Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF: 43/2024/1086: TIR AR FFERM MIDNANT, GRONANT ROAD, PRESTATYN
Ystyried cais i
amrywio amod rhif 2 o ganiatâd cynllunio rhif 43/2023/0071 i amrywio’r rhestr o
gynlluniau cymeradwy i gynnwys newidiadau i fathau o dai a’u gosodiad (copi
ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cais i amrywio amod rhif 2 o Ganiatâd Cynllunio rhif 43/2023/0071 i amrywio’r
rhestr o gynlluniau cymeradwy i gynnwys newidiadau i fathau o dai a’u gosodiad.
Siaradwr Cyhoeddus - Stuart Andrew: Cyfarwyddwr Dylunio a Chynllunio:
Castle Green (ymgeisydd) (o blaid) - Dyrannwyd y safle dan
sylw ar gyfer tai gan Gyngor Sir Ddinbych yn ei Gynllun Datblygu Lleol yn 2013.
Roedd y dyraniad ar gyfer 65 annedd, fodd bynnag, dim ond 45 o gartrefi a oedd
wedi’u cynnwys yn y cynllun ac fe ystyriwyd hyn yn nifer addas ar gyfer safle
o’r maint hwn. Byddai 10% o’r anheddau a oedd eisoes wedi cael eu cymeradwyo
i’w hadeiladu yn dai fforddiadwy yn unol
â pholisi mabwysiedig y Cyngor.
Cymeradwywyd caniatâd
cynllunio ar gyfer y safle gan y Pwyllgor yn hwyr y llynedd, ac roedd y cais
hwn i wneud mân newidiadau i ran o’r safle i ganiatáu ar gyfer cynllun draenio
dŵr wyneb a fyddai’n cydymffurfio’n well â Safonau Systemau Draenio Cynaliadwy.
Ar adeg y cais blaenorol, nid oedd yr ymgeisydd yn gallu cael mynediad at y
safle’n llawn i gael gwybodaeth ymchwiliad tir a oedd ei hangen i gwblhau’r
strategaeth draenio dŵr wyneb ar gyfer y safle. Llwyddwyd i gwblhau’r
gwaith arolwg ychwanegol yn dilyn cymeradwyo’r caniatâd cynllunio gwreiddiol,
ac fe brofodd yr ymchwiliad a gynhaliwyd y byddai’n well storio dŵr wyneb
mewn lleoliad arall o fewn ffiniau’r datblygiad. Arweiniodd hyn at yr ail gais
am ddiwygiad sylweddol i’r caniatâd cynllunio gwreiddiol, prif nod y cais oedd
i adleoli’r man agored cyhoeddus a’r celloedd storio dŵr wyneb a fyddai
wedi’u claddu oddi tano, i gyd-fynd yn well â fersiwn derfynol y dyluniad
draenio dŵr wyneb.
Roedd y mathau o dai,
nifer y tai fforddiadwy a mannau agored cyhoeddus, a’r cyfraniadau ariannol
dros £155,000 a gynigiwyd fel rhan o’r cynllun gwreiddiol wedi aros yr un fath.
Roedd yr ymgeisydd wedi
cael gwybod gan y Swyddog Cynllunio, fod pryderon wedi cael eu codi ynghylch
cyflwr presennol y safle yn ystod ymweliad y Pwyllgor yno yr wythnos ddiwethaf.
Pwysleisiwyd nad oedd yr ymgeisydd yn berchen ar y safle ar hyn o bryd, roedd
yr ymgeisydd yn aros i gael cytundeb ar y system ddraenio cyn cymryd
perchnogaeth. Nid oedd yr ymgeisydd yn rhan o’r gwaith i glirio rhan o’r safle
a gynhaliwyd dros yr wythnosau diwethaf, er roedd yn ymwybodol fod hyn wedi
cael ei wneud gan y tenant fferm blaenorol, gyda chaniatâd y landlord
presennol.
Rhannodd yr ymgeisydd y
pryderon ynglŷn â chyflwr y safle, a phe bai caniatâd yn cael ei roi,
trefnwyd gyda’r tirfeddiannwr y byddai trwydded yn dod yn weithredol ar unwaith
gyda nhw er mwyn caniatáu mynediad i’r safle, i’w ddiogelu a’i glirio ymlaen
llaw cyn i’r ymgeisydd gymryd perchnogaeth o’r tir ar ddiwedd y mis. Byddai
gwaith i ddatblygu’r safle yn cychwyn cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Roedd y diwygiad
sylweddol i’r caniatâd cynllunio gwreiddiol wedi bod yn destun ymgynghoriad
cynllunio llawn, ac roedd yr holl ymgynghoreion statudol a Swyddogion y Cyngor
a oedd yn gysylltiedig â hyn wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw
wrthwynebiad i gymeradwyo’r cynllun.
Felly, argymhellwyd gan y Swyddogion Cynllunio bod y diwygiad hwn i’r
caniatâd cynllunio gwreiddiol yn cael ei gymeradwyo.
Trafodaeth Gyffredinol –
Eglurodd y
Prif Swyddog Cynllunio nad oedd yr ymgeisydd, oherwydd problemau perchnogaeth
tir a mynediad, wedi gallu ymgymryd â’r arolygon cywir i sicrhau bod y system
ddraenio’n gweithio. Ar ôl cael mynediad, roedd yr arolygon bellach wedi cael
eu cwblhau ac roedd y cais yn ymwneud â’r newidiadau yn y cynllun yn y cynnig.
Roedd y newidiadau allweddol yn y cynllun ar y ffin orllewinol ac i bwynt
gogleddol y safle. Roedd y newidiadau i’r cynllun wedi cael eu cynnig i
ganiatáu ar gyfer gwneud system ddraenio’r safle yn fwy effeithlon.
Dywedodd y
Cadeirydd wrth y Pwyllgor fod archwiliad safle wedi cael ei gynnal ar 2 Hydref
2024 ac roedd hyn yn fuddiol, fodd bynnag, codwyd pryderon ynglŷn â
chyflwr presennol y safle. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio mai bwriad yr
ymgeisydd oedd cael mynediad at y safle cyn gynted â phosibl a gwneud y safle’n
ddiogel. Roedd amod ychwanegol wedi cael ei argymell gan swyddogion, sef bod yr
ymgeisydd, o fewn 4 wythnos o gael mynediad at y safle, yn cyflwyno manylion
ynghylch sut yr oedd y safle yn cael ei wneud yn ddiogel.
Roedd yr
Aelod Lleol, y Cynghorydd Andrea Tomlin, yn ddiolchgar am yr eglurhad o ran pam
yr oedd y cais wedi cael ei ail gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio. Byddai rhai
eiddo yn agos at y safle, oherwydd y newid i’r cynllun, yn cael eu heffeithio’n
andwyol ac roedd yn fodlon fod popeth wedi cael ei wneud i liniaru hyn ar gyfer
preswylwyr. Codwyd cwestiynau ynglŷn ag amod ychwanegol yn cael ei
ychwanegu at y cynnig. Cynigodd y Cynghorydd Tomlin y dylid datgan yr anheddau
ar y safle fel anheddau at ddefnydd preswyl yn unig (defnydd C3) o ystyried y
galw uchel am eiddo preswyl ym Mhrestatyn. Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio y
gellid gosod cyfyngiad o ddefnydd C3 ar y safle a byddai hyn yn atal eiddo rhag
cael eu prynu a’u defnyddio fel llety gwyliau.
Byddai’n rhaid i aelodau fod yn sicr bod yna dystiolaeth o’r angen am
eiddo preswyl yn yr ardal. Ni fyddai ychwanegu amod C3 yn unig yn atal prynwr
eiddo ar y safle rhag cyflwyno cais i gael gwared ar yr amod yn y dyfodol.
Dywedodd y Cadeirydd fod angen am dai preswyl yn yr ardal oherwydd bod y safle
wedi cael ei dderbyn ar gyfer anheddau y tu allan i ardal y Cynllun Datblygu
Lleol (CDLl).
Eiliodd y
Cynghorydd Merfyn Parry y cynnig i ychwanegu amod C3 i’r cais.
Cwestiynodd
y Cynghorydd Merfyn Parry y defnydd o dalcendoeau yn agos at y ffin orllewinol.
Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio, Sarah Stubbs, y byddai’r anheddau agosaf at
y ffin ar Ffordd Onnen yn cynnwys talcendoeau.
Gofynnodd y
Cynghorydd Jon Harland i gael dileu’r amod ychwanegol a gynigwyd ac eiliwyd a
bod y cais yn cael ei gymeradwyo fel y cafodd ei gyflwyno, oherwydd bod
deddfwriaeth eisoes yn ei lle gan Lywodraeth Cymru i atal perchnogaeth eiddo
llety gwyliau. Eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio nad oedd y ddeddfwriaeth yn
weithredol yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, roedd rhai Cynghorau wedi gosod
cyfarwyddyd erthygl 4 a oedd yn atal newid dosbarth C ac roedd Sir Ddinbych yn
edrych ar gynlluniau peilot a oedd yn cael eu cynnal mewn ardaloedd eraill.
Tynnodd y Cynghorydd Jon Harland ei gynnig yn ôl.
Roedd y
Cynghorydd Alan James yn bresennol yn yr ymweliad safle ac roedd yn hapus bod
hyn wedi cael ei godi.
Cynnig – Cynigodd y
Cynghorydd Alan James y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog,
ac EILIWYD hynny gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.
Pleidlais –
O blaid – 16
Yn erbyn – 0
Ymatal – 0
PENDERFYNWYD –
·
bod amod ychwanegol o anheddau yn cael eu
defnyddio at ddefnydd C3 yn unig yn cael ei ychwanegu at y cais a
·
bod y cais yn cael ei GYMERADWYO yn unol ag
argymhellion y swyddog.
Dogfennau ategol: