Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CWRICWLWM I GYMRU

Derbyn adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn statudol ym mis Medi 2022. Mae’r adroddiad yn cynnig gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o werthusiadau ar draws ysgolion yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol hwn ac unrhyw effaith ar staff a dysgwyr (copi ynghlwm).

 

11:55am – 12:25pm

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â Phennaeth Addysg, adroddiad Cwricwlwm i Gymru (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Yr oedd ymgynghorwyr GwE hefyd yn bresennol i gefnogi staff y Gwasanaeth Addysg.  Nod yr adroddiad oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed gan ysgolion ers i’r Cwricwlwm i Gymru ddod yn statudol ym mis Medi 2022. Yr oedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o werthusiadau ar draws ysgolion yn ystod y cam gweithredu dechreuol a’r effaith ar staff a dysgwyr.

 

Manylai’r adroddiad ar y cynnydd a wnaed wrth weithredu a gwreiddio’r Cwricwlwm newydd i Gymru mewn ysgolion cynradd ac ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd – beth oedd yn gweithio’n dda, meysydd i’w gwella a’r gwersi a ddysgwyd gan yr holl fudd-ddeiliaid yn ystod y cam gweithredu dechreuol.  Yn ogystal, yr oedd yn darparu gwerthusiad o’r broses weithredu dros yr holl gyfnodau allweddol, effaith y Cwricwlwm ar recriwtio a chadw staff, trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd gan benaethiaid, athrawon a staff ysgolion am eu profiadau o’r broses weithredu a manteision ac / neu anfanteision y Cwricwlwm newydd i ddysgwyr.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y Cwricwlwm newydd i Gymru wedi dod yn statudol i’r holl ddysgwyr o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 ym mis Medi 2022. Yr oedd pob ysgol a lleoliad uwchradd wedi dechrau gyda’r Cwricwlwm i Gymru ym Mlynyddoedd 7 ac 8 erbyn mis Medi 2023.

 

Yr oedd pob ysgol wedi dylunio eu cwricwlwm yn unol â’r Pedwar Diben i fodloni gofynion gorfodol y Cwricwlwm i Gymru, a chynigir cwricwlwm cytbwys i fodloni anghenion pob dysgwr. Cafodd y broses o gyflwyno’r Cwricwlwm fesul dipyn mewn ysgolion uwchradd effaith wahanol i effaith y broses gyflwyno fyrrach mewn ysgolion cynradd, a bu arweinwyr ac ymarferwyr yn ymwneud â newid parhaus a sylweddol bob blwyddyn rhwng 2022 a 2026. Byddai Blwyddyn 9 yn dechrau’r Cwricwlwm newydd ym mis Medi 2024. Byddai dau gam gweithredu pellach yn dilyn wrth i’r dysgwyr hyn ddechrau’r cymwysterau 14-16 newydd yn 2025 a’r dysgwyr Blwyddyn 8 presennol yn 2026. Datblygwyd dogfennau crynhoi cwricwlwm gan bob ysgol a’u darparu i rieni a’r gymuned leol yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd swyddogion fod cyflwyno’r Cwricwlwm newydd yn ddarn pwysig o ddiwygiad. Yn ogystal â newidiadau ADY, y gwaith a wnaed gyda Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) a gwaith adfer yn dilyn Covid, yr oedd wedi golygu llawer iawn o waith i’r Gwasanaeth Addysg a staff ysgolion. Fodd bynnag, yr oedd yr holl ysgolion wedi croesawu’r newidiadau a’r gwaith a oedd yn gysylltiedig â’r diwygio.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, Swyddogion a chynrychiolwyr GwE:

 

  • ddweud bod y gwersi a ddysgwyd gan y sector cynradd wedi cynorthwyo’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm yn y sector uwchradd, a phwysleisiwyd bod dull clwstwr o weithio wedi bod o gymorth mawr o ran y llwyth gwaith a oedd yn gysylltiedig â’r cyflwyno yn y sector uwchradd, yn arbennig cynllunio ar gyfer dilyniant. Fodd bynnag, yr oedd gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r sectorau cynradd ac uwchradd yn gweithio – e.e. y sector cynradd yn cymryd ymagwedd gyfannol at addysg a’r sector uwchradd wedi ei seilio fwy ar ddisgyblaeth.  Yr oedd cyflwyno’r Cwricwlwm newydd wedi herio’r gwasanaeth a’r ysgolion i feddwl am yr hyn yr oeddynt yn ei addysgu, pam, a sut yr oedd yn cael ei addysgu.  Yr oedd y Cwricwlwm newydd yn cynnwys llawer mwy o ddysgu ysgogol ac yn yr awyr agored, felly rhoddwyd mwy o sylw i ddefnyddio sgiliau a chynnwys yn y dysgu.
  • cadarnhau bod cyllid i ategu dysgu proffesiynol bob amser yn her. Fodd bynnag, yr oedd ysgolion yn greadigol wrth sicrhau eu bod yn cael y buddion mwyaf o unrhyw gyllid grant a dderbynnid.  Byddent yn parhau i ymgysylltu mewn dysgu proffesiynol gymaint â phosibl, rhannu arferion gorau ac adnoddau, defnyddio dulliau fel dysgu ‘ysgol i ysgol’, yn ogystal â chael elfen o hyfforddiant proffesiynol pwrpasol.  Yr oedd yn ofynnol i bob ysgol lunio cynllun gwella. Byddai GwE, yn rhan o’i waith, yn herio gallu’r ysgol i gyflawni a darparu ei gynllun gwella, ac yr oedd rhan o’r broses herio hon yn canolbwyntio ar hyder yr ysgol wrth sicrhau’r hyfforddiant angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni ei Chynllun Gwella.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ynglŷn â pha mor galonogol ydoedd i weld disgyblion yn dysgu codio a sgiliau TG eraill i’w cynorthwyo gyda chyflogaeth yn y dyfodol. Yr oedd Llywodraeth Cymru’n annog addysg a sgiliau TG. Fodd bynnag, yr oedd hyn yn creu heriau gan fod cyflogi staff sydd â’r wybodaeth a’r sgiliau digidol priodol yn anodd ar adegau. Yr oedd hyder staff yn eu sgiliau digidol eu hunain weithiau’n broblem; fodd bynnag, bu’r dull ‘Clwstwr Ysgolion’ yn ddefnyddiol mewn sawl achos gan fod yna, yn amlach na pheidio, ‘arbenigwr’ neu aelod o staff ‘digidol hyderus’ mewn un neu fwy o’r ysgolion a allai ddarparu cefnogaeth i gydweithwyr mewn ysgolion eraill.  Ar adegau, darparu cefnogaeth i feithrin hyder cydweithwyr yn eu sgiliau eu hunain oedd yr unig beth oedd ei angen.  Yr oedd tuedd bod prinder athrawon a oedd yn hyderus wrth addysgu sgiliau TG drwy gyfrwng y Gymraeg.  Meysydd arbenigol eraill lle’r ymddangosai fod prinder unigolion a oedd yn gymwys i addysgu’r pynciau oedd ieithoedd tramor modern ac Iaith Arwyddion Prydain, yn enwedig yn y sector cynradd.  Pan ddigwyddai hyn, gofynnid am gefnogaeth gan ysgol uwchradd leol er mwyn gallu addysgu’r pynciau hyn.  Mae manteision i hyn hefyd, oherwydd yr oedd yr ysgolion hynny’n gallu dod i adnabod eu darpar ddisgyblion ymlaen llaw cyn iddynt bontio.  Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)   cydnabod y gwaith a wnaed hyd yma wrth weithredu a gwreiddio’r Cwricwlwm i Gymru yn ysgolion y sir, ac ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd, yn cynnwys arferion gorau a nodwyd, gwersi a ddysgwyd a meysydd i’w gwella ar gyfer parhau i gyflwyno’r Cwricwlwm fesul dipyn yn y sector addysg uwchradd; a

 

(ii)  gofyn i adroddiad cynnydd a gwerthuso pellach ar weithredu’r Cwricwlwm gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi 2026 yn dilyn cyflwyno Ton 1 y cymwysterau TGAU newydd. 

 

 

Dogfennau ategol: