniad o agweddau
pob un o’r darpariaeth gwasanaeth wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.
Amlinellodd yr HABS rôl tîm staff
Hafan Deg wrth ymgymryd ag asesiadau manwl, a chadarnhawyd, lle bynnag y bo
modd, y byddai cefnogaeth yn cael ei roddi i unigolion symud i weithgareddau
cynhwysol yn ystod y dydd yn eu hardal leol. Byddai cyfleoedd i greu
cysylltiadau ystyrlon gyda gweithgareddau arferol yn ystod y dydd yn cael eu
cynnwys yn y cynllun gofal os oedd asesiad yn nodi bod angen hynny. Roedd
manylion trafodaethau gyda phartneriaid Cymdeithasau Tai yn Nant y Môr a Gorwel
Newydd ar ddatblygu grwpiau gweithgareddau dydd yn y ddau Gynllun Gofal
Ychwanegol wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad. Ymatebodd yr HABS i gwestiynau
gan y Cynghorydd R M Murray ac amlinellodd yr amserlenni ar gyfer y broses
ymgynghori mewn perthynas â Nant y Môr, a chytunodd ofyn am wybodaeth i’r
Aelodau ar y lleoliad a ddefnyddiwyd gan y Clwb Strôc.
Roedd Strategaeth Pobl Hŷn
Llywodraeth Cymru yn nodi y byddai pobl yn y dyfodol yn hoffi cael eu cefnogi
gan wasanaethau cymunedol lleol cynhwysol yn hytrach na gwasanaethau dydd
traddodiadol. I sicrhau darparu gwasanaethau dydd cynaliadwy i ddiwallu
anghenion nifer cynyddol o bobl agored i niwed, byddai’n hanfodol newid sut
roedd gwasanaethau yn cael eu darparu. Esboniwyd y byddai’r adolygiad o
wasanaethau dydd yn cyfrannu tuag at y flaenoriaeth gorfforaethol o amddiffyn
pobl sy’n agored i niwed a’u bod yn medru byw mor annibynnol ag y bo modd.
Cadarnhawyd bod
yr angen i arbed £30k eleni trwy adolygu’r Gwasanaethau Dydd wedi ei gyflawni
trwy ad-drefnu’r strwythur rheoli yn y ddau wasanaeth. Roedd crynodeb o’r
broses ymgynghori a ymgymerwyd gan randdeiliaid allweddol, a manylion yr
adborth, wedi ei gynnwys yn Atodiad 1.
Amlinellodd yr HABS yr argymhellion ym mharagraff 3 yr adroddiad ac
ymatebodd i’r materion a godwyd gan aelodau o ardal y Rhyl a oedd yn cynnwys
pryderon yn ymwneud â newid defnydd Hafan Deg o Ganolfan Ddydd i Ganolfan
Adsefydlu gyda ffocws ar ailalluogi, a theimlent y gallai arwain at ddefnyddwyr
gwasanaeth yn gorfod talu am eu hadsefydliad eu hunain. Bu iddo:
-
Gadarnhau
nad oedd tâl yn cael ei godi am ddarparu gwasanaethau ailalluogi.
-
Ddarparu manylion yr ystod o
wasanaethau cymunedol a gyflwynwyd gan gyrff preifat i ychwanegu at y rhai a ddarparwyd
gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
-
Gadarnhau bod Gwasanaethau
Cymdeithasol ond yn darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr gydag anghenion gofal
cymdeithasol cymwysedig
-
Gadarnhau’r bwriad i ehangu
argaeledd cyfleusterau cymunedol i ddefnyddwyr lleol, gyda’r ffocws ar gyfer y
flwyddyn ariannol yn golygu comisiynu gwasanaethau gan y trydydd sector a'r
sector annibynnol
-
Ddarparu amlinelliad o
ddatblygu dulliau hunan-gynnal.
Amlygodd yr Aelodau anawsterau a fyddai’n wynebu defnyddwyr
gwasanaeth na fyddant yn medru cyrchu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau a
grybwyllwyd dan weithgareddau dydd. Cyfeiriwyd at anawsterau teithio a allai eu
wynebu a darparu cyllid i ddelio â’r problemau cludiant a amlinellwyd,
Esboniodd yr HABS bod yr adroddiad yn delio â materion darparu gweithgareddau
dydd a gofal dydd ar wahân ac esboniodd sut byddai’r materion hyn yn cael eu
trin trwy weithredu’r strategaeth. Cadarnhaodd y Cynghorydd R.L. Feeley bod
darparu gwasanaeth nyrsio wrth gefn ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn mynychu Canolfannau
Dydd yn fater a fyddai angen ei ystyried ymhellach.
Ar ôl ystyried y cynigion yn yr adroddiad, y farn gyffredinol oedd
nad oedd y Pwyllgor yn medru cefnogi’r argymhellion oherwydd:-
-
Bod angen cyflwyno’r achos busnes llawn dros
y newidiadau i’r Aelodau.
-
Roedd angen asesiad o’r effaith yn
manylu goblygiadau ariannol a gwasanaeth y newidiadau arfaethedig i ddefnyddwyr
gwasanaeth.
-
Dylai manylion cyfranogiad y trydydd
sector yn y modelau gwasanaeth newydd fod ar gael.
-
Dylai costau cludiant bras sy’n
gysylltiedig gyda chyflwyno’r gwasanaethau newydd arfaethedig fod ar gael.
-
Dylai bod gwybodaeth ar gael hefyd ar y
goblygiadau i’r Gwasanaeth Oedolion a Busnes a’r risgiau i Gynllun Ariannol
Tymor Canol y Cyngor pe na fyddai’r cynigion arfaethedig yn cael eu cymeradwyo.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunodd y Pwyllgor, yn wyneb y
pryderon a fynegwyd gan yr Aelodau, na ellid cefnogi’r argymhellion yn yr
adroddiad nes byddai’r dystiolaeth ategol a aminellwyd uchod ar gael i’r cynghorwyr
ei hystyried. Bu i’r Pwyllgor:
BENDERFYNU – cyfeirio’r argymhellion mewn perthynas â newid sut cyflwynir
gwasanaethau dydd yng ngogledd Sir Ddinbych at y Cyngor Sir am benderfyniad
unwaith y byddai’r wybodaeth ategol a restrwyd uchod ar gael.
Dogfennau ategol: