Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y STRATEGAETH A CHYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2025/26 - 2027/28

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, ac ystyried y cynnigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sydd yn Atodiadau 1 a 3 yr adroddiad;

 

(b)      nodi’r cynigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26 fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, a

 

(c)      nodi’r gwaith parhaus i bennu cyllideb gytbwys yn 2025/26.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis yr adroddiad yn diweddaru’r Cabinet ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a gofynnodd am i gynigion arbedion cynnar gael eu hystyried ar gyfer pennu cyllideb 2025/26.

 

Ni fu llawer o newid i’r dogfennau ers y fersiwn blaenorol ac nid oedd unrhyw newid i’r darlun cyffredinol. Fodd bynnag, gallai’r sefyllfa newid yn dilyn Cyllideb Llywodraeth y DU ar 30 Hydref 2024. O ran yr arbedion arfaethedig, roedd canlyniad cadarnhaol wedi bod i’r ffordd y mae’r Cyngor yn ymateb i ddarparu gwasanaethau digartrefedd fyddai hefyd yn creu arbedion sylweddol.

 

Arweiniodd y Pennaeth Cyllid ac Archwilio’r aelodau drwy’r adroddiad a oedd yn cynnwys –

 

·       y Cynllun Ariannol Tymor Canolig lefel uchel oedd yn cynnwys rhagamcaniadau presennol ar y gyllideb, ynghyd ag ystod o ragdybiaethau i roi amcangyfrif isel, canolig ac uchel pob pwysau ynghyd ag effaith amcangyfrifon o gynnydd i Dreth y Cyngor a chyllid gan Lywodraeth Cymru (Atodiad 2 i’r adroddiad)

·       roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn crynhoi data hyd at ddechrau mis Hydref yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid a maint yr her ariannol (Atodiad 3 i’r adroddiad) ac roedd y prif bwyntiau wedi’u hamlygu yn yr adroddiad eglurhaol a’r newidiadau a wnaed i’r Strategaeth wedi’u hamlygu mewn melyn, a

·       chynnydd ar gynigion arbed mewn gwasanaethau oedd yn cael eu datblygu fel rhan o’r gwaith pennu cyllideb ar gyfer 2025/26 (Atodiad 2 i’r adroddiad).

 

Roedd llawer o’r gwaith yn canolbwyntio ar bennu’r gyllideb ar gyfer 2025/26 a rhagwelwyd y byddai costau darparu gwasanaethau’n codi £18 miliwn. Roedd cynnydd mewn cyflogau staff yn parhau’n bwysau ynghyd â phwysau sylweddol ar wasanaethau yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau oedd yn cael eu harwain gan alw, oedd yn sylweddol, a thu allan i reolaeth y Cyngor i raddau helaeth. Roedd rhagdybiaethau gweithredol wedi’u gwneud am setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar ostyngiadau ychydig yn negyddol a Threth y Cyngor ar tua 9%, oedd yn gadael bwlch a ragwelir yn y gyllideb o £12 miliwn, fyddai’n gofyn am arbedion sylweddol ar hyd a lled yr awdurdod er mwyn mantoli’r gyllideb. Roedd cynigion arbedion cynnar wedi cael eu dwyn ymlaen ac roedd llawer o waith yn dal ar y gweill i fodloni’r arbedion gofynnol. Roedd y rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn rhagweld bwlch o £15 miliwn yn 2026/27 a £14 miliwn yn 2027/28.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Pennaeth Gwasanaeth am y trosolwg manwl ac roedd y dogfennau eisoes wedi cael eu trafod yn fanwl gan y Cabinet. Nodwyd bod Gweithdy ar Gyllideb y Cyngor wedi cael ei gynnal yn ddiweddar i bob aelod.

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       rhoddwyd diweddariad ar y system ariannol newydd a gyflwynwyd yn ddiweddar oedd yn disodli nifer o systemau gwahanol ac roedd yr elfen modiwl rhagolygon ariannol ar waith ers mis Medi. Roedd y system newydd yn newid mawr i ffordd y tîm o weithio a darparu gwybodaeth ariannol; byddai’r system yn parhau i gael ei mireinio ac roedd hyfforddiant a datblygu ar y gweill

·       cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at osod Treth y Cyngor ym mis Chwefror ac y byddai preswylwyr yn disgwyl iawndal oherwydd y tarfu a achoswyd wrth gyflwyno’r system gwastraff newydd. Eglurodd y swyddogion fod Treth y Cyngor yn ariannu’r gwasanaethau cyffredinol a ddarperir gan y Cyngor ac nad oedd yn gysylltiedig â maes gwasanaeth penodol; roedd yn dreth yr oedd gan y Cyngor rwymedigaeth gyfreithiol i’w gosod ac roedd gan y rhai sy’n cael gorchymyn Treth y Cyngor rwymedigaeth i’w dalu. Nid rhwymedigaeth gytundebol ydoedd y gellid rhoi iawndal i unigolion amdano. Cytunodd y swyddogion ailddosbarthu’r briff i aelodau oedd yn egluro’r sefyllfa o ran Treth y Cyngor ac a fyddai’n helpu’r aelodau ateb cwestiynau gan breswylwyr

·       er yr eglurwyd nad oedd cyswllt rhwng y problemau wrth gyflwyno’r gwasanaeth gwastraff newydd â Threth y Cyngor, cyfeiriwyd at y mater ar wahân, sef y gwasanaeth gwastraff gwyrdd, oedd yn wasanaeth yr oedd cwsmeriaid yn tanysgrifio iddo a thalu amdano, a lle'r oedd tarfu wedi bod ar gasgliadau rhai cwsmeriaid.   Roedd y mater hwnnw’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, a byddai mwy o wybodaeth yn cael ei ddosbarthu i aelodau ar sefyllfa’r Cyngor yn dilyn hynny

·       roedd yr amcangyfrifon o ddyfarniadau cyflog ar gyfer 2023/24 wedi bod yn ddigonol ar gyfer y gyllideb ac roeddent wedi creu arbediad i ariannu gorwariant mewn gwasanaethau. Darparwyd y sefyllfa ddiweddaraf ar ddyfarniad cyflog 2024/25 i staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a daethpwyd i gytundeb ar y dyfarniad i athrawon ond roedd trafodaethau'n parhau o ran staff nad ydynt yn addysgu. Os na fyddai’r amcangyfrif dyfarniad cyflog ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu yn ddigonol, byddai’n rhaid defnyddio cronfeydd wrth gefn os na fydd cyllid arall ar gael, fyddai hefyd yn effeithio ar y gyllideb sylfaenol yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig sydd yn Atodiadau 1 a 3 yr adroddiad;

 

(b)      nodi’r cynigion arbedion cynnar ar gyfer pennu cyllideb 2025/26 fel y nodir yn Atodiad 2, a

 

(c)      nodi’r gwaith parhaus i bennu cyllideb gytbwys yn 2025/26.

 

 

Dogfennau ategol: