Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF TRWYDDEDU 2003: ADNEWYDDU TRWYDDED BERSONOL

I ystyried adroddiad cyfrinachol sy’n gofyn am farn yr aelodau ynglŷn â Thrwydded Bersonol yn dilyn euogfarn am drosedd berthnasol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 (mae amlinelliad o’r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).

3.30 pm

 

Nodwch y trefniadau i’w cymryd gan yr Is-bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD cynnig na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Drwydded Bersonol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag -

 

(i)             addasrwydd Deiliad Trwydded Bersonol i barhau i fod â Thrwydded Bersonol yn dilyn euogfarn ym mis Mawrth 2024 am drosedd berthnasol o dan Atodiad 4 Deddf Trwyddedu 2003;

 

(ii)            y pwerau a roddir ar Awdurdodau Trwyddedu i ohirio (am hyd at 6 mis) neu ddiddymu Trwydded Bersonol pan mae unigolyn sydd â Thrwydded Bersonol wedi cael ei ganfod yn euog o “drosedd berthnasol”;

 

(iii)          cyfeiriwyd at hysbysiad ffurfiol Adran 132A a roddwyd, ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Ddeiliad y Drwydded Bersonol o fewn amserlen o 28 diwrnod;

 

(iv)          yr angen i ystyried yr achos gan ystyried Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor a Chanllawiau a gyhoeddwyd o dan Adran 182 Deddf Trwyddedu 2003 gydag unrhyw sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a

 

(v)           gwahoddwyd Deiliad y Drwydded Bersonol  i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.

 

Roedd Deiliad y Drwydded Bersonol yn bresennol i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded ac roedd un o’i weithwyr gydag o yr oedd wedi galw fel tyst.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr adroddiad a ffeithiau’r achos.

 

Dywedodd Deiliad y Drwydded Bersonol ei fod wedi cael ei gosbi am ei weithredoedd ac roedd yr euogfarn wedi cael effaith andwyol sylweddol ar redeg ei fusnes o ddydd i ddydd. Roedd wedi dweud wrth y Llys fod ganddo Drwydded Bersonol ac roedd y Llys wedi dweud y byddent yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu, a dyna pam na wnaeth o hynny’n uniongyrchol.  Fe eglurodd beth oedd y digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad, a’r amgylchiadau lliniarol a oedd eisoes wedi cael eu hystyried gan y Llys oedd wedi arwain at ddedfryd fyrrach.  Yn olaf, fe roddodd sicrwydd ei fod yn Ddeiliad Trwydded Bersonol cyfrifol, roedd ei fusnesau’n cael eu rhedeg yn dda heb unrhyw broblemau, a gofynnodd bod hynny’n cael ei ystyried wrth ddod i benderfyniad. Gan ymateb i gwestiynau, fe ymhelaethodd ar ei fusnes a gweithredu eiddo trwyddedig.

 

Gofynnodd yr Aelodau rhagor o gwestiynau am y digwyddiad, yr euogfarn ddilynol a’r rheswm y tu ôl i weithredoedd Deiliad y Drwydded Bersonol. Fe ymatebodd Deiliad y Drwydded Bersonol i’r cwestiynau hynny a galwodd ar ei dyst a gefnogodd ei fersiwn o o’r digwyddiadau mewn cysylltiad â’r diwrnod cyn y drosedd a’r amgylchiadau lliniarol a gyflwynwyd yn yr achos yma.   Dywedodd y tyst fod teledu cylch caeëdig a chofnodion diogelwch wedi cael eu cyflwyno fel tystiolaeth ac roedd y rhain wedi cael eu derbyn gan y Llys.   Pan ofynnwyd pam nad oedd o wedi gwneud sylwadau o fewn y 28 diwrnod a ganiateir o dan hysbysiad Adran 132A, fe eglurodd Deiliad y Drwydded Bersonol ei fod wedi cael rhybudd a chyngor y byddai’r mater yn mynd gerbron Pwyllgor i’w ystyried, a chadarnhaodd ei bresenoldeb i egluro’r sefyllfa. Fe ymddiheurodd nad oedd wedi llwyr ddeall y broses ac nad oedd wedi cyflwyno sylwadau ymlaen llaw.

 

O ran datganiad terfynol, gofynnodd Deiliad y Drwydded Bersonol i Aelodau ystyried ei gyflwyniad ac ystyried ei adolygiad o’r drwydded yn ffafriol. Fe dynnodd sylw at oblygiadau difrifol i’w fusnesau petai ei Drwydded Bersonol yn cael ei hadolygu ac fe ailadroddodd fod ei fusnesau trwyddedig yn cael eu rhedeg yn dda ac nad oedd yna unrhyw broblemau.

 

Ar y pwynt hwn (3.45pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben i bawb arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i ystyried yr achos mewn sesiwn breifat.

 

PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

PENDERFYNWYD cynnig na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r Drwydded Bersonol.

 

Fe gyfleodd y Cadeirydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti oedd yn bresennol ac amlinellodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol y camau nesaf, gan ychwanegu y byddai’r penderfyniad llawn a’r rhesymau manwl yn cael eu cyhoeddi yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith.

 

Dyma’r rhesymau’r dros y penderfyniad –

 

Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi ystyried sylwadau ar lafar a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn y rhaglen a’r pecyn adroddiadau.

 

Fe nododd yr Is-bwyllgor yr eglurhad a roddwyd am yr amgylchiadau a arweiniodd at yr euogfarn a bod yr eglurhad yma wedi cael ei gadarnhau gan dyst. Felly, rhoddodd yr Is-bwyllgor bwyslais ar dystiolaeth y tyst gan dderbyn yr eglurhad a roddwyd iddynt a ystyriwyd yn elfen lliniaru sylweddol o blaid Deiliad y Drosedd Bersonol.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor fod Deiliad y Drwydded Bersonol wedi rhoi gwybod i’r Llys o’i statws fel Deiliad Trwydded Bersonol fel y bo angen. Ni chawsant dystiolaeth yn groes i hyn felly roeddynt yn teimlo nad oedd ganddynt ddewis ond dod i’r casgliad yma gan ei fod yn dyst gonest a chredadwy.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn bryderus na ddywedodd Deiliad y Drwydded Bersonol wrth yr Awdurdod Trwyddedu am ei euogfarn. Mae Aelodau’r Is-bwyllgor yn disgwyl i ddeiliad y drwydded wybod beth yw eu cyfrifoldebau a’u cymryd nhw’n ddifrifol, serch hynny, er eu bod yn disgwyl iddo wybod y protocol cywir, roeddynt yn derbyn yr eglurhad bod y Llys wedi dweud wrtho y bydden nhw yn rhoi gwybod i’r Awdurdod Trwyddedu, ac felly nad oedd angen iddo fo wneud.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn credu bod yr eglurhad a roddwyd gan Ddeiliad Trwydded Eiddo o’i arést yn gwbl gyson â’r dystiolaeth a ddarparwyd. Serch hynny, nid oeddynt yn credu bod hyn wedi effeithio ar unrhyw beth ac ni effeithiodd ar eu penderfyniad cyffredinol.

 

O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn credu bod Deiliad y Drwydded Eiddo yn parhau’n addas i fod â Thrwydded Bersonol ac nad oedd hi’n gymesur i gymryd unrhyw weithred bellach mewn cysylltiad â’i drwydded.

 

Y CAMAU NESAF

 

Bydd copi o’r hysbysiad am y penderfyniad yn cael ei roi i Heddlu Gogledd Cymru gan yr Awdurdod Trwyddedu fel sy’n ofynnol gan S132A Deddf Trwyddedu 2003.

 

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cael gwahoddiad i roi sylwadau i’r Awdurdod Trwyddedu o fewn 14 diwrnod ynglŷn ag a ddylai’r drwydded gael ei gohirio neu ei diddymu, gan ystyried yr amcan o atal trosedd ac anrhefn.

 

Os bydd Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi eu sylwadau i’r Awdurdod Trwyddedu fel y disgrifir uchod o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad maen nhw’n derbyn yr hysbysiad, byddai’r Is-bwyllgor Trwyddedu yn cynnal cyfarfod arall i benderfynu ar addasrwydd Deiliad y Drwydded Eiddo i fod â Thrwydded Bersonol.

 

Os na fydd yr Awdurdod Trwyddedu yn derbyn sylwadau gan Heddlu Gogledd Cymru o fewn 14 diwrnod, fe fydd yn bwrw ymlaen i wneud penderfyniad terfynol ar sail y dystiolaeth o’i flaen.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 4.10pm.