Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN YNNI ARDAL LEOL SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant (copi ynghlwm) yn ceisio cefnogaeth y Cabinet ar gyfer Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych (Atodiadau 1 a 2), gan ddeall bod y camau gweithredu sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir Ddinbych yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych (CYAL).   Roedd y CYAL wedi cael ei lunio yn rhan o Brosiect gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y CYAL yn system ynni cyfan, oedd yn cael ei yrru gan ddata oedd yn nodi’r llwybr er mwyn i’r ardal leol symud tuag at gyrraedd targedau sero net yn rhan o ddull cydlynol.  Roedd Uchelgais Gogledd Cymru yn rheoli contract gydag ymgynghorwyr sy’n llunio’r CYAL i Sir Ddinbych a siroedd eraill yng ngogledd Cymru, a bydd pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn berchen ar y cynlluniau.   Bydd pob CYAL yn cael eu cydgrynhoi i hysbysu datblygiad y Cynllun Ynni Cenedlaethol.  Roedd y CYAL wedi cael ei adolygu gan Fwrdd Sir Ddinbych Werddach, y Gweithgor Gwleidyddol Trawsbleidiol (Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol), y Grŵp Cynllunio Strategol a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ac roedd yr adroddiad yn cynnwys yr adborth hwnnw.   Roedd y camau nesaf yn cynnwys Briff i Aelodau am y CYAL, creu dull darparu/monitro er mwyn symud ymlaen â chamau gweithredu CYAL, ac adolygu’r Cynllun mewn tua phum mlynedd.

 

Cafodd y Cabinet wybod bod y CYAL yn cynnwys costau dangosol lefel uchel gyda chamau gweithredu wedi’u neilltuo i nifer o sefydliadau.   Roedd y camau gweithredu a neilltuwyd i’r Cyngor yn cyd-fynd â’r Strategaeth Hinsawdd a Natur ac roeddynt yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol.   Byddai cyflawni’r camau gweithredu yn rhywbeth ar gyfer amrywiaeth o fudd-ddeiliaid ac yn amodol ar gefnogaeth wleidyddol ac ariannol ddigonol.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:  Perfformiad, Digidol ac Asedau a’r Rheolwr Newid Hinsawdd hefyd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon.

 

Fe ystyriodd y Cabinet yr adroddiad cynhwysfawr gan gydnabod pwysigrwydd y CYAL a dull cydlynol i ddarparu ar uchelgeisiau ar gyfer targedau sero net. 

 

Roedd y prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol –

 

·       er bod yna un Asesiad o’r Effaith ar Les ar gyfer y cynllun cyfan, roedd yn asesiad lefel uchel oedd yn canolbwyntio ar feysydd eang, tra y byddai prosiectau unigol yn debygol o fod angen Asesiad pellach, o faint priodol, neu astudiaeth ddichonoldeb benodol er mwyn canfod beth oedd angen ei wneud a’r effeithiau.

·       gofynnwyd cwestiynau ynghylch defnyddio systemau ynni penodol mewn adeiladau preifat, megis paneli solar ar ben toeau ac ati, a cheisiwyd sicrwydd eu bod yn cael eu cofnodi’n gywir i gael eu cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.   Cadarnhaodd Swyddogion fod yr Ymddiriedolaeth Garbon wedi defnyddio data ffynhonnell agored yn rhan o’r broses er mwyn sicrhau bod inswileiddiad mewn adeiladau preifat yn cael ei gynnwys yn rhan o waelodlin yr adroddiad.   Serch hynny, fe dynnodd yr adroddiad sylw at yr angen am lefel o fonitro a goruchwylio’r systemau ynni hynny, ac fel rhanbarth gogledd Cymru, byddai rhagor o waith yn cael ei wneud i archwilio tracio gyda Llywodraeth Cymru drwy Uchelgais Gogledd Cymru er mwyn dylanwadu ar y gwaith hwnnw ac ymgysylltu gyda datblygwyr cartrefi preifat a pherchnogion tai preifat.   Fe dynnwyd sylw at yr angen i fod â mecanweithiau yn eu lle i roi cyfle i bawb gyfrannu.

·       cafodd cyflymder y newid ei gydnabod, ac o ystyried y nifer o ffactorau gwahanol ac elfennau amrywiol oedd yn cyfrannu at y CYAL, byddai’r data fyddai’n dylanwadu arno yn newid yn gyflym.   Y bwriad oedd adolygu a diweddaru'r CYAL mewn tua phum mlynedd wrth i 2030, sef y dyddiad targed i fod yn ddi-garbon net agosáu, ond fe fyddai monitro blynyddol yn digwydd hefyd a chysylltiadau gyda strategaethau ynni rhanbarthol a pholisïau cenedlaethol a fyddai’n cael eu cynnal yn llawer cynharach ac yn fwy aml  

·       mae llawer o waith wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â ffermydd gwynt yn y môr ac ar y tir, a bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i gynyddu capasiti ar y grid i ddal y trydan ychwanegol a fyddai’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i hynny.   Trafodwyd yr anhawster wrth symud ymlaen o ran storio ynni adnewyddadwy a’r angen am fwy o ddulliau arloesol mewn cysylltiad â hynny i fod ar flaen y gad datblygiadau o’r fath.   Roedd y potensial ynglŷn â defnyddio tir ar gyfer rhai o’r technolegau yma wedi cael eu trafod ac roedd y CYAL yn rhoi sail dystiolaeth ar gyfer llwybrau yn y rhanbarth tuag at ddyfodol ynni diogel a dull i gwmnïau ynni ddylanwadu ar eu cynlluniau ynni eu hunain a diweddaru’r grid, ynghyd â systemau ynni ardal leol

·       tynnwyd sylw at angen i uno generaduron ynni gyda defnyddwyr ynni ar draws sectorau a’r rhanbarth a Chymru, ynghyd â’r potensial am ddefnydd deuol y tir i gynhyrchu ynni solar ac amaeth, a sut y gallai hynny gael ei reoli i gael y canlyniadau gorau

·       o ran y camau nesaf, tynnwyd sylw at grynodeb defnyddio cyfansoddion ynni allweddol ar draws Sir Ddinbych a phwysigrwydd tracio’r newidiadau hynny a mewnfuddsoddi i Sir Ddinbych a’r rhanbarth.

 

Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas yn gobeithio y byddai’r ddogfen yn galluogi defnyddio adnoddau yng Nghymru mewn ffordd a fyddai ar flaen y gad o ran cynhyrchu a storio ynni.  Fe ychwanegodd yr Arweinydd y byddai dull cydgysylltiedig yn cynorthwyo â darparu’r CYAL wrth weithio tuag at gyrraedd targedau sero net.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn –

 

(a)      cymeradwyo Prif Adroddiad ac Adroddiad Technegol Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych (Atodiadau 1 a 2), gan ddeall bod y camau gweithredu sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir Ddinbych yn amodol ar sicrhau a chynnal y cyllid angenrheidiol, a

 

(b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 3 yr adroddiad) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

 

Dogfennau ategol: