Eitem ar yr agenda
CANLYNIADAU ARHOLIADAU CA4
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 10 Ionawr 2013 9.30 am (Item 6.)
- Gweld y cefndir i eitem 6.
I ystyried adroddiad gan y Swyddog Effeithiolrwydd
Perfformiad Ysgolion: Uwchradd (copi’n atodol) a oedd yn gwirio perfformiad
canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4
ac Ôl-16, ac yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau yn erbyn gwybodaeth a feincnodwyd a pherfformiad yn erbyn
awdurdodau lleol eraill.
10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd a oedd yn
dilysu perfformiad arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod
Allweddol 4 ac ôl-16, ac yn darparu dadansoddiad o ganlyniadau o gymharu â
gwybodaeth a pherfformiad a feincnodwyd yn erbyn awdudordau lleol eraill, wedi
ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Swyddog Perfformiad Effeithiolrwydd Ysgolion: Uwchradd
(SEPO:S) yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar berfformiad asesiadau
athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych. Roedd yr holl
ddanogsyddion allweddol yn CA4 ar gyfer cymwysterau allanol wedi gwella yn
ystod y flwyddyn i fod yn y deg a oedd yn perfformio orau yng Nghymru. Bu
gwelliant arwyddocaol ym mhob dangosydd ers 2010, yn enwedig Trothwy Lefel 2 a
Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Cynhwyswyd crynodeb o
Safleoedd Asesiadau ac Arholiadau yn yr adroddiad.
Esboniwyd
mai’r dangosydd perfformiad allweddol ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 oedd
Trothwy Lefel 2 gan gynnwys Saesneg, Cymraeg a Mathemateg. Roedd manylion
canran disgyblion yn cyflawni Lefel 2, a pherfformiad ysgolion unigol, wedi eu
cynnwys yn yr adroddiad. Roedd Trothwy Lefel 2 yn nodi nifer y disgyblion a
oedd yn cael 5 TGAU A*-C neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, ac
roedd hyn yn disodli’r dangosydd 5A*-C a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd
blaenorol. Canran disgyblion yn cael Trothwy lefel 2 oedd 83%, a oedd 10% yn
uwch na’r flwyddyn flaenorol. Dyma’r bedwaredd flwyddyn yr oedd dangosydd Lefel
2 wedi cynyddu yn ysgolion uwchradd Sir Ddinbych ac roedd yn dodi Sir Ddinbych
yn gyntaf yng Nghymru yn 2012, ac roedd hyn wedi bod yn welliant mawr wrth
symud o 18fed yn 2010. Pwysleisiodd y Pennaeth Addysg bwysigrwydd canolbwyntio
ar welliannau a gafwyd mewn perthynas â Throthwy Lefel 2, a chyfeiriwyd yn
benodol ar broffil cyrhaeddiad disgyblion, y llwyddiant a gafwyd mewn ysgolion
arbennig a'r gwelliannau a welwyd yn ysgolion y Rhyl. Pwysleisiodd ei bod yn
bwysig peidio â mynd yn hunanfodlon, er mwyn sicrhau cynnal lefelau gwella.
Cadarnhaodd y SEPO:S bod yr holl
ysgolion wedi gwella eleni gyda’r Bendigaid Edward Jones ac Ysgol Uwchradd y
Rhyl yn gweld y cynnydd uchaf, sef 22% a 25% yn eu tro ar gyfer Trothwy
Lefel 2. At hyn roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn (91.%), Ysgol Dinas Bran (98.%),
Ysgol Glan Clwyd (91%) ac Ysgol Santes Ffraid (96%) oll wedi cyflawni dros 90%
ar gyfer Trothwy Lefel 2. Gadawodd deg disgybl (0.8%) yr ysgol heb gymhwyster
cydnabyddedig yn 2012 ac roedd hyn wedi gosod Sir Ddinbych y 18fed yng Nghymru.
Nodwyd manylion llwyddiannau canlyniad arholiadau disgyblion o Ysgol Plas
Brondryffyn ac Ysgol Tir Morfa yn yr adroddiad.
Roedd Llywodraeth Cymru yn
defnyddio Bandiau fel ffordd o ddefnyddio data cenedlaethol ar berfformiad
ysgolion mewn cyd-destun i grwpio ysgolion yn ôl lle ‘roeddynt ar eu taith tuag
at wella o gymharu ag ysgolion eraill yng Nghymru. Roedd ysgolion Band 1 yn
dangos perfformiad a chynnydd cyffredinol da, a rhai ym Mand 5 yn dangos
perfformiad a chynnydd gwael o gymharu ag ysgolion eraill. Roedd proffil
bandiau ysgolion Sir Ddinbych yn 2012 wedi gwella ac roedd pob ysgol ym Mand 2
ac eithrio Ysgol Dinas Bran, a oedd yn aros ym Mand 1 ac Ysgol Uwchradd
Dinbych, a oedd wedi gwella o Fand 4 i Fand 3.
Y dangosydd perfformiad ar gyfer
ôl-16 oedd Trothwy lefel 3, a oedd yn cyfateb â 2 Lefel A neu gymwysterau
galwedigaethol cyfatebol, ac roedd canlyniadau ôl-16 wedi aros fwy neu lai yn
sefydlog.
Roedd canran ymgeiswyr yn cael
Trothwy Lefel 3 wedi gwella 3% i 99% yn 2012 ac roedd hyn yn uwch na
chyfartaledd Cymru, sef 97%. Roedd sgôr pwyntiau cyfartalog ehangach wedi
gwella i 694 yn 2012, ond roedd hyn islaw cyfartaledd Cymru, sef 773. Roedd
canran graddau A ac A* wedi syrthio i 19.4% yn 2012 o 22.5% yn 2011 a chyfartaledd Cymru oedd
23.6%.
Roedd nifer ymgeiswyr a gafodd Ddiploma Uwch
Cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi syrthio. Fodd bynnag, roedd y cymhwyster wedi
ei gymryd gan nifer arwyddocaol uwch o ddisgyblion yn 2012. Cyfeiriodd y SEPO:S at y rhwydwaith o
ysgolion a chadarnhaodd nad oeddynt wedi creu effaith negyddol a bod problemau
cychwynnol, megis problemau cludiant, wedi eu trin.
Hysbyswyd yr Aelodau bod Gwella Perfformiad mewn addysg
ac ansawdd adeiladau ein hysgolion yn un o Flaenoriaethau Corfforaethol newydd
y Cyngor ar gyfer 2012-17. Amlinellwyd
manylion risgiau posibl, a’r camau a gymerwyd i’w lleihau, yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd y Cynghorydd A Roberts at
ddarganfyddiadau archwiliad Estyn yn ddiweddar yn ysgol Clocaenog a oedd yn
cadarnhau’r casgliadau mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed mewn blynyddoedd
diweddar gyda chyflwyniad addysg yn y sir. Amlinellodd y Pennaeth Addysg y
ffactorau a oedd yn cyfrannu tuag at gael gwelliannau arwyddocaol, gan
gyfeirio’n benodol at ysgolion yn y Rhyl. Pwysleisiodd fanteision gwaith
partneriaeth ag ysgolion a’r strategaethau cadarn a fabwysiadwyd i gael
gwelliannau a chynnydd parhaus. Cyfeiriodd y Pennaeth Archwilio Mewnol at yr
adroddiad archwilio mewnol mewn perthynas ag Ysgol Uwchradd y Rhyl a phwysleisiodd
y gwelliannau a gafwyd o ran perfformiad a rheoli’r ysgol. Esboniodd y
Cynghorydd E.W. Williams bod y llwyddiant i raddau arwyddocaol wedi ei
ddylanwadu gan y £1.2m a fuddsoddwyd mewn Addysg ddwy flynedd ynghynt i wella’r
gwasanaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts at
y risgiau posibl yn deillio o’r heriau, o ran arwain, rheoli a Phenaethiaid a’r
angen i sicrhau cynnydd cadarnhaol. Pwysleisiodd hefyd yr angen i broffilio
Llywodraethwyr Ysgol pan gânt eu penodi ac ystyried achrediad ar gyfer
arweinyddiaeth mewn perthynas â Phenaethiaid. Cydnabu’r Pennaeth Addysg yr
heriau mewn perthynas â chadw'r sefyllfa bresennol mewn cysylltiad â Dangosydd
Lefel 2. Cyfeiriodd at effeithiau newid carfanau, yn enwedig ar ysgolion llai,
a chanlyniad perfformiad a phroffil disgyblion ar broffil cyrhaeddiad
cyffredinol ysgol. Cyfeiriwyd at yr angen i gyfarfod heriau cenedlaethol,
materion yn ymwneud ag Arolwg Moderneiddio Addysg a’r argyfwng mewn perthynas â
recriwtio a chadw Penaethiaid. Cadarnhawyd bod cyrsiau datblygu arwain a rheoli
yn cael eu darparu a bod etheg gwaith partneriaeth cryf iawn wedi ei fabwysiadu
gyda Phenaethiaid a Chyrff Llywodraethol. Pwysleisiodd y Cynghorydd E.W.
Williams yr angen i roddi cyhoeddusrwydd i a hyrwyddo swyddi Penaethiaid yn Sir
Ddinbych a chyfeiriodd at benodi Rheolwyr Busnes a Chyllid mewn ysgolion i
gynorthwyo gyda dyletswyddau ariannol a gweinyddol. Teimlai y dylai bodolaeth
Rheolwyr Busnes a Chyllid ar gyfer ysgolion gael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol
i werthu swyddi penaethiaid i ddarpar ymgeiswyr.
Ymatebodd y Pennaeth Addysg i gwestiwn gan y
Cynghorydd G Sandilands a chadarnhaodd bod Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda
Llywodraeth Cymru a bod yna, ar draws Cymru, waith yn mynd rhagddo yn lobïo
Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darpariaeth ariannol, yn enwedig mewn
perthynas â’r categori 14 – 19. Rhoddodd y SEPO:S
amlinelliad o ffrydiau ariannu 14-19 a chyfeiriodd at y gwelliannau a gafwyd
mewn meysydd lle’r oedd cyllid wedi ei fuddsoddi.
Mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Dinbych,
pwysleisiodd y Cynghorwyr C Hughes ac R J Davies a’r swyddogion y llwyddiant
a'r lefel o welliant a gyflawnwyd yn yr ysgol yn ystod y deuddeg mis diwethaf.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, pwysleisiodd y Cynghorydd D Owens
bwysigrwydd y llwyddiant a gafwyd mewn perthynas â darpariaeth Addysg o fewn yr
Awdurdod o ran codi proffil y Sir a chynorthwyo gyda’i hadfywiad.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn cydnabod perfformiad ysgolion o gymharu
gyda pherfformiad yn y gorffennol a meincnodau allanol.
Dogfennau ategol: