Eitem ar yr agenda
CAIS AM DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – YMGEISYDD RHIF 577925
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau benderfynu ar gais am
drwydded cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925.
10.30 am – 11.30 am
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei
gymeradwyo yn amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r
math yma o gais yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon
gofynnol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
cais a dderbyniwyd am drwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Ymgeisydd Rhif 577925;
(ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r
cais at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos;
(iii)
roedd yr Ymgeisydd wedi cael euogfarn ym mis
Tachwedd 2011 am gynllwynio/cynhyrchu cyffur rheoledig canabis Dosbarth B,
ynghyd ag euogfarnau moduro a gafwyd rhwng Gorffennaf 2021 a Rhagfyr 2022 am
oryrru (mae ganddo chwe phwynt cosb dilys ar ei drwydded yrru DVLA ar hyn o
bryd);
(iv)
darparwyd gwybodaeth gefndir a
dogfennau cysylltiedig yn ymwneud â’r achos yn cynnwys manylion yr euogfarnau a
gafwyd ac eglurhad yr Ymgeisydd o’r digwyddiadau, datganiad personol a geirda o
ran cymeriad gan ei gyflogwr presennol;
(v)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a
(vi)
gwahoddwyd yr Ymgeisydd i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r cais ac i ateb cwestiynau’r Aelodau wedi hynny.
Roedd yr
ymgeisydd yn bresennol i gefnogi ei gais.
Cyflwynodd
y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS) yr adroddiad a ffeithiau’r achos.
Cyfeiriodd
yr Ymgeisydd at ei ddatganiad ysgrifenedig oedd yn rhan o’r adroddiad a
darllenodd ddatganiad ysgrifenedig a baratowyd ymlaen llaw i gefnogi ei gais.
Rhoddodd rywfaint o gyd-destun i’r euogfarnau a gafwyd, a’i amgylchiadau
personol yn cynnwys hanes ei yrfa hyd yma a’i rinweddau personol, gyda’r bwriad
o ddangos ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded.
Ymatebodd
yr Ymgeisydd i gwestiynau am ei gyflogaeth ar hyn o bryd, oedd hefyd yn ymwneud
â chludo teithwyr yn ogystal â gwaith gyrru arall a wnaed, y cymhelliad y tu ôl
i’w gais a manylion pellach am ei euogfarnau, mesurau lliniaru, adferiad ac
ymddygiad a chymeriad da wedi hynny.
Ymatebodd
y Swyddogion i gwestiynau hefyd, gan gadarnhau y byddai’r euogfarn a gafwyd ym
mis Tachwedd 2011 wedi’i disbyddu erbyn Tachwedd 2024. Os oedd yr aelodau o blaid caniatáu'r cais,
byddai’n amodol ar gwblhau’r prawf gwybodaeth a gwiriadau arferol yn foddhaol.
O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth
i’w ychwanegu.
Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –
PENDERFYNWYD
bod Ymgeisydd Rhif 577925 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded
Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn
amodol ar gwblhau’r holl wiriadau arferol sy’n gysylltiedig â’r math yma o gais
yn llwyddiannus, a chwblhau’r Prawf Gwybodaeth i’r safon ofynnol.
Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Ystyriodd y Pwyllgor bod yr Ymgeisydd wedi ei
gael yn euog am drosedd ddifrifol yn ymwneud â chyffuriau, a rhoddwyd cryn
bwysau i’r euogfarn honno gan mai nod cyffredinol yr awdurdod trwyddedu wrth
wneud ei waith yn ymwneud â thrwyddedu gyrwyr oedd gwarchod y cyhoedd. Ystyriodd hefyd bod hwn yn fater difrifol yn
unol â’u canllawiau polisi’n ymwneud â throseddau’n gysylltiedig â chyffuriau.
Ystyriodd yr aelodau’r canllawiau polisi oedd
yn nodi na ddylid rhoi trwydded am 10 mlynedd wedi i’r ddedfryd am drosedd yn
ymwneud â chyffuriau ddod i ben. Fodd bynnag, penderfynodd yr aelodau wyro oddi
wrth y canllawiau hyn oherwydd nad oes llawer o amser nes bydd y 10 mlynedd
wedi mynd heibio. Ystyriodd yr aelodau bod llawer o amser wedi mynd heibio ers
yr euogfarn a’r ddedfryd a bod yr Ymgeisydd wedi cymryd camau i’w adsefydlu ei
hun, a chawsant eu calonogi nad oedd wedi cyflawni troseddau tebyg ers hynny.
Cafodd yr aelodau eu calonogi hefyd bod yr
Ymgeisydd wedi cydymffurfio’n llawn â gofynion y gwasanaeth prawf a’i fod ers
hynny wedi gwneud swyddi oedd yn gofyn am ymddiriedaeth a chyfrifoldeb. Felly,
ystyrid nad oedd yr Ymgeisydd yn debygol o droseddu yn yr un ffordd eto a
rhoddwyd pwysau i’r ffactorau hyn wrth benderfynu bod yr Ymgeisydd yn unigolyn
cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio
Preifat.
Mynegodd y pwyllgor bryder am y troseddau
goryrru ar wahân a ddigwyddodd mewn cyfnod byr. Nododd yr aelodau eu bod yn
cael eu hystyried yn rhai llai difrifol efallai ond roedd y patrwm ymddygiad yn
peri pryder.
Er bod y Pwyllgor yn bryderus am y tair
trosedd goryrru a’r effaith fyddai hynny’n ei chael ar safon gyrru’r Ymgeisydd,
ystyriwyd y dystiolaeth a roddwyd yn y geirda gan gyflogwr presennol yr
Ymgeisydd, ac nad oedd unrhyw rybuddion am oryrru. Rhoddwyd cryn bwysau i’r
agwedd hon, er y rhoddwyd pwysau hefyd i’r geirda yn gyffredinol gan y pwyllgor
wrth benderfynu bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu at
Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.
Yn gyffredinol, ystyriodd y Pwyllgor bod
cymeriad yr Ymgeisydd a’r holl amgylchiadau yn ddigon i fod yn drech na’u
pryderon wrth benderfynu bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu
at Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.
Felly, cafodd penderfyniad a rhesymau’r
Pwyllgor eu cyfleu i’r Ymgeisydd.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.40 am.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./5 yn gyfyngedig