Eitem ar yr agenda
HYRWYDDO PRESENOLDEB YSGOL AC YMGYSYLLTU MEWN ADDYSG
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 26 Medi 2024 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Derbyn adroddiad sy’n hysbysu’r pwyllgor ar y sefyllfa bresennol o ran presenoldeb Ysgol ac ymgysylltu ag addysg a’r ymateb a gymerwyd i fynd i’r afael â materion pan fo pryder yn bodoli ar lefel disgyblion unigol yn Sir Ddinbych (copi ynghlwm).
10:40am – 11:10am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, ynghyd â’r
Pennaeth Addysg, adroddiad ar Hyrwyddo Presenoldeb yn yr Ysgol ac Ymgysylltiad
Mewn Addysg (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr Arweinydd Tîm / Swyddog
Diogelu Gwaith Cymdeithasol Addysg, y Prif Reolwyr Addysg a Phennaeth Ysgol
Uwchradd Dinbych hefyd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth. Mae’r adroddiad yn
cyflwyno’r sefyllfa bresennol o ran presenoldeb ysgol ac ymgysylltiad mewn
addysg a’r broses a ddefnyddir i ymdrin â materion pan fo pryder o ran lefel
ymgysylltu disgybl unigol gyda’u haddysg. Roedd hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r
Pwyllgor am y mesurau a ddefnyddir i gefnogi disgyblion diamddiffyn i
ailgysylltu â’u haddysg. Roedd hefyd yn rhoi dealltwriaeth o’r cyd-destun
rhanbarthol a chenedlaethol i ymdrin â’r pryder yn genedlaethol. Roedd
presenoldeb yn yr ysgol yn flaenoriaeth genedlaethol ac yn un o flaenoriaethau
Estyn hefyd.
Dywedodd swyddogion fod cyfraddau presenoldeb ysgolion ym mlwyddyn ysgol
2018/19 cyn y pandemig ar gyfer ysgolion cynradd yn 94.8% ac ysgolion uwchradd
yn 93.7%. Yn y flwyddyn academaidd Medi 2023 i Fehefin 2024, roedd cyfartaledd
presenoldeb cyfunol ar gyfer ysgolion cynradd / uwchradd yn 90.6%. Mae hyn wedi
cynyddu o 89.2% dros yr un cyfnod yn 2022/23 ar draws Cymru. Yn Sir Ddinbych,
roedd cyfanswm ysgolion cynradd / uwchradd gyda’i gilydd ar gyfer blwyddyn
academaidd 2023 / 2024 yn 89.9 %, sy’n cyfateb i 0.7 % yn llai na chyfartaledd
Cymru. Yn genedlaethol, bu i 10.3 % o ddisgyblion gyrraedd y trothwy absenoldeb
cyson o 10% o sesiynau wedi’u methu ar gyfer y flwyddyn academaidd, sydd
unwaith eto’n welliant o 12.9% dros yr un cyfnod yn
2022/23. Roedd ffigwr Sir Ddinbych yn 15.2% dros yr un cyfnod yn 2022/23.
Cafodd yr aelodau wybod bod Cyngor Sir Ddinbych wedi cael cyllid ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Addysg Awdurdod Lleol i ymdrin ag addysg ac
ysgolion a’u cefnogi. Roedd y Gwasanaethau Addysg yn parhau i ddatblygu
cysylltiadau cymunedol cydlynol ar draws yr awdurdod i geisio ymdrin â’r duedd
hon a chanolbwyntio ar berthyn cymunedol a mynediad at wasanaethau. Nod y dull
hwn yw sicrhau bod gan blant fynediad at eu hawl i addysg llawn amser ond hefyd
yn cael mynediad at wasanaethau sy’n ehangach na dim ond addysg yn unig. Fel
rhan o hyn, roedd y gwasanaeth wedi datblygu strategaeth ymgysylltu â
disgyblion sy’n defnyddio’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r rhaglen hon ac yn gosod
cyfeiriad strategol clir ar gyfer y gwasanaeth.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol y
swyddogion a’r Pennaeth:
·
egluro bod y polisi “amserlen lai” mewn
addysg yn cyfeirio at sefyllfaoedd pan fo ysgolion neu leoliadau addysg yn
lleihau nifer yr oriau neu ddyddiau y mae plentyn neu unigolyn ifanc yn yr
ysgol, fel arfer oherwydd anghenion penodol neu broblemau ymddygiad. Weithiau
roedd angen hyn i ymdrin â heriau disgyblion, a byddai’r amserlen lai ond yn
cael ei defnyddio fel ateb tymor byr, dros dro i helpu disgybl ailintegreiddio
i addysg llawn amser. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo defnyddio oriau
llai yn y tymor hir neu’n barhaol. Y nod oedd cefnogi’r plentyn wrth ymdrin â’r
problemau sylfaenol, megis heriau gydag ymddygiad, pryder, problemau iechyd neu
anghenion addysgol arbennig.
·
rhoi sicrwydd na fyddai absenoldeb un
plentyn, boed hynny’n wedi’i awdurdodi neu beidio, yn effeithio ar addysg plant
eraill. Er hynny, byddai athrawon yn cefnogi myfyrwyr oedd wedi bod yn sâl ac
wedi colli gwaith; byddai faint o gefnogaeth a roddwyd yn amrywio o un myfyriwr
i’r llall ac yn dibynnu ar eu hanghenion. Os oedd yr absenoldeb yn gysylltiedig
â salwch hirdymor, byddai ysgolion yn dilyn codau ac arferion sefydledig a
osodir gan Lywodraeth Cymru. Ar lefel AALl, byddai’r wybodaeth a gasglwyd yn
ddata cyffredinol megis absenoldeb oherwydd salwch/rhesymau meddygol; fodd
bynnag, ar lefel ysgol, byddai’r data a gasglwyd yn seiliedig ar y manylion a
roddir gan rieni/gwarcheidwaid.
·
rhoi sicrwydd nad oedd absenoldeb heb
awdurdod ar gyfer gwyliau teuluol yn broblem eang yn Sir Ddinbych.
·
cadarnhau nad oedd cysylltiadau rhwng
presenoldeb gwael ac ardaloedd o amddifadedd. Roedd effaith y pandemig a’r
argyfwng costau byw wedi gwneud y broblem yn waeth, roedd y gwaith i ymdrin â’r
materion hyn yn gymhleth a byddai’n cymryd amser i ddwyn ffrwyth.
·
dywedwyd bod Rhybuddion Cosb Benodedig
yn arf ataliol, a bod hysbysiadau rhybuddio i rieni/gwarcheidwaid am absenoldeb
yn effeithiol. Roedd y systemau oedd ar
gael iddynt yn effeithiol, ac roedd cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn
codi. Pe na bai cosbau ariannol am absenoldeb heb awdurdod yn cael eu talu,
gallai’r mater fynd i’r llys.
·
roedd Polisi Presenoldeb y Gwasanaethau
Addysg, Ysgolion a Phlant 2024/25 yn pwysleisio y byddai angen edrych ar
absenoldeb plant o’r ysgol fel Cyngor cyfan gan fod ffactorau y tu allan i
addysg yn effeithio ar bresenoldeb. I’r rhan fwyaf o wasanaethau eraill, roedd
y pandemig yn fater hanesyddol, fodd bynnag, roedd yn dal i gael effaith
sylweddol ar ysgolion ac addysg.
·
cadarnhau bod sefyllfa ariannol y
Cyngor yn cael effaith negyddol ar y Gwasanaeth Addysg. Roedd y Tîm Gweithwyr
Cymdeithasol Addysg wedi cael ei gwtogi o 12 i 4 aelod o staff craidd, oedd yn
golygu bod y llwyth gwaith yn anodd ei gynnal.
Er bod y staff craidd hyn yn cael eu cefnogi gan dri aelod arall o
staff, roedd y cyllid ar gyfer eu swyddi’n dibynnu ar grantiau gan Lywodraeth
Cymru, oedd yn cael ei adolygu bob mis Mawrth.
·
byddai rhywfaint o absenoldebau heb
awdurdod mewn ysgolion bob amser, felly roedd yn bwysig defnyddio dull
amlddisgyblaethol i geisio atal rhwystrau i ymgysylltu â disgyblion. Roedd
lefel o apathi ymhlith rhai disgyblion am eu dyfodol, ac er mwyn ymdrin â’r
apathi a’r ansicrwydd hwn, roedd angen gweithio gyda’r sectorau masnach a
busnes i geisio mapio llwybrau gyrfa i bobl ifanc.
·
rhoddwyd sicrwydd i aelodau na ddylai
plant fod yn colli ysgol oherwydd Polisi Cludiant Ysgolion y Cyngor, gan fod y
polisi hwnnw yn unol â gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru
gan nodi y byddai cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i’r ysgol addas agosaf
yn amodol ar y meini prawf yn y Mesur. Roedd copi o’r polisi hwn ar gael ar
wefan y Cyngor.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
Penderfynwyd: yn amodol ar y sylwadau uchod -
(i)
cymeradwyo ymdrechion a dull ysgolion
a’r Awdurdod Addysg Lleol hyd yma i hyrwyddo pwysigrwydd presenoldeb yn yr
ysgol ac ymgysylltu mewn addysg gyda disgyblion a rhieni/gwarcheidwaid; a
(ii)
er mwyn monitro effeithiolrwydd y
polisi presenoldeb templed newydd ar gyfer 2024/25, ynghyd ag unrhyw fentrau
eraill a ddefnyddir o ran presenoldeb disgyblion yn yr ysgol a’u hymgysylltiad
ag addysg, gofyn am i adroddiad arall ar gynnydd gael ei gyflwyno i’r aelodau
mewn 12 mis.
Dogfennau ategol:
- Promote School Attendance and Engagement Report 260924, Eitem 6. PDF 227 KB
- Promote School Attendance and Engagement Report 260924 - App 1, Eitem 6. PDF 787 KB
- Promote School Attendance and Engagement Report 260924 -APP 2, Eitem 6. PDF 139 KB