Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM AROLYGON ESTYN

Cyhoeddwyd canllawiau arolygon Estyn ar gyfer ysgolion a gaiff eu harolygu rhwng mis Medi 2024 a 2030 yn ystod yr haf.  Gellir dod o hyd i ddogfennau’n egluro beth mae Estyn yn ei arolygu a sut ar Wefan Estyn

 

Sut rydym yn arolygu

 

Cymraeg Sut-rydym-yn-arolygu-Ysgolion-a-gynhelir-ac-UCDau_0.pdf (gov.wales)

Saesneg - How We Inspect - 2024 maintained schools and PRUs (gov.wales)

 

Beth rydym yn ei arolygu

 

Cymraeg - Beth rydym yn ei arolygu - Ysgolion a gynhelir ac UCDau (gov.wales)

Saesneg - What We Inspect - 2024 Maintained Schools and PRUs (gov.wales)

 

 

Cofnodion:

Eglurodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod canllawiau arolygon Estyn o fis Medi 2024 i 2030 wedi eu cyhoeddi yn ystod yr haf, a rhoddodd wybod i’r aelodau am y newidiadau i’r fframwaith arolygu.

 

Gellid cael mynediad at y dogfennau sy’n egluro’r hyn y mae Estyn yn ei arolygu, a sut, ar wefan Estyn. Darparwyd y dolenni canlynol –

 

Cymraeg – Sut-rydym-yn-arolygu-Ysgolion-a-gynhelir-ac-UCDau_0.pdf (gov.wales)

Saesneg – How We Inspect – 2024 maintained schools and PRUs (gov.wales)

 

Cymraeg – Beth rydym yn ei arolygu – Ysgolion a gynhelir ac UCDau (gov.wales)

Saesneg – What We Inspect – 2024 Maintained Schools and PRUs (gov.wales)

 

Llywodraethid arolygon gan Ddeddf Addysg 2005, ac yr oedd Adran 28 yn nodi nifer o feysydd y mae’n rhaid i arolygwyr adrodd amdanynt, a oedd yn cynnwys datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion (YMCD).  Yr oedd gan rai ysgolion gymeriad crefyddol ac yn addysgu AG enwadol, ac yn yr ysgolion hynny yr oedd AG enwadol a chynnwys yr addoli ar y cyd yn cael eu harolygu ar wahân dan Adran 50 Deddf Addysg 2005, ac nid oeddynt yn cael eu cynnwys yn arolygiadau Adran 28.  Yr oedd yr Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd yn datblygu ei fframwaith, nad oedd eto wedi ei roi ar waith mewn ysgolion.  Dywedodd Colette Owen fod y fframwaith Catholig wedi bod yn weithredol ers tua deuddeng mis a’i fod yn cael ei addasu wrth i bethau newid ac er mwyn cyd-fynd yn well ag arolygiadau Estyn, gan gofio bod y fframwaith yn berthnasol i Gymru ac i Loegr.  Yr oedd yna bellach raglen dreigl o arolygiadau Adran 50 yn debyg i Estyn, lle cynt, os oedd ysgol yn cael arolygiad gan Estyn, byddai’n awtomatig yn creu arolygiad Adran 50.

 

Trafodwyd y prif newidiadau i fframwaith arolygu Estyn fel a ganlyn –

 

·       ni fyddai unrhyw batrwm o ran pryd y byddai ysgolion yn cael eu harolygu, o gymharu â’r cylch chwe blynedd blaenorol.  Yn dilyn prif arolygiad cyflwynwyd arolygiad interim i adrodd ar y cynnydd a wnaed wrth roi’r argymhellion o’r prif arolygiad ar waith.  Yr oedd y cyfnod o dair wythnos o rybudd cyn arolygiadau hefyd wedi ei gwtogi i bythefnos

·       yn hanesyddol yr oedd arolygiadau’n cynnwys arsylwi’r ysgol / gwersi ac yr oedd yna newid mewn ffocws i fwy o ymgysylltu â disgyblion a dull a oedd yn canolbwyntio ar y disgyblion

·       yr oedd yr adroddiadau ar hyn o bryd yn anodd eu dehongli o safbwynt YMCD, AG ac addoli ar y cyd, gydag adroddiadau blaenorol yn canolbwyntio’n bennaf ar faes arolygu lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad.  Fodd bynnag, mwya’n y byd o adroddiadau a gyhoeddid, yr hawsaf a fyddai i gael yr wybodaeth angenrheidiol.  Fel sydd mewn canllawiau arolygu blaenorol, ni fyddai sylwadau am yr ysgolion hynny sy’n bodloni gofynion AG neu CGM yn cael eu cynnwys, a byddai cyfeiriad yn cael ei wneud dim ond pan na fyddai’r gofynion statudol hynny’n cael eu bodloni / ar gyfer meysydd i’w datblygu neu pan fo meysydd penodol o arferion da

·       byddai’r tri maes arolygu’n canolbwyntio ar (1) addysgu a dysgu; (2) lles, gofal, cefnogaeth ac arweiniad, ac (3) arwain a gwella, a byddai’r adroddiadau yn naratif o brofiad yr arolygwyr yn yr ysgol. Anogwyd yr aelodau i edrych ar wefan Estyn a’r adroddiadau arolygu newydd wrth iddynt ymddangos, gan eu bod yn wahanol iawn i adroddiadau blaenorol

·       yr oedd timau arolygu’n cynnwys arolygwyr arweiniol ynghyd ag ymarferydd sy’n cymryd rhan fel arolygydd cymheiriaid. Gallent fod yn benaethiaid neu’n uwch arweinwyr ysgol sydd wedi derbyn yr hyfforddiant priodol.

 

Nododd y Cadeirydd na wneid unrhyw sylwadau yn yr adroddiad os yw’r meysydd arolygu fel y disgwylir iddynt fod, a dim ond meysydd i’w datblygu neu arferion da fyddai’n cael eu rhannu.  Croesawodd y defnydd o arolygwyr cymheiriaid ac yr oedd yn falch bod arweinwyr ysgol fel Leah Crimes yn ymwneud â’r broses. Rhoddodd Ms Crimes adroddiad o’i phrofiad ei hun mewn perthynas â hynny, a chanmolodd yr hyfforddiant a’r cyfle datblygu proffesiynol.  Fel cyn-bennaeth, cyfeiriodd y Cynghorydd Delyth Jones hefyd at ei phrofiad yn y gorffennol o arolygiadau Estyn a’r buddion o ran hyfforddiant a chael dealltwriaeth o’r broses a’r cyfle i ymweld ag ysgolion eraill i rannu arferion gorau a meincnodi a mesur eich ysgol eich hun.

 

Yr oedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi’r dull sy’n canolbwyntio ar y disgybl a symudiad Estyn i fod yn fwy dymunol a chymryd rhan ym mhroses wella’r ysgol, yn hytrach na bod yn wiriwr allanol o welliant ysgol yn unig.  Teimlai Leah Crimes fod y dull hwnnw wedi ei gadarnhau mewn arolygiad diweddar yn ei hysgol, ac yr oedd yn ymwybodol o gydweithwyr eraill yn Sir Ddinbych a Chonwy a oedd wedi cael profiadau tebyg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am egluro’r newidiadau i’r fframwaith arolygu yn dilyn cyhoeddi canllawiau arolygu Estyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad ar lafar gan yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ar y newidiadau i’r fframwaith arolygu.

 

 

Dogfennau ategol: