Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2023/24
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) sy’n crynhoi
gwaith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod 2023/24 ac yn ceisio sylwadau’r
Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed hyd yma wrth gyflawni ei amcanion.
10.40am – 11.10am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) a dywedodd
fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cael ei ffurfio i fodloni gofynion
Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. Roedd ystod eang o leisiau’n rhan o’r Bwrdd,
yn cynnwys gwasanaethau, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Prif swyddogaeth y
Bwrdd oedd sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn gweithio’n effeithiol ac
effeithlon gyda’i gilydd tra’n goruchwylio’r gwaith o ddefnyddio ffrydiau
ariannu allweddol. Tynnodd yr Aelod Arweiniol sylw at rai agweddau o’r
adroddiad, yn cynnwys Gweithdy Meddwl yn Radical a edrychodd ar egwyddorion
posibl ar gyfer newid trawsnewidiol ar gyfer lles preswylwyr gogledd Cymru.
Diolchodd y Pennaeth Cydweithio
Rhanbarthol i’r holl staff am eu hymdrechion yn darparu’r gwasanaethau yma a
dywedodd eu bod yn ymroddedig ac yn dalentog.
Tynnodd yr adroddiad sylw at faint y gwaith sydd wedi cael ei wneud i
sefydlu gweithdrefnau i alluogi darparu amcanion y Gydweithredfa. Fe nodwyd mai
un o’r prif egwyddorion o fewn y Gydweithredfa yw’r angen am newid a
datblygiad.
Gan ymateb i gwestiynau’r
aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion gynghori:
·
bod y risgiau sy’n cael
eu hamlinellu yn yr adroddiad yn cael eu hadnabod a’u cydnabod. Wrth i’r Byrddau Rhanbarthol ddatblygu dros
y blynyddoedd mae’r disgwyliad am ystod y gwaith a mentrau y mae’r Bwrdd yn eu
goruchwylio wedi cynyddu bob blwyddyn gan olygu bod y gwaith o reoli’r llwyth
gwaith ynddo’i hun yn dod yn risg.
Roedd hwn yn risg cenedlaethol, nid un rhanbarthol yn unig.
·
roedd y Bwrdd yn bodloni
ei holl ofynion a Dyletswyddau Statudol ar hyn o bryd, ond roedd pob partner yn
ymwybodol y gallai hyn fod yn her i’w gynnal yn y dyfodol, felly roedd hi’n
bwysig bod yr holl bartneriaid yn deall ble’r oedd y straeniau yma er mwyn
ystyried y darlun ehangach.
·
o ran gosod ffioedd
cartrefi gofal, roedd rhai awdurdodau wedi gwyro o’r cytundeb ffioedd gofal er
gwaetha’r ymdrechion i gyflwyno dull cyson. Yr Awdurdodau Lleol unigol a’r
Bwrdd Iechyd ddylai osod eu ffioedd gofal eu hunain. Tra bod y Bwrdd Gosod Ffioedd Rhanbarthol
(is-grŵp o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol) yn gweithio tuag at
egwyddorion a methodoleg i osod ffioedd gofal, nid oedd gan y Grŵp y
pwerau i osod y ffioedd, dim ond argymell lefel ‘gyffredin’ ar draws y
rhanbarth y gallai wneud. Nod y grŵp oedd sicrhau bod pob budd-ddeiliad yn
cydweithio i sefydlu perthnasoedd gwell gyda darparwyr. Yn y pendraw, nid
oeddynt wedi gwyro oddi wrth y cytundeb, gan fod y fethodoleg wedi cael ei
defnyddio.
·
bod Gwasanaethau
Dementia, y Llwybr Cymorth Cof yn benodol, wedi dechrau cynnig gwasanaethau yn
ddiweddar i helpu dioddefwyr a gofalwyr.
Roedd y digwyddiadau yma’n cynnwys siaradwyr gwadd ac amrywiaeth o
wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr gan ddefnyddio
cyllid rhanbarthol, ac roedd gweithwyr cefnogi Dementia yn mynychu’r
digwyddiadau yma. Un partner nodedig wrth gomisiynu a darparu cefnogaeth
gwasanaethau Dementia ac Alzheimer yn ardal Sir Ddinbych oedd Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych.
Er hynny, efallai bod newidiadau diweddar ym mhroses achrediad ‘Sy’n
deall Dementia’ wedi effeithio ar gymunedau penodol gan nad ydynt wedi gallu
cael eu hachrediad yn ôl.
·
Roedd cyllid Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol yn gymysgedd o gyllid Llywodraeth Cymru (LlC) a
chyllid gan ei bartneriaid craidd. Mae’r
Gronfa Integreiddio Ranbarthol (CIRh) yn
gronfa 5 mlynedd werth ychydig dros £57m, mae £29.7 yn cael ei ddarparu gan LlC
a £27.4m gan bartneriaid eraill. Amcan
y gronfa hon oedd cefnogi integreiddio a gwaith partneriaeth mewn cysylltiad â
grwpiau poblogaeth sydd â blaenoriaeth.
Gan ei bod hi’n gronfa ranbarthol, roedd hi’n anodd mesur yn union faint
o gyllid ar gyfer pob prosiect unigol sy’n weithredol yn Sir Ddinbych yr oedd
Cyngor Sir Ddinbych wedi’i gyfrannu i ddechrau.
·
roedd y Bwrdd Iechyd yn
Bartner Statudol ar y Bwrdd, ac fel pob partner statudol arall, roedd yn cymryd
ei gyfrifoldebau o ddifri’. Nid y Bwrdd
Iechyd yn unig oedd yn gwneud toriadau, roedd cyllidebau pob corff sector
cyhoeddus yn wynebu toriadau.
·
nid oeddynt yn ymwybodol
o unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i integreiddio Gwasanaethau Anableddau Dysgu
yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd yn ffurfiol; serch hynny nid oedd hyn yn eu
rhwystro rhag cydweithio.
Yn dilyn trafodaeth fanwl:
Penderfynwyd: yn amodol ar
y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani –
(i)
cadarnhau, yn rhan o ystyried Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ei fod wedi darllen, deall ac
ystyried y gwaith sydd angen ei wneud gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol; a
(ii)
chydnabod y cynnydd a wnaed yn ystod 2023/24 mewn
cysylltiad â’r meysydd gwaith sy’n cael eu datblygu drwy Fwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru.
12pm: Ar y pwynt
hwn, cymerodd y pwyllgor egwyl ac ailymgynnull am 12.10pm.
Dogfennau ategol:
- NWRPB Annual Report Cover Report 120924, Eitem 6. PDF 216 KB
- NWRPB Annual Report 120924 - App 1, Eitem 6. PDF 2 MB