Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 47/2023/0838 - EGLWYS MC, TREMEIRCHION

Ystyried cais i drawsnewid capel i ffurfio annedd yn cynnwys dymchwel ac ailadeiladu adeilad festri a chodi estyniad unllawr, ffurfio mynedfa i gerbydau, maes parcio a gwaith cysylltiedig (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i drawsnewid capel i ffurfio annedd yn cynnwys dymchwel ac ailadeiladu adeilad festri a chodi estyniad unllawr, ffurfio mynedfa i gerbydau, maes parcio a gwaith cysylltiedig.

 

Roedd y Siaradwr Cyhoeddus - Nigel Heckman (o blaid) wedi cyflwyno cais i newid defnydd Capel Tremeirchion.  Roedd Mr Heckman a’i wraig yn breswylwyr hirsefydlog yn Nhremeirchion, nid ydynt yn ddatblygwyr eiddo ac roedd arnynt eisiau creu eiddo preswyl at eu defnydd eu hunain.

 

D1 yw categori cynllunio presennol yr eiddo, sy’n golygu y gallai’r ymgeisydd ddefnyddio’r eiddo fel meithrinfa dydd neu crèche ynghyd â sawl defnydd arall heb gyflwyno cais i’r Pwyllgor Cynllunio.  Byddai cynnig yr ymgeisydd i newid defnydd yr eiddo i eiddo preswyl yn lleihau’r effaith ar briffyrdd a’r amgylchedd yn sylweddol. 

 

Dros y 12 mis diwethaf, ers cyflwyno’r cais i’r Adran Gynllunio, roedd sawl gwrthwynebiad wedi cael eu cyflwyno.  Cynhaliwyd cyfarfodydd â’r Swyddog priffyrdd a diwygiwyd y cynlluniau i fodloni argymhellion y Swyddog.  Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn perthynas ag effaith weledol yr eiddo gan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.  Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo’r systemau draenio ar y cynlluniau arfaethedig a diwygiwyd y cynlluniau blaenorol i’w cymeradwyo gan y Swyddog Ecoleg a byddai trwydded yn cael ei cheisio gan Gyfoeth Naturiol Cymru i ddiogelu’r ystlumod, adar a rhywogaethau eraill. 

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau mewn perthynas â’r eiddo’n cysgodi eiddo cyfagos.  Roedd y cynlluniau a gyflwynwyd yn bodloni rheoliadau cynllunio ac adeiladu, a byddai wal dalcen y festri’n cael ei chadw yn ogystal â wal 3 troedfedd ar ymyl y ffordd i gynnig amddiffyniad pellach i’r cymydog.

 

Gan ystyried y pwyntiau a godwyd uchod a’r newidiadau sylweddol a wnaed i’r cais cynllunio dros y 12 mis diwethaf, roedd yr ymgeisydd yn gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cais cynllunio.

 

Diolchodd y Siaradwr Cyhoeddus - Bethan Owens (yn erbyn) i’r Pwyllgor am ganiatáu iddi siarad yn erbyn y cais cynllunio.

 

Tynnwyd sylw aelodau at y cais a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd 2023 a’r anghysondebau o fewn y cais hwn. 

 

Yn y Datganiad Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd ar 29 Mai 2024, roedd rhywfaint o anghysondeb o fewn y cynllun lleoliad a’r cynllun bloc, gan gynnwys y datganiad y byddai gwaith trin carthffosiaeth gwastraff domestig newydd yn darparu system ddraenio, fodd bynnag, nid oedd y wybodaeth hon yn cyd-fynd a’r wybodaeth ddiweddaraf.  Deallwyd dan Ddeddf Gynllunio Cymru y byddai ceisiadau sydd â gwybodaeth ar goll neu’n cynnwys gwybodaeth anghywir yn cael eu hystyried yn annilys neu’n cael eu diystyru nes byddai’r gwallau hyn wedi’u cywiro. 

 

Ni ddarparwyd Datganiad o Effaith mewn perthynas â sut fyddai’r ymgeisydd yn cyfyngu unrhyw amhariad i breswylwyr a defnyddwyr ffordd yn ystod y gwaith clirio ac adeiladu.  Roedd gwrthwynebiadau cryf i nifer o agweddau o’r ystyriaethau cynllunio hanfodol.

 

Roedd yn anffodus nad oedd unrhyw ddymuniad i gadw’r adeilad fel canolfan gymunedol.  Byddai’r cais yn cysgodi ac yn edrych dros Tŷ Capel, ac amwynderau’n cael eu colli’n llwyr.  Nid oedd edrychiad, cymeriad na graddfa’r eiddo’n cyd-fynd â’r ardal leol ac roedd yn orddatblygiad sylweddol ar safle cymharol fychan. 

 

Anogwyd y Pwyllgor i wrthod y cais yn sgil anghysondeb sylweddol a newidiadau i’r cais cynllunio.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Amlygodd y Prif Swyddog Cynllunio’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd yn y sylwadau hwyr.  O ran y cwestiynau a godwyd mewn perthynas â draenio, cadarnhawyd bod y cynllun safle a gyflwynwyd, wrth ei ddarllen ar y cyd â’r cynllun draenio, yn dangos bwriad i gadw’r cysylltiad presennol â’r tanc septig presennol, gan ddisodli’r tanc septig â gwaith trin preifat.

 

O ran diogelwch ffyrdd, yn ystod proses ymgynghori (pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo) roedd Swyddogion yn ystyried y byddai modd mynd i’r afael â’r materion hyn drwy gyflwyno amod Cynllun Rheoli Adeiladu.

 

Nododd y Cadeirydd bod cyfarfod safle wedi cael ei gynnal ar 1 Tachwedd a chroesawyd sylwadau gan yr aelodau a oedd yn bresennol.

 

Mynychodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Chris Evans, y cyfarfod safle a mynegodd ei bryderon mewn perthynas â’r terfyn cyflymder o 60mya ar y ffordd y tu allan i’r eiddo a thynnodd sylw at ei bryderon mewn perthynas â cholli’r ffenestri hanesyddol sydd eisoes yn yr eiddo.

 

Nododd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd yr eiddo’n adeilad hanesyddol rhestredig ac nad oedd yn rhan o ardal gadwraeth.  O ran y ffordd y tu allan i’r eiddo, fel y mae’r ymgeisydd eisoes wedi’i nodi, roedd categori defnydd D1 presennol yr eiddo’n golygu y gellid defnyddio’r eiddo fel meithrinfa, er enghraifft, heb amodau cynllunio, a byddai hynny’n cynyddu nifer y cerbydau a fyddai’n defnyddio’r ffordd yn ystod y dydd.

 

Mynychodd y Cynghorydd Peter Scott y cyfarfod safle a nododd fod y pryderon mewn perthynas â gwelededd a godwyd gan drigolion wedi cael eu diwygio ar y cais ac y byddai’r wal o amgylch yr eiddo’n 1 metr o uchder er mwyn helpu â gwelededd ceir sy’n bacio ac yn pasio’r eiddo.  

 

Roedd y Cynghorydd Alan James yn bresennol yn y cyfarfod safle ac ystyriwyd a thrafodwyd pryderon mewn perthynas â chulni’r lôn a’r briffordd.  Cynigodd y dylid cymeradwyo’r cais.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jon Harland a fyddai modd i’r Pwyllgor dderbyn cynlluniau cais cliriach pan fyddant yn cael eu cyflwyno i’w cynnwys ar y rhaglen.  Nododd y Prif Swyddog Cynllunio mai fersiynau cryno yw’r cynlluniau yn y rhaglen, fodd bynnag, roedd y ceisiadau cynllunio manwl a llawn ar gael ar-lein ar gyfer pob aelod.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Delyth Jones pa ddeunyddiau fyddai’n cael eu defnyddio i adeiladu’r adeilad a ph’un a oedd unrhyw amodau ynghlwm â’r cais ar gyfer ffenestri’r to mewn perthynas â deddfwriaeth Awyr Dywyll yr AHNE. 

 

Nododd y Prif Swyddog Cynllunio fod y cynlluniau’n awgrymu defnyddio cyswllt gwydr a cherrig adferedig ar yr adeilad newydd i gyd-fynd a’r ardal leol.  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan yr AHNE mewn perthynas ag Awyr Dywyll.

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Evans ei bryderon mewn perthynas â’r briffordd a gofynnodd am eglurhad o’r broses mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r Datganiad Dull Adeiladu.  Nododd y Prif Swyddog Cynllunio y byddai unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfiaeth â’r Datganiad Dull Adeiladu yn mynd yn erbyn amodau cynllunio a byddai camau gorfodi’n cael eu cymryd lle bo angen.  Byddai’r Datganiad Dull Adeiladu’n cael ei rannu â’r Aelod Lleol.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Alan James y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe EILIWYD hynny gan y Cynghorydd James Elson.

 

Pleidlais –

O blaid – 12

Yn erbyn – 1

Ymatal – 1

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: