Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN YNNI ARDAL LEOL SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Newid Hinsawdd (copi ynghlwm) er mwyn darparu gwybodaeth i’r Aelodau ynghylch prif adroddiad y cynllun ac adroddiad technegol.

 

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ynghyd â Phennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Perfformiad, Digidol ac Asedau, y Rheolwr Newid yn yr Hinsawdd a’r Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni yn bresennol i gyflwyno’r adroddiad ar Gynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych.  

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Barry Mellor yr adroddiad fel ffordd effeithiol i’r ardal leol gyfrannu at fodloni’r targed sero net cenedlaethol, yn ogystal â’i tharged sero net lleol.

 

Bydd Cynllun Ynni Ardal Leol Sir Ddinbych yn cyfrannu at thema Cynllun Corfforaethol 2022-2027 ‘Sir Ddinbych Wyrddach’, gan ddarparu’n benodol gyfraniad cadarnhaol i’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22-2029/30) drwy leihau allyriadau ar draws Cyngor Sir Ddinbych. Mae hefyd yn cefnogi thema ‘Sir Ddinbych lewyrchus’, gyda’r cyfle i ysgogi twf economaidd a thyfu economi werdd Sir Ddinbych.

 

Cyflwynodd Jane Hodgson, Rheolwr Newid yn yr Hinsawdd gyflwyniad Powerpoint oedd yn amlinellu’r Cynllun. 

 

Yn ystod trafodaeth, amlygwyd mai’r brif ran oedd addysg a rhannu gwybodaeth.  Gofynnwyd i’r swyddogion beth allai Cyngor Sir Ddinbych ei wneud i hyrwyddo’r math yna o wybodaeth a ffyrdd y gallai pobl ddod o hyd iddo yn ogystal â deall y costau, gan fod canfyddiad y byddai’n ddrud.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth fod cam gweithredu yn yr adroddiad ar y Cynllun sy’n sôn am gynlluniau a bod cefnogaeth ar gael i fusnesau a phreswylwyr.   Cyngor Sir y Fflint sy’n cynnal y cynllun ar ran Cyngor Sir Ddinbych. Yn anffodus, roedd yn gyfyngedig o ran adnoddau, ond roedd gwybodaeth, addysg a chefnogaeth ar gael i fusnesau a rhai preswylwyr Cyngor Sir Ddinbych.  Roedd y Cam Gweithredu yn yr adroddiad LAEP ac adroddiadau LAEP y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac mae’n rhoi gwybodaeth y mae Cefnogwr yr Hinsawdd a’r cynllun gwaith Cyfathrebu y mae adran newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.

 

Roedd Cyngor Sir Ddinbych ac Awdurdodau Lleol eraill yn cael trafferth ymgysylltu â rhai busnesau preifat e.e. cwmnïau cludiant mawr a datblygwyr tai preifat. Gallent fod yn gweithio tuag at sero net carbon ond roedd angen i bawb gydweithio er mwyn bodloni cyflymdra’r newid yn y Cynllun.

 

Yna dywedodd y Cadeirydd, fel perchennog busnes bach ei hun, ei bod yn anodd gan fod cymhellion treth wedi cael eu dileu, roedd prisiau ynni yn codi ac roedd cost prynu cerbydau trydan yn ddrud iawn. Awgrymodd y dylid rhoi’r wybodaeth i Lywodraeth Cymru.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai’n trosglwyddo hynny i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y Prif Weithredwr, Graham Boase ar Banel Strategaeth Hinsawdd Cymru Gyfan ac roedd fforwm y gellir cyflwyno’r pwynt a godwyd gan y Cadeirydd iddo.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Rheolwr Mewnwelediad, Strategaeth a Chyflawni wrth y Pwyllgor y bydd cyfleoedd yn codi’n fuan i fusnesau a chymunedau weithio gydag un o brosiectau’r fargen dwf o’r enw Ynni Lleol Clyfar. Byddai pecynnau a ariennir ar gael i fusnesau a chymunedau dros 18 mis i wneud rhai o’r astudiaethau dichonoldeb i edrych ar sut i gyflwyno rhai o’r prosiectau a amlinellwyd yn yr adroddiad.   Cadarnhaodd y byddai’n gweithio gyda’r tîm i edrych ar y ffordd orau o fanteisio ar hynny i Sir Ddinbych o fewn rhaglen waith ehangach Uchelgais Gogledd Cymru.

 

Holwyd y swyddogion os oeddent wedi ystyried defnyddio hydrogen gwyrdd o fewn cwmpas yr adroddiad yn hytrach na hydrogen glas neu lwyd. Ni fyddai hydrogen glas a llwyd yn cyfrannu at y targed sero net. Roedd y datganiad yn yr adroddiad yn cyfeirio at hydrogen ac nid pa hydrogen yn benodol.

 

Cadarnhawyd nad oedd y Cynllun yn nodi pa hydrogen.  

 

Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ar 24 Medi 2024 i’w gymeradwyo ac i sesiwn Briffio Aelodau yn hydref 2024.

 

Roedd disgwyl i’r cynllun gael ei adolygu ymhen pum mlynedd, wrth i ni nesáu at 2030 a therfyn amser targed sero carbon net y sector cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD

(i)              bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi ystyried y Prif Adroddiad CYAL a'r Adroddiad Technegol ac wedi rhoi adborth ar yr agweddau a gynhwysir ynddo.

(ii)             Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o’r Effaith ar Les (Atodiad 4) fel rhan o’i ystyriaethau.

 

Dogfennau ategol: