Eitem ar yr agenda
RHYBUDD O GYNNIG
Ystyried Rhybudd
o Gynnig (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y Rhybudd o
Gynnig - Cynnig i ddiswyddo Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet a gyflwynwyd gan y
Cynghorwyr Huw Hilditch-Roberts, Pauline Edwards, Geraint Lloyd-Williams, Paul
Keddie, Merfyn Parry, Andrea Tomlin, Hugh Evans, Bobby Feeley, Huw Williams,
Karen Edwards a Chris Evans.
‘Dymunwn ddwyn cynnig gerbron i ddiswyddo’r Arweinydd, y
Cynghorydd Jason McLellan a’i Gabinet.
Mae digwyddiadau diweddar yn ymwneud ag arweinyddiaeth y cyngor wedi
codi pryderon difrifol am eu heffeithiolrwydd.
Mae gweithrediad trychinebus ac aneffeithlon y system ailgylchu
gwastraff newydd, ynghyd â'r diffyg eglurder ac atebolrwydd a amlygwyd mewn
papur briffio diweddar, wedi arwain at golled hyder yn llwyr ymhlith trigolion.
Yn fwy na hynny, mae sgil-effeithiau'r system newydd hon
wedi rhoi straen sylweddol ar adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Ddinbych, wrth
i adnoddau staff gael eu dargyfeirio i fynd i'r afael â methiannau'r fenter
ailgylchu. Mae'r dargyfeiriad hwn wedi
arwain at gynnydd amlwg mewn costau gweithredu, sydd yn ei dro wedi cael
effaith negyddol ar wasanaethau rheng flaen sy'n hanfodol i'r gymuned.
Mae diffyg strategaeth ac arweiniad effeithiol wedi
achosi cryn her i drigolion ledled y sir, ac mae'r goblygiadau ariannol i'r
awdurdod wedi bod yn aruthrol. Nid yw
bellach yn gynaliadwy i gynnal y dull hwn, a rhaid rhoi’r flaenoriaeth i les
trigolion Sir Ddinbych. Felly, fel
aelodau o’r grŵp annibynnol, galwn yn gryf ar yr Arweinydd a’i Gabinet i
ymddiswyddo.’
Eglurodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts nad oedd y cynnig
yn bersonol a’i gyflwyno oedd un o’r penderfyniadau anoddaf yr oedd yr aelodau
a enwyd uchod wedi ei wneud. Dywedodd mai’r bwriad oedd codi pryderon trigolion
am faterion a oedd yn effeithio ar y Sir gyfan. Dywedodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts bod yr holl gynghorwyr wedi derbyn cwynion a bod pobl
ddiamddiffyn yn ei chael hi’n anodd. Felly, roedd y cynnig wedi cael ei
gyflwyno i drafod perfformiad y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts bod y cysyniad o’r
system casglu gwastraff newydd wedi cael ei gyflwyno yn ystod y Cabinet
blaenorol ond bod gwahaniaeth rhwng cysyniad a gweithrediad ac nid oedd
gweithrediad y casgliadau gwastraff newydd yn gweithio. Mynegodd ei bryderon
bod Sir Ddinbych yn dod yn awdurdod dan arweiniad swyddogion ac roedd yn credu
bod hyn yn amlwg o’r ymateb i gwestiynau mewn sesiwn friffio ddiweddar i
aelodau ar y drefn newydd ar gyfer casglu gwastraff.
Amlygodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts:
·
Adroddwyd lefelau hyder budd-ddeiliaid gostyngedig
neu isel i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 mewn perthynas ag economi,
isadeiledd cludiant a threftadaeth ddiwylliannol Sir Ddinbych.
·
Ymagwedd y Cabinet presennol tuag at fuddsoddi mewn
adeiladau ysgol newydd, gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir ac yn
y cyngor a’r penderfyniad diweddar i gau swyddfeydd Caledfryn, a disgrifiodd y
Cynghorydd Hilditch-Roberts y rhain fel swyddfeydd mwyaf eco-gyfeillgar y
Cyngor.
·
Roedd nifer y tai cyngor newydd a adeiladwyd yn
ystod y weinyddiaeth hon yn siomedig.
·
Roedd cyllideb y Cyngor wedi cael ei phasio er nad
oedd yr arbedion o £3 miliwn a oedd eu hangen i gydbwyso’r gyllideb wedi cael
eu cadarnhau ar adeg pasio’r gyllideb.
·
Problemau yn ymwneud â Marchnad y Frenhines yn Y
Rhyl a oedd yn wag ar hyn o bryd a heb unrhyw drefniadau rheoli i redeg yr
adeilad. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts y dylai bod y Cabinet wedi
ymgysylltu â darparwr gwasanaethau hamdden y Cyngor, Hamdden Sir Ddinbych Cyf,
i reoli Marchnad y Frenhines.
·
Pryderon eang ynglŷn â lleihau oriau agor
llyfrgelloedd ac adroddodd gyfathrebu gwael gydag aelodau ar gynigion i gau
toiledau cyhoeddus.
·
Oedi o ran caniatâd cynllunio a oedd yn oedi twf
economaidd Sir Ddinbych.
·
Cynnydd yn nhreth y cyngor.
·
Costau cynyddol y system casglu gwastraff, y niwed
i enw da’r cyngor oherwydd y problemau gyda chyflwyno’r gwasanaeth, yr effaith
ar wasanaethau eraill y cyngor oherwydd adleoli staff i gynorthwyo â’r
gwasanaeth casglu gwastraff a’r anawsterau a brofwyd gan drigolion wrth
gysylltu â’r cyngor ynglŷn â gwastraff heb ei gasglu.
Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts bod y
cyngor wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd i fod yn agos i’r gymuned ond yn
awr roedd yn teimlo bod arweinyddiaeth y cyngor yn agosach at Gaerdydd na
chymunedau Sir Ddinbych ac fe anogodd yr aelodau i gefnogi’r cynnig.
Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y
byddai cynrychiolwyr grwpiau gwleidyddol yn mynd i’r afael â’r cynnig, ac wedi
hynny, byddai aelodau eraill yn cael cyfle i siarad.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Irving, ar ran Grŵp y
Ceidwadwyr, mai ychydig iawn yr oedd gan y weinyddiaeth bresennol i fod yn
falch ohono ar ôl dwy flynedd yn y swydd.
Dywedodd wrth yr aelodau bod y Cabinet presennol wedi etifeddu sefyllfa
ariannol rhesymol foddhaol ond roedd yn awr yn gweld anawsterau ariannol a
chostau ychwanegol, yn enwedig gyda’r gwasanaeth casglu gwastraff newydd.
Amlygodd y Cynghorydd Irving:
- Dibyniaeth
ar doriadau staff a thoriadau eraill a arweiniodd at ddarparu llawer o
wasanaethau hanfodol y cyngor i’r lefelau yr oedd y cyhoedd yn eu disgwyl
gan arwain at adroddiadau o forâl isel ymhlith staff.
- Ei
anghytundeb â phroses y gyllideb a oedd wedi gadael rhywfaint o’r arbedion
angenrheidiol heb eu nodi.
- Y
ffocws ar doriadau i wasanaethau poblogaidd megis llyfrgelloedd a
thoiledau cyhoeddus.
- Anallu’r
Cabinet i ddeall lle’r oedd blaenoriaethau trigolion, er enghraifft, wrth
i’r Cabinet hyrwyddo polisïau gwyrdd drud.
I gloi, dywedodd y Cynghorydd Irving ei fod yn ystyried y
problemau a oedd wedi eu crybwyll fel tynnu sylw at ddiffyg ystyriaeth yr
Arweinydd a’r Cabinet o bryderon y trigolion a disgrifiodd y siom yn y
weinyddiaeth a welwyd yn yr adborth, adroddiadau’r wasg a chyfryngau cymdeithasol.
Am y rhesymau hyn, dywedodd bod Grŵp y Ceidwadwyr yn cefnogi’r cynnig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Martyn Hogg, ar ran Grŵp y
Blaid Werdd, at benderfyniad y cyngor i gael ymchwiliad trylwyr i gyflwyniad y
system ailgylchu newydd. Ystyriodd fod y
cynnig gerbron y Cyngor yn penderfynu canlyniad yr ymchwiliad ymlaen llaw am
resymau gwleidyddol ac roedd yn annog aros am ganlyniad yr ymchwiliad.
Amlygodd y Cynghorydd Hogg:
- Roedd y
cynnig yn cynnwys meysydd pryder cyffredinol dilys ond roedd aelodau angen
mwy o wybodaeth i wneud penderfyniadau gwybodus.
- Ei
anghytundeb â chasgliad y Grŵp Annibynnol bod y problemau gyda
chasglu gwastraff wedi deillio o fethiant arweinyddiaeth y Cyngor. Roedd
yn ystyried hyn fel casgliad cynamserol, a allai gael ei adolygu’n iawn yn
yr ymchwiliad.
- Sut yr
oedd y newidiadau i gasgliadau gwastraff wedi cael eu rhoi ar waith yn
ystod tymor diwethaf y Cyngor gan y Cabinet ar y pryd ond cyn lansio,
roedd wedi dod yn destun dadl wleidyddol. Daeth rhai o aelodau’r Cabinet
blaenorol a oedd wedi cefnogi’r system newydd yn feirniadol iawn ohoni ac
roedd y Cynghorydd Hogg yn ystyried hyn yn fanteisiaeth wleidyddol.
- Ni
fyddai pleidlais o ddiffyg hyder ar hyn o bryd o fudd i drigolion Sir
Ddinbych a byddai gwneud newidiadau i weinyddiaeth y Cyngor yn tynnu
sylw’n anamserol.
Ar ran Grŵp Plaid Cymru, diolchodd y Cynghorydd
Delyth Jones i’r Cynghorydd Hilditch-Roberts am gyflwyno’r cynnig a rhoi cyfle
i aelodau edrych ar y problemau o amgylch y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu
newydd yn ogystal â materion perthnasol eraill.
Amlygodd y Cynghorydd Jones:
- Cydnabuwyd
nad oedd cyflwyniad y drefn newydd ar gyfer casglu gwastraff wedi bod yn
dderbyniol ac roedd agweddau o’r newidiadau wedi achosi llawer o heriau,
rhwystredigaethau a straen i breswylwyr, aelodau a swyddogion fel ei
gilydd.
- Roedd
Grŵp Plaid Cymru yn cefnogi’r ymholiad craffu llawn o’r problemau
cyflwyno fel y ceisiwyd gan yr Arweinydd a’r aelod arweiniol oherwydd ei
bod yn orfodol bod casgliadau a phenderfyniadau yn seiliedig ar ffeithiau
yn hytrach na barn.
- Ar hyn
o bryd, roedd diffyg gwybodaeth fanwl y byddai’r ymholiad craffu yn ei
roi. Rhoddodd y Cynghorydd Jones grynodeb o’r pwyntiau allweddol a’r
amserlenni yn gysylltiedig â ffurfio’r model casglu gwastraff newydd o dan
y Cabinet blaenorol o 2018 i fis Ebrill 2022 pan gymeradwywyd Achos Busnes
diwygiedig terfynol gan y Cabinet blaenorol yn ystod un o’u cyfarfodydd
olaf cyn diwedd tymor y Cyngor. Roedd y pwyntiau allweddol hyn yn cynnwys
penderfyniadau i symud i’r system gwastraff ac ailgylchu newydd am resymau
amgylcheddol ac ariannol, datblygu’r model darparu busnes a gwasanaeth
newydd, y prosesau tendro a chaffael a chymeradwyo’r achos busnes
terfynol.
- Roedd
yr Arweinydd a’r Cabinet presennol wedi etifeddu’r cynlluniau datblygedig
ar gyfer newid casgliadau gwastraff gan y weinyddiaeth flaenorol ac wedi
bwrw ymlaen â’r rhain yn ddidwyll, yn wahanol i nifer o gynghorwyr a oedd
wedi bod yn rhan o’r weinyddiaeth flaenorol ac wedi cefnogi’r newidiadau
pan yr oeddent yn y Cabinet ond wedi ceisio eu tanseilio yn y
gwrthbleidiau.
- Nid
oedd Grŵp Plaid Cymru yn credu bod y Cabinet presennol yn gyfrifol am
unrhyw gamgymeriadau a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol ac roedd sawl
problem weithredol a oedd wedi tanseilio effeithiolrwydd y gwasanaeth
newydd nad oedd modd eu priodoli i fethiannau arweinyddiaeth wleidyddol.
- Nid
oedd eto’n bosibl i ddod i gasgliad clir a chytbwys ynglŷn â phwy
oedd yn gyfrifol am y problemau yn gysylltiedig â’r drefn casglu gwastraff
newydd ond byddai hyn yn gliriach yn dilyn yr ymholiad craffu.
Yna, fe aeth y Cynghorydd Jones i’r afael â phwyntiau
eraill a oedd wedi cael eu gwneud yn gysylltiedig â’r cynnig:
- Cyfeiriodd
y Cynghorydd Jones at y nifer o drafodaethau a arweiniwyd gan y Cabinet
gyda’r holl aelodau wedi’u hanelu at ddeall a mynd i’r afael â diffygion
heriol yn y gyllideb a oedd tu hwn i reolaeth y Cyngor. Roedd Sir Ddinbych
yn profi’r angen i wneud toriadau mawr i’r gyllideb fel pob cyngor sir a
chyngor bwrdeistref sirol arall yng Nghymru a thu hwnt.
- Roedd
llunio cyllideb gytbwys a chyfreithlon yn yr hinsawdd ariannol bresennol
yn galw am benderfyniadau anodd ac roedd pob aelod wedi cael cyfle i
gynnig datrysiadau amgen credadwy a chyraeddadwy.
- O ran y
penderfyniad anodd i leihau oriau agor llyfrgelloedd, dywedodd y
Cynghorydd Jones nad oedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus wedi
cael eu hanwybyddu, ac roedd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Emrys Wynne,
wedi herio swyddogion yn gadarn a newid y gostyngiad arfaethedig o 50% i
40%. Er iddo ddigwydd mewn rhai
awdurdodau, cadarnhaodd nad oedd cau llyfrgelloedd wedi cael ei ystyried
yn Sir Ddinbych. Roedd Tasglu Llyfrgelloedd a ffurfiwyd i ymchwilio i sut
y gallai’r gwasanaeth ffynnu yn y dyfodol yn enghraifft arall o ymagwedd
gadarnhaol tuag at sefyllfa heriol.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor
a’r Blaid Lafur, ei fod yn cydnabod bod y problemau gyda chyflwyno’r gwasanaeth
casglu gwastraff wedi digwydd dan ei wyliadwriaeth ef, a’i fod wedi
ymddiheuro’n gyhoeddus a thro ar ôl tro i’r trigolion a effeithiwyd, a’i fod yn
ceisio mynd i’r afael â’r methiannau a’u cywiro. Roedd y Cynghorydd McLellan yn
ystyried y gwasanaeth casglu gwastraff y cartref, yn un o wasanaeth sylfaenol,
craidd y Cyngor, ac roedd cyflwyniad y gwasanaeth newydd wedi mynd o’i le.
Diolchodd i’r aelodau am gynorthwyo eu preswylwyr â mynd i’r afael â
chasgliadau a fethwyd.
Rhoddodd y Cynghorydd McLellan wybod i’r aelodau am ei
benderfyniad i ofyn i Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu i
ddechrau ymchwiliad llawn i’r problemau mewn perthynas â’r drefn newydd ar
gyfer gwastraff.
Amlygodd y Cynghorydd McLellan:
- Nododd
ei fod yn cytuno gyda honiad y Cynghorydd Delyth Jones, bod y Cyngor a’r
Cabinet presennol wedi etifeddu prosiect wedi’i ddatblygu a’i gostio gyda
chynllun busnes gan y weinyddiaeth flaenorol ar gyfer y newidiadau i’r
gwasanaeth gwastraff. Gwrthododd y syniad bod y Cabinet ddim ond wedi
etifeddu cysyniad neu syniad bras o system gasglu newydd.
- Fel yr
oedd penderfyniadau’r Cabinet blaenorol o 2018 hyd at ddiwedd ei dymor ym
mis Ebrill 2022 wedi gosod tendrau am gerbydau a’r orsaf casglu gwastraff
a’r modelu manwl ar gyfer y llwybrau casglu.
- Dywedodd
ei fod yn cydnabod bod cynghorwyr a fyddai wedi hoffi cadw’r hen system
ailgylchu a chasglu ond dywedodd y byddai newid cyfeiriad wedi costio
miloedd o bunnoedd i’r Cyngor ac ni fyddai wedi darparu’r buddion
gwastraff, ailgylchu, amgylcheddol ac eraill a oedd wedi ysgogi’r
weinyddiaeth flaenorol i newid y system casglu gwastraff.
Wrth fynd i’r afael â honiadau’r cynnig am ei
arweinyddiaeth, pwysleisiodd y Cynghorydd McLellan ei fod wedi ysgwyddo’r
cyfrifoldeb am y problemau a’i fod o a’r aelod arweiniol, y Cynghorydd Barry
Mellor, wedi cymryd rhan lawn a gweithio’n galed gyda swyddogion i herio
dyluniadau llwybrau a darpariaeth y gwasanaeth i ddatrys y problemau.
Amlinellodd sut yr oedd gwallau amlwg wedi cael eu gwneud o ran sut yr oedd y
gwasanaeth newydd a’i gynllun busnes wedi cael eu dylunio i’w darparu o ran capasiti’r
gwasanaeth i gasglu gwastraff o’r llwybrau bwriadedig. Dangosodd gyflwyniad y
gwasanaeth nad oedd y rhagdybiaethau yn cyd-fynd â’r realiti ar lawr gwlad. Nid
oedd y Cynghorydd McLellan eisiau barnu’r gwallau a oedd wedi cael eu canfod yn
y rhagdybiaethau, oherwydd y byddai hynny yn rhan o rôl ymchwiliad craffu.
Ymddiheurodd y Cynghorydd McLellan i’r preswylwyr a oedd wedi profi casgliadau
gwastraff a fethwyd.
Wrth fynd i’r afael â phroblemau’r gwasanaeth casglu
gwastraff, amlinellodd y Cynghorydd McLellan:
- Roedd
defnyddio adnoddau ychwanegol yn golygu costau ychwanegol.
- Adroddodd
y ffigyrau casglu ar gyfer yr wythnos ddiwethaf a oedd yn dangos cyfradd
gasglu o 99.4% a sefyllfa well.
- Roedd
nifer y staff o adrannau eraill yn y Cyngor a ddefnyddiwyd fel staff
cymorth dros dro ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff yn gymharol isel,
o 0 i 8 aelod o staff y dydd, cyfartaledd o 3 aelod staff y dydd. Cafwyd
yr aelodau staff hyn o gronfa fawr o staff y Cyngor ac nid oeddent yn
cynnwys staff rheng flaen.
- Nid
oedd y gwrthbleidiau wedi cyflwyno unrhyw awgrymiadau ymarferol i ddatrys
y problemau a oedd wedi codi yn ystod y cyfnod cyflwyno, ar wahân i fynd
yn ôl i’r hen system, ond nid oedd hynny’n bosibl.
I gloi, fe aeth y Cynghorydd McLellan i’r afael â’r heriau
eraill i’w arweinyddiaeth a wnaed yn ystod y drafodaeth ar y cynnig:
- Nid
oedd y Cynghorydd McLellan yn ystyried yr heriau yn gysylltiedig â
phenderfyniadau cyllideb fel ymosodiad ar ei arweiniad. Roedd y sefyllfa
ariannol ddifrifol roedd y Cyngor yn ei hwynebu yn galw arno, fel
Arweinydd, i fod yn barod i wneud penderfyniadau anodd. Gwahoddwyd pob
aelod i arsylwi a chymryd rhan sesiynau briffio a diweddariadau cyllideb
rheolaidd.
- Roedd y
penderfyniad i gau swyddfeydd Caledfryn yn adlewyrchu’r newidiadau i fyd
gwaith, ac nid oedd gan y Cyngor angen tair swyddfa fawr bellach. Cael
gwared ar swyddfeydd Caledfryn fel ased gyfalaf oedd yn gwneud y mwyaf o
synnwyr.
- Gan
gyfeirio at feirniadaeth y Cynghorydd Hilditch-Roberts o’r buddsoddiad
presennol mewn adeiladau ysgol, dywedodd y Cynghorydd McLellan fod tymor y
Cynghorydd Hilditch-Roberts fel aelod arweiniol addysg wedi digwydd yn
ystod y cyfnod pan yr oedd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i Sir
Ddinbych er mwyn adeiladu ysgolion, yn cynnwys dwy ysgol cyfrwng Cymraeg.
- Gan
gyfeirio at Farchnad y Frenhines, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn bod
yr adeilad yn cael ei adeiladu cyn dewis gweithredwr ac felly cafwyd
anawsterau gwirioneddol wrth i weithredwyr posibl fynegi safbwyntiau
gwahanol ar ddyluniad yr adeilad. Felly, nid oedd y methiant hwn yn
ymwneud â’r Cabinet ac roedd yn parhau i fod yn destun trafodaeth a
mynegodd y Cynghorydd McLellan hyder y byddai’r mater yn cael ei ddatrys.
- Roedd
39 o adroddiadau archwilio wedi cael eu cynnal yn y 2 flynedd ddiwethaf
ers i’r Cynghorydd McLellan gael ei benodi fel Arweinydd. Roedd 30 ohonynt wedi derbyn sgôr
sicrwydd uchel, roedd 9 wedi derbyn sgôr sicrwydd canolig, ac ni chafwyd
archwiliadau â sgôr sicrwydd isel.
Dywedodd fod hynny’n dangos bod trefniadau llywodraethu da ac
arweinyddiaeth dda ar waith
Agorodd y Cadeirydd y drafodaeth i aelodau eraill a
wnaeth y sylwadau canlynol.
- Dywedodd
y Cynghorydd Brian Jones ei fod ef, fel cyn-aelod arweiniol gwastraff,
wedi bod yn erbyn cael gwared ar y biniau glas a newid i’r system
trolibocs, ond roedd y Cabinet wedyn wedi cael gwybodaeth ac adroddiadau
pellach, yn cynnwys gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau
(WRAP) a oedd yn cynghori’r Cyngor.
Yn y pendraw, dywedodd y Cynghorydd Jones bod y Cabinet blaenorol
wedi gorfod newid y system casglu gwastraff oherwydd newidiadau i’r ffordd
yr oedd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r gwasanaeth. Dywedodd ei fod wedi
cynnig datrysiad ar gyfer Marchnad y Frenhines yr haf hwn nad oedd wedi
cael ei dderbyn ac anogodd aelodau i ystyried blaenoriaethau eu trigolion
wrth bleidleisio ar y cynnig.
- Adolygodd
y Cynghorydd Karen Jones y problemau casglu gwastraff a oedd wedi eu profi
yn ei ward ac, er bod y sefyllfa wedi gwella’n rhannol, nid oedd y
gwasanaethau statudol disgwyliedig yn cael eu darparu. Dywedodd wrth yr
aelodau am y cwynion a oedd wedi eu derbyn, yn cynnwys tystiolaeth fideo o
staff casglu gwastraff yn taflu batris wedi’u gwahanu i mewn i wrych a
chyfuno gwastraff a deunyddiau ailgylchu wedi’u gwahanu. Beirniadodd y
Cynghorydd Edwards yr Arweinydd ac aelod arweiniol am fethiant o ran
arweinyddiaeth a chyfeiriodd at y gorwariant costau parhaus yn deillio o
fethiannau yn y drefn newydd ar gyfer gwastraff.
- Rhoddodd
y Cynghorydd Bobby Feeley grynodeb o’i gyrfa fel Cynghorydd yn Sir
Ddinbych. O ran ei chefnogaeth o’r
bleidlais o ddiffyg hyder yn yr Arweinydd a’r Cabinet, adlewyrchodd ar
bryderon ehangach na’r problemau casglu gwastraff a oedd wedi bod yn
drychinebus, gan gyfeirio at ei hanfodlonrwydd gyda phrosesau gosod y
gyllideb a gosod treth y cyngor, effaith staff profiadol yn gadael eu
swyddi a’r swyddi hynny ddim yn cael eu llenwi, a blaenoriaethau
corfforaethol yn cael eu methu.
- Cadarnhaodd
y Cynghorydd Terry Mendies y byddai’n cefnogi’r bleidlais o ddiffyg hyder
nid yn unig oherwydd y problemau casglu gwastraff newydd ond hefyd
oherwydd y cynnydd yn nhreth y cyngor dros y 2 flynedd ddiwethaf a’r rhai
a oedd yn debygol o gael eu gosod yn y blynyddoedd i ddod, gweithrediad
Marchnad y Frenhines, toriadau i wasanaethau llyfrgelloedd, a cheisiadau
cynllunio ac ôl-groniadau gorfodi.
- Cyfeiriodd
y Cynghorydd Huw Williams at y broses adolygu craffu.
- Mynegodd
y Cynghorydd Pauline Edwards bryder ynglŷn â Chynghorwyr newydd eu
hethol yn cael eu hethol i’r Cabinet ac roedd yn teimlo nad oedd
safbwyntiau aelodau o’r meinciau cefn yn cael eu hystyried yn iawn gan y
Cabinet presennol a’i phryderon am allu’r cyngor i osod cyllideb gytbwys.
- Amlinellodd
y Cynghorydd Hugh Evans, cyn Arweinydd y Cyngor, rolau’r Cabinet, aelodau
arweiniol a swyddogion mewn prosiectau megis newidiadau i’r gwasanaeth
casglu gwastraff. Dywedodd fod gan Gyngor Sir Ddinbych wasanaethau,
swyddogion ac aelodau da, ond o ystyried yr anawsterau yr oedd y Cyngor yn
eu hwynebu, roedd mewn perygl o gael ei roi mewn mesurau arbennig yn y
dyfodol. Roedd y Cynghorydd Evans yn bryderus ynghylch y bobl ddiamddiffyn
yn y cymunedau a oedd yn dibynnu ar wasanaethau’r Cyngor. Holodd y
Cynghorydd Evans sut yr oedd arbedion o wasanaethau yn cael eu nodi a
dywedodd bod y cynllun corfforaethol mewn trafferth ac yn awr roedd angen
canolbwyntio ar feysydd darparu gwasanaeth allweddol y Cyngor.
Awgrymodd y Cynghorydd Evans i’r aelod arweiniol, y
Cynghorydd Mellor, y dylid galw cyfarfod grŵp tasg a gorffen aelodau ar
frys i lywio gweithrediad y newidiadau i’r gwasanaeth casglu gwastraff.
Er mwyn cyfleu dealltwriaeth o’r sefyllfa ariannol
anodd, holodd y Cynghorydd Evans a fyddai’r Cabinet yn gallu gweithredu gydag 8
aelod yn lle 9.
- Dywedodd
y Cynghorydd Justine Evans ei bod wedi cael ei hethol i gynrychioli
trigolion Y Rhyl a’i bod wedi dod yn fwyfwy anodd i amddiffyn
penderfyniadau a wnaed ac felly byddai’n cefnogi pleidlais o ddiffyg
hyder.
- Cyfeiriodd
y Cynghorydd Mark Young at ei gyfnod fel o’r Cabinet yn ystod y
weinyddiaeth ddiwethaf a mynegodd bryderon ynglŷn â’r gyllideb a’r
dyfodol ar gyfer gwasanaethau.
- Anogodd
y Cynghorydd Merfyn Parry yr aelodau i feddwl am beth fyddai eu pleidlais
yn ei olygu a gofynnodd am gael pleidlais wedi’i chofnodi yn dilyn y
drafodaeth, a chytunodd yr aelodau.
- Eglurodd
y Cynghorydd Julie Matthews bod y Cynllun Corfforaethol wedi cael ei
ddiwygio mewn ymgynghoriad ag aelodau mewn gweithdy i aelodau a chyda
Arweinwyr Grwpiau i adnabod y cyfyngiadau ariannol a rhyddhau capasiti
gwasanaeth. Cytunodd y Cynghorydd Matthews, aelod arweiniol y Cynllun
Corfforaethol, y gellir diwygio blaenoriaethau’r cynllun corfforaethol os
oedd yn briodol i wneud hynny. Yn fwy na dim, anogodd y Cynghorydd
Matthews yr aelodau i ddod at ei gilydd fel un Cyngor i weithio ar y cyd.
- Amlygodd
y Cynghorydd Chris Evans y sefyllfa groes i arferion busnes lle’r oedd y
Cyngor yn gorfod gwario £60,000 yn ychwanegol o arian y cyhoedd yr wythnos
i unioni problemau’r gwasanaeth casglu gwastraff newydd. Rhestrodd
wasanaethau cyhoeddus eraill a fyddai wedi gallu elwa o fuddsoddiad o’r
fath.
- Cyfeiriodd
y Cynghorydd Andrea Tomlin at y sefyllfa ym Mhrestatyn, a oedd wedi dioddef
o ganlyniad i gyfathrebu a phenderfyniadau gwael y Cabinet ac amharodrwydd
i ganiatáu i aelodau eraill ymgysylltu yn ystod ei hamser fel cynghorydd
yn cynnwys ar oriau agor llyfrgelloedd, taliadau parcio hwyr y nos a
dynodiadau 20mya. Dywedodd y Cynghorydd Tomlin bod y problemau mewn
perthynas â chasgliadau gwastraff wedi bod yn benodol ddifrifol ym
Mhrestatyn a heriodd grynodeb cynharach yr Arweinydd o berfformiad
presennol y gwasanaeth casglu gwastraff. Cyfeiriodd y Cynghorydd Tomlin
hefyd at ddirywiad yng ngweithrediadau gwasanaethau stryd a chadarnhaodd
ei chefnogaeth o’r cynnig i ddiswyddo’r Arweinydd a’r Cabinet.
Diolchodd y Cynghorydd Barry Mellor, aelod arweiniol yr
amgylchedd a chludiant, i’r Cynghorydd Hugh Evans am ei gyngor ac fe gadarnhaodd
y byddai’n ymchwilio i’r awgrym i sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen. Cyfaddefodd
fod cyflwyno’r gwasanaeth casglu gwastraff newydd wedi bod yn wallus a bod
angen camau pellach i sicrhau hyfywedd y gwasanaeth yn y tymor hir. Fodd
bynnag, roedd yn hyderus bod y gwasanaeth yn addasu i’r heriau a’i fod wedi
dysgu gwersi a gwybodaeth allweddol o’r cam gweithredu dechreuol. Roedd y
Cynghorydd Mellor yn hyderus y byddai’r llwybrau newydd yn llwyddiannus wedi
iddynt gael eu sefydlu ond nododd nad oedd unrhyw wasanaeth casglu gwastraff yn
gallu sicrhau gwasanaeth heb fethu unrhyw gasgliadau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mellor at rolau’r aelodau Cabinet
blaenorol o ran annog a dylunio’r system casglu gwastraff newydd.
Fel yr un a gyflwynodd y cynnig, rhoddodd y Cynghorydd
Huw Hilditch-Roberts grynodeb o bwrpas y cynnig a’r safiadau a wnaed ar
ddechrau'r cyfarfod gan rai o’r grwpiau gwleidyddol. Adroddodd y syniadau a
oedd wedi’u cynnig ar ddechrau’r broses gyflwyno a’i siom nad oedd y broses
gyflwyno wedi cael ei threialu fesul ardal yn lle’r sir gyfan. Eglurodd mai
pryder mawr o’r effaith ar wasanaethau eraill o ganlyniad i’r problemau casglu
oedd anallu trigolion i gysylltu â’r cyngor oherwydd bod y sianeli gwasanaeth i
gwsmeriaid wedi bod yn brysur oherwydd y miloedd ar filoedd o alwadau a gafwyd
gan drigolion am y casgliadau gwastraff a fethwyd.
Diolchodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor
i’r Cadeirydd am ei sgil a’i degwch wrth gadeirio trafodaeth bwysig. Rhoddodd
grynodeb o’r sefyllfa a oedd wedi cael ei thrafod am gamau yn y dyfodol ac
ymholiad craffu i’r drefn gyflwyno. Mynegodd ei syndod ynghylch sylwadau’r
aelod arweiniol gwastraff blaenorol, ynglŷn â dylanwad honedig Llywodraeth
Cymru wrth wthio’r system newydd ymlaen, oherwydd nid oedd wedi gweld cyfeiriad
at hyn yng nghofnodion y cyfarfodydd lle’r oedd yr aelod arweiniol blaenorol
wedi dangos ei gefnogaeth i’r system newydd.
Yn olaf, dywedodd y Cynghorydd McLean y byddai’n parhau i
fynd i’r afael â’r problemau ariannu a chaledi difrifol yr oedd y Cyngor yn eu
hwynebu, a fyddai’n galw am wneud penderfyniadau anodd a diolchodd i’r aelod
arweiniol cyllid a swyddogion cyllid y Cyngor am eu cyfraniadau at y gwaith
hwn.
CAFWYD PLEIDLAIS WEDI EI CHOFNODI - cafodd ei chynnig a’i
heilio gan y Cynghorwyr Merfyn Parry a Karen Edwards
O blaid y cynnig:
Y Cynghorwyr Ann Davies, Karen Edwards, Pauline Edwards,
James Elson, Chris Evans, Hugh Evans, Justine Evans, Bobby Feeley, Huw
Hilditch-Roberts, Hugh Irving, Brian Jones, Paul Keddie, Geraint
Lloyd-Williams, Terry Mendies, Merfyn Parry, Andrea Tomlin a Huw Williams
Yn erbyn y cynnig:
Y Cynghorwyr Michelle Blakeley-Walker, Joan Butterfield,
Ellie Chard, Kelly Clewett, Gwyneth Ellis, Jonathan Harland, Elen Heaton,
Martyn Hogg, Carol Holliday, Alan Hughes, Alan James, Delyth Jones, Diane King,
Julie Matthews, James May, Jason McLellan, Barry Mellor, Raj Metri, Arwel
Roberts, Gareth Sandilands, Rhys Thomas, Cheryl Williams, Elfed Williams, Eryl
Williams, ac Emrys Wynne
Ymatal: Y Cynghorwyr David G Williams, Mark Young a Peter
Scott
O BLAID – 17
YN ERBYN – 0
YMATAL – 3
PENDERFYNWYD nad yw’r Cyngor yn
cefnogi’r cynnig i ddiswyddo Arweinydd y Cyngor a’r Cabinet.
Dogfennau ategol: