Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO – ELLIS’S BAR, 42 - 44 WATER STREET, Y RHYL
Ystyried cais am
amrywio Trwydded Eiddo, a bresennol unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003 o
ran Ellis’s Bar, 42 - 44 Water Street, Y Rhyl (mae amlinelliad o'r cais a
phapurau cysylltiedig ynghlwm).
2.00 pm – 3.30 pm
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais i Amrywio’r Drwydded Eiddo fel yr
amlinellir yn y cais, gydag amodau ychwanegol.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â -
(i)
chais a dderbyniwyd gan Mr.
Leigh Wright a Mrs. Christine Wright i amrywio Trwydded Eiddo presennol drwy gael gwared
ar yr adeilad
yng nghefn yr eiddo i
greu gardd gwrw yn ei
le yn Ellis’s Bar, 42-44 Stryd
y Dŵr, Y Rhyl (Atodiad
A yr adroddiad) (cynllun wedi’i ddosbarthu yn y cyfarfod),
(ii)
roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi cynnig
dim cerddoriaeth yn yr ardd gwrw
ar ôl 11pm a theledu cylch caeëdig/staff
drws yn monitro’r
ardd gwrw ar ôl 11pm ynghyd
â gosod ail ddrws ar yr ardd
gwrw i atal
sŵn,
(iii) mae’r Drwydded
Eiddo presennol (Atodiad B yr adroddiad)
yn awdurdodi darpariaeth gweithgareddau trwyddedadwy rhwng 09.00 i 04.00 dydd Llun
– dydd Sul,
(iv) mae saith sylw
ysgrifenedig wedi’u derbyn gan “Unigolion
Eraill” mewn ymateb i’r rhybudd
cyhoeddus angenrheidiol, ac
maent yn ymwneud yn bennaf
ag aflonyddwch posibl yn sgil sŵn,
ymddygiad gwrthgymdeithasol,
a niwsans cyhoeddus (Atodiad C yr adroddiad),
ynghyd â lluniau y cyfeirir atynt mewn un sylw (Atodiad
D yr adroddiad),
(v) mae’r ymgeisydd
wedi ymgysylltu gyda Heddlu Gogledd
Cymru ac adain Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor cyn cyflwyno eu
cais ac mae’r ddau Awdurdod Cyfrifol
wedi cadarnhau nad oes ganddynt
unrhyw sylwadau na gwrthwynebiad yn ymwneud â’r
cais (Atodiad E yr adroddiad),
(vi) cynigiwyd proses gyfryngu i bob parti sy’n ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, ond ni fu modd
dod i unrhyw
gytundeb ffurfiol. Yn rhan o’r
broses gyfryngu, cynigiodd yr Ymgeisydd nifer
o addasiadau i’r cais, megis codi
sgriniau rhwystr a chau’r ardd gwrw
ar ôl 11pm. Fe gyflwynodd ei asiant
ddatganiad i’r “Unigolion Eraill” (Atodiad F yr adroddiad)
hefyd. Cafwyd un sylw arall gan “Unigolyn
Arall” yn cadarnhau nad oedd
yr addasiadau arfaethedig yn mynd i’r afael
â’u pryderon (Atodiad G yr adroddiad),
(vii) yr angen
i ystyried y Cais gan ystyried
Canllaw a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, ac
(viii)
yr opsiynau sydd ar gael i’r
Is-bwyllgor wrth benderfynu ar y cais.
Darparodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu grynodeb o’r adroddiad a ffeithiau’r achos.
Cafodd cynllun oedd yn cyd-fynd â’r
cais a gafodd ei adael allan
o’r adroddiad ei ddosbarthu yn
y cyfarfod.
CAIS YR YMGEISYDD
Roedd yr Ymgeisydd, Mr.
Leigh Wright yn bresennol i gefnogi’r cais
ac roedd yn cael ei gynrychioli
gan y Cwnsler Brett
Williamson, Linenhall Chambers, Caer. Roedd Rheolwr Bar yr Ymgeisydd hefyd yn bresennol fel
arsylwr.
Cyfeiriodd Mr. Williamson at yr Ymgeisydd
fel rhywun sydd wedi bod yn
berchennog busnes ers amser maith
sydd yn adnabyddus
yn lleol ac sydd ag enw da am redeg eiddo trwyddedig
yn Y Rhyl. Rhoddwyd eglurhad bod Ellis’s Bar
yn gweithredu fel clwb nos
ar hyn o bryd gydag oriau
trwyddedig tan 4.00am, ac roedd
adeilad yng nghefn yr eiddo
yn gweithredu fel Hidden hefyd tan 4.00am a fyddai’n parhau petai’r cais yn
aflwyddiannus. Serch hynny, roedd yr
Ymgeisydd yn dymuno trosi rhan
o gefn yr adeilad mewn i
ardd gwrw gan gael gwared
ar y to a gosod byrddau a chadeiriau gyda’r bwriad o’i
droi yn raddol
o glwb nos i far i deuluoedd
a phlant o ddydd i ddydd, a chynlluniau
at y dyfodol i greu cegin gyda’r
posibilrwydd o weini bwyd.
Roedd nifer o gonsesiynau wedi cael eu
cynnig yn rhan o’r broses gyfryngu ac mae’r ymatebion a roddwyd i’r materion/pryderon
a godwyd i’w gweld isod -
·
byddai’r ardd gwrw yn cau’n llwyr
am 11pm a byddai’r cwsmeriaid
yn cael cais
i adael
·
byddai cerddoriaeth cyn 11pm yn cael ei
reoli, byddai’r unedau sain presennol
ar gyfer defnydd mewnol yn cael eu
disodli gydag uned sain addas gan chwarae cerddoriaeth
yn y cefndir
·
roedd yna awgrym ar un adeg am gerddoriaeth
fyw er mwyn lliniaru’r sŵn o’r prif adeilad
ac y byddai set o ddrysau dwbl yn cael
eu gosod
·
rhoddwyd eglurhad bod y cyfeiriad
at beidio â chaniatáu ysmygu oherwydd y byddai’n fan cyhoeddus amgaeedig yn anghywir,
a byddai ysmygu yn cael ei
ganiatáu pan fyddai’r to’n cael ei
dynnu. Serch hynny, byddai’n
cael ei reoli’n
llym yn awtomatig
yn ôl rheoliadau
ar wahân sydd yn rheoli
ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn yr awyr
agored.
·
er mwyn mynd i’r afael
â phryderon preifatrwydd i eiddo preswyl,
gallai sgriniau gael eu codi
er mwyn lleihau’r hyn y gellri ei
weld drwy ffenestri’r llawr uwch
·
roedd eisoes yn ofyniad trwyddedu bod staff ar y drws o 10pm bob nos, felly fe fyddai
yna berson yn goruchwylio am yr awr olaf
yn yr eiddo
a byddent yn cael eu cefnogi
gan gamerâu teledu cylch caeëdig.
Dywedodd Mr. Williamson fod y cais
er mwyn ystyried amrywio Trwydded Eiddo presennol ac nid addasrwydd Deiliad y Drwydded Eiddo neu beidio. Cyfeiriodd at baragraffau 95 a 96
y canllaw statudol oedd yn nodi y dylai sylwadau yn erbyn cais
fod yn berthnasol
a gyda digon o resymau yn hytrach
nag yn annifyr neu i achosi niwsans
neu wneud sefyllfa yn waeth. Mae lle i ddeall bod yr
Heddlu yn delio â materion y tu allan i’r
achosion yma mewn cysylltiad â modd penodol yr
oedd sylw wedi cael ei
roi.
Yn olaf, diolchodd Mr.
Williamson i’r Is-bwyllgor
am y cyfle i gyflwyno’r achos ac roedd yr Ymgeisydd
yn croesawu’r cyfle i ateb
cwestiynau’r Aelodau.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i’r Ymgeisydd a bu iddo ymateb fel
a ganlyn -
·
y bwriad oedd newid model busnes yr eiddo
er mwyn symud i ffwrdd o thema
clwb nos, a chadarnhaodd bod y cynllun yn golygu cael
gwared ar y llawr dawnsio presennol,
gyda’r bwriad o ddarparu mwy o gerddoriaeth fyw a chwaraeon yn y blaen,
·
roedd y cynnig i greu gardd gwrw
yn golygu cael gwared ar
yr adeilad yng nghefn yr
eiddo a adeiladwyd
yn 2000 fel estyniad i ehangu’r
busnes ar y pryd; petai wedi
cael ei ddefnyddio
byddai wedi creu sŵn yn
y gorffennol,
·
roedd y cynlluniau’n cynnwys
cael gwared ar yr unedau
sain a fyddai’n cael eu symud
44 troedfedd ymhellach i ffwrdd, ac nid
oedd unrhyw gynigion am gerddoriaeth yn yr ardd
gwrw,
·
byddai’r model busnes newydd ar gyfer cwsmeriaid
gwahanol, a’r bwriad oedd cau’r
ardd gwrw am 11pm yn sgil diogelwch,
cost a thuedd am sŵn ar ôl yr
amser hwnnw. Nid oedd bod ar agor
tan 11pm yn creu’r lefel o sŵn gan gwsmeriaid yn hwyrach yn
y nos gan nad yw cwsmeriaid
cyn 11pm yn dueddol o fod yn
rhy swnllyd,
Fe eglurodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod y cynllun yn ffurfio
rhan o’r Drwydded Eiddo ac roedd y cynigion i newid gosodiad
yr eiddo yn sylweddol yn
golygu bod angen cymeradwyaeth. Nid oedd cynnig i
gynnal unrhyw weithgareddau trwyddedadwy yn yr ardd
gwrw.
SYLWADAU GAN AWDURDODAU CYFRIFOL
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru
ac adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor nad oedd ganddynt
unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau i’r cais (Atodiad
E yr adroddiad).
SYLWADAU GAN UNIGOLION ERAILL
Derbyniwyd saith o sylwadau ysgrifenedig
gan Unigolion Eraill (Atodiad C yr adroddiad) ac roeddynt yn ymwneud
yn bennaf â sŵn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans cyhoeddus.
Roedd dau o’r rhai a gyflwynodd sylwadau yn bresennol
- Ms. Jacqueline Mcsharry a Mr. Gareth Morris. Dywedodd Ms. Mcsharry ei bod hi hefyd yn siarad
ar ran eraill pan gyflwynodd hi ei sylwadau ysgrifenedig.
Rhoddodd Ms. Mcsharry fanylion dros ei gwrthwynebiad
i amrywio’r cais a chreu gardd
gwrw ar y sail y canlynol –
·
ymyriad ar ei phreifatrwydd hi a chymdogion agos gerllaw a fyddai’n edrych allan dros yr
ardd gwrw. Dim ond ar ôl gwrthwynebiad
yr oedd y cynnig i osod
sgriniau wedi’i grybwyll, ac nid oedd pryder ymlaen
llaw.
·
pryderon am sŵn, roedd yr ymateb ysgrifenedig
gan yr Ymgeisydd
yn cyfeirio at ddisgwyliad y byddai cwsmeriaid yn gorfod
gadael yr ardd gwrw erbyn
11pm, ond heddiw dywedodd y byddent yn gofyn iddynt
adael, ac nid oeddynt yn hyderus
y byddai hyn yn cael ei
fonitro,
·
llygredd mwg, cafwyd eglurhad y byddai ysmygu yn cael
ei ganiatáu yn yr ardd
gwrw ac roedd yna bryderon difrifol
ynglŷn ag effaith hynny ar breswylwyr
cyfagos, roedd nifer ohonynt yn
ddiamddiffyn i effeithiau mwg,
·
roedd sŵn wedi bod yn broblem gyson
dros 13 mlynedd a oedd yn
cael effaith ddifrifol ar breswylwyr,
a dim ond am gyfnod byr yr oedd
unrhyw seibiant yn dilyn cwyn
am sŵn,
·
rhagor o gwynion am sŵn cyffredinol o’r lleoliad, a’r oriau
a ganiateir i werthu alcohol o dan y Drwydded Eiddo bresennol,
·
nid oedd rhai preswylwyr yn ymwybodol
o’r cais tan fod y dyddiad cau
ar gyfer sylwadau wedi mynd
heibio, ac roeddynt wedi methu eu
cyfle i gyflwyno
gwrthwynebiadau,
·
pryderon am yr effaith ar les preswylwyr petai’r cais yn
cael ei gymeradwyo.
O ystyried hanes blaenorol, nid oedd gan
Ms. Mcsharry unrhyw hyder y byddai’r sŵn o’r ardd
gwrw yn cael
ei reoli, ac yn ogystal â’r
ymyriad ar ei phreifatrwydd, roedd sŵn gan gwsmeriaid, cerddoriaeth a llygredd mwg yn elfennau
nad oedd modd eu rheoli.
Gan ymateb i gwestiwn gan
Aelod, dywedodd Ms. Mcsharry er y byddai’r cynnig i osod
sgriniau yn helpu gyda’r ymyriad
ar ei phreifatrwydd,
roedd yna gymdogion eraill yn edrych drosodd,
felly byddai angen gosod sgriniau i bawb. Ni fyddai sgriniau yn lleihau
sŵn na mynd i’r afael
â llygredd mwg beth bynnag.
Ymatebodd yr Ymgeisydd a’i gynrychiolydd i rai o’r materion
wrth ymateb i gwestiynau’r
Aelodau a phryderon a godwyd fel a ganlyn
-
·
cadarnhawyd nad oedd bwriad i amrywio
oriau trwyddedu’r eiddo (9.00am – 4.00am) sydd ar agor rhwng
10pm – 3.30am ar hyn o bryd,
·
y gobaith yw y byddai creu
gardd gwrw yn cynorthwyo i
symud yn raddol o economi hwyr y nos i
fod yn dafarn
gydag oriau agor wrth symud
ymlaen a fyddai’n dibynnu ar lwyddiant
pontio i fasnachu yn ystod
y dydd,
·
er mwyn lliniaru’r pryderon sŵn byddai’r gerddoriaeth yn yr ardal honno
yn dod i
ben am 11pm yn hytrach na 4am a’r cynnig
oedd chwarae cerddoriaeth yn y cefndir,
·
byddai Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i
fonitro cwynion, ond gallai amod
yn ymwneud â lefelau sŵn gael ei ystyried
petai yna bryderon,
·
roedd yr adeilad cefn wedi bod ar
gau ers rhyw
6/7 wythnos yn sgil gostyngiad mewn masnach [gwrthododd
Ms Mcsharry y datganiad hwnnw, gan ddweud bod y man amgaeedig yn chwyddo’r
sŵn ac nid oedd wedi bod ar
gau gan fod
cerddoriaeth wedi bod yn uchel dros
yr ychydig benwythnosau diweddar].
Fe ymatebodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol i gwestiwn
gan Aelod gan ddweud nad
oedd ysmygu yn weithgaredd trwyddedadwy, ac felly nid oedd yn fater
i Aelodau ei ystyried wrth
ddod i benderfyniad. Fe ychwanegodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod deddfwriaeth
ysmygu yn cael ei orfodi
gan Safonau Masnach.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Yn ei ddatganiad terfynol, roedd Mr. Williamson yn cydnabod yr
emosiwn cryf gan breswylwyr cyfagos a dywedodd fod yr Ymgeisydd
yn deall y problemau, ac er nad oedd hi’n bosibl
mynd i’r afael â phob pryder,
roedd yn gobeithio lliniaru rhywfaint ar y pryderon gyda’r cynnig o sgriniau preifatrwydd, oriau diwygiedig a’r newid yn y modd
yr oedd y busnes yn gweithredu
a fyddai meddai o, o fudd i’r preswylwyr
agosaf na’r hyn oedd ar
waith ar hyn o bryd.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (2.45pm), daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i
ben i bawb arall, ac aeth yr Is-Bwyllgor Trwyddedu ati i
ystyried y cais mewn sesiwn breifat.
PENDERFYNIAD A’R RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais i Amrywio’r
Drwydded Eiddo fel yr amlinellir
yn y cais, gyda’r amodau ychwanegol
canlynol -
·
ni ellir cynnal adloniant wedi’i reoleiddio yn yr
ardal awyr agored y tu hwnt
i 11pm,
·
rhaid i staff drws SIA achrededig fod ar y safle yn
monitro’r ardal awyr agored tra’i
fod ar agor
i gwsmeriaid, a dylent gynorthwyo pan fo angen i
fonitro niwsans sŵn sy’n cael
ei achosi gan gwsmeriaid yn
yr ardal awyr agored,
·
mae’n rhaid i deledu cylch caeëdig
fod yn weithredol
yn yr ardal
awyr agored pan fydd ar agor
i gwsmeriaid,
·
rhaid i ail ddrws gael ei osod ym
mhwynt cyrraedd/gadael yr ardal
awyr agored fel y manylir yng
nghynllun arfaethedig yr ardal trwyddeddadwy
amrywiol.
Fe gyfleodd y Cadeirydd beth oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti oedd yn bresennol ac amlinellodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol yr amodau a
osodwyd, gan ychwanegu y byddai’r penderfyniad llawn a’r rhesymau manwl
yn cael eu
cyhoeddi yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith.
Dyma’r rhesymau’r dros y penderfyniad –
Bod yr Is-bwyllgor, ar ôl
ystyried sylwadau gan yr Ymgeisydd
a Ms Mcsharry, o’r farn bod yr
Amcan Trwyddedu, sef ‘atal niwsans
cyhoeddus’, wedi’i fodloni gan y cais
o ystyried mai’r prif bwrpas oedd
newid ardal trwyddedadwy dan do yn llwyr i un oedd
yn rhannol awyr agored a
oedd yn agos
at eiddo cyfagos.
Er bod yr Is-bwyllgor yn credu
bod yr amcan trwyddedu sef ‘atal niwsans cyhoeddus’
wedi’i fodloni, roeddynt o’r farn
y gallai peryglon o niwsans cyhoeddus oedd yn deillio
o niwsans sŵn gael ei liniaru
gyda’r amodau ychwanegol y manylir uchod.
Roedd yr Is-bwyllgor yn credu bod ychwanegu
amod yn atal
adloniant wedi’i reoleiddio rhag cael ei gynnal
yn yr ardal
awyr agored y tu hwnt i
11pm yn briodol i hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu, gan mai dyma fyddai’n
achosi’r risg mwyaf o niwsans sŵn o ystyried pa mor agos oedd eiddo’r
cymdogion. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn nad
oedd hi’n briodol i fynd
ymhellach na hyn oherwydd fe
ddylai Deiliaid y Drwydded Safle, gyda chymorth staff drws achrededig gyda’r SIA a gweithwyr eraill, allu rheoli’r
perygl o sŵn gan gwsmeriaid yn yr ardal
awyr agored.
Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y gofyniad am staff drws achrededig gyda’r SIA i fonitro’r ardal
awyr agored yn briodol ac yn
gymesur er mwyn hyrwyddo amcanion y drwydded.
Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod ail ddrws ym mhwynt
cyrraedd/gadael yr ardal awyr
agored fel y manylir yn y cynllun
arfaethedig yn briodol i liniaru’r
perygl o niwsans sŵn o’r unedau
sain rhag teithio i’r ardal
awyr agored, ac felly yn briodol i
hyrwyddo’r amcan trwyddedu, sef atal niwsans cyhoeddus.
Roedd rhaid i’r Is-bwyllgor fod â barn realistig am y defnydd arfaethedig o’r eiddo. Y dystiolaeth gerbron yr Is-bwyllgor oedd bod yr Ymgeisydd
yn bwriadu symud i ffwrdd
o leoliad hwyr y nos i eiddo
oedd ar agor
yn ystod oriau cynharach oedd yn dangos
chwaraeon a cherddoriaeth fyw, gyda’r bwriad
maes o law o sefydlu’r lleoliad fel bwyty.
Barn yr Aelodau oedd fod y defnydd
arfaethedig wedi lleihau’r tueddiad i achosi niwsans
cyhoeddus fyddai’n deillio o niwsans sŵn o’i gymharu
â defnydd presennol yr eiddo.
Fe soniodd yr Is-bwyllgor nad oedd yr
awdurdodau cyfrifol, yn benodol Iechyd yr Amgylchedd wedi
gwrthwynebu i’r cais, ac roedd hyn yn fater
roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi
pwyslais arno wrth ddod i
benderfyniad.
Er bod yr Is-bwyllgor yn bryderus
am y cwynion am sŵn, nid oedd tystiolaeth
o’u blaenau am gwynion i’r Awdurdod
Trwyddedu nac unrhyw weithred gorfodi ddilynol a gymerwyd gan unrhyw
awdurdod cyfrifol. Rhoddodd yr Is-bwyllgor bwyslais ar y ffactor
yma, ac yn absenoldeb tystiolaeth o’r fath, nid
oedd yn credu
ei bod hi’n briodol nac yn
gymesur i gymryd gweithred bellach i ffurfio
amodau ychwanegol.
Fe nododd yr Is-bwyllgor hefyd y pryderon am lygredd mwg eto
nad oedd yn fater iddyn
nhw gan nadd
yw ysmygu ei hun yn
weithgaredd trwyddedadwy. Roedd rheoliadau ynglŷn ag ysmygu mewn mannau cyhoeddus
wedi’u gorchuddio a’u gorfodi o dan fframwaith cyfreithiol ar wahân.
Mae’r Is-bwyllgor wedi nodi pryderon am faterion megis preifatrwydd cymdogion cyfagos petai cwsmeriaid o’r eiddo yn
gallu gweld i mewn i’w
heiddo o’r ardal awyr agored. Nid oedd hwn yn
fater oedd yn bodloni un o’r
pedwar amcan trwyddedu, ac felly, nid oedd gan yr
Is-bwyllgor y pŵer i ychwanegu amod
a fyddai’n golygu bod rhaid i’r Ymgeisydd
osod sgriniau amddiffynnol yn yr ardal awyr
agored gan mai ychydig iawn/dim
effaith ar sŵn fyddai hwn yn ei
gael, ac felly ni fyddai’n cynorthwyo i hyrwyddo’r amcanion
trwyddedu. Serch hynny, roedd Aelodau
yn annog yr Ymgeisydd i
gymryd camau rhesymol a chymesur megis y rhain tra’n
cynnal gweithgareddau trwyddedadwy yn yr ardal awyr
agored.
O dan yr amgylchiadau
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
y byddai’r amcanion trwyddedu, yn benodol
‘atal niwsans cyhoeddus’, yn cael ei gefnogi
wrth gymeradwyo’r cais yn amodol
ar yr amodau
ychwanegol a ddisgrifir uchod.
Dogfennau ategol: