Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD YMCHWILIAD I LIFOGYDD ADRAN 19 - STORM BABET

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno canfyddiadau ymchwiliad Adran 19 i lifogydd mewn eiddo o ganlyniad i Storm Babet.

 

10:45am – 11:15am

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r cyfarfod.  Eglurwyd y cafwyd cyfnod o law trwm iawn ar 20 Hydref 2023 a effeithiodd ar sawl eiddo yng Ngogledd y Sir. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) a Dŵr Cymru (DCWW) yn ymchwilio i’r hyn a achosodd y llifogydd. Diben yr adroddiad oedd cyflwyno’r canfyddiadau neu eu hymchwiliadau i’r Pwyllgor a gofyn am unrhyw sylwadau gan yr aelodau.

 

Dywedodd y Rheolwr Asedau a Risg ei fod yn fodlon mynychu holl gyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau ynghylch hynny a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Amgylchedd a’r Economi fod Storm Babet yn storm sylweddol ac y bu iddi effeithio ar 62 o gartrefi a chwe busnes. 

 

Fel rhan o'r ymchwiliad, cynhaliwyd ymarfer curo drysau i gasglu'r wybodaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod yr adroddiad yn un amlochrog a’i fod yn canolbwyntio ar yr eiddo a effeithiwyd, gan geisio canfod datrysiadau i’r dyfodol. Tynnwyd sylw’r aelodau at Adrannau 7 ac 8 yn yr adroddiad (Atodiad 1 i’r adroddiad), a oedd yn canolbwyntio ar y llifogydd a’r gwelliannau a nodwyd.

 

Yna, rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau.  Awgrymodd yr aelodau y gellid gwneud mwy o waith cynnal a chadw i glirio ffosydd a cheuffosydd. O bosibl y gallai hyn fod wedi atal rhagor o lifogydd. Cafwyd sylwadau gan yr aelodau ynghylch cynnal a chadw’r orsaf bwmpio yn y Rhyl, nad oedd yn ymddangos yn ddigonol.

 

Ymatebodd y swyddogion gan ddweud fod angen cynnal a chadw asedau Dŵr Cymru a CNC, yn ogystal ag isadeiledd Cyngor Sir Ddinbych. Roedd yr awdurdod yn bwriadu gweithredu system newydd yn lle’r un oedd yn cael ei defnyddio ar y pryd i logi contractwyr unigol i glirio mannau gwyrdd a chyflwyno system fwy ad-hoc, a fyddai’n nodi mannau problemus ac yn mynd i’r afael â’r mater felly. Roedd yn bwysig nodi hefyd nad oedd yr awdurdod wedi rhoi’r gorau i glirio ffosydd. Roedd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni ar sail risg.

 

Trafodwyd hefyd rôl ffermwyr o ran cyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw’r ffosydd a’r ceuffosydd hyn sydd wrth ymyl eu tir. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol fod angen gwneud mwy o waith gyda ffermwyr a thirfeddianwyr, mewn ymgais i ddatblygu gwell perthnasoedd, er mwyn ceisio gwella’r problemau hyn, ond roedd hyn wedi profi’n her yn y gorffennol.  Gofynnodd yr aelodau pa mor barod oedd ffermwyr i gydweithio a chyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw gwrychoedd a ffosydd, er enghraifft. Nodwyd ei bod yn sefyllfa anodd. Roedd y Rheolwr Asedau a Risg blaenorol wedi ceisio mynd i’r afael â hyn, a chynyddu ymgysylltiad â’r undebau amaethwyr mewn ymgais i ddwyn pwysau ar y mater, ond yn y pen draw, er ei fod yn effeithio ar isadeiledd CSDd, roedd yn dir preifat. Ni allai’r Cyngor gael mynediad i unrhyw dir neu eiddo preifat heb ganiatâd y perchennog, felly roedd hi’n sefyllfa hynod anodd ei rheoli.

 

Mynegodd yr aelodau bryderon ynghylch archwiliadau o fyndiau afonydd, y gwaith o’u cynnal a’u cadw, a chydweithrediad CNC a Dŵr Cymru mewn perthynas â hyn. Gofynnwyd pryd y cafodd y byndiau hyn eu harchwilio ddiwethaf ac os nad oeddent wedi cael eu harchwilio, a allai hynny fod wedi achosi llifogydd difrifol. Nodwyd nad oedd yr union amserlen ar gyfer archwilio pob bwnd yn hysbys, ond bu i’r swyddogion gynnig adrodd yn ôl i’r aelodau ynghylch pa mor aml roedd hyn yn cael ei wneud.  Dywedodd y swyddogion fod yr awdurdod yn cysylltu â Dŵr Cymru a CNC yn rheolaidd ynghylch cynnal a chadw'r holl asedau perygl llifogydd a rhoddwyd sicrwydd iddynt gan y ddau sefydliad bod gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn cael ei wneud ar eu hasedau. Roedd y swyddogion yn brysur yn cysylltu â thrydydd partïon, ond roedd gan y sefydliadau hyn eu cyfyngiadau cyllidebol eu hunain.

 

Dywedodd y swyddogion fod gwaith ataliol yn cael ei wneud a bod y gwaith hwn yn cynnwys archwilio ceuffosydd ledled y sir, yn enwedig y rhai sy’n agos at fannau lle bu llifogydd yn y gorffennol. Cyn gynted ag y derbyniwyd rhybuddion tywydd, bu i’r swyddogion ymweld â’r mannau problemus hysbys hyn. Roedd yr awdurdod wedi buddsoddi mewn meddalwedd newydd a oedd yn ei alluogi i gasglu proffil ar gyfer pob ased isadeiledd. Byddai proffil data pob ased a gedwir ar y system hon yn llywio asesiadau risg llifogydd y Cyngor ym mhob ardal. Dros amser, po fwyaf o ddata a gasglwyd, y mwyaf cywir y gallai'r Cyngor nodi mannau problemus mewn modd mwy clir a chyflym.

 

Rhoddwyd sicrwydd i’r aelodau gan y swyddogion y byddai’r camau datblygu, cynllunio ac ymgynghori yn cynnwys asesiadau risg llifogydd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd y Cyngor.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i sefydlu a chefnogi Grwpiau Llifogydd gwirfoddol lleol ac roedd y rhain yn rhwydweithiau gwerthfawr i helpu trigolion i gynllunio ac ymdrin â llifogydd.

 

Ar ddiwedd trafodaeth fanwl, ac yn amodol ar y swyddogion yn trafod materion cysylltiedig â stad Maes y Gog yn y Rhyl gyda’r aelod lleol:

 

Penderfynodd  y Pwyllgor:

 

(i)           gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r gwelliannau neu’r arferion gwaith diwygiedig a nodir yn yr adroddiad, gan geisio eu lliniaru yn erbyn y perygl o lifogydd yn y sir yn y dyfodol; a

(ii)          chyflwyno ffurflen Cynnig Craffu Aelodau i’r aelodau Pwyllgor perthnasol i’w llenwi gyda’r bwriad o wahodd cynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i un o’r cyfarfodydd yn y dyfodol, er mwyn trafod materion yn ymwneud â llifogydd.

 

Dogfennau ategol: