Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU MATERION TRWYDDEDU

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) yn manylu’r adolygiad o bolisïau a gweithdrefnau trwyddedu tacsis a cherbydau hur preifat a a hysbysu ynglŷn â mecanwaith adrodd i’r Pwyllgor Trwyddedu.

                                                                                                           11.45 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod a oedd yn manylu’r adolygiad cynhwysfawr o bolisïau a threfniadau trwyddedu tacsis a cherbydau hur preifat a hysbysodd y pwyllgor o’r fecanwaith adrodd i’r Pwyllgor Trwyddedu.

 

Cyflwynwyd a chrynhowyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Uwch Swyddog Trwyddedu. Hysbysodd y Pennaeth yr Aelodau bod polisïau a gweithdrefnau i sicrhau rheolaeth briodol dros dacsis a cherbydau hur preifat yn cael eu diwygio i ddarparu system drwyddedu gadarnach ar gyfer tacsis a cherbydau hur preifat. Roedd dyletswyddau’r Tîm Gweinyddu Trwyddedau, a oedd yn gweithio ar y cyd â nifer o asiantaethau a thimau, a manylion y system drwyddedu wedi eu crynhoi yn yr adroddiad. Mae'r Pwyllgor Trwyddedu yn ystyried a cynnig polisïau ac yn cymryd penderfyniad fel corff lled-farnwrol, gyda nifer o benderfyniadau yn cael eu dirprwyo i swyddogion neu Bennaeth Gwasanaeth.

 

Dywedwyd bod trwyddedu tacsis yn faes arbennig o gymhleth gyda chydgysylltu a chyfathrebu rhwng meysydd gwasanaeth y Cyngor ac asiantaethau partner yn hanfodol i weithrediad diogel y system ac i amddiffyn a diogelu’r cyhoedd. Byddai’r Awdurdod yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn gweithredwyr a gyrwyr nad oedd yn cydymffurfio ac yn methu â bodloni’r safonau gofynnol. Er mwyn sicrhau bod y broses mor gadarn ag y bo modd, roedd adolygiad llawn o’r broses o drwyddedu tacsis wedi cychwyn yn ystod 2012. Cynhwyswyd manylion yr agwedd rheoli prosiect a chynnig y prosiect yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Roedd Swyddogion Gweinyddu Trwyddedu, Swyddogion Gorfodi, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Fflyd, Cludiant Ysgol a Heddlu Gogledd Cymru, fel grŵp, wedi adnabod meysydd lle gellid cael gwell cyfathrebu ac wedi cyflawni’r canlyniad dymunol o esbonio rolau a chyfrifoldebau o fewn y broses o drwyddedu tacsis. Hwyluswyd hyn gan Archwilio Mewnol a chynhyrchwyd prosesau newydd a’u dosbarthu i’r Grŵp i’w cytuno. Byddai’r broses ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Pwyllgor Trwyddedu, ac roedd wedi ei chynnwys fel Atodiad 2a. Roedd gwaith pellach i’w wneud i adolygu’r cynllun dirprwyo a meysydd yn y Cyfansoddiad.

 

Byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trwyddedu yn 2013, ac roedd y rhaglen waith ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu wedi ei chynnwys fel Atodiad 3. Cytunodd yr Aelodau bod adolygiad o effeithiolrwydd y polisïau a’r gweithdrefnau diwygiedig yn cael ei wneud yn diweddarach yn 2013, a bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ym mis Medi 2013.

 

Ymatebodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu i gwestiynau gan y Cynghorydd D Owens a rhoddodd fanylion yn ymwneud â rhoi ac adnewyddu trwyddedau gyrwyr tacsis  a phwysigrwydd ymgymryd ag archwiliadau CRB. Esboniodd bod trwyddedau yn cael eu hadnewyddu bob blwyddyn a bod archwiliad CRB yn diwydd bob 3 blynedd. Pwysleisiodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu bwysigrwydd gweithio gydag asiantaethau eraill a chyfeiriodd yn benodol at gyflwyno prosesau newydd a fyddai’n gofyn i ymgeiswyr ddatgan unrhyw gollfarnau cyfredol neu rai wedi’i disbyddu. Byddai’r prosesau hyn yn lleihau unrhyw risgiau ac yn cynorthwyo gyda gwella system a oedd eisoes yn gadarn.

 

Rhoddwyd yr ymatebion canlynol gan y swyddogion i gwestiynau a gyflwynwyd a materion a godwyd gan yr Aelodau:-

 

- rhoddwyd manylion ar wahaniaethu rhwng cerbyd hacni a cherbydau hur preifat gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

- bod llai o reolaeth ddeddfwriaethol dros berchnogion cwmnïau tacsi na gyrwyr tacsi.

- cadarnhawyd bod yr Awdurdod Trwyddedu yn derbyn hysbysiad ar unwaith os yw tacsi wedi methu ei brawf MOT i sicrhau nad ydynt yn cael eu defnyddio fel tacsis.

- mewn ymateb i faterion a godwyd gan y Cynghorydd G Lloyd-Williams, rhoddodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fanylion y broses o wneud archwiliad CRB ar yrwyr tacsis, yr amserlen dan sylw a newidiadau sydd i ddod i’r system. Hysbysodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y Pwyllgor y byddai cyflogwyr yn cael eu hysbysu o unrhyw newid yn statws person a oedd wedi cael archwiliad CRB.

- bod y cyfyngiad ar nifer y platiau tacsi a gyflwynwyd wedi dod i ben ac roedd hyn wedi terfynu gwerthu platiau tacsi heb awdurdod rhwng gweithredwyr tacsi.

- Esboniodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, tra nad oedd profion gyrwyr tacsi yn ofyniad statudol, gellid cyfeirio gwrthodiad gan yrrwr i ymgymryd â’r prawf at y Pwyllgor Trwyddedu i’w ystyried.

- amlinellwyd y broses ar gyfer dirymu ac atal trwyddedau gyrwyr tacsi gan yr Uwch Swyddog Trwyddedu, ynghyd â’r drefn ar gyfer tynnu platiau oddi ar dacsis.

- mewn achosion lle cafwyd bod gan ymgeiswyr am drwyddedu droseddau a chollfarnau blaenorol, byddai pob achos yn cael ei ystyried ar ei haeddiant a byddai’r amserlen a chategori’r gollfarn yn cael eu cymryd i ystyriaeth.

 

Ar ôl trafodaeth bellach, fe:-

 

BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad:-

 

(a)   yn derbyn a chydnabod cynnwys yr adroddiad;

(b)   yn cefnogi’r agwedd a gymerwyd hyd yma dan yr adolygiad o brosesau trwyddedu, a

(c)   yn cytuno derbyn adroddiad diweddaru yn yr Hydref 2013 er mwyn adolygu effeithiolrwydd y prosesau newydd unwaith y byddant yn gweithredu’n llawn.

 

 

Dogfennau ategol: