Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ER GWYBODAETH – ADOLYGIAD THEMATIG CYNALIADWYEDD ARIANNOL

Derbyn adroddiad gwybodaeth (copi ynghlwm) gan Bennaeth Cyllid ac Archwilio am Adolygiad Cynaliadwyedd Ariannol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru yr adroddiad i'r Pwyllgor a rhoddodd amlinelliad byr o'r adroddiad.

 

Diolchwyd i'r Swyddogion a'r Aelodau a gafodd eu cyfweld fel rhan o'r gwaith.

 

Roedd cynaliadwyedd ariannol y Cyngor yn hanfodol bwysig o ran y cyd-destun ariannol heriol yr oedd y Cyngor yn ei wynebu ar hyn o bryd. Roedd yr adroddiad yn rhoi sicrwydd bod y Cynghorau wedi gwneud trefniadau priodol i gefnogi eu cynaliadwyedd ariannol gan gynnwys esbonio sefyllfa ariannol y Cyngor a’r pwysau cyllidebol allweddol a’r risgiau i’w cynaliadwyedd ariannol.

 

Adolygodd Archwilio Cymru ddull strategol y Cyngor o gefnogi ei gynaliadwyedd ariannol, ei ddealltwriaeth o’i sefyllfa ariannol bresennol, a’i drefniadau ar gyfer adrodd a goruchwylio ei gynaliadwyedd ariannol. Roedd yr archwiliad wedi’i gyfyngu i ystyried y trefniadau yr oedd y Cyngor wedi'u gwneud i gefnogi ei gynaliadwyedd ariannol. Nid oedd yn adolygiad o reolaeth ariannol ehangach y Cyngor, nac o benderfyniadau ariannol unigol yr oedd y Cyngor wedi’u gwneud neu’n bwriadu eu gwneud.

 

Roedd Archwilio Cymru yn cydnabod bod rhai ffactorau a fyddai’n effeithio ar gynaliadwyedd ariannol y Cyngor y tu hwnt i gwmpas yr archwiliad, gan fod yr archwiliad yn canolbwyntio ar y trefniadau yr oedd y Cyngor yn eu rhoi mewn lle. Fodd bynnag, lle nodwyd bod materion cyffredin drwy waith maes a gyflawnwyd yn mynd y tu hwnt i'r trefniadau a oedd gan y Cyngor mewn lle, byddai adroddiad yn cael ei gynnwys yng Nghrynodeb o Adroddiad Cenedlaethol arfaethedig Archwilio Cymru.

 

Cydnabuwyd hefyd yr heriau ariannol digynsail yr oedd Cynghorau wedi'u hwynebu ers blynyddoedd lawer ac yr oeddent yn debygol o barhau i'w hwynebu am o leiaf y tymor canolig. Roedd hyn yn cynnwys y pwysau ar gyllid y sector cyhoeddus yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008 ac effaith y pandemig ar y pryd a’i ôl-effeithiau parhaus. Yn fwy diweddar roedd Cynghorau hefyd wedi wynebu gostyngiadau termau real sylweddol mewn grym gwario o ganlyniad i'r cynnydd cyflym mewn chwyddiant ers degawdau. Ochr yn ochr â'r holl ddigwyddiadau uchod, roedd cynnydd sylweddol wedi bod hefyd yn y galw am rai gwasanaethau gan gynnwys, er enghraifft, effaith poblogaeth sy'n heneiddio a'r cynnydd yn y galw am rai gwasanaethau o ganlyniad. Roedd y ffactorau hyn y tu hwnt i reolaeth unrhyw Gyngor unigol i raddau helaeth.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi barn Archwilio Cymru ar drefniadau ariannol y Cyngor, a lle bo’n briodol, sut y gellid cryfhau’r trefniadau hyn i helpu i wella cynaliadwyedd ariannol y Cyngor dros y tymor canolig.

 

Yn gyffredinol, canfuwyd yn yr archwiliad fod y Cyngor wedi ymgysylltu'n dda ag aelodau a swyddogion wrth bennu ei gyllideb ond, ar hyn o bryd, nid oedd ganddo ddull i ganfod arbedion digonol na chynllun trawsnewid ar waith i bontio ei fwlch ariannu.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at argymhellion yr adroddiad a roddwyd i'r Cyngor ar ôl i’r adroddiad gael ei gwblhau (a rannwyd yn flaenorol).

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolydd o Archwilio Cymru am yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Swyddog Adran 151 grynodeb i’r Pwyllgor o ymateb y Cyngor i’r Archwiliad. Roedd y Cyngor yn croesawu’r adroddiad ac ategodd y pwysau ariannol yr oedd y Cyngor yn eu hwynebu. Roedd yn bwysig nodi cyd-destun cenedlaethol yr adroddiad a oedd yn amlygu’r heriau cyffredin sy’n wynebu’r holl Gynghorau ac y byddai'r cyflymder yr oedd chwyddiant wedi cynyddu a'r galw am wasanaethau yn cael effaith ar Gynghorau ar draws y wlad. Roedd y Cyngor yn datblygu Rhaglen Drawsnewid a rannwyd gyda'r holl aelodau dros y misoedd diwethaf.

 

Roedd Ymateb Rheolwyr wedi'i lunio ac roedd hwn yn cael ei adolygu gan y Cabinet a'r Tîm Gweithredol Corfforaethol. Roedd llawer o'r argymhellion eisoes wedi'u nodi gan y Cyngor. Roedd yr ymateb yn ddogfen fyw, a byddai'r Cyngor yn parhau i ymateb i’r argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol ymhellach -

 

Holodd y Cadeirydd pryd y byddai'r Adroddiad Cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi. Dywedodd cynrychiolydd Archwilio Cymru mai’r gobaith oedd y byddai’r adroddiad ar gael ganol mis Tachwedd 2024.

 

Holodd yr aelodau a fyddai’r Cyngor wedi gallu gwneud paratoadau a phenderfyniadau ariannol yn gynt wrth ragweld y gostyngiad yn y gyllideb. Esboniodd y swyddog Adran 151 ei bod yn anodd iawn rhagweld beth allai ddigwydd yn y dyfodol gan fod popeth yn newid o ddydd i ddydd yn ariannol. Yr hyn oedd y Cyngor yn ceisio ei wneud yn bennaf oedd canolbwyntio ar y gwasanaethau statudol yr oedd angen i'r Cyngor eu darparu.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y defnydd o gronfeydd wrth gefn sydd yn yr adroddiad a holwyd a oedd hyn yn gynaliadwy. Eglurodd y Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn cyfeirio at y defnydd o gronfeydd wrth gefn wrth osod cyllideb 2023/24. Fodd bynnag roedd y gyllideb wedi’i gosod, roedd y Cyngor yn gwario mwy oherwydd y rhagolygon ar gyfer y galw am wasanaethau ac oherwydd bod cost gwasanaethau'n cynyddu'n gynt nag yr oeddent pan osodwyd y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelodau y dylai'r adroddiad fod o gymorth wrth geisio nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da ac y dylid ei rannu â phob un o'r 22 awdurdod lleol sy'n wynebu'r un heriau ariannol.

 

Dywedodd yr Aelodau fod y cysyniad o brofi straen yn sylfaenol i gynnal cynaliadwyedd gwariant refeniw a chyfalaf ledled Cymru a holwyd pam nad oedd y gwaith a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych yn seiliedig ar adroddiad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) o 2022 wedi’i grybwyll o fewn yr adroddiad. Cododd adroddiad CIPFA chwe sylw yn dilyn adolygiad o’r Awdurdodau Lleol –

·       Arbedion rhy uchelgeisiol

·       Diffyg Cynllun Tymor Canolig

·       Arweinyddiaeth

·       Llywodraethu Digonol

·       Rheolaeth Ariannol Wan

·       Diffyg cronfeydd wrth gefn

Datganwyd pe bai’r chwe sylw uchod wedi cael eu defnyddio o fewn yr adroddiad, byddai wedi bod yn help i ddeall realiti'r sefyllfa sy'n wynebu Cynghorau.

 

Sicrhaodd cynrychiolydd Archwilio Cymru yr aelodau y byddai sylwadau CIPFA yn destun prawf straen ac y byddent yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiad Cenedlaethol pan fyddai'n cael ei gyhoeddi.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd tabl graddio yn dangos safle cynaliadwyedd ariannol Cynghorau fel y gallai CSDd ddeall sut yr oedd yn perfformio yn erbyn Cynghorau eraill. Esboniodd cynrychiolydd Archwilio Cymru y byddai cymharu Cynghorau â'i gilydd yn broblemus . Roedd proses yn cael ei dilyn yn ymwneud â ‘beth oedd i’w ddisgwyl’ yn ôl arfer gorau a ‘beth allai fod’ pe bai’r amodau’n well.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolydd Archwilio Cymru a’r Pennaeth Cyllid ac Archwilio am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD: bod y Pwyllgor yn nodi'r Adolygiad o Gynaliadwyedd Ariannol ac yn dymuno cymeradwyo'r broses o brofi straen ac argymell y dylid ei chwblhau'n rheolaidd a'i rhannu fel arfer da gyda phob un o'r 22 awdurdod.

 

 

Dogfennau ategol: