Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR DRAWSNEWID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

Derbyn adroddiad yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn bodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (copi ynghlwm).

 

10:10am – 10:40am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r Pennaeth Addysg, adroddiad ar y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Medi 2024 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Nod yr adroddiad yw rhoi diweddariad pellach ar y cynnydd a wnaed i sicrhau bod yr Awdurdod Lleol ac ysgolion yn bodloni eu gofynion statudol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. 

 

Roedd y diweddariad yn canolbwyntio ar gynnydd y gwaith o roi diwygiadau ADY Llywodraeth Cymru ar waith, gyda’r nod o wella cefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, trosglwyddodd tîm addysg Sir Ddinbych yn llwyddiannus o’r hen system Anghenion Addysg Arbennig (AAA) i’r fframwaith ADY newydd. Roedd hynny’n cynnwys cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) oedd yn disodli’r datganiadau o AAA. Roedd y Cynlluniau Datblygu Unigol yn sicrhau dull mwy personol o gefnogi dysgwyr, oedd yn cyd-fynd â’r gofynion deddfwriaethol newydd a amlinellir yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

 

Dywedodd y swyddogion fod yr holl staff oedd yn cefnogi myfyrwyr ag ADY wedi cael hyfforddiant cynhwysfawr. Mae’r hyfforddiant wedi eu paratoi i ymdrin â’r prosesau newydd a sicrhau y gallant gyd-weithio’n effeithiol gydag ysgolion, rhieni a budd-ddeiliaid eraill. Hefyd, ymdrechwyd i wella cydweithrediad amlasiantaeth, yn enwedig gydag iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i ddarparu dull mwy cyfannol o gefnogi dysgwyr.

 

Tynnodd y diweddariad sylw at sawl her a wynebwyd yn ystod y trawsnewid, yn enwedig o ran dyrannu adnoddau a bodloni’r galw cynyddol am asesiadau. Er hyn, roedd y swyddogion wedi bodloni terfynau amser hanfodol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i roi’r system newydd ar waith. Dywedodd y Pennaeth Addysg fod y gwasanaeth yn monitro ac yn craffu’n barhaus ar gydymffurfiaeth ysgolion â gofynion y Ddeddf, fel yr oedd Estyn yn ei wneud. Ers y pandemig, roedd bron i hanner ysgolion y wlad wedi cael eu harolygu gan Estyn, ac o’r 26 a arolygwyd, dim ond un oedd wedi cael argymhelliad yn ymwneud â gwella darpariaeth gwasanaethau ADY.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, y swyddogion a’r Pennaeth Cynradd:

 

  • gadarnhau bod cynllun cyfathrebu cadarn ar waith i roi gwybod i rieni am y gofynion a roddwyd ar awdurdodau addysg lleol (AALl) ac ysgolion gan Ddeddf 2018 a sut oedd yr AALl ac ysgolion yn cynnig cyflawni’r dyletswyddau hynny. Roedd hyn yn helpu i reoli disgwyliadau. Roedd yr holl fanylion a’r wybodaeth am y gwaith a wnaed ar gael ar wefan y Cyngor.  Roedd llawer o gyfathrebu rhwng ysgolion lleol hefyd, oedd yn helpu i rannu gwersi a ddysgwyd, arfer gorau ac ati. Roedd hyn yn ychwanegol at waith rhanbarthol a chenedlaethol i rannu arfer gorau a chefnogi dull cyson ar gyfer y broses drawsnewid. Roedd yr holl ddeialog agored yn gwneud y broses rywfaint yn haws. 
  • er bod cyllid ar gael ar hyn o bryd tan mis Awst 2025 ar gyfer y 2 swydd athrawon ymgynghorol ADY, roedd y sefyllfa ariannol yn anodd i’r Cyngor cyfan a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd o ran y cyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf. Roedd y galw am gefnogaeth ADY ar gynnydd, ond roedd yn rhaid i’r gwasanaeth flaenoriaethu’r holl anghenion addysgol a darparu ei wasanaethau o fewn y gyllideb oedd ar gael iddo.
  • cadarnhau bod y tîm addysg yn defnyddio dull amlddisgyblaethol i fodloni anghenion pob unigolyn. Ychwanegodd y Swyddog Cynhwysiant - Gweithredu ADY bod perthnasoedd gwaith agos gyda’r bwrdd iechyd a gwasanaethau plant i sicrhau bod anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni a phan fo’n bosibl, yn cael eu teilwra’n briodol i gefnogi eu hanghenion unigryw.
  • cytuno ag aelodau bod y cyfyngiadau ar y gyllideb a’r prinder staff ar draws pob sector yn her barhaus, yn enwedig wrth recriwtio staff arbenigol. Fodd bynnag, roedd gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol oedd yn gweithio gyda’r ysgol i liniaru’r heriau oedd yn codi. Roedd Cydlynydd pob ysgol yn gweithio’n agos gyda’i gilydd yn eu clwstwr i gefnogi’r naill a’r llall, rhannu profiadau ac arfer gorau. Dangosodd Pennaeth Ysgol Penmorfa sut oedd yr ysgol yn wynebu heriau ar hyn o bryd gan fod eu Cydlynydd ADY wedi gadael yn ddiweddar. Yn y cyfamser, roedd y Dirprwy Bennaeth a hithau’n gwneud y gwaith ond roeddent yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth a chyngor yr AALl pan oeddent ei angen. 

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod a chan gydnabod yr heriau lleol a chenedlaethol i fodloni gofynion statudol Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 –

 

(i)   llongyfarch yr holl fudd-ddeiliaid a chymeradwyo’r gwaith a wnaed hyd yma i ddarparu’r gwaith trawsnewid sydd ei angen i gydymffurfio â’r dyletswyddau dan y Ddeddf; a

(ii)  gofyn am i adroddiad cynnydd arall gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn deuddeg mis pan fydd disgwyl i bob ysgol a’r Awdurdod Addysg Lleol fod yn cydymffurfio’n llawn â’r dyletswyddau dan y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ategol: