Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRAWSNEWID CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

To receive a report on the progress made to date in delivering the Welsh in Education Strategic Plan (WESP) in all the county’s schools in line with the Welsh Government’s vision for Welsh language provision (copy attached).

 

11:25am – 11:55am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â Phennaeth Addysg, adroddiad Trawsnewid Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).  Yr oedd Swyddog Datblygu CSCA yn bresennol i roi cefnogaeth ar agweddau technegol ar y Cynllun. Yr oedd yr adroddiad yn hysbysu’r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed hyd yma yn y gwaith o gyflawni Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn holl ysgolion y sir yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth y Gymraeg; gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad yn dilyn trafodaeth ar adroddiad cynnydd ym mis Medi 2023 mewn perthynas â Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod gan y Cyngor weledigaeth ddeng mlynedd i gynyddu a gwella’r gwaith cynllunio o ran darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Mynegwyd hyn yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y Cyngor. Erbyn Medi 2032, dyhead Sir Ddinbych yw y byddai 40% o’r holl ddisgyblion saith mlwydd oed yn cael Addysg Cyfrwng Cymraeg. Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau, er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon, mae’r Cynllun yn nodi saith canlyniad a fydd yn cyfrannu tuag at yr uchelgais. Yr oedd gofyn i’r Cyngor gyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ar gynnydd y Cynllun hwn, a chynhwyswyd copi ohono yn atodiad i’r adroddiad.

 

Yr oedd y prif gynnydd o ran y Cynllun yn cynnwys gweledigaeth glir a chefnogaeth i ddatblygu prosiectau. Bu Tîm ymroddedig Cefnogi’r Gymraeg yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ardderchog i staff ysgolion yn Sir Ddinbych. Yr oedd gwybodaeth yn amlygu buddion dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar wefan CSDd. Hyd yma, mae 6 ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi newid eu categori iaith ac wedi dod yn ysgolion T2, gan ymrwymo (dros gyfnod o ddeng mlynedd) i gynyddu faint o Gymraeg a addysgir yn yr ysgol, gyda’r dyhead o addysgu 50% o wersi drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd nifer yr hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Cymraeg ac sy’n derbyn cefnogaeth arbenigol yn cynyddu.  Yn ogystal, yr oedd cydweithio agos yn digwydd gyda Thîm Ymgynghorol y Gymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn rhannu arferion da, ac yr oedd hyn yn datblygu’n dda.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r Aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol, swyddogion a Phennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych:

 

  • gynghori bod Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg yn monitro’n rheolaidd y cynnydd a wneir parthed cyflawni CSCA. 
  • cadarnhau, fel y nodir ym Mharagraff 4.6 yr adroddiad, ei fod yn galonogol bod nifer y disgyblion sy’n derbyn eu haddysg yn nwy o’r ysgolion cyfrwng Cymraeg mwyaf yn dechrau dychwelyd i’r lefelau a welid cyn Covid. Bu nifer o ffactorau’n gyfrifol am y gostyngiad yn y niferoedd yn dilyn Covid. Y ffactor cyntaf: yn ystod y cyfnod clo nid oedd plant o aelwydydd di-Gymraeg a oedd yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gallu clywed na siarad yr iaith am gyfnod hir, felly teimlai’r teuluoedd na allent gefnogi addysg y plant, a dyma’u rheswm dros eu hanfon i leoliadau addysg cyfrwng Saesneg pan ailagorodd yr ysgolion. Ffactor arall oedd bod gweithgareddau cyn ysgol wedi cau o ganlyniad i COVID-19. Cafodd hyn effaith enfawr ar addysg Gymraeg, oherwydd mae’r saith mlynedd gyntaf o addysg unrhyw blentyn yn hanfodol, ac yr oedd colli addysg Gymraeg gynnar yn niweidiol iawn i addysg cyfrwng Cymraeg.  Er hynny, bu’r Gwasanaeth Addysg yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion, y Mudiad Meithrin, yr Urdd, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), ac ati, mewn ymgais i wrthdroi’r tuedd.  Yr oedd yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod y gwaith hwn bellach yn dechrau dwyn ffrwyth, a’r niferoedd sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn dychwelyd bron i’r lefelau a welid cyn Covid.
  • dangos sut oedd y defnydd dyddiol o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn cael ei gyflwyno a’i ddatblygu. Yr oedd Ysgol Uwchradd Dinbych yn enghraifft ardderchog o’r ffordd y mae menter Cymraeg Campus – sy’n annog defnyddio’r Gymraeg – yn gweithio. Yr oedd y cymhelliant dros lwyddiant y fenter yn dod o’r brig i lawr, ac yn cael effaith gadarnhaol drwy’r ysgol i gyd. Amlinellodd y Pennaeth y cynllun datblygu yr oeddynt wedi ei roi ar waith a oedd yn cynnwys yr holl staff, nid staff addysgu yn unig; e.e. yr oedd staff y ffreutur yn cymryd archebion y disgyblion ac ati yn y Gymraeg.  Yr oedd Safon Uwch Cymraeg yn bwnc poblogaidd yn yr ysgol, ac yr oedd disgyblion Blwyddyn 7, a oedd eisoes yn gyfarwydd â defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn eu hysgol gynradd, yn hynod gyfforddus â dull Cymraeg Campus wrth bontio i’r ysgol uwchradd.  Yr oedd yr ysgol eisoes wedi derbyn gwobr efydd Cymraeg Campus am ei hanogaeth a’i defnydd o’r Gymraeg, ond yr oedd ar fin derbyn achrediad lefel arian.  Yr oedd 7 ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg neu Ddwy Iaith y sir wedi cyfrannu tuag at Fframwaith Cymraeg Campus, ac yr oedd pob un ar hyn o bryd yn ymdrechu i gyflawni gwahanol lefelau o achrediad.  Yr oedd Fframwaith Cymraeg Campus yn fenter gan CSDd; fodd bynnag, yr oedd LlC ar hyn o bryd yn cymryd diddordeb mawr yn y dull hwn ac yn monitro ei ddatblygiad yn ofalus.  Y nod yn y pen draw oedd ‘normaleiddio’ y defnydd o’r iaith mewn sefyllfaoedd dyddiol.
  • pwysleisio mai un o’r heriau sylweddol yr oeddynt yn eu hwynebu wrth gyflawni CSCA oedd staffio, yn arbennig wrth recriwtio staff addysgu mewn meysydd pwnc arbenigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi creu amryw fwrsariaethau i annog pobl i fynd i’r proffesiwn; fodd bynnag, ni fyddai hyn yn datrys y prinder yn y byrdymor.

 

Canmolodd y Cynghorydd Hogg y tîm ar ddatblygu adnodd ‘Sglein ar lein’ – bu ei ferch yn ei ddefnyddio ac yr oedd wedi bod yn ddefnyddiol iawn iddo yntau fel un sy’n dysgu’r iaith.  Teimlai ei fod yn adnodd gwych i gynorthwyo gyda phopeth yn ymwneud â’r Gymraeg.  Credai y byddai sicrhau bod y Gymraeg o gwmpas plant drwy’r adeg yn arwain at gysylltu ac ymwreiddio’r iaith ym mywyd pob dydd. Byddai wedyn yn cyrraedd trobwynt a fyddai’n arwain at fwy o bobl yn siarad yr iaith. Cytunodd y swyddogion i drosglwyddo’r ganmoliaeth ynglŷn ag adnodd ‘Sglein ar lein’ i’r swyddogion perthnasol.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod –

 

(i)       cymeradwyo’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran cyflawni Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yn holl ysgolion y sir yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth Gymraeg; a

(ii)      bod y gwaith o fonitro cyflawniad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol yn cael ei wneud gan Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg, ar yr amod bod problemau neu rwystrau sylweddol rhag cyflawni’r Cynllun yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Craffu am archwiliad manwl pe deuid ar eu traws.

 

 

Dogfennau ategol: