Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS GOGLEDD CYMRU 2023/24

Ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (copi ynghlwm) a rhoi sylwadau ar ei berfformiad, ei flaenoriaethau a’i amcanion ar gyfer y dyfodol.

 

10:10am – 10:45am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor yr adroddiad, yn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd (dosbarthwyd ymlaen llaw) ac eglurodd fod hwn yn adroddiad blynyddol a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor. Dywedwyd mai nod y Bwrdd oedd denu buddsoddiad yn y sector preifat drwy'r prosiectau hyn a sicrhau swyddi o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru.  Nodwyd mai dyma’r trydydd adroddiad yn y cynllun fesul 15 mlynedd. Diolchodd yr Aelod Arweiniol hefyd i'w ragflaenydd, y Cynghorydd Hugh Evans, am ei holl waith yn ystod y tymor blaenorol.

 

Rhannodd y Pennaeth Gweithrediadau a'r Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo gyflwyniad PowerPoint a oedd yn dangos yr holl waith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Uchelgais yn ei drydedd flwyddyn ac ers ei sefydlu. Roedd y cyflwyniad hwn yn pwysleisio mai nod Uchelgais Gogledd Cymru oedd gwireddu rhanbarth hyderus a chydlynol drwy ganolbwyntio ar wella ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru. Roedd prosiectau a hwyluswyd gan y Bwrdd yn canolbwyntio ar nifer o themâu gwahanol, gan gynnwys iaith, diwylliant a threftadaeth.  Roedd pump o feysydd y rhaglen yn cynnwys cyfanswm o 23 prosiect a tharged o £1 biliwn, mewn ymgais i greu dros 4,000 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru. Yn ystod 2023-24, roedd dau brosiect allweddol wedi gwneud cynnydd sylweddol ac roedd pum prosiect newydd arall wedi ymuno â’r Fargen Dwf, ac mae manylion pob un ohonynt i’w cael yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau, a chafwyd rhai ynghylch hen safle Ysbyty Gogledd Cymru.  Awgrymodd yr aelodau nad oedd llawer o waith wedi’i wneud mewn perthynas â hyn. Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau nad oedd hynny’n wir a bod y Gronfa Ffyniant Bro wedi’i sicrhau. Er bod y newid o ran llywodraeth wedi arwain at oedi anorfod mewn perthynas â’r cyhoeddiad ynghylch cyllid, roedd gwaith wedi parhau y tu ôl i’r llen, er enghraifft, bu i’r Bwrdd gymeradwyo’r Cynllun Busnes Amlinellol a gyflwynwyd gan Jones Brothers. Dywedodd y swyddogion, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, y byddai llawer o gartrefi newydd yn ogystal ag eiddo masnachol yn cael eu hadeiladu ar y safle. Roedd Jones Brothers eisoes yn recriwtio a chynnig prentisiaethau a chynlluniau i raddedigion a phobl ifanc, ac roedd y cwmni wedi symud ei adran hyfforddi i’r safle.

 

Gwaith arall a wnaed o ran hen Ysbyty Gogledd Cymru oedd sicrhau bod dogfennau cyfreithiol ar waith megis adran 106 a pharatoadau i drosglwyddo’r tir a’r adeiladai yn gyfreithlon o’r awdurdod lleol i Jones Brothers. Roedd ystlumod hefyd yn bresennol ar y safle, felly bu'n rhaid creu trwyddedau a chyfleusterau perthnasol i ystlumod. Mae'r camau nesaf wedi'u cynnwys er mwyn rheoli’r gwaith o ddymchwel rhannau o’r safle ac ymdrin â’r asbestos sydd yno. Dywedodd y swyddogion eu bod nhw’n ceisio diogelu a gwneud gwelliannau i’r prosiect lle bo modd, yn ogystal â sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei chynnal.

 

Gofynnodd yr aelodau gwestiynau am gyflogaeth o ran y prosiect hwn. Mewn perthynas â chyflogaeth llawn amser, nodwyd bod disgwyl i 70 o swyddi llawn amser fod ar gael ar y safle yn ystod cam datblygu’r prosiect, ond o ran gwaith adeiladu a phrentisiaethau, dywedwyd y byddai o leiaf 300 o swyddi’n cael eu creu, ac roedd posibilrwydd i’r ffigwr hwnnw fod yn fwy fyth.

 

Cododd yr aelodau gwestiynau ynghylch diffyg twristiaeth a chludiant yn y Rhyl, yn arbennig o ran y cysylltiadau trên.  Rhannwyd y wybodaeth ganlynol â’r aelodau:

  • roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi penderfynu na ddylid cynnwys cludiant yn y Fargen Dwf, felly nid oedd y Cynllun yn ymdrin â materion cludiant.
  • Er nad oedd gan y Bwrdd rôl ffurfiol mewn perthynas â'r Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, roedd ei uchelgais Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth yn cefnogi gwella sgiliau twristiaeth ar draws pob maes ac yn hwyluso gwaith hyfforddi ac ailhyfforddi a fyddai’n canolbwyntio ar wella hyn.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod, dderbyn a chymeradwyo’r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ystod Chwarter 4 a blwyddyn ariannol 2023/24, wrth gyflawni trydedd flwyddyn Bargen Dwf Gogledd Cymru.

 

 

Gohiriwyd y Pwyllgor am egwyl am 11:55am a bu iddynt ailymgynnull am 12pm.

 

Gan fod nifer o aelodau wedi gadael y cyfarfod erbyn y pwynt hwn, nid oedd cworwm gan y Pwyllgor ar gyfer llunio argymhellion. O ganlyniad, cytunodd yr aelodau hynny a oedd yn dal yn bresennol i barhau i drafod gweddill yr eitemau gan y Pwyllgor yn anffurfiol. 

 

Dogfennau ategol: