Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2023-24
To consider and approve the draft SACRE Annual Report 2023 – 24 (copy enclosed).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer CYSAG Sir Ddinbych
2023-24 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’w gymeradwyo. Yr oedd yr adroddiad yn
cydnabod a chofnodi gwaith y CYSAG am y flwyddyn o fis Medi 2023 tan fis
Gorffennaf 2024.
Atgoffwyd yr aelodau bod yr
adroddiad blynyddol yn ddogfen hanesyddol a gofynnwyd i’r aelodau ei chymeradwyo,
yn amodol ar unrhyw bwyntiau yn ymwneud â chywirdeb. I wneud yr adroddiad yn fwy defnyddiol i
ysgolion, cynhwyswyd nifer o ddolenni i adnoddau a chefnogaeth, ac yr oedd yna
adran fawr ar AG / CGM a’r Maes Llafur Cytunedig.
Arweiniodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol yr aelodau drwy’r adroddiad, gan ymhelaethu ar feysydd penodol
mewn manylder, a darparodd drosolwg o’r cynnwys a oedd yn ymdrin â’r canlynol –
· yr oedd rôl CYSAG wedi ei chynnwys yn y rhagymadrodd, a
fyddai’n cael ei ddiwygio i gyfeirio at y CYSAG i adlewyrchu’r ddau gorff yn
rhedeg yn gyfochrog a’i ddiweddaru i gynnwys cyfeiriad at CGM
· penderfynwyd ar benawdau’r cynnwys beth amser yn ôl gan
Lywodraeth Cymru (LlC) ac yr oedd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog
Addysg Grefyddol Cymru wedi cynnal adolygiad o adroddiadau blynyddol a gwneud
rhai argymhellion i LlC – ni wyddys y canlyniad eto
· yr oedd cyngor a roddwyd i’r awdurdod lleol yn cynnwys
cyfeiriad at y Maes Llafur Cytunedig newydd ar gyfer CGM (Cwricwlwm i Gymru,
2022) a’r Maes Llafur Cytunedig blaenorol ar gyfer AG (Cwricwlwm 2008) sy’n
berthnasol i ysgolion uwchradd
· nid oedd adroddiadau arholiadau’n cael eu rhyddhau
mwyach, ac nid oedd aelodau’n gallu trafod data cymharol; darparwyd dolenni i
amryw adroddiadau Estyn
· Dysgu ac Addysgu – darparwyd cyfoeth o ddeunydd cyfeiriol
a dolenni o ystod o adnoddau ac ymhelaethwyd ymhellach arnynt yn y cyfarfod; yr
oedd Marc Ansawdd AG wedi ei amlygu.
Parthed y rhestrau chwarae ar Hwb, byddai Rhestr Chwarae Llywodraethwyr
yn cael ei rhyddhau’n fuan, a rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol
adroddiad am ei waith ei hun gyda Phrifysgol Bangor drwy GwE yn hyfforddi
myfyrwyr TAR / PCSE a gweithio’n agos gyda Chanolfan Genedlaethol Addysg
Grefyddol Cymru
· Addoli ar y Cyd – amlygwyd yr anhawster wrth fonitro
darpariaeth drwy adroddiadau Estyn yn dilyn canllawiau arolygu diweddaredig,
heb unrhyw ddisgwyliad i adrodd pa un a oedd ysgol yn bodloni’r ddyletswydd
statudol ai peidio, ac absenoldeb cyffredinol sylwadau YMCD; darparwyd
hyfforddiant a dolenni i ganllawiau. Ni
fu unrhyw benderfyniadau i’r CYSAG am ysgolion a oedd eisiau newid CGM / addoli
ar y cyd
· yr oedd materion eraill yn cynnwys cyfeiriad at y
newyddlen a rhwydwaith CGM, fframwaith arolygu newydd Estyn, ac adnoddau i
ategu’r fframwaith ar gyfer AG a gwaith CCYSAGC a deunydd cynhadledd
· yr oedd yr atodiadau’n cynnwys cyfansoddiad CYSAG
(‘Collette’ i gael ei newid i ‘Colette’), dyddiadau cyfarfodydd a sefydliadau
sy’n derbyn yr adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol am yr adroddiad, a chadarnhaodd yr aelodau y dylid cadarnhau’r
adroddiad fel cofnod cywir o waith y CYSAG, yn amodol ar unrhyw fân newidiadau
a drafodwyd yn y cyfarfod. Gan gydnabod
bod polisi presennol y Cyngor yn caniatáu i adroddiadau drafft fod yn Saesneg
yn unig tan iddynt gael eu cymeradwyo, gofynnodd y Cynghorydd Emrys Wynne a
ellid gwneud y drafft i fod ar gael yn ddwyieithog yn y dyfodol, gan gofio bod
cyfarfod y CYSAG yn gyfarfod cyhoeddus, a dim ond mân newidiadau fyddai eu
hangen ar yr adroddiad drafft.
Cadarnhaodd Prif Reolwr Addysg y gellid cyfieithu’r adroddiad blynyddol
ar ffurf drafft wrth symud ymlaen.
Ymatebodd yr Ymgynghorydd
Addysg Grefyddol i gwestiwn yn ymwneud ag argaeledd athrawon AG arbenigol.
Dywedodd y dyrannwyd nifer penodol o athrawon CGM uwchradd i’w recriwtio i
amryw sefydliadau hyfforddi athrawon ledled Cymru, a bod y cwota hwnnw wedi ei
lenwi ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg a’r ddarpariaeth Saesneg. Fodd bynnag, yr oedd yna broblem ehangach o gofio
bod y ffordd yr oedd ysgolion yn ailstrwythuro eu darpariaeth Cyfnod Allweddol
4 yn golygu nad oedd angen cymaint o athrawon AG. Parthed datblygiad proffesiynol ar gyfer
darpariaeth gynradd, yr oedd gostyngiad parhaus wedi bod yn nifer yr oriau a
ddyrannwyd ar gyfer CGM dros y blynyddoedd diwethaf.
PENDERFYNWYD –
(a) bod Adroddiad Blynyddol CYSAG Sir Ddinbych
ar gyfer 2023-2024 yn cael ei gymeradwyo fel cofnod cywir o waith CYSAG, ac
(b) y dylid gofyn i’r Awdurdod Addysg Lleol
drefnu bod yr adroddiad yn cael ei gyfieithu a’i ddosbarthu i holl ysgolion a
cholegau Sir Ddinbych ac i dderbynyddion eraill fel sy’n ofynnol yn ôl y
gyfraith ac fel y’u dynodir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol:
- ITEM 8 - DRAFT SACRE ANNUAL REPORT, Eitem 8. PDF 78 KB
- Item 8 Denbighshire SACRE Annual Report 2023-24, Eitem 8. PDF 2 MB