Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH RHEOLI ASEDAU 2024 – 2029
Ystyried
adroddiad gan Reolwr Asedau’r Cyngor (copi ynghlwm) sy’n cyflwyno’r Strategaeth
Rheoli Asedau ar gyfer 2024 – 2029 i’r pwyllgor ac yn ceisio sylwadau’r
Pwyllgor ar ei gynnwys.
11.20am – 11.50am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid,
Perfformiad ac Asedau Strategol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw), a
dywedodd fod yr adroddiad yn delio â’r cyfnod rhwng 2024-2029, ac nad oedd y
rhagolygon ariannol, o leiaf am ran gyntaf y cyfnod amser yma, yn galonogol ar
hyn o bryd. Fe bwysleisiodd pa mor
hanfodol fyddai’r strategaeth hon i’r Awdurdod Lleol i’w alluogi i wneud
penderfyniadau am ei asedau wrth symud ymlaen.
Fe nodwyd fod gan yr Awdurdod Lleol 669 o asedau ar 519 o safleoedd. Roedd hyn gyfystyr â nifer fawr o asedau i
gyflawni dyletswyddau statudol ohonynt, a byddai rhai o’r asedau yma’n darparu
cyfle i gynhyrchu symiau cyfalaf i’r Cyngor.
Byddai rheoli asedau’n wahanol, mabwysiadu agweddau gwahanol, a
chydweithio gyda phartneriaid i gyd yn galluogi’r Awdurdod i gael y budd mwyaf
o’i Bortffolio Asedau. Fe fyddai hefyd
yn sicrhau bod gan y Cyngor yr asedau cywir, yn y lle cywir ac yn y cyflwr
cywir i fodloni anghenion presennol a’r
rhai a ragwelir yn y dyfodol, sef egwyddor sylfaenol y Strategaeth.
Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau
Cymorth Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau wrth y Pwyllgor bod fersiwn ddrafft y Strategaeth (Atodiad 1
yr adroddiad) yn ddogfen hollbwysig a bod rheoli asedau yn ffurfio un o’r saith
piler o lywodraethu da ac felly roedd yn cael ei adolygu’n flynyddol. Diolchodd y Pennaeth Gwasanaeth i’r Rheolwr
Asedau a Chyfleusterau a Rheolwr Tîm Asedau am eu gwaith caled yn llunio’r
Strategaeth ddrafft.
Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:
·
Rhoddwyd eglurhad fod
Adran 7.2 y Strategaeth yn cyfeirio at leoedd dros ben y disgyblion o fewn
portffolio o asedau Addysg y Cyngor. Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor oedd
y cyfrwng a ddefnyddir i reoli proses moderneiddio ysgolion y Sir a rheoli
llefydd gwag. Roedd gwaith cynnal a
chadw parhaus mewn ysgolion yn ddibynnol ar gyllid drwy broses gosod y
gyllideb, ond fe eir i’r afael â gwaith cynnal a chadw ymatebol fel y bo angen
yn syth, er enghraifft pan ganfuwyd Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth
mewn ysgolion.
·
wedi cytuno i wneud
ymholiadau gyda’r Adran Addysg am y sefyllfa bresennol ynglŷn ag adeilad y
Cylch Meithrin yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl.
·
bydd penderfyniad yn
cael ei wneud yn rhan o’r broses o osod y gyllideb mewn cysylltiad â dyfodol
toiledau cyhoeddus.
·
o ran gwerth asedau
cyfredol, nid oedd hi’n beth doeth i fod yn benodol am werth asedau penodol
mewn adroddiad cyhoeddus. Roedd yna restr o asedau wedi’u datgan rhai dros ben,
ac roedd yr Awdurdod wrthi’n ceisio cael gwared arnynt. Nid oedd y rhestr yn
gynhwysfawr, ac roedd pob ased posibl i gael ei waredu wedi cael eu hadrodd i’r
Grŵp Rheoli Asedau a oedd ar agor i bob cynghorydd ei fynychu.
·
roedd gwasanaethau
unigol yn gyfrifol am reoli’r asedau hynny oedd o fewn eu meysydd gwasanaeth eu
hunain, h.y. roedd Gwasanaeth Cefn Gwlad yn gyfrifol am y safleoedd yr oeddynt
yn eu gweithredu ar draws y Sir. Gwasanaeth fyddai’n penderfynu sut roedd eu
cyllideb yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn y safleoedd hynny.
·
cytunwyd i gais y byddai
Aelodau yn cael gweld rhestr o asedau oedd yn berchen i’r Cyngor o fewn pob
Grŵp Ardal Aelodau.
Ar ddiwedd y drafodaeth drylwyr:
Penderfynwyd:
(i)
yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu gwybodaeth y
gofynnwyd amdani, argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo a mabwysiadu fersiwn
ddrafft Strategaeth Rheoli Asedau 2024/2029 (Atodiad 1 yr adroddiad);
(ii)
fel rhan o’i ystyriaeth, ei fod wedi darllen, deall
ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad); a
(iii)
bod rhestr o asedau sydd yn eiddo i’r Cyngor yn eu
hardaloedd yn cael eu dosbarthu i bob Grŵp Ardal yr Aelodau a bod y rhestr
yn nodi statws presennol yr ased a rhagolwg o’i statws yn y dyfodol, ynghyd ag
amcangyfrif o’i werth ar y farchnad.
Dogfennau ategol:
- Asset Management Strategy Report 120924, Eitem 7. PDF 375 KB
- Asset Management Strategy Report 120924 - App 1, Eitem 7. PDF 963 KB
- Asset Management Strategy Report 120924 - App 2, Eitem 7. PDF 94 KB