Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COLEG LLANDRILLO A DYSGWYR SIR DDINBYCH

I ystyried cyflwyniad gan gynrychiolydd Coleg Llandrillo Cymru sy’n nodi perfformiad myfyrwyr 16-19 oed Sir Ddinbych sydd wedi eu cofrestru yng Ngholeg Llandrillo Cymru.

                                                                                                         9.35 a.m.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad PowerPoint gan Jackie Doodson, Pennaeth Coleg Llandrillo a Celia Jones, Cyfarwyddwr Coleg Llandrillo – y Rhyl, yn manylu ar berfformiad myfyrwyr 16-19 Sir Ddinbych a oedd wedi eu cofrestru yng Ngholeg Llandrillo Cymru.

 

Amlygodd y cyflwyniad y pwyntiau perthnasol a’r meysydd canlynol:-

 

·                     Strwythur Grŵp – Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Llandrillo.

·                     Strwythur Llandrillo – amlygwyd Campws y Rhyl a Chweched y Rhyl.

·                     Ffeithiau a Ffigurau Coleg Llandrillo – Amlygwyd amcangyfrifon.

·                     Myfyrwyr Sir Ddinbych (llawn-amser (FT): 16-19) - Yn Rhos, Campws Dinbych, Chweched y Rhyl, Campws y Rhyl a Champws Abergele. Cynnydd yn y niferoedd yn y Rhyl a gostyngiad yn Rhos.

·                     Dewis Pynciau – ar gampysau heb fod yn Sir Ddinbych.

·                     Darpariaeth 14-16 (Sir Ddinbych) – Llwybrau Galwedigaethol 14-16 a 14-16 FT (EPIC) ar gyfer 2011/12 a 2012/13.

·                     Llwyddiant Myfyrwyr – Cyfanswm mewn perthynas â Choleg Dinbych, Coleg Abergele, Chweched y Rhyl, Coleg y Rhyl a Llandrillo.

·                     Y Rhyl mewn Cyd-destun – lefelau cyrhaeddiad ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl, Bendigaid Edward Jones, Abergele, Cyfartaledd Pwysedig Ysgolion y Rhyl a Chweched y Rhyl.

·                     Partneriaeth Chweched y Rhyl a Phrestatyn – Cyrsiau a gynigir ar y cyd ôl-16 a dewis ehangach.

·                     Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd – Myfyrwyr Sir Ddinbych FT 2011/2012.

·                     Gwelliannau parhaus – manylion gwella

 

Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, roedd Coleg y Rhyl, myfyrwyr a staff, wedi derbyn nifer o wobrau a llwyddiannau nodedig, gan gynnwys:-

 

Ø    Prentis Modurol Ifanc y Flwyddyn yn y DU (2009).

Ø    Terfynwr DU Sefydliad Diwydiant Modurol Canolfan Peirianneg Fodurol y Flwyddyn (2009)

Ø    Academi Genedlaethol Sgiliau Manwerthu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (2010)

Ø    Colegau Cymru Athro AB y Flwyddyn (2012)

Ø    Partneriaeth unigryw Ysgolion/Colegau Cymru gyfan – Uwchradd Prestatyn a Chweched y Rhyl – yr unig bartneriaeth lle mae myfyrwyr coleg yn astudio mewn lleoliad ysgol

Ø    Terfynwyr – Menter Ieuenctid (Subo Soux) ac enillwyr y categorïau stondin fasnach orau a gwasanaeth cwsmeriaid gorau (2012)

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i gwestiynau a materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:-

 

-               Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Ms C. Burgess, esboniodd Cyfarwyddwr Coleg Llandrillo y Rhyl (CLDR) bod amserlen mwy strwythuredig wedi ei chyflwyno a bysus ychwanegol wedi eu darparu i ddelio â phroblemau cludiant a brofwyd gan fyfyrwyr. Esboniodd y Cydgysylltydd Rhwydwaith Addysg 14-19 (ENC) bod dolen wedi ei dodi ar Facebook y gellid ei defnyddio gan fyfyrwyr i gyflwyno manylion problemau, megis materion cludiant, a oedd yn bodoli.

 

-               Mewn ateb i gwestiwn gan y Cynghorydd A. Roberts ar gysylltiadau ag Ysgol Glan Clwyd, esboniodd y CLDR eu bod yn gweithio’n agos â Phartneriaeth Dyffryn Clwyd, a oedd yn cynnwys Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Dinbych a Choleg Dinbych. Amlygodd waith a oedd yn cael ei wneud gan Goleg y Rhyl mewn perthynas â’r cwricwlwm 14-16 a oedd yn caniatáu  ymestyn y cwricwlwm, yn enwedig trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

-               Ymatebodd y CLDR fel a ganlyn i gwestiynau gan y Cynghorydd D. Owens:-

 

Ø     Darparwyd manylion materion ariannu yn ymwneud â phryderon mewn perthynas â chyllid grant 14-19, cyllid Ewropeaidd a gwaith partneriaeth mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â dirywiad mewn cymwysterau galwedigaethol. Amlinellodd Pennaeth Coleg Llandrillo (PCL) y gwaith a oedd yn cael ei wneud gan yr ENC i oresgyn a chwalu, trwy gyfathrebu da a gwaith partneriaeth, unrhyw rwystrau a oedd yn codi.            

Ø    Esboniwyd bod diffyg cynrychiolaeth o Sir Ddinbych ar y Bwrdd wedi ei gydnabod ond y byddai’n anodd delio â hynny nes byddai swydd wag yn codi.  Darparwyd amlinelliad o’r broses o benodi aelodau a chadarnhawyd bod llythyr wedi ei anfon at Sir Ddinbych ar y mater hwn.

Ø    Rhoddwyd manylion ffigurau sgiliau llythrennedd a rhifedd, mewn perthynas â Sir Ddinbych, gan y PCL.             

 

-               Ymatebodd y PCL i gwestiynau gan y Cynghorydd G. Sandilands yn amlinellu’r dolennau cyswllt gydag Ysgol Uwchradd Prestatyn. Rhoddodd fanylion y broses a fabwysiadwyd ar gyfer cynnal perfformiad effeithiol mewn perthynas â’r ysgol a chadarnhaodd bod gwelliannau arwyddocaol wedi eu cyflawni yn y maes hwn. Cadarnhaodd y CLDR bod partneriaeth waith gadarn yn bodoli gyda’r ysgol.

 

-               Cyfeiriodd y Cynghorydd G. Lloyd-Williams at uno Colegau yn y Grŵp yn ddiweddar ac amlinellodd y CLDR y manteision a gafwyd. Fodd bynnag, esboniodd y byddai’n anodd rhagweld neu ddarogan a fyddai unrhyw uno pellach yn digwydd.

 

-               Esboniodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor dderbyn manylion yn ymwneud â chofrestru myfyrwyr o flwyddyn i flwyddyn a ffigurau cymwysterau a gafwyd. Gofynnodd hefyd bod manylion cost addysgu myfyriwr yn cael ei ddarparu er gwybodaeth. Esboniodd y CLDR bod fframwaith o gostau yn ymwneud ag unedau dysgu a oedd yn amrywio, yn dibynnu ar y pwnc unigol.

 

-               Ymatebodd y CLDR i gwestiwn gan y Cynghorydd R.J. Davies a chadarnhau os oedd y gofyn am gwrs penodol ar un campws yn cynyddu ac yn gostwng ar gampws arall, bod staff yn hyblyg yn eu harferion gwaith er mwyn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth. Cadarnhaodd hefyd bod bodolaeth safle’r Rhyl wedi cael effaith fanteisiol ar yr economi lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd E W Williams at fframwaith posibl strwythur y coleg yn y dyfodol, a theimlai y gallai wella lefel y dewis a nifer yr opsiynau a oedd ar gael i fyfyrwyr yn Sir Ddinbych. Teimlai y byddai’n bwysig cyfleu i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth Ganolog bwysigrwydd cynnig cyfle i fyfyrwyr i gael cyrsiau galwedigaethol a thraddodiadol, y gellid ei wneud trwy waith partneriaeth. Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg bwysigrwydd cael cwricwlwm eang i’w gynnig i fyfyrwyr. Roedd gwaith partneriaeth gyda’r colegau a chydgysylltiad yr holl randdeiliaid yn hanfodol i sicrhau bod myfyrwyr Sir Ddinbych yn rhagori yn y meysydd roeddynt yn dewis eu hastudio.

 

Diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor i Bennaeth Coleg Llandrillo a Chyfarwyddwr Coleg Llandrillo, y Rhyl, am eu cyflwyniad manwl, llawn gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn derbyn y cyflwyniad ac yn cydnabod y cynnwys.