Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADNODDAU YCHWANEGOL SYDD EU HANGEN AR GYFER Y GWASANAETH AILGYLCHU TROLIBOCS WYTHNOSOL NEWYDD A SWYDDOGAETHAU CASGLU GWASTRAFF CYSYLLTIEDIG

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Amgylchedd a'r Economi a Phennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi'n amgaeëdig) i alluogi'r Pwyllgor i graffu ar y cynnig a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 1 Hydref 2024.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Amgylchedd a’r Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad yn sôn am weithredu’r gwasanaeth ailgylchu Trolibocs wythnosol newydd a swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig a’r addasiadau gofynnol er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i sicrhau y gallai'r system newydd weithredu ar sylfaen gadarn wrth symud ymlaen a galluogi’r Pwyllgor i graffu ar y cynnig (ynghlwm wrth yr adroddiad hwn) a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 1 Hydref 2024.

 

Wrth agor y drafodaeth, gofynnodd y Cadeirydd a fu unrhyw wybodaeth ychwanegol ers cyfarfod y Cabinet ar 1 Hydref, er mwyn atal ailadrodd y drafodaeth flaenorol.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion fod y cyllid ychwanegol a gymeradwywyd yn caniatáu rhoi sylw i gasgliadau a fethwyd, yn dilyn cyfarfod y Cabinet ym mis Hydref.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y Pwyllgor fod nifer o rowndiau nad oeddent yn cael eu cwblhau pan gyflwynwyd y gwasanaeth newydd a bod angen adnoddau ychwanegol dros dro o ran goramser, staff asiantaeth ychwanegol a cherbydau.

 

Roedd mwyafrif y preswylwyr yn cael y gwasanaeth casglu ailgylchu wythnosol bellach, ond cydnabuwyd bod problemau o hyd o ran nad oedd rhai eiddo penodol yn cael gwasanaeth casglu cyson.

 

Gwraidd y broblem oedd nad oedd digon o rowndiau wedi’u cynnwys yn y gwasanaeth er mwyn casglu o 46,000 o eiddo ar draws y sir bob wythnos. Roedd diffyg adnoddau yn y gwasanaeth ar y dechrau wedi arwain at fethiant y gwasanaeth. Wrth symud ymlaen, roedd cynlluniau wedi’u gwneud i ddarparu gwasanaeth mwy cynaliadwy yn y tymor hir gyda darpariaeth cerbydau a gyrwyr ychwanegol.

 

Ers penderfyniad y Cabinet, cysylltwyd â Llywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth ychwanegol tuag at wariant cyfalaf. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn fodlon darparu cefnogaeth ychwanegol – er nad oedd yr union ffigur yn hysbys eto. O ganlyniad dylai cost prynu’r cerbydau ychwanegol fod yn llai nag a ragwelwyd o’r blaen, a byddai dau o’r cerbydau yn rhai trydan yn hytrach na disel.

 

Roedd y gwasanaeth wedi dechrau gweithredu’r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet wrth gaffael cerbydau – roedd chwech o’r wyth cerbyd wedi’u harchebu a disgwyliwyd y byddai’r cerbydau trydan yn cael eu harchebu’n fuan. Roedd prosesau recriwtio staff yn mynd rhagddynt hefyd. Byddai’r rowndiau ailgylchu newydd wedi’u haildrefnu yn dechrau ddydd Llun 4 Tachwedd 2024.

 

Roedd Aelodau wedi’u gwahodd i ymweld â’r Orsaf Wastraff yn gynharach yn yr wythnos i adolygu’r rowndiau ailgylchu diwygiedig a gwirio bod ardaloedd a oedd wedi profi problemau yn y gorffennol wedi’u cynnwys. Roeddent yn ffyddiog y byddai’r gwasanaeth yn llwyddiant.

 

Er bod y Pwyllgor yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf am gael cerbydau a staff ychwanegol, roeddent yn teimlo y byddai’n fuddiol cyflwyno adroddiad yn y gwanwyn 2025 i adolygu sut oedd y rowndiau diwygiedig wedi dylanwadu ar y gwasanaeth.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion:

 

·      Rhagwelwyd y byddai’r cerbydau disel yn cyrraedd ym mis Rhagfyr ond byddai’r cerbydau ULEV yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd. Roedd trefniadau dros dro yn cael eu gweithredu i gwmpasu’r cyfnod hwnnw.

·      Byddai proses recriwtio staff ychwanegol yn dechrau’r wythnos ganlynol. Bu llawer o ddiddordeb gan y staff asiantaeth a oedd wedi bod yn gweithio’r rowndiau hyd yma.

·      Dylid cofnodi unrhyw gasgliadau a gaiff eu methu yn y dyfodol trwy system C360.

·      Mae niferoedd rowndiau casglu yn amrywio o ddydd i ddydd. Cyfanswm nifer y rowndiau ar unrhyw ddiwrnod fyddai 28.

·      Roedd nifer y cerbydau llogi wedi’i leihau pan oedd yr ôl-groniad o gasgliadau wedi cael sylw, ond roedd rhai yn dal i gael eu defnyddio nes i’r cerbydau newydd gyrraedd.

·      Roedd y rowndiau’n cael eu hadolygu cyn i’r cerbydau newydd gyrraedd er mwyn gwella effeithlonrwydd y gwasanaeth.

·      Roedd systemau ar waith i ddefnyddio data CCLl i gynnwys datblygiadau adeiladau newydd yn y rowndiau.

·      Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i ffurfioli proses o ran casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol a thanysgrifwyr newydd brys, roedd y gwasanaeth yn gallu bod yn hyblyg dan amgylchiadau o’r fath.

·      Bu llawer o waith gyda’r darparwr technoleg In Cab o ran casgliadau a gynorthwyir cyn i’r rowndiau nesaf gael eu cyflwyno.

·      Cysylltwyd â phob aelwyd sy’n cael y casgliadau a gynorthwyir i gadarnhau bod angen y gwasanaeth o hyd ac roedd trefniadau anffurfiol yn cael eu ffurfioli.

·      Roedd problemau sy’n gysylltiedig â biniau gwyrdd ac iawndal posibl yn cael eu trafod ar lefel Tîm Gweithredol Corfforaethol a byddent yn dilyn y broses ddemocrataidd i’w datrys.

·      Byddai’r gwasanaeth yn hapus i drefnu ymweliad arall â’r ganolfan wastraff yn y flwyddyn newydd er mwyn dangos i Aelodau sut oedd y system gofnodi’n gweithio.

·      Disgwyliwyd y byddai ffocws y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn cael ei dynnu oddi ar y gwasanaeth casglu gwastraff dros yr wythnosau nesaf.

·      Roedd o leiaf un unigolyn a oedd wedi bod yn cynorthwyo’r gwasanaeth dros dro wedi gwneud cais am swydd barhaol.

·      Roedd un cerbyd â chaets yn gweithredu mewn ardaloedd gwledig o hyd ac roedd wedi’i addasu er mwyn cadw’r amryw ffrydiau gwastraff ar wahân i’w gilydd.

·      Byddai cyfathrebu parhaus gyda phreswylwyr am ddidoli a golchi gwastraff ac ati.

·      Roedd llwybrau ar gyfer cerbydau trydan wedi’u cynllunio’n bennaf o amgylch ardaloedd trefol.

·      Er bod cais wedi’i gyflwyno i’r Cabinet am adnoddau hyd at uchafswm o £1.299 miliwn, yn dibynnu ar lefel y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai angen gymaint o reidrwydd.

Gofynnodd y Pwyllgor bod lefel y gefnogaeth a geir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rhannu gydag Aelodau pan fyddai ar gael a bod adolygiad o’r rowndiau newydd yn cael ei gyflwyno i sesiwn friffio Aelodau yn fuan ar ôl iddynt gael eu gweithredu.

 

Cynigiwyd hefyd bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Chwefror / Mawrth ar gyfer adolygu.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    bod sesiwn friffio i’r holl Aelodau yn cael ei chynnal bythefnos ar ôl i’r llwybr newydd gael ei gyflwyno er mwyn adolygu cynnydd;

 

2.    bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau naill ai fis Chwefror neu fis Mawrth 2025 i asesu effaith yr adnoddau ychwanegol ar effeithiolrwydd y Gwasanaeth a

 

3.    bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei fod wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (ynghlwm i’r adroddiad) yn rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: