Eitem ar yr agenda
ADNODDAU YCHWANEGOL SYDD EU HANGEN AR GYFER Y GWASANAETH AILGYLCHU TROLIBOCS WYTHNOSOL NEWYDD A SWYDDOGAETHAU CASGLU GWASTRAFF CYSYLLTIEDIG
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi
ynghlwm), sy’n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol, er mwyn
sicrhau y gall y gwasanaeth ailgylchu trolibocs wythnosol newydd a
swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig weithredu fel y rhagwelwyd.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –
(a) cymeradwyo £1.299m ychwanegol mewn
gwariant cyfalaf er mwyn caffael cerbydau ailgylchu ychwanegol, wedi’i ariannu
drwy fenthyca darbodus;
(b) cymeradwyo £1.067m ychwanegol o gostau
refeniw er mwyn sicrhau y gall y newid gwasanaeth ddarparu fel y cynlluniwyd ar
sylfaen gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys
y costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus ar gyfer y cerbydau y cyfeirir
atynt yn 3.1 yr adroddiad;
(c) cytuno bod y penderfyniad yn cael ei
weithredu ar unwaith heb gael ei alw i mewn, yn unol ag adran 7.25 yng Nghyfansoddiad
y Cyngor, a
(d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad
oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer adnoddau ychwanegol, er mwyn
sicrhau y gallai’r gwasanaeth ailgylchu trolibocs wythnosol newydd a
swyddogaethau casglu gwastraff cysylltiedig weithredu fel y rhagwelwyd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mellor at weithrediad y
gwasanaeth gwastraff/ailgylchu newydd ar 3 Mehefin 2024 nad oedd wedi gweithio
fel y disgwyl, ac roedd o a’r Arweinydd wedi ymddiheuro'n gyhoeddus i
breswylwyr, ac wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau er mwyn sicrhau bod
y system newydd yn gweithredu’n effeithiol.
Byddai adolygiad craffu dan arweiniad aelodau am gyflwyno’r system
newydd yn cael ei gynnal er mwyn deall beth aeth o’i le, a pha wersi y gellid
eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Fodd
bynnag, roedd adroddiad heddiw yn ymwneud yn benodol â mynd i’r afael â’r
problemau oedd wedi dod i’r amlwg ac i sicrhau bod y system newydd yn gweithio.
Ers cyflwyno’r gwasanaeth newydd, nid oedd nifer
o’r rowndiau ailgylchu newydd wedi llwyddo i gwblhau eu casgliadau dyddiol gan
arwain at niferoedd annerbyniol o gasgliadau’n cael eu methu/gwastraff ddim yn
cael eu casglu, ac roedd adnoddau dros dro ychwanegol wedi cael eu dyrannu’n
sydyn i fynd i’r afael â’r broblem.
Roedd yna gost ar gyfer yr adnoddau ychwanegol dros dro, ond fe fydd
cyfanswm y gost ychwanegol ar gyfer 2024/25 yn cael ei osod yn erbyn taliad
untro yn sgil ail ariannu Partneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd
Cymru, gan olygu nad oes yna bwysau cyllidebol yn y flwyddyn ariannol bresennol
ar gyfer y gwasanaeth. Serch hynny, mae
angen datrysiad parhaol i alluogi’r gwasanaeth i fod yn llwyddiannus a
chynaliadwy yn yr hirdymor fel y nodwyd yn yr adroddiad. Yn gryno, nid oedd yna ddigon o rowndiau
ailgylchu wedi’u cynllunio wrth ddylunio’r gwasanaeth, ac roedd angen adnoddau
ychwanegol i ddarparu datrysiad parhaol a gwasanaeth cynaliadwy.
Fe argymhellodd y Cynghorydd Mellor y cynnig fel y
nodwyd yn yr adroddiad i ddyrannu adnoddau ychwanegol i alluogi’r gwasanaeth i
weithredu fel y rhagwelwyd. Byddai
methiant i wneud hynny yn arwain naill ai at barhau i glustnodi adnoddau
ychwanegol dros dro nad oedd yn effeithlon ac yn fwy drud na’r datrysiad
parhaol arfaethedig, neu gael gwared ar yr adnoddau ychwanegol dros dro a
fyddai eto’n arwain at niferoedd uchel o gasgliadau’n cael eu methu - nid oedd
modd cefnogi yr un dewis na’r llall.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr
Amgylchedd a’r Economi fwy o fanylion i’r adroddiad. Roedd y model ar gyfer y gwasanaeth
ailgylchu newydd wedi cael ei seilio ar nifer o ragdybiaethau a gafodd eu
profi’n anghywir. Y prif broblem oedd bod rhai o’r rowndiau ailgylchu dyddiol
wedi cael eu dylunio gyda gormod o gartrefi ac nid oeddynt yn cael eu
cwblhau. Byddai angen rowndiau ailgylchu
ychwanegol i ddarparu’r gwasanaeth newydd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Roedd y model gwreiddiol wedi cael ei seilio
ar 20 rownd ailgylchu fesul diwrnod ac roedd y nifer o rowndiau ychwanegol oedd
eu hangen yn amrywio o 6 i 8 rownd, yn dibynnu ar ddiwrnod yr wythnos. Roedd hyn yn golygu bod angen prynu 8 cerbyd
ychwanegol ar gost cyfalaf o tua £1.3m (wedi’i ariannu trwy fenthyca darbodus)
a gyrwyr a llwythwyr ychwanegol i weithredu’r cerbydau. Y costau refeniw oedd yn gysylltiedig â’r
rowndiau ychwanegol oedd £1.067m, oedd
yn cynnwys costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus y cerbydau ychwanegol. Byddai cais ffurfiol yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ychwanegol i gynorthwyo â’r gost o brynu’r
cerbydau. Bydd angen ystyried y
gyllideb ychwanegol sydd ei hangen (£1.067m) o fis Ebrill 2025 yn rhan o broses
gosod y gyllideb ar gyfer 2025/26.
Yn olaf, cafodd y Cabinet wybod petai nhw’n
cymeradwyo’r cynnig, gallai gwaith ddechrau ar gynllunio i weithredu’r rowndiau
ailgylchu diwygiedig, a’r gobaith yw y byddent ar waith o fewn wythnosau. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn hyderus
y byddai’r rowndiau newydd yn darparu datrysiad parhaol ac yn galluogi’r
gwasanaeth i fod yn fwy cynaliadwy.
Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Arweiniol a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol am roi eglurhad am y sefyllfa. Fe ystyriodd y Cabinet yr adroddiad yn ofalus
ac fe wnaethant edrych eto ar werth y gwasanaeth newydd o ran y manteision
amgylcheddol, yr effaith gadarnhaol ar greu swyddi yn y gwasanaeth ac o
adeiladu depo gwastraff newydd yn cynnwys cadw ac ehangu gweithrediadau busnes
lleol a swyddi lleol, ynghyd â’r heriau ariannol sy’n gwaethygu o dan y system
flaenorol. Wrth ystyried y cynnig a’r ffordd ymlaen, yn y lle cyntaf, gofynnodd y
Cabinet am dystiolaeth i ddarparu sicrwydd bod yr adnoddau ychwanegol sydd eu
hangen fel yr amlinellir yn yr adroddiad yn ddigonol i roi sylfaen gynaliadwy
i’r system newydd. Pwysleisiodd y Cabinet nad oedd arnynt eisiau
dychwelyd i’r broblem o ran adnoddau eto. Gofynnodd y Cabinet am sicrwydd
pellach a gofynnodd gwestiynau am agweddau gwahanol o’r adroddiad, yn enwedig o
ran yr Asesiad o’r Effaith ar Les ac effaith ar staff a phreswylwyr (gan
gynnwys cefnogaeth bwrpasol) goblygiadau ariannol, manteision amgylcheddol ac
amserlenni a disgwyliadau oedd yn gysylltiedig â’r model diwygiedig.
Fe ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr
Amgylchedd a’r Economi i’r cwestiynau a godwyd gan y Cabinet fel a ganlyn -
·
rhoddodd sicrwydd am y
gwaith caled oedd wedi cael ei wneud i edrych eto ar y model, gan ystyried y
profiad o weithredu’r system yn ymarferol gyda thystiolaeth go iawn, yn hytrach
na rhagdybiaethau damcaniaethol oedd wedi cael eu defnyddio yn y cyfnod
cynllunio, ac roedd yna hyder y byddai’r cynnig yn gweithio ac y byddai’n cael
ei reoli’n llwyddiannus tra hefyd yn derbyn fod yna risg gydag unrhyw newid
·
fe fu yna nifer o
newidiadau rheoli o fewn y gwasanaeth gwastraff ers dechrau’r prosiect yn 2018
ac roedd y gwaith diweddaraf o ail ddylunio'r rowndiau wedi cael eu gwneud gan
y gwasanaeth gyda chyfraniad gan WRAP Cymru (Rhaglen Gweithredu ar Wastraff ac
Adnoddau), ac yn fwy diweddar roeddynt hefyd wedi bod yn rhoi cefnogaeth rheoli
gweithredol, ac fe gawsant gyfranogiad gan awdurdodau lleol eraill gyda
rheolwyr gweithredol yn edrych ar fanylder y rowndiau, er roedd profiad a’r
gwersi oedd wedi’u dysgu ers ei gyflwyno wedi bod yn hollbwysig wrth ffurfio’r
rowndiau a ail ddyluniwyd
·
roedd yna ystod o
ddewisiadau a datrysiadau unigryw i breswylwyr allai ganfod y ffordd newydd o
gyflwyno gwastraff yn her, ac unwaith y byddai’r gwasanaeth yn gweithredu fel y
rhagwelwyd, fe fyddai gan y gwasanaeth fwy o gapasiti i ddelio â’r materion
pwysig yma a sicrhau datrysiad gwahanol i weddu amgylchiadau unigol - byddai
preswylwyr angen cofnodi’r materion yma drwy Wasanaethau i Gwsmeriaid.
·
byddai’r newidiadau
arfaethedig yn y cefndir, ac i breswylwyr yr unig newid fyddai i’r rheini sy'n
derbyn gwasanaeth anghyson a fyddai’n dechrau cael gwasanaeth cyson, a byddai
eu hailgylchu yn cael ei gasglu ar y diwrnod casglu - ni fyddai yna newidiadau
i’r diwrnod casglu ailgylchu ar gyfer unrhyw breswylydd
·
cafodd y model newydd ei
gyflwyno er mwyn cyrraedd targed ailgylchu statudol o 70% gan Lywodraeth Cymru,
a thra ei bod rhy gynnar i gadarnhau a fyddai hwnnw’n cael ei gyrraedd, roedd y
dangosyddion cychwynnol yn addawol.
Mae’n ymddangos bod data dros bedwar mis cyntaf y system newydd am faint
a gwerth yr ailgylchu a gasglwyd yn gyson gyda’r amcanestyniadau, ac roedd yn
rhoi hyder yn y model newydd gan alluogi’r Cyngor i gyrraedd y targed o 70%. Serch hynny,
dylid nodi bod y Cyngor yn dal i weithredu’r hen fodel casglu yn ystod Chwarter
1 y flwyddyn ariannol bresennol, felly ni fyddai’r effaith llawn o ran
cyfraddau ailgylchu blynyddol yn cael eu gweld tan 2025/26. Fe all Cynghorau gael dirwy am beidio â
chyrraedd y targed ailgylchu statudol.
·
cyn newid drosodd i’r
system newydd roedd yna bwysau cyllidebol yn y gwasanaeth gwastraff; yn 2023/24
roedd gan y gwasanaeth gwastraff gyllideb o £7.2m a gwir gost y gwasanaeth oedd
£8m gan olygu £800,000 o orwariant
·
Roedd y Cyngor wedi cael incwm
ar gyfer yr ailgylchu cymysg pan gyflwynwyd y system honno gyntaf, ond erbyn
2018/19 y gost i’r Cyngor i dalu am drin ailgylchu cymysg oedd £315,000, ac
roedd hyn wedi cynyddu i £1.1m erbyn 2023/24 a byddai wedi parhau i gynyddu;
roedd y risg honno wedi cael ei dileu drwy gyflwyno’r system newydd ac roedd y
Cyngor bellach yn cael incwm am yr ailgylchu wedi’u didoli - a dros amser, gyda
mwy o addysg, y gobaith yw cynyddu nifer ac ansawdd y deunydd ailgylchu sy’n
cael ei ddidoli i wella’r elfen gyllidebol.
·
yn nhri mis cyntaf y system
newydd gwerthodd y Cyngor 1,107 tunnell o ddeunydd ailgylchu am £250,000 ac er
nad oedd yn swm sefydlog o ystyried amrywiadau yn y farchnad, yr
amcanestyniadau oedd tua £1m y flwyddyn ac felly roedd y swm yn gyson â’r
amcanestyniadau hynny.
·
petai’r Cabinet yn
cymeradwyo’r cynnig, gallai cais ffurfiol gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru
am gyfraniad cyfalaf i helpu â chost y cerbydau ychwanegol
·
roedd cofrestriadau ar
gyfer gwasanaeth cynnyrch hylendid amsugnol (AHP) wedi agor yn ddiweddar ar
roedd ceisiadau’n cael eu derbyn ar hyn o bryd ac yn cael eu hasesu, ac o ran
casgliadau â chymorth, roedd llythyrau wedi cael eu hanfon at aelwydydd sydd
wedi derbyn y gwasanaeth ers mwy na 3 blynedd i ofyn a oeddynt dal angen y
gwasanaeth o ystyried yr adnodd ychwanegol i’w weithredu, unwaith y byddai’r
data wedi cael ei gasglu ar y ddwy elfen yna, fe fyddai’n cael ei rannu gydag
aelodau
·
mae pob gwasanaeth
gwastraff wedi methu casgliadau, cyn cyflwyno’r gwasanaeth newydd ar
gyfartaledd roedd gan Sir Ddinbych 120 o gasgliadau’n cael eu methu bob wythnos
ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ionawr at ddechrau mis Mehefin - roedd y ffigurau yna’n gymharol hawdd i’w
rheoli a delio â nhw gan y gwasanaeth, a’r nod oedd cyrraedd sefyllfa debyg pan
fo nifer y casgliadau oedd yn cael eu methu yn gallu cael eu rheoli a’u trin
gan y gwasanaeth fel busnes arferol.
·
roedd rhai agweddau o’r
swydd megis codi a symud yn gorfforol, gofynion a goblygiadau corfforol yn
achosi rhwystr i rai gweithwyr, a chyfeiriwyd at gyfleoedd datblygu staff oedd
yn cynnwys cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu sgiliau gweithwyr presennol,
ac fe nodwyd fod yna gyfleoedd hefyd yn y gwasanaeth ehangach ac ar draws y
Cyngor cyfan.
Ar y pwynt hwn, agorodd yr Arweinydd y drafodaeth i
aelodau nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynwyd, roedd yna
drafodaethau a chyfeiriadau at elfennau ehangach oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth
gwastraff yn ehangach a nifer o benderfyniadau a wnaed gan y Cabinet blaenorol
ers dechrau’r prosiect yn 2018 [a
phrosesau amrywiol a chamau gweithredu cysylltiedig a gymerwyd cyn gweithredu’r
gwasanaeth newydd.] Serch hynny,
nid oeddynt yn faterion ar gyfer cyfarfod heddiw (oedd yn canolbwyntio ar yr
adnoddau ychwanegol oedd eu hangen er mwyn sicrhau gwasanaeth ailgylchu
cynaliadwy wrth symud ymlaen) a byddent yn cael eu hystyried yn rhan o
adolygiad craffu dan arweiniad aelodau i gyflwyno’r gwasanaeth newydd. Cafodd
aelodau hefyd eu hannog i ddefnyddio’r broses graffu i graffu ymhellach ar
elfennau penodol oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth nad oedd yn cael ei gynnwys yng
nghylch gwaith yr adolygiad craffu dan arweiniad yr aelodau i’r broses o
gyflwyno’r gwasanaeth.
Fe ailadroddodd nifer o aelodau nad ydynt yn rhan
o’r Cabinet eu rhwystredigaeth a phryderon parhaol am weithrediad y gwasanaeth
newydd a’r effaith ar breswylwyr a staff.
Mynegwyd pryderon am ddiffyg manylder, metrig, sail dystiolaeth ac
amserlen ar gyfer y cynnig, a thynnwyd sylw at yr angen am gynllun busnes
wedi’i gostio’n llawn gydag amserlenni cyn ymrwymo arian ychwanegol, ac roedd
yna bryderon pellach am ddibyniaeth ar ragdybiaethau O ystyried y pryderon hynny am ddiwydrwydd
dyladwy, nid oedd gan rai aelodau hyder y byddai’r cynnig yn mynd i’r afael â’r
problemau yn y gwasanaeth.
Atebodd yr Arweinydd, Aelod Arweiniol a’r
swyddogion y cwestiynau a phryderon fel a ganlyn –
·
taliad blynyddol y Cyngor i
Barc Adfer (yn rhan o Bartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru)
oedd £2.1m
·
ni fyddai’r targed statudol
o 70% wedi cael ei gyrraedd o dan y system ‘bin glas’ blaenorol, gyda’r
tebygolrwydd o ddirwyon sylweddol am fethu targedau a chost gynyddol am gael
gwared ar ailgylchu cymysg gan arwain at bwysau anferth ar y gyllideb
·
anghytuno nad oedd yna
gynllun manwl i weithredu’r gwasanaeth newydd ar sail gynaliadwy wrth symud
ymlaen, ac roedd cynnig ar sylfaen dystiolaeth wedi cael ei gyflwyno
·
nid oedd modd rhoi dyddiad
penodol o ran pryd fyddai’r gwasanaeth newydd yn gweithredu fel ‘busnes
arferol’, ond petai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion, fe allai’r rowndiau
newydd gael eu cyflwyno o fewn wythnosau, ac unwaith y byddai’r rowndiau newydd
wedi cael eu cyflwyno, roedd yna hyder y byddai’r gwasanaeth yn symud i
sefyllfa gynaliadwy o fewn wythnosau
·
cytunwyd fod cysondeb a bod
yn gyfarwydd â’r rowndiau ailgylchu yn allweddol a byddai’r cynnig yn helpu i symud
i sefyllfa o beidio â bod yn ddibynnol ar staff asiantaeth
·
fe nodwyd yr awgrym am
ad-daliad cynhwysfawr i gwsmeriaid gwastraff gwyrdd a masnachol fel arwydd o
ewyllys da, ond roedd yn fater a fyddai’n cael ei ystyried yn y dyfodol
·
roedd yr Arweinydd wedi
cydnabod y pwysau ar bob Aelod yn gyson yn sgil cyflwyno’r system, a diolchodd
iddynt i gyd am ddelio ag o
·
petai’r gyllideb ychwanegol
yn cael ei chymeradwyo, roedd hi’n bwysig bod y gwaith i weithredu’r llwybrau
casglu gwastraff diwygiedig yn dechrau ar unwaith i roi’r gwasanaeth ar sylfaen
gynaliadwy a lleihau lefelau presennol o wariant; felly gofynnwyd i’r Cabinet
gadarnhau bod y penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith
·
roedd y cynnig wedi cael ei
ystyried yng Ngweithdy’r Cyngor, yn y Cabinet arbennig yma, a byddai hefyd yn
cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau ar 24 Hydref; gallai pwyllgorau
craffu wneud argymhellion ffurfiol i’r Cabinet a oedd yn gorfod ystyried yr
argymhellion hynny
·
nid oedd y £500,000
gwreiddiol a dybiwyd o ostyngiad ym mhwysau’r gyllideb yn mynd i gael ei
wireddu o ystyried yr angen i gynyddu nifer y rowndiau ailgylchu
·
roedd pob gwasanaeth newydd
wedi’i seilio ar ragdybiaethau gan nad oeddynt yn bodoli nes bod y gwasanaeth
yn cael ei gyflwyno, ac felly roeddynt yn ddamcaniaethol tan y pwynt y cafodd y
gwasanaeth ei weithredu - ar ôl pedwar mis o brofiad a thystiolaeth o’i
gyflwyno, roedd hi’n amlwg bod y nifer o rowndiau ar gyfer y gwasanaeth wedi
cael eu tan gyfrifo byddai’r cynnig yn unioni’r sefyllfa drwy gynyddu nifer o
rowndiau
·
fe ailadroddwyd arwyddion
cynnar y byddai’r targed ailgylchu statudol o 70% yn cael ei gyrraedd o dan y
system newydd, ond roedd angen rhagor o dystiolaeth; roedd hi’n amlwg na
fyddai’r targed o 70% wedi cael ei gyrraedd o dan y system flaenorol
·
roeddynt wedi cysylltu â
Llywodraeth Cymru am gefnogaeth ariannol ychwanegol sawl gwaith wrth i’r
prosiect fynd rhagddo ac roeddynt wedi ymateb yn gadarnhaol gyda chyfraniad o
tua £12m; byddai cais pellach yn cael ei wneud petai’r cynnig yn cael ei
gymeradwyo, ond nid oedd modd gwybod a fyddent yn cymeradwyo’r cyllid
·
roedd yna drafodaeth am yr
effeithiau ar staff/morâl staff yn y gwasanaeth a’r Cyngor yn ehangach, a
rhoddwyd sicrwydd o ran y ddarpariaeth gefnogaeth
·
cydnabuwyd fod cyflwyno’r
gwasanaeth wedi bod yn amser heriol i bawb, yn enwedig i breswylwyr, ac roedd
aelodau a swyddogion wedi gweithio’n galed i unioni’r diffygion
·
roedd yr adolygiad craffu
dan arweiniad aelodau i mewn i gyflwyno’r gwasanaeth yn cael ei groesawu, fel
yr oedd cynnwys y cyhoedd yn rhan o’r broses honno
·
cydnabuwyd yr effeithiau
dilynol ar wasanaethau eraill, fel y manylir yn Atodiad 2 yr adroddiad, o
ystyried bod adnoddau wedi cael eu dargyfeirio i fynd i’r afael â’r problemau
yn y gwasanaeth ailgylchu, a byddai’r cynnig yn galluogi i adnoddau rheoli
ganolbwyntio ar elfennau eraill y gwasanaeth gwastraff
·
fe ailadroddwyd ei fod yn
faes gwasanaeth cymhleth gyda nifer o risgiau ariannol. Byddai costau ac incwm yn amrywio o flwyddyn
i flwyddyn yn ddibynnol ar rymoedd y farchnad ac elfennau amrywiol eraill. Felly, roedd angen monitro’r gyllideb yn
barhaus
·
y bwriad yn y flwyddyn
newydd yw cynnal Gweithdy’r Cyngor er mwyn egluro gwaith y depo ailgylchu er
mwyn rhoi dealltwriaeth iawn o’r broses honno
·
gan ymateb i awgrym fod
aelodau yn cael gweld y llwybrau arfaethedig ymlaen llaw o ystyried eu
gwybodaeth o’r ardal leol, cadarnhaodd swyddogion y byddent yn ystyried
rhannu’r wybodaeth honno gan nodi bod rhai rowndiau yn croesi sawl ardal ward
·
Roedd WRAP wedi bod yn rhan
o’r broses ac ni fu yna ffraeo yn y gwasanaeth mewn cysylltiad â’r cynnig, ac
roedd pawb yn fodlon â’r rowndiau newydd arfaethedig
·
roedd y llwybrau newydd
arfaethedig wedi cael eu seilio ar ddata a thystiolaeth gwirioneddol o
weithredu’r gwasanaeth dros y pedwar mis diwethaf, felly roedd yna hyder y
byddai’r model newydd yn gweithio. Y
bwriad oedd rhoi diweddariadau cynnydd i bob aelod ar ddiwedd bob dydd ar ôl
gweithredu’r rowndiau ychwanegol
·
roedd gan bob prosiect
gofrestr risg, roedd gan bob gwasanaeth gofrestr risg ac roedd yna hefyd
Gofrestr Risg Gorfforaethol a oedd yn cael ei hadolygu bob chwe mis a fyddai’n
cynnwys y gwersi a ddysgwyd; byddai’r adolygiad craffu dan arweiniad aelodau yn
darparu mwy o ddysgu manwl, ond gellir hefyd ystyried a ddylai’r Gofrestr Risg
Gorfforaethol gynnwys risg penodol am brosiectau mawr ddim yn cyflawni’r
canlyniadau disgwyliedig
·
fe eglurwyd y cyfeiriad at
y 31 rownd y dydd ar hyn o bryd, a’r sefyllfa dros dro pan roddwyd cynlluniau
ar waith ar fyr rybudd i fynd i’r afael â’r nifer annerbyniol o gasgliadau a
fethwyd. Roedd y cynnig ar gyfer 26-28
rownd y dydd wedi cael ei seilio ar lwybrau diffiniedig a chynllunio manwl ar
gyfer effeithlonrwydd i symud i sefyllfa lle’r oedd llai o adnoddau’n cael eu
defnyddio na sy’n digwydd ar hyn o bryd, ond a fyddai’n arwain at system well
na’r datrysiad dros dro sy’n weithredol ar hyn o bryd
·
roedd y cynnig yn ymwneud
yn benodol ag adnoddau ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu gan nad oes digon o
rowndiau ailgylchu ar hyn o bryd i ddarparu
gwasanaeth cyson i bob aelwyd yn y Sir; roedd yna ddigon o adnoddau i
ddarparu gwasanaethau eraill i breswylwyr yn cynnwys gweddilliol, gwastraff
gwyrdd ac AHP, a byddai’r cynnig yn rhyddhau adnoddau i ganolbwyntio ar yr
elfennau hynny yn y gwasanaeth
·
byddai parhau â’r
datrysiadau dros dro wrth symud ymlaen yn arwain at ddefnydd aneffeithlon o
adnoddau, rhagor o gostau cynyddol, a chasgliadau anghyson parhaus i rai
preswylwyr, ac roedd yna hyder y byddai’r cynnig yn mynd i’r afael â’r
diffygion yn y system bresennol a sicrhau gwasanaeth cynaliadwy wrth symud
ymlaen.
Diolchodd yr Arweinydd i bob Aelod am eu
cyfraniadau i drafodaeth faith a manwl a oedd wedi rhoi cyfle i bob Aelod
leisio eu pryderon, gofyn cwestiynau, herio’r cynnig, a chyflwyno argymhellion.
PENDERFYNWYD
bod y
Cabinet yn –
(a) cymeradwyo £1.299m ychwanegol mewn
gwariant cyfalaf er mwyn caffael cerbydau ailgylchu ychwanegol, wedi’i ariannu
drwy fenthyca darbodus;
(b) cymeradwyo £1.067m ychwanegol o gostau
refeniw er mwyn sicrhau y gall y newid gwasanaeth ddarparu fel y cynlluniwyd ar
sylfaen gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys
y costau refeniw ar gyfer benthyca darbodus ar gyfer y cerbydau y cyfeirir
atynt yn 3.1 yr adroddiad;
(c) cytuno bod y penderfyniad yn cael ei
weithredu ar unwaith heb gael ei alw i mewn, yn unol ag adran 7.25 yng
Nghyfansoddiad y Cyngor, a
(d) cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad A yr adroddiad) fel rhan o’i
ystyriaethau.
Daeth y cyfarfod i
ben am 4.20pm.
Dogfennau ategol:
- 2024.10.01_Cabinet Report_Waste and Recycling Service, Eitem 3. PDF 234 KB
- Appendix A_WBIA, Eitem 3. PDF 275 KB
- App B_Summary of other waste issues, Eitem 3. PDF 121 KB