Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER EBRILL 2023 - MAWRTH 2024

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) sy’n amlinellu gweithgarwch Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn ystod 2023/24 ac yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar ei berfformiad a’i amcanion ar gyfer y dyfodol.

 

10.10am – 10.40am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) ac eglurodd fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn gorff statudol, ac felly roedd yn rhaid iddo adrodd i’r Pwyllgor Craffu o leiaf unwaith y flwyddyn.  Mynegodd yr Aelod Arweiniol ei ddiolchgarwch i Reolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, am lunio’r adroddiad yn ogystal â rhoi gymaint o sylw i amcanion y Bartneriaeth. Croesawodd yr Aelod Arweiniol Prif Arolygydd David Cust o Heddlu Gogledd Cymru i’r cyfarfod. Dywedodd Pennaeth Gwasanaeth: Perfformiad, Digidol ac Asedau wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn adroddiad statudol, a phwysleisiodd bwysigrwydd y Bartneriaeth ynghyd ag arwyddocâd a manteision yr holl bartneriaid yn cydweithio.

Fe aeth Rheolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol drwy’r adroddiad yn gryno ac fe aeth ymlaen i egluro’r prif bwyntiau.  Tynnwyd sylw at dair blaenoriaeth tra’n trafod crynodeb o Berfformiad Gweithgaredd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol, ac fe nodwyd fod y blaenoriaethau yma’n amlweddog. Ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd perfformiad mewn cysylltiad â dau o’r blaenoriaethau yma’n dda, ac roedd un yn dderbyniol.  Fe nodwyd fod yna gynnydd mewn lladrata, ac roedd hyn yn wahanol i’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol, ond yn y pendraw, nid oedd yn waeth ond roedd yn parhau’n annerbyniol. 

Fe nodwyd fod gan Flaenoriaeth 1 - Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn yr ardal drwy weithio mewn Partneriaeth, nod statudol a fyddai’n fwy effeithiol heb bartneriaid yn dyblygu eu hymdrechion.  Prif ffocws yr amcan yma oedd cefnogi pobl ddiamddiffyn a lleihau nifer y dioddefwyr o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Blaenoriaeth 2 - cydweithio i leihau aildroseddu. Roedd perfformiad yn erbyn y flaenoriaeth hon yn ystod 2023/24 wedi cael ei asesu yn ‘Dderbyniol’ o’i gymharu â bod yn ‘Dda’ yn y flwyddyn flaenorol. Prif amcanion y flaenoriaeth hon oedd gweithio i atal plant a phobl ifanc rhag dod yn ddioddefwyr trosedd, atal oedolion rhag aildroseddu a chydweithio i atal troseddu cyfundrefnol. Mae gwaith wedi cael ei wneud gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) yn ogystal â Gwasanaethau Iechyd Meddwl gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn cysylltiad ag atal yn y maes hwn. Mae gwaith dadansoddol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â throsedd â chyllyll mewn ymgais i leihau digwyddiadau o’r fath. Roeddynt wedi edrych ar fannau problemus gan olygu y byddai’r Bartneriaeth yn gallu targedu’r ardaloedd yma’n fwy effeithiol yn y dyfodol.

Blaenoriaeth 3 - Blaenoriaethau lleol a rhanbarthol.   Parhaodd perfformiad yn erbyn y flaenoriaeth hon i fod yn dda.  Gan ddefnyddio mannau problemus, roedd modd i’r Bartneriaeth wneud newid cadarnhaol gyda ffocws ar atal a pheidio â throseddoli pobl ifanc. Roedd llawer o gydweithio yn digwydd rŵan mewn cysylltiad â rhannu gwybodaeth gyda phob partner mewn cysylltiad â gweithgarwch Llinellau Sirol.  Roedd grŵp rhannu gwybodaeth wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar ac mae’n cyfarfod bob mis.  Dywedodd y Prif Arolygydd David Cust wrth y Pwyllgor fod y Grŵp yma’n allweddol i gefnogi gwaith partneriaeth effeithiol.  Yn flaenorol, bu partneriaid yn gyndyn o rannu gwybodaeth mor breifat ond roedd hi’n amlwg bellach bod rhannu gwybodaeth yn arwain at nifer o fanteision i’r cymunedau. 

Fe aeth y Rheolwr PDC ymlaen i drafod y blaenoriaethau a ffocws ar gyfer blwyddyn 2024/25, gan fanylu ar berfformiad a phrosiect/gweithgarwch. Tra’n trafod y nod o leihau trosedd ac anrhefn, fe soniwyd am fenter “Dangos y Drws i Drosedd” oherwydd y ffordd y cafodd ei weithredu. Roedd y fenter yn cynnwys annog pobl i gofrestru i “Adrodd Cymunedol”, ac i fod yn fwy ymwybodol o ble’r oedden nhw’n rhoi eitemau gwerthfawr yn eu cartrefi a lle’r oedd manwerthwyr yn arddangos nwyddau â gwerth uchel, e.e. yn bell o ddrysau. Roedd y gwaith wedi cael effeithiau cadarnhaol amlwg a dywedwyd mai’r nod oedd cynnal y lefel yma o ryngweithio gyda’r cymunedau.

Roedd digwyddiadau’n cael eu trefnu gan PDC drwy gydol y flwyddyn er mwyn cynnal ymgysylltiad ac roeddynt yn cael eu hysbysebu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol.  Yn ychwanegol, roedd digwyddiadau penodol yn y gymuned yn cael eu cynnal oedd yn canolbwyntio ar faterion megis caethwasiaeth fodern, gwrth-derfysgaeth, Diwrnod Rhuban Gwyn i godi ymwybyddiaeth am Gam-drin Domestig a’u hysbysebu’n eang.  Roedd cyngor am atal trosedd hefyd yn cael ei gynnig i gyfrannu at yr ymgyrchoedd yma a’u cefnogi. Fe nodwyd ei bod hi wedi bod yn flwyddyn brysur heb gyllid ychwanegol ar gael i gefnogi’r digwyddiadau yma, ond roedd y Bartneriaeth yn cydweithio i ddarparu’r digwyddiadau yma beth bynnag.

Tra bod digwyddiadau o aildroseddu ymysg oedolion wedi cynyddu rhywfaint yn Sir Ddinbych, roedd yna gynnydd nodedig yng Nghonwy, roedd gwaith yn mynd rhagddo i geisio mynd i’r afael â’r duedd hon. Dywedodd Rheolwr PDC bod gwaith wedi cael ei gynnal ar yr ochr atal aildroseddu drwy ymdrechion gyda Bwrdd Rheoli Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  Gwelwyd newid sylweddol dros y 12 mis diwethaf ac roedd y gwaith yn dechrau talu ar ei ganfed.  Y prif nod oedd helpu Rheolwyr Cyfiawnder Ieuenctid a phobl ifanc i atal ieuenctid rhag troseddu.  Roedd y cydweithio yma wedi gweithio’n dda ond roedd wedi dechrau gweithio’n fwy effeithiol yn ystod y 12 mis diwethaf. Dywedodd Rheolwr PDC bod Fforwm y Rhyl wedi parhau i weithio’n ddiwyd i geisio newid camwybodaeth a mynd i’r afael â chamdybiaethau am Y Rhyl. Roedd hyn yn brosiect parhaus yn Y Rhyl.

Dywedodd y Prif Arolygydd wrth y Pwyllgor bod prosiect Hel, Dal, Cryfhau yn fenter sy’n cael ei gefnogi gan y Swyddfa Gartref i wella’r amgylchedd lleol a lleihau lefelau trosedd o ganlyniad i hynny.  O ganlyniad i’r prosiect yma mae llawer o adnoddau bellach yng ngorllewin y Rhyl sydd yn cynnwys rhaglenni amrywiol i gefnogi preswylwyr i adeiladu eu gweledigaeth o’r gymuned roeddynt yn byw ynddi, cefnogi negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer digwyddiadau cymunedol a mesurau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng ngorllewin Y Rhyl a lleihau gwybodaeth ffug. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i leihau lefelau trosedd yn rhan o strategaeth Dyletswydd Trais Difrifol.  Roedd y Swyddfa Gartref yn cefnogi prosiectau penodol oedd yn anelu at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau â chyllyll - roedd hyn yn cael ei ystyried yn gam mawr ymlaen.

Roedd effaith cam-drin domestig yn dechrau cael ei ddysgu mewn ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion ifanc am yr ymddygiad yma.  Roedd menter “Peidiwch â Dwyn Fy Nyfodol” wedi cael ei gyflwyno ac roedd yr oedran i godi ymwybyddiaeth ohono wedi cael ei ostwng a’i addasu i ddisgyblion Blwyddyn 6.  Nod y rhaglen oedd gadael i’r plant wybod bod cefnogaeth ar gael petaent ei angen os oeddynt yn dioddef unrhyw ffurf o gam-drin domestig.  Roedd hyfforddiant arbenigol wedi cael ei roi i’r rhai oedd yn cyflwyno’r rhaglen hon i blant a phobl ifanc i’w helpu a’u cefnogi i gael y sgyrsiau anodd hynny, ac mewn ymgais i’w helpu i adnabod ymddygiad annerbyniol tuag at bobl eraill, megis y rhai sy’n cael eu cefnogi gan rai ‘dylanwadwyr’ ar gyfryngau cymdeithasol.   Roedd cyllid wedi cael ei sicrhau gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gefnogi’r fenter hon.   Roedd hyn yn golygu y byddai swyddogion yn ymweld â phob ysgol yn y sir er mwyn codi ymwybyddiaeth.  Trafodwyd mentrau ysgol eraill trwy gydol y cyfarfod. 

Yna fe agorwyd y drafodaeth ar gyfer unrhyw gwestiynau.  Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·       ddweud bod llawer o wasanaethau yn ymwneud â mentrau gwaith partneriaeth amrywiol, e.e. Trwyddedu, Safonau Masnach, Gwasanaethau Plant ac Ieuenctid, Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwasanaeth Prawf, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), yr Heddlu, timau rhanbarthol Cam-drin Domestig ac ati.   Roedd yr holl waith a wnaed yn drawsbynciol ac yn cynnwys bron i bob adran yn yr awdurdod. Roedd hyn yn sicrhau dull aml asiantaeth ac amlweddog tuag at ddarparu diogelwch cymunedol.

·       o ran gweithgareddau troseddol megis Llinellau Sirol yng ngogledd Cymru, dywedodd y Prif Arolygwr bod yna Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol yn gweithredu mewn trefi mwy. Dywedwyd fod meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau yn broblem fawr ar draws y Sir.  Roedd hyn yn golygu bod troseddwyr Llinellau Sirol yn sefydlu eu hunain yng nghartrefi pobl ddiamddiffyn ac yn defnyddio’r cartrefi yma fel ‘pencadlys’ i ddelio cyffuriau. Gyda’r bwriad o atal arferion o’r fath, bu modd i bobl ddiamddiffyn roi goriadau sbâr i’r eiddo i Swyddogion yr Heddlu, ac maen nhw’n mynd i’r eiddo i gadw golwg ar yr unigolion yma. Roedd tua 200 o wiriadau gwarcheidwad yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar hyn o bryd.  Mae gweithgareddau Llinellau Sirol wedi cael eu canfod yn ystod yr ymweliadau yma.  Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu briffio am y gweithdrefnau yma hefyd fel bod y Bartneriaeth gyfan yn ymwybodol ac yn gallu mynd i’r afael â’r digwyddiadau troseddol yma.

·       o ran gweithgarwch troseddol yn Y Rhyl, megis tyfu canabis yn yr ardal, a’r ffaith bod un grŵp wedi llwyddo i dyfu llawer o ganabis heb i neb sylwi, a sut roedd y Bartneriaeth yn mynd i’r afael â hyn, dywedodd y Prif Arolygydd bod rhannu gwybodaeth yn allweddol i ddal a chael gwared ar weithgareddau o’r fath. Fe gyfeiriodd at bartneriaeth rhannu gwybodaeth yr oedd gan yr Heddlu gyda chyflenwyr trydan yn ogystal â defnyddio dronau er mwyn ceisio canfod eiddo gwag oedd yn cael eu gwerthu i grwpiau troseddu cyfundrefnol. Fe nodwyd fod Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol yn defnyddio arferion soffistigedig ac effeithiol ac roeddynt yn dda iawn am beidio â thynnu sylw gan ddefnyddio gosodwyr carbon ar fentiau a manteisio ar bobl ddiamddiffyn i atal pobl rhag gweld pobl yn dod i mewn ac allan o’u heiddo.  

·       cawsant wybod bod yr ardaloedd plismona ar draws ffin sir Conwy a Sir Ddinbych ac felly roedd cudd wybodaeth a gwybodaeth leol oedd yn cael ei gasglu yng ngorllewin y Rhyl yn ogystal ag ym Mhensarn, Towyn a Bae Cinmel yn cael ei rannu’n rheolaidd gyda sefydliadau partner. Roedd yna bryder am dwristiaid yn yr ardaloedd yma ac a oedd pobl yn symud rhwng y Rhyl a Chonwy i werthu cyffuriau yn cael eu hymchwilio bob amser fel yr oedd adroddiadau o ddefnydd diawdurdod neu anghyfreithlon o safleoedd carafán ac ardaloedd twristaidd. Digwyddodd mathau tebyg o waith ymgysylltu â’r gymuned i’r hyn sy’n digwydd yng ngorllewin y Rhyl ar hyd y ffin a Chonwy hefyd, yn ogystal â swyddogion yn mynd mewn i’r meysydd carafán yma i dargedu ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

·       nid oedd effaith y cynllun a gyflwynwyd yn ddiweddar i ryddhau carcharorion o’r carchar yn fuan yn hysbys eto.   Serch hynny, bydd PDC yn monitro effaith y cynllun rhyddhau yn gynnar drwy aelod y Gwasanaeth Prawf ar y PDC, a bydd yn codi unrhyw faterion a godwyd ganddynt yng nghyfarfod Uwch Arweinwyr Diogelwch Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych sy’n cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Llywodraethu a Busnes.

·       o ran cymharu ystadegau trosedd rhwng 1998 pan sefydlwyd PCD, a 2024, cafodd yr aelodau wybod bod rhifau trosedd wedi lleihau’n ddramatig ond eu bod wedi newid.   Roedd ‘mathau newydd o drosedd’ megis Llinellau Sirol, troseddau ar-lein megis twyll a throsedd casineb wedi dod i’r amlwg ac roeddynt yn cynyddu.  Roedd cymharu ystadegau o dros 25 mlynedd yn ôl yn anodd gan fod pethau arferai fod yn dderbyniol, e.e. mathau o drais domestig, ddim yn dderbyniol rŵan, ac mae hyn yn egluro’r newid mewn cyfraddau trosedd gwahanol.

·       ar ôl cael cyllid Ffyniant Bro roedd system TCC newydd wedi cael ei osod yn Ninbych ac roedd yr holl gamerâu mewn trefi eraill oedd eisoes â TCC naill ai’n newydd sbon neu’n llai na tair blwydd oed, gan olygu y gallai’r camerâu ddarparu lluniau gwell a galluogi'r PCD i wneud mwy. Yr Aelod Arweiniol oedd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth TCC oedd yn cynnwys Cynghorau Tref Y Rhyl, Prestatyn, Rhuddlan a rŵan Dinbych.  Roedd y Bwrdd yn cynnal cyfarfodydd bob deufis pan mae’r Cynghorwyr yn adrodd yn ôl i’w Cyngor Tref.  Yn ystod y chwarter rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cael lluniau o’r camerâu hynny ar 59 achlysur.  Er bod y camerâu yn dal i gael eu monitro yng Nghaer, roedd y contract monitro TCC fod i gael ei adolygu.   Fe allai’r adolygiad yma olygu bod y contract newydd yn amodi y byddai unrhyw ddarparwr yn y dyfodol yn gallu monitro systemau cyffredin rhwng Sir Ddinbych a Chonwy a byddai hyn y cefnogi Heddlu Gogledd Cymru i gael mynediad haws a chynt at y lluniau sydd ei angen arnynt a byddai’n cryfhau’r Bartneriaeth. 

·       cafwyd cadarnhad fod y Ganolfan Ieuenctid newydd ar bromenâd y Rhyl wedi cael effaith cadarnhaol ar leihau trosedd ieuenctid yn yr ardal. Roedd yn lleoliad defnyddiol iawn i alluogi swyddogion i ymgysylltu a chyfathrebu gyda phobl ifanc mewn amgylchedd ymlaciol, llai ffurfiol.   Roedd yn lle diogel i ieuenctid. Dywedodd y Prif Arolygydd bod y ganolfan wedi cael effaith fawr ar ymestyn gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid a oedd bellach yn cael ei ymestyn i Brestatyn.  Gyda chyfleusterau megis y Ganolfan Ieuenctid, roedd modd i Swyddogion yr Heddlu fynd i mewn a thrafod gydag unigolion i ganfod beth yr oeddynt ei angen, a pha welliannau oedd eu hangen ac ati.

·       cadarnhawyd fod y system cardiau melyn dal i fod ar waith ar gyfer digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ieuenctid.  Cafodd ei ddefnyddio fel adnodd atal a rhybudd y byddai ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn arwain at gofnod troseddol.

·       cawsant wybod bod cyfraddau trosedd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â dwyn nwyddau amaethyddol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad o dan yr ystadegau ar gyfer lladrad cyffredinol.  Fe soniwyd am fenter “Dangos y Drws i Drosedd” ac roedd hwn yn mynd i’r afael â throsedd gwledig drwy roi pecynnau ‘SmartWater’ i ffermwyr mewn ardaloedd gwledig, ac roedd hyn yn galluogi iddynt farcio eu nwyddau gyda marciau atal melyn fflwroleuol a ddylai wneud eu hoffer yn llai deniadol i ddarpar ladron gan y byddai’n bosibl olrhain darn o offer i’w berchennog gwreiddiol. Roedd yna Uned Troseddau Gwledig bwrpasol yn Heddlu Gogledd Cymru sydd yn trafod â ffermwyr a phreswylwyr yn rheolaidd mewn cymunedau gwledig. O ran defnyddio dronau i batrolio ardaloedd gwledig, cafodd y Pwyllgor wybod bod rheoliadau llym ar waith o ran defnyddio dronau er mwyn amddiffyn preifatrwydd unigolion, felly dim ond o dan ganllawiau llym y gellir hedfan a defnyddio dronau ac at ddibenion penodol yn unig.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Aelod Arweiniol, Rheolwr PDC a’r Prif Arolygydd am y cyflwyniad yn ogystal â’r holl waith caled a brwdfrydedd yr oeddynt wedi’i ddangos tuag at eu gwaith a chadw preswylwyr a chymunedau yn ddiogel.   Dywedodd y Cadeirydd efallai yr hoffai aelodau wahodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gyfarfod yn y dyfodol i drafod ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol.  Gan fod y Prif Gwnstabl fod i fynychu sesiwn Gweithdy’r Cyngor yn y dyfodol agos, fe awgrymwyd bod cais i wahodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i gyfarfod yn y dyfodol yn cael ei ohirio tan ar ôl ymweliad y Prif Gwnstabl â’r Awdurdod.   Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:

 

Benderfynu: yn amodol ar y sylwadau uchod –

(i)             derbyn adroddiad Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych ar ei weithgareddau yn ystod 2023/24;

(ii)            llongyfarch y Bartneriaeth am ei pherfformiad yn ystod 2023/24 a chefnogi ei amcanion a meysydd blaenoriaeth ar gyfer 2024/25 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: