Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 507343
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Mercher, 11 Medi 2024 9.30 am (Item 6.)
- Gweld y cefndir i eitem 6.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a
Gwasanaethau Cefn Gwlad (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded
cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr rhif 507343.
9.45 am – 10.30 am
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD fod Gyrrwr
Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni
a Hurio Preifat a bod rhybudd ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r
euogfarnau yr oedd ganddynt.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y
Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad (a
ddosbarthwyd ymlaen llaw) ynglŷn â’r canlynol –
(i)
pa mor addas oedd Gyrrwr Rhif 507343 i feddu ar
drwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn euogfarnau a
gafwyd ym mis Gorffennaf 2024 am fod yn berchen ar gerbyd sy’n cael ei
ddefnyddio fel cerbyd hurio preifat heb drwydded a defnyddio cerbyd ar ffordd
neu mewn lle cyhoeddus heb yswiriant trydydd parti;
(ii)
penderfyniad swyddogion i atgyfeirio'r mater
at y Pwyllgor Trwyddedu i benderfynu arno oherwydd amgylchiadau penodol yr
achos;
(iii)
gwybodaeth gefndir a dogfennau
cysylltiedig a ddarparwyd yn cynnwys manylion crynodeb o’r achos a’r
ddirwy/pwyntiau cosb a gafwyd ynghyd â datganiadau ysgrifenedig gan y Gyrrwr yn
cynnwys datganiad ategol a geirdaon ar sail cymeriad;
(iv)
polisi’r Cyngor mewn perthynas â
pherthnasedd euogfarnau ac addasrwydd yr ymgeiswyr a thrwyddedau; a
(v)
gwahoddwyd y Gyrrwr i fynychu’r
cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’r drwydded ac i ateb cwestiynau’r aelodau wedi
hynny.
Roedd y Gyrrwr yn bresennol i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded.
Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu (NS)
yr adroddiad a ffeithiau’r achos.
O ran datganiad terfynol, cadarnhaodd y
Gyrrwr nad oedd ganddo unrhyw beth i’w ychwanegu.
Gohiriwyd
y Pwyllgor er mwyn ystyried y cais a –
PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 507343 yn unigolyn cymwys ac
addas i feddu ar Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Hurio Preifat a bod rhybudd
ysgrifenedig yn cael ei roi mewn cysylltiad â’r euogfarnau a gafodd.
Dyma
resymau’r Pwyllgor Trwyddedu dros y penderfyniad –
Roedd yr aelodau wedi ystyried y
dystiolaeth yn ofalus wrth wneud eu penderfyniad. Er nad oedd posib i’r
Pwyllgor ailedrych ar ddarganfyddiadau’r euogfarn, roedd yn bosib iddynt
ystyried yr amgylchiadau cyffredinol y tu ôl iddi wrth ystyried a oedd y Gyrrwr
yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded yrru a/neu unrhyw gamau
ffurfiol i’w cymryd.
Yn unol â chanllawiau polisi perthnasol
ac oherwydd bod diogelwch y cyhoedd yn ystyriaeth hollbwysig i awdurdod
trwyddedu o ran trwyddedau gyrwyr, roedd yr aelodau’n cymryd yr euogfarn o
ddifri gan ei bod yn ymwneud ag yswiriant cerbyd. Roedd yr aelodau’n hynod o
bryderus am y mater hwn, gan nodi bod y Gyrrwr wedi gwneud penderfyniadau gwael
iawn. Roeddent yn ystyried nad oedd ei ymddygiad yn cyrraedd y safon uchel oedd
yn ofynnol gan yrwyr trwyddedig.
Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr
aelodau wedi rhoi llawer o bwysau ar hanes blaenorol y Gyrrwr, oedd yn
rhagorol. Roedd yn galonogol bod y Gyrrwr wedi cydweithredu’n llawn â’r
Awdurdodau Trwyddedu oedd yn rhan o’r achos. Cawsant eu calonogi hefyd gan
gyfaddefiad llawn a didwyll y Gyrrwr i’r Swyddogion Trwyddedu a rhoddwyd pwysau
mawr ar hynny wrth wneud eu penderfyniad bod y Gyrrwr yn parhau yn unigolyn
cymwys ac addas i feddu ar drwydded.
Cafodd yr aelodau eu calonogi hefyd gan
y ffaith bod y Gyrrwr wedi cymryd camau ers yr euogfarn i sicrhau ail gerbyd
trwyddedig y gellid ei ddefnyddio pe bai’r Gyrrwr yn yr un sefyllfa eto. Roedd
yr aelodau’n fodlon â’r camau adferol a gymerwyd.
Wedi ystyried yr amgylchiadau i gyd, er
bod yr aelodau’n ystyried bod y Gyrrwr yn parhau yn unigolyn cymwys ac addas i
feddu ar drwydded, roeddent hefyd yn ystyried bod cam gweithredu ffurfiol sef
rhybudd ysgrifenedig yn briodol oherwydd bod yr euogfarn a gafwyd yn ymwneud ag
yswiriant. Byddai’r rhybudd ysgrifenedig yn parhau ar ffeil yr Awdurdod
Trwyddedu
Felly, cafodd penderfyniad a rhesymau’r Pwyllgor eu cyfleu i’r Gyrrwr.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./4 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./5 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./6 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./7 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./8 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./9 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./10 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./11 yn gyfyngedig