Eitem ar yr agenda
CANOLFAN GOMISIYNU LLEOL AR GYFER LLEOLIADAU COST UCHEL, NIFER ISEL
Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd, ac yn
gofyn am sylwadau’r Aelodau, ar ddatblygu Canolfan Gomisiynu Ranbarthol ar
gyfer lleoliadau cartrefi gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg.
10.40 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru, a oedd
yn rhoi gwybodaeth ynghylch gweithrediad Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru,
wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles yr adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar ddatblygiad a gweithrediad Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru
(NWCH) ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol, a gofal iechyd ac addysg
gartref. Roedd trosolwg wedi’i gynnwys
fel Atodiad 1 i’r adroddiad.
Esboniodd Rheolwr
Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru (NWCHM) bod y NWCH yn brosiect cydweithredol rhwng
6 Cyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd PBC, a oedd wedi’i sefydlu ar sail Achos
Busnes Llawn. Roedd y NWCH yn cwmpasu gwasanaethau plant ac oedolion, mewn
partneriaeth gyda’r GIG, ac yn cael ei arwain gan Sir Ddinbych. Roedd yn atebol
i Fwrdd Rheoli a gadeiriwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a
Lles.
Rhoddodd y NWCHM grynodeb
o bedair prif swyddogaeth y NWCH sef:-
· Sicrhau gwerth am arian
gyda lleoliadau cost uchel sydd eisoes ar fod.
· Chwilio am leoliadau
newydd trwy broses dryloyw a sicrhau gwerth am arian.
· Monitro ansawdd
gwasanaethau.
· Gweithio gyda
phartneriaid i ddatblygu’r farchnad mewn ymgais i sicrhau bod gwasanaethau yn
gallu cyflenwi’r galwad sydd ar hyn o bryd ac unrhyw alwadau i’r dyfodol.
Roedd y NWCH wedi
datblygu systemau a phrosesau sylfaenol i’w galluogi i weithio’n effeithiol.
Roedd amser wedi’i dreulio ar gyfarfod timau gweithredol yr holl bartneriaid i
sicrhau bod rôl y NWCH yn cael ei ddeall a bod newidiadau mewnol yn digwydd i
sicrhau hynny. Roedd copi o’r rhaglen waith wedi’i gynnwys fel Atodiad 2 i’r
adroddiad.
Roedd arbedion ariannol
blynyddol o £298,000 wedi’u gwneud a oedd yn cynnwys arbediad o £20,000 i Sir
Ddinbych, ynghyd ag osgoi costau o £27,000 ar draws y rhanbarth. Ymhellach,
cafwyd arbediad blynyddol £209,000 yn codi o drafodaethau ynghylch lleoliadau
gofal cartref Anabledd Dysgu. Cadarnhawyd mai £12,615 oedd cyfraniad y Cyngor at gost cynnal blynyddol
NWCH.
Hysbyswyd aelodau bod y
NWCH wedi chwilio am 51 lleoliad rhwng Awst a Thachwedd 2012. Roedd gwaith pellach ar y gweill gan gynnwys
datblygu Fframwaith Darparwyr Cymeradwy rhanbarthol i leoliadau preswyl plant,
a fframwaith monitro ansawdd i wasanaethau oedolion. Yn dilyn datblygiad y Fframwaith, roedd gan y
Swyddog Monitro Ansawdd nawr raglen o ymweliadau i’w cynnal ar ran Sir
Ddinbych.
Cadarnhaodd y NWCHM bod y
NWCH wedi cyfrannu at wireddu Blaenoriaethau Corfforaethol Sir Ddinbych a
byddai’n helpu i sicrhau bod y Cyngor yn sicrhau gwasanaethau o ansawdd da a gwerth am arian. Roedd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor
yn rhagweld bod modd sicrhau arbedion ariannol o £25k eleni a £100k yn y
flwyddyn nesaf. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch y ffaith nad oedd y matrics
risg a baratowyd i’r Bwrdd Rheoli wedi’i gymeradwyo, esboniwyd bod y matrics
risg yn gysylltiedig gyda’r achos busnes llawn a chadarnhawyd nad oedd unrhyw
risgiau mawr ac mai mater o fân newidiadau yn unig ydoedd.
Bu ymgynghoriad gyda’r
holl bartneriaid ar y Busnes Achos Llawn ac roedd y NWCH ar hyn o bryd yn dechrau
ymgynghori gyda Darparwyr ar ddatblygiadau arfaethedig. Cytunodd Aelodau y dylai’r Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn achlysurol fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y Ganolfan o
ran comisiynu gwasanaethau o ansawdd a sicrhau gwerth am arian.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan y Cynghorydd P.M. Jones, cadarnhaodd y NWCHM bod 30 o ddarparwyr
ar hyn o bryd, a 9 ohonynt yng Ngogledd Cymru, a ddefnyddiwyd ar gyfer
lleoliadau plant. Esboniodd bod plant
wedi’u lleoli mewn ardaloedd cyfagos i Ogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr a
mannau eraill yn y DU. Fodd bynnag, roedd nifer y lleoliadau wedi gostwng yn
sylweddol yn ystod y 2-3 mlynedd diwethaf. Rhoddodd swyddogion amcangyfrif o
gostau sy’n gysylltiedig â’r math hwn o leoliadau ac anghenion a gofynion y defnyddwyr
gwasanaeth. Esboniwyd bod cysylltiadau yn cael eu datblygu gyda chyrff
comisiynu eraill i gynorthwyo gyda’r nod o sicrhau y gwerth am arian gorau.
Ymatebodd y NWCHM i
faterion a godwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies a rhoddodd fanylion o’r broses
adolygu a fabwysiadwyd mewn perthynas â’r gwasanaeth a’r cyfleusterau a
ddarperir o ran lleoliadau. Cadarnhaodd bod yna achosion lle nad oedd anghenion
iaith Gymraeg lleoliadau Cymraeg eu hiaith tu allan i’r sir yn cael eu cyflawni’n
llawn bob amser. Esboniodd y byddai’n
rhaid asesu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth ymhob achos, ond na fyddai’n
bosib mewn rhai achosion cyflawni’r holl anghenion a ddaeth i’r amlwg.
Cyfeiriodd y CDMW at y
broses gydweithredu ac esboniodd bod y gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn
addawol iawn yn nhermau’r arbedion a sicrhawyd, y monitro ansawdd a’r
perthnasoedd oedd yn cael eu datblygu trwy weithio partneriaeth.
Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Cynghorydd J. Butterfield, amlinellodd y NWCHM y broses a fabwysiadwyd
gan y NWCH i ymdrin â materion cyllidebol drwy’r gyllideb wrth gefn. Roedd yr NWCH yn cynorthwyo wrth sicrhau y
gwerth a’r ansawdd gorau wrth drefnu lleoliadau a rhoddwyd manylion i’r
Pwyllgor o’r broses ariannu ar gyfer lleoliadau y tu hwnt i’r Sir. Cadarnhawyd bod y NWCH yn gweithio’n agos
gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), a oedd yn cael ei chynrychioli ar y
Grŵp Rheoli Ansawdd Rhanbarthol.
Darparwyd manylion o’r rolau yn nhermau cyfrifoldebau arolygu a materion
ansawdd i Aelodau. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Butterfield, cytunwyd y
dylid cynnwys eitem yn ymwneud â chostau rhaglen gofal preswyl ym mlaen-raglen
waith y Pwyllgor. Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles y
byddai’n cadarnhau dyddiad ar gyfer cyflwyno’r adroddiad yn dilyn ymgynghoriad
gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes.
Yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd, cytunodd Aelodau y dylid cynnwys adroddiad diweddaru pellach mewn
perthynas â chynnydd Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru yn y Blaen-raglen waith
i’w gyflwyno ymhen chwe mis. Yn dilyn cais gan y Cynghorydd E.A. Jones,
cytunwyd y dylai’r adroddiad hefyd gynnwys manylion ynghylch cwmpasu lleoliadau
dementia cost uchel.
Yn dilyn trafodaeth fer:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad.
(b)
yn cytuno y dylid cynnwys
adroddiad pellach ar gynnydd Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru, gan gynnwys
manylion ynghylch cwmpasu lleoliadau dementia cost uchel, yn y blaen-raglen waith, i’w gyflwyno ymhen
chwe mis, ac
(c) y dylid gofyn am adroddiad ar gost darpariaeth Gofal
Preswyl fel rhan o’r blaen-raglen waith.
Dogfennau ategol: