Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y RHYL YN SYMUD YMLAEN - DIWEDDARIAD

Ystyried adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen (copi’n amgaeëdig) yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen.

                                                                                                          10.55 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen, yn rhoi diweddariad ar Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen y Rhyl yn Symud Ymlaen (RGFPM) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar y cynnydd o ran cyflawni Strategaeth Adfywio y Rhyl yn Symud Ymlaen, ei goblygiadau ariannol, a chynnydd neu ragolygon mewn perthynas â gwireddu manteision. Esboniodd bod Bwrdd Rhaglen y Strategaeth wedi ymgymryd â Gweithdy Adolygu Cyflawniad ym mis Tachwedd 2013. Roedd copi o’r adroddiad cefndir “Adolygiad o Gynllun Cyflawni y Rhyl yn Symud Ymlaen” wedi ei ddosbarthu i’r rhai a fynychodd, ac wedi ei gynnwys fel Atodiad 1.

 

Roedd crynodeb o ganlyniadau digwyddiad Tachwedd mewn perthynas â’r tair ffrwd waith a oedd yn hanfodol i’r rhaglen wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Esboniwyd bod Gweithdy Adolygu Bwrdd y Rhaglen hefyd wedi ystyried y prosiectau cyfansoddol o fewn strategaeth gyffredinol y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd Rhestr Prosiectau rhagarweiniol wedi ei gynnwys yn Atodiad 2, ac roedd canlyniad y drafodaeth ynglwm fel Atodiad 3, Adolygu Cyflawni y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd gwaith ar flaenoriaethu wedi parhau gyda datblygu’r strwythur trefniadol newydd ar gyfer swyddogaeth adfywio’r Cyngor. Byddai hyn yn cynorthwyo gyda sicrhau bod yr adnoddau staff priodol yn bodoli i gyflawni’r blaenoriaethau strategol a gytunwyd. Amlinellwyd manylion yr adolygiad o’r trefniadau llywodraethu yn Atodiad 4. Ymgymerwyd â gwaith rhagarweiniol gyda’r Tîm Cynllun Mawr i ddatblygu fframwaith rheoli perfformiad mwy cynhwysfawr ar gyfer y rhaglen ac roedd canlyniadau’r gwaith wedi eu cynnwys yn Atodiad 5, Fframwaith Rheoli Perfformiad. Amlinellwyd prosesau ariannu a monitro ar gyfer y strategaeth adfywio yn yr adroddiad. Roedd gan brosiectau unigol eu strategaethau ymgynghori eu hunain ac roedd risgiau wedi eu monitro gan Fwrdd y Rhaglen gan ddefnyddio Cofrestr Risg y Rhaglen, a gynhwyswyd fel Atodiad 6.

 

Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd R M Murray ar yr angen i sicrhau dyfodol hirdymor ar gyfer y Nova, Prestatyn a diffyg cyfathrebu gydag Aelodau Wardiau ym Mhrestatyn, esboniodd y RGFPM bod Sir Ddinbych yn gweithio gydag Alliance Leisure, Partner Hamdden Strategol y Cyngor, i gyflwyno cyfleusterau dŵr newydd yn lle’r Heulfan. Cefnogodd yr aelodau y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd H.C. Irving ynglŷn â phwysigrwydd cynnwys Traeth Ffrith yn y prosiect. Cadarnhawyd y byddai angen cael cyfleusterau cyflenwol ar hyd y llain arfordirol a byddai hyn yn cynnwys ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn. Darparodd yr RGFPM fanylion yr ymarfer caffael a ymgymerwyd i benodi partneriaid i sicrhau darpariaeth effeithiol  ar hyd y llain arfordirol ac esboniodd y bu angen ystyried dulliau amgen o ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau dewisol. Rhoddodd sicrhad y byddai agweddau ariannol y buddsoddiad yn cael eu craffu ac y byddai angen cael cydbwysedd mewn perthynas â lefel buddsoddiad preifat. 

 

Amlinellodd y Cynghorydd H Ll Jones y gwaith a oedd yn cael ei wneud ar hyd y llain arfordirol a chytunodd y Pwyllgor y dylid gwahodd Alliance Leisure i  sesiwn Briffio’r Cyngor yn y dyfodol i amlinellu eu perthynas gyda’r Cyngor a’u rôl wrth gyflwyno gwasanaethau ar ran y Cyngor. Teimlwyd y dylai’r holl Aelodau fod yn ymwybodol o’r trefniadau partneriaeth a chael cyfle i holi cynrychiolwyr Alliance Leisure mewn cyd-destun anffurfiol.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Dysgu a Chymunedau i bryderon a godwyd gan nifer o Aelodau ynglŷn a diffyg cyfathrebu rhwng swyddogion ac Aelodau Wardiau. Amlinellodd y broses o gyflwyno adroddiadau i’r Cabinet a phwysleisiodd yr anawsterau gydag adroddiadau yn cael eu rhoi yn y parth cyhoeddus.

 

Bu i rai nad oeddynt yn Aelodau o’r Pwyllgor:

·                     ddweud tra bod rhai pryderon ynglŷn ag agweddau ariannol Prosiect y Rhyl yn Symud Ymlaen, roedd aelodau’r Rhyl nawr yn hyderus mewn perthynas â chynigion ar gyfer y llain arfordirol yn y dyfodol.

·                     Holi ynglŷn ag aelodaeth arfaethedig y Bwrdd, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 3, a chyfeirio at yr angen i osgoi unrhyw wrthdrawiad buddiannau. Amlinellodd yr RGFPM rôl Bwrdd y Rhaglen, i arsylwi gweithgareddau cyffredinol Prosiect y Rhyl yn Symud Ymlaen a rhoi cyfeiriad i ddatblygu a gweithredu’r prosiectau cymhleth mawrion, a chadarnhaodd y byddai gan bob prosiect unigol ei Fwrdd ar wahân ei hun.

·                     Pwysigrwydd cynnwys cyfeiriad at yr ysgol uwchradd ffydd newydd ym mhob dogfen ar Raglen y Rhyl yn Symud Ymlaen yn y dyfodol.

·                     Pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod landlordiaid yn cynnal, ac yn parhau i gynnal a chadw eu heiddo yn yr ardal

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau uchod, esboniodd yr RGFPM rôl Cymdeithas Dai Clwyd Alyn wrth gyflawni a gweithredu’r prosiect. Rhoddodd fanylion hefyd y gwaith partneriaeth a oedd yn mynd rhagddo gyda’r Gymdeithas i sicrhau bod y gwaith a wnaed ar yr eiddo yn bodloni’r ansawdd a’r safonau a ddisgwylid. Esboniodd bod cynnal a chadw eiddo yn fater Tai yn hytrach nag Adfywio ac y gellid ei ystyried gan MAG. Pwysleisiodd y Cadeirydd yr angen i fod yn glir o ran amodau cyfeirio mewn perthynas â rôl yr holl randdeilaiid yn y prosiect. Ar ddiwedd y drafodaeth rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o’r sylwadau a wnaed ac fe:-   

 

BENDERFYNWYD bod y Pwyllgor:-

 

(a)  Yn derbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad.

(b)  Yn argymell bod Alliance Leisure yn cael eu gwahodd i sesiwn Briffio’r Cyngor yn y dyfodol i amlinellu eu perthynas gyda’r Cyngor a’u rôl o ran cyflwyno gwasanaethau ar ran y Cyngor.

(c)  Yn derbyn manylion ffigurau amcangfyrif cynhyrchu incwm ar gyfer y rhaglen mewn adroddiad monitro y Rhyl yn Symud Ymlaen yn y dyfodol, a

(d)  Yn derbyn manylion yn ymwneud â chyfansoddiad ac Aelodaeth  Byrddau’r Rhaglen a'r Prosiectau fel rhan o’r adroddiad monitro nesaf a drefnwyd.

 

Dogfennau ategol: