Eitem ar yr agenda
Y CYNLLUN MAWR: DIWEDDARIAD AR BERFFORMIAD
Ystyried adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio
(copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar berfformiad y Bwrdd Gwasanaeth Lleol
a’r Partneriaethau o ran cyflawni’r Cynllun MAWR: Rhan I, 2011-14 ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar y cynnydd a gafwyd hyd yma o
ran cyflawni’r Cynllun ac i nodi unrhyw feysydd lle gellid gwella yn y dyfodol.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Perfformio a Chynllunio, a oedd yn
rhoi diweddariad ar berfformiad y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) a
Phartneriaethau o ran cynnal y Cynllun MAWR: Rhan 1, 2011-14, ac ‘Adroddiad Eithriadau
Cryno’, gyda phenodau manwl i bob un o wyth deilliant y Cynllun Mawr, wedi’u
dosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Esboniwyd mai Cynllun
MAWR Sir Ddinbych: 2011-14 (TBP), sy’n cael ei gynnal ar y cyd gydag
asiantaethau partner, oedd y cynllun sy’n hyrwyddo gweithio Partneriaeth yn Sir
Ddinbych. Roedd y BGLl yn atebol am Y
Cynllun MAWR ac yn dal asiantaethau
partner sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y trydydd
sector, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Iechyd
Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, yn gyfrifol am weithredu cynlluniau
gweithredu i gyflawni’r Cynllun MAWR a’i wyth deilliant. Byddai gwerth gweithio
partneriaeth wrth gyflawni’r Cynllun MAWR yn cael ei archwilio’n fwy manwl mewn
adroddiadau blynyddol ac adroddiadau cau.
Roedd yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth eithriadau am bob deilliant a oedd yn galluogi
Aelodau i ganolbwyntio ar fannau gwan. Roedd partneriaid hanner ffordd drwy’r
amserlen ar gyfer cyflawni ac roedd angen canolbwyntio ar, a blaenoriaethu rhai
elfennau er mwyn adnabod canlyniadau gwell i bobl yn Sir Ddinbych. Roedd
meysydd yn cynnwys ymestyn cefnogaeth i bobl hŷn ar draws y Sir; ymdrin
â’r sialensiau sy’n wynebu Canol Tref y Rhyl; gwella cefnogaeth i ofalwyr
ifanc; rhwystro hunanladdiad a hunan-niweidio; amddiffyn pobl fregus rhag tân ac
adolygu cyfraniad partneriaid i’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol. Esboniwyd bod nifer fach iawn o weithredoedd wedi’u cynllunio i
ddechrau yn 2013 mewn perthynas â Deilliant 8. Esboniodd y Pennaeth Busnes,
Cynllunio a Pherfformiad (HBPP) bod yna faterion problemus, cymhleth a hirfaith
a fyddai’n cymryd cryn amser i ymdrin â hwy. Fodd bynnag, roeddynt ar hyn o
bryd yn asesu os oedd cynnydd wedi’i wneud o ran ymdrin â’r problemau.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a
Lles (CD:MW) nad oedd y dangosyddion llwyddiant i ardaloedd gwledig ac iechyd
meddwl a lles wedi bod yn ddigon cadarn.
Roedd hyn wedi arwain at ddealltwriaeth wannach o effaith y Cynllun MAWR
a chadarnhawyd y byddai’r dangosyddion yn cael eu hadolygu. Nid oedd rhai
deilliannau wedi’u mesur yn ddigonol o fewn mecanweithiau cyflenwi presennol ac
er nad oedd hyn wedi effeithio ar y cyflenwi, roedd y broses adrodd ar
berfformiad wedi dioddef mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â
Deilliant 1. Byddai’r mater hwn yn cael ei ddatrys wrth i strwythurau
partneriaethau strategol lleol, gan gynnwys Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a
Phartneriaeth Plant a Phobl ifanc, gael eu cadarnhau.
Nododd y Pwyllgor
bwysigrwydd casglu data yn gywir ac amserol ynghyd ag adrodd o ansawdd er mwyn
galluogi rheoli perfformiad a gwneud penderfyniadau partneriaeth yn effeithiol.
Roedd mecanweithiau yn eu lle ar gyfer casglu tystiolaeth o effaith yr
ymyriadau ar fywydau bobl, ac roedd gwaith ar y gweill i fapio adnoddau’r
Bartneriaeth.
Byddai manylion yn
ymwneud â’r wybodaeth hon yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r
adroddiad diwedd cynllun. Cadarnhawyd na fu unrhyw rwystrau mawr o ran
cyflenwi’r Cynllun MAWR ac roedd y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod swyddogion
yn hyderus y byddai’r Cynllun Mawr yn cael ei gyflenwi.
Esboniodd Swyddogion bod
y Cynllun Corfforaethol wedi’i alinio gyda’r Cynllun Mawr a bod synergedd rhwng
saith Blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ac wyth deilliant y Cynllun MAWR.
Roedd BIPBC ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad dwys ar newidiadau i’r GIG a
byddai’r rhain yn effeithio ar y Cynllun Mawr, yn enwedig o safbwynt modelau
cyd-weithio, ffurfweddiad gwasanaeth a gofal iechyd yn lleol. Roedd y Cynllun
MAWR yn ddogfen strategol bwysig a oedd yn sail i gyflenwi gwasanaeth o ansawdd
mewn nifer o feysydd, a byddai unrhyw broblemau gyda pherfformiad o bosibl yn
effeithio ar gyllid y Cyngor yn y dyfodol.
Cyfeiriodd y
Rheolwr Partneriaethau a Chymunedau (PCM) at yr Adroddiad Eithriadau Cryno a
rhoddodd grynodeb cryno o’r 8 Deilliant. Rhoddodd grynodeb fanwl o Ddeilliant
1: “Mae pobl hŷn yn arwain bywydau annibynnol a bodlon” fel enghraifft o
grynhoad y wybodaeth a geir o fewn pob un o’r Penodau.
Ymatebodd y swyddogion
i’r cwestiynau canlynol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:-
- Mewn ymateb i bryderon
a godwyd gan y Cadeirydd a’r Cynghorwyr M. McCarroll a M.Ll. Davies, esboniodd
y CD:MW a’r PCM bod materion yn ymwneud â phwysau geni isel yn y Sir a
chyflawniad is gan blant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, yn annerbyniol, ond
eu bod yn gwella a bod cynlluniau wedi’u cyflwyno i ymdrin â’r problemau hyn.
Cytunodd y swyddogion y dylid dosbarthu nodyn i Aelodau yn amlinellu sefyllfa
gyfredol y Cyngor mewn perthynas â’r niferoedd sy’n cymryd prydau ysgol am
ddim, gan amlinellu hefyd y camau rhagweithiol sy’n cael eu cymryd yn y maes
hwn i sicrhau nad oedd plant a dderbyniai’r prydau am ddim yn cael eu difrïo.
- Ymatebodd y PCM i
bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Councillor J.A. Davies mewn perthynas â
Deilliant 3 ac asesiad o gyflawniad gofalwyr ifanc. Esboniodd bod ymateb
Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod y Mesur Gofalwyr wedi’i ystyried fel
strategaeth ragweithiol a fyddai’n codi mwy o ymwybyddiaeth a chynyddu’r gwaith
o adnabod gofalwyr ifanc a gofalwyr hŷn. Cadarnhawyd y byddai data mwy
cadarn ar gael yn y dyfodol i adnabod gofalwyr ifanc a’u presenoldeb a
chyflawniad ysgol, ac roedd mwy o gyfrifoldeb wedi’i roi ar Iechyd i adnabod a
chefnogi gofalwyr drwy’r Mesur Gofalwyr. Cyfeiriwyd at gylch gwaith Grŵp
Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol a bod y mater o ddarparu cyllid heb ei ddatrys
hyd yn hyn.
- Gofynnodd y Cynghorydd
J. Butterfield am fanylion ynghylch nifer, atebolrwydd a chyfranogiad Aelodau o
safbwynt y Byrddau a‘r strwythurau a oedd wedi’u sefydlu. Cyfeiriodd hefyd at gyfleoedd drwy
Ganolfannau Gofal Dydd, Diwygio Budd-daliadau ac effaith Cynllun Rhyl yn Symud
Ymlaen mewn perthynas â’r effaith ar fusnesau a siopau ar Stryd Fawr Rhyl.
Amlinellodd yr HBPP bwrpas yr adroddiad sef darparu gwybodaeth fanwl a
chanllawiau ar gyfer cynnydd pellach trwy gydweithio gyda phartneriaid. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y gwaith a wnaed
trwy’r fforymau a strwythurau partneriaeth gwahanol a fyddai’n cynnwys Aelodau
o’r Cyngor. Esboniodd yr HBPP y byddai adroddiad perthnasol i’r mater hwn yn
cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol ac y byddai modd ei gyflwyno hefyd
i’r Pwyllgor Craffu er ystyriaeth.
- Cyfeiriodd y PCM at
Ddeilliant 4 a oedd yn ymdrin â nifer o’r pryderon a godwyd gan y
Cynghorydd W.N. Tasker ynghylch
digartrefedd, llety gwarchod a darpariaeth rhannu tai. Cyfeiriodd CD:MW at
Brosiect Ymyrryd Argyfwng Rhannu Tai a’r gwaith a oedd yn cael ei wneud
ynghylch goblygiadau posibl y Diwygiadau Lles a’r goblygiadau o ran
budd-daliadau i bobl ifanc. Esboniodd
bod Sir Ddinbych wedi bod yn rhagweithiol wrth ymdrin â materion yn ymwneud â
digartrefedd; tynnwyd sylw arbennig at y gwaith a wnaed gan y Tîm Opsiynau Tai,
y gefnogaeth a ddarparwyd i Brosiectau Tai Gwarchod, y cynllun lletya a’r
Prosiect Night Stop. Cyfeiriodd yr HBPP at y Cynllun Corfforaethol gan
gadarnhau bod “sicrhau mynediad at dai o ansawdd da” yn un o brif
flaenoriaethau’r Cyngor i’r 5 mlynedd nesaf.
- Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd
M.Ll. Davies, rhoddodd y PCM fanylion o’r diffiniadau oed i bersonau sy’n cael
eu hadnabod yn bobl hŷn a’r diffiniadau oed i Ofalwyr Ifanc. Cadarnhaodd y
CD:MW bod ymwybyddiaeth ynghylch goblygiadau’r Diwygiadau Lles yn nhermau
digartrefedd a materion tai, yn enwedig mewn perthynas â phobl ifanc.
- Esboniodd y Cynghorydd
E.A. Jones bod nifer o’r materion a godwyd yn ymwneud â phroblemau hanesyddol,
a phwysleisiodd bwysigrwydd gwerthoedd teuluoedd a’r angen i addysgu rhieni.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y tlodi a brofwyd mewn ardaloedd gwledig a’r
angen i uno a chysylltu cymunedau gwledig.
Esboniodd y PCM y byddai’r adroddiad Teuluoedd yn Gyntaf, sydd i’w
gyflwyno i’r Pwyllgor yn Ionawr 2013, yn ymdrin â nifer o’r materion a godwyd
mewn perthynas â’r ffocws ar y teulu.
- Cyfeiriodd y
Cynghorydd M. McCarroll at lwyddiant y Prosiectau ‘Y Dyfodol’/The Future, sy’n
darparu llety diogel dros dro i bobl ifanc digartref sydd arnynt angen
gwasanaethau cysylltiedig â thai. Nod y Prosiect oedd galluogi unigolion i gael
gafael ar swydd neu hyfforddiant ac yna symud i lety parhaol er mwyn byw’n
annibynnol.
- Rhoddodd y
CD:MW ymateb manwl i gwestiynau gan y Cynghorydd J. Butterfield mewn perthynas
â chyfrifoldebau cyflenwi a darpariaeth ariannu'r Bwrdd Gwasanaeth Lleol a’r
Byrddau Aml Asiantaeth. Pwysleisiodd yr HBPP bod yr adroddiad yn rhoi manylion
ar y gweithgaredd sy’n digwydd ar hyn o bryd, a chadarnhaodd ei fod yn rhagweld
bod modd gwella’r ddarpariaeth gwasanaeth trwy weithio partneriaeth a thrwy
fabwysiadu ymagwedd gydlynol a fyddai’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael.
Yn dilyn trafodaeth fer:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:-
(a) yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad;
(b) yn cytuno y dylid
cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i’r Pwyllgor ymhen chwe mis, ac yn
(c) derbyn adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad yn
amlinellu cyfansoddiad ac aelodaeth holl Fyrddau Rhaglen a Phrosiect y mae’r
Cyngor yn eu cynnal neu’n cyfranogi ynddynt, eu strwythurau ariannu, aelodaeth
ac elfennau’r holl Gynlluniau a Strategaethau y maen nhw’n gyfrifol am eu
cyflenwi.
Dogfennau ategol: