Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFRESTR RISGIAU CORFFORAETHOL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol (copi ynghlwm) yn manylu fersiwn diweddaraf Cofrestr Risg Corfforaethol Sir Ddinbych.

    

                                                                                                        9.35 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod, a oedd yn cyflwyno fersiwn diweddaraf y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar gyfer Sir Ddinbych, a galluogi i’r Pwyllgor Craffu gyflawni ei rôl o ran sicrhau bod risgiau a adnabuwyd yn cael eu trin yn briodol trwy weithredu mesurau effeithiol i liniaru risg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol yr adroddiad ac amlinellodd y prif newidiadau a wnaed i’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ers y cyflwyniad diwethaf i’r Pwyllgor a oedd yn cynnwys:-

 

·        Dileu DCC003: “Y risg bod newid demograffig yn arwain at ofynion ar wasanaethau’r Cyngor nad oedd adnoddau ar eu cyfer.”

·        Newid DCC005 o “Y risg bod amser ac ymdrech a fuddsoddir mewn cydweithredu yn anghymesur â’r manteision sy’ deillio” i “Y risg bod yr amser a'r ymdrech a fuddsoddir mewn prosiectau cydweithredu mawr presennol yn anghymesur â’r manteision sy’n deillio”.

·        Dileu DCC008: “Y risg bod newid gwleidyddol yn effeithio gallu’r arweinyddiaeth wleidyddol (Arweinydd/Cabinet) i gyflawni agenda anodd”.

·        Diwygio DCC014: “Y risg o ddigwyddiad Iechyd a Diogelwch yn arwain at anaf difrifol neu golli bywyd”.

·        Creu risg newydd DCC015: “Y risg na fedr y Cyngor ddylanwadu ar yr agenda gydweithredu a bod cydweithredu pellach yn cael ei orfodi yn hytrach na chael ei dderbyn yn wirfoddol”.

·        Creu risg newydd DCC016: “Y risg bod effaith diwygiadau lles yn fwy arwyddocaol na’r hyn a ragwelir gan y Cyngor”.

           

Rhoddodd y Rheolwr Gwelliannau Corfforaethol grynodeb o’r strwythur, y newidiadau a’r broses o adolygu’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol, Atodiad 1 a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Roedd holl gofrestri risg gwasanaeth yn cael eu hadolygu gan y gwasanaethau cyn pob rownd o gyfarfodydd Herio Perfformiad Gwasanaethau. Cynhelid gweithdy risg gyda’r Tîm Gweithredu Corfforaethol sy’n adolygu’n ffurfiol pob rownd o Heriau Perfformiad Gwasanaeth. Byddai unrhyw risg newydd neu risg sy’n cynyddu yn cael ei dwyn i sylw’r Tîm, pan gaiff ei hadnabod, a byddai’r Tîm wedyn yn ystyried a ddylid cynnwys y risg a nodwyd ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol.

 

Byddai’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu ar ôl pob adolygiad ffurfiol. Cytunodd yr Aelodau bod eitem yn cael ei chynnwys ar y Flaenraglen Waith ar gyfer Chwefror 2013, yn dilyn rownd bresennol Heriau Perfformiad Gwasanaeth. Cynhwyswyd camau a nodwyd i ddelio â risgiau corfforaethol mewn Cynlluniau Gwasanaeth, lle’n briodol, a fyddai’n galluogi i’r Pwyllgor fonitro cynnydd. Byddai unrhyw broblemau perfformiad mewn perthynas â chyflawni’r gweithgareddau yn cael eu hamlygu yn y broses Herio Perfformiad Gwasanaeth. Roedd swyddogaeth Archwilio Mewnol y Cyngor yn rhoi sicrhad annibynnol ar effeithiolrwydd y trefniadau rheoli mewnol a’r mecanweithiau a fodolai i liniaru risgiau ar draws y Cyngor, ac a oedd yn cynnig her annibynnol i sicrhau bod egwyddorion a gofynion rheoli risg yn cael eu mabwysiadu’n gyson trwy’r Cyngor.

 

Byddai adolygiad blynyddol ac adroddiad ar ddatblygiad y polisi rheoli risg, a gynhyrchir ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, yn adnabod meysydd gwan a fyddai angen eu cryfhau i wella’r broses o reoli risg.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd M Ll Davies, cadarnhaodd y Rheolwr Gwelliannau  Corfforaethol y gellid gweld y gofrestr trwy Fewnrwyd Sir Ddinbych a rhoddodd fanylion ar fformat a phroses categoreiddio risgiau a adnabuwyd dan y Gofrestr Risgiau.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymuned i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd A. Roberts ar annibyniaeth y Cyngor yn methu â dylanwadu ar yr agenda gydweithredu (DCC015).  Esboniodd bod y mater hwn wedi aros yn risg B2 oherwydd camau a oedd yn cael eu cymryd ar hyn o bryd i liniaru effaith y risg. Roedd y Tîm Gweithredu Corfforaethol wedi ystyried y mater yn fanwl a chytunwyd bod angen gwaith pellach mewn perthynas â’r Agenda Gydweithredu Ranbarthol.    

 

Mynegodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts bryderon ynglŷn â DCC004, y risg na fyddai’r Cyngor yn medru datblygu’r staff a'r gallu rheoli i gyflawni’r agenda newid, gydag un ffactor yn cael ei gydnabod fel gwrthwynebiad i newid, a dywedodd nad oedd marcio hyn fel risg yn ddigonol ac y byddai angen cymryd camau i’w ddatrys. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymuned nad oedd ‘gwrthwynebu newid’ yn broblem ar hyn o bryd, ond bod y posibilrwydd y byddai hyn yn achosi anhawster yn cael ei gydnabod. Cadarnhawyd bod camau ar ddod o hyd gyda gwaith yn cael ei wneud mewn perthynas â’r Bwrdd Moderneiddio a’i agenda o brosiectau, a chyflawni Cynllun Cyflawni Strategaeth Pobl a pherthnasedd y gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts yn ymwneud â digwyddiadau diweddar ar ôl y tywydd gwael, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymuned at CDD011 a chadarnhaodd bod adnabod Risgiau Cynhenid a Gweddillol E1, mewn perthynas â risg digwyddiad tywydd difrifol, wedi bod ar y lefel risg briodol ac wedi ei adnabod yn gywir. Cadarnhaodd, ar ôl cwblhau cyfnod adfer, y byddai cyfarfod dad-friffio yn cael ei gynnal i asesu'r ymateb a’r gweithrediadau adfer.

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Perfformiad:-

 

(a)    Yn cadarnhau bod y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn darparu disgrifiad o’r holl risgiau mawr a oedd yn wynebu’r Cyngor ar y pryd, a bod camau a nodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn briodol i ddelio â’r risgiau a adnabuwyd, a

(b)    Yn cytuno derbyn adroddiad i adolygu’r Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ôl rownd ddiweddaraf Heriau Perfformiad Gwasanaeth yn ei gyfarfod ar 21ain Chwefror 2013.

 

 

Dogfennau ategol: