Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN CYNNAL A CHADW GRIDIAU A GYLÏAU PRIFFYRDD

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Priffyrdd, Asedau a Risg Dros Dro (copi ynghlwm), er mwyn archwilio polisi’r Cyngor ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio priffyrdd ledled y Sir.

 

Cofnodion:

Roedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, ynghyd â’r Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd yn bresennol i gyflwyno adroddiad ar y rhaglen cynnal a chadw Gridiau a Gylïau Priffyrdd.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol, Barry Mellor yr adroddiad i helpu’r Aelodau ddeall sut mae dyletswyddau statudol y Cyngor o dan y Ddeddf Priffyrdd a’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr yn cael eu bodloni o ran rheoli dŵr wyneb drwy ein gwaith o gynnal a chadw’r rhwydwaith draenio priffyrdd a cheuffosydd perygl llifogydd hanfodol, er mwyn sicrhau bod y priffyrdd wedi’u draenio’n dda ac felly’n ddiogel a bod eiddo yn cael eu hamddiffyn yn ystod cyfnodau o stormydd.  

 

Dywedodd yr aelodau mai dail oedd yn cau’r gylïau’n bennaf. Eglurodd y Swyddog Arweiniol eu bod yn cael adroddiadau bod gylïau wedi cau yn aml, ond mai dim ond dail oedd yn achosi’r broblem dros dro - nid oedd yr adnoddau oedd eu hangen i glirio’r rhain yr un fath â gylïau wedi cau go iawn. Byddai adroddiadau cywir am y mater yn atal oedi wrth ymateb. Holwyd sut y gellid gwneud yn siŵr bod y wybodaeth gywir yn cael ei chasglu i sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cael eu hanfon i’r ardal.   Hefyd, sut i godi ymwybyddiaeth mewn Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Ymatebodd y Pennaeth Priffyrdd a'r Amgylchedd mai capasiti’r draen oedd y broblem weithiau, os oedd glaw mawr sydyn, a byddai’r gyli’n clirio ei hun weithiau. Y ffordd ymlaen fyddai addysgu’r cyhoedd, Cynghorwyr a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned gan y byddai hynny’n helpu i reoli adnoddau, a byddai hyn yn cael ei drafod yn y dyfodol.

 

Yn ystod y trafodaethau codwyd y pwyntiau canlynol –

(i)              Pa mor sylweddol oedd y dŵr oedd yn rhedeg o eiddo oedd wedi palmentu dros eu gerddi ac arwyneb hydraidd dreifiau? Hefyd, i ryw raddau, y gymuned amaethyddol ble roedd tir cywasgedig yn cyfrannu at broblemau llifogydd.

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd tystiolaeth bendant am hyn ond ei fod yn batrwm i rai perchnogion tai. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru gan y cydnabyddir bod dŵr glaw ar gynnydd. Hefyd, roedd angen cysylltu gyda’r tîm Cynllunio ac adrannau eraill am drwyddedau ar gyfer datblygiadau newydd am y mater penodol hwn. Yn anffodus, roedd yn debygol o fod yn broblem barhaus os bydd y tueddiad presennol yn parhau.

(ii)             Dywedodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant wrth y Pwyllgor bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal gyda Dŵr Cymru am yr hen draeniau Fictoraidd yn y Rhyl gan mai dim ond hyn a hyn o ddŵr y gallant eu dal pan mae’n mynd i’r Llyn Morol ac yn cael i bwmpio i’r system storio yno.   Yn anffodus, nid oedd y tanc yn ddigon mawr i gymryd y dŵr i gyd os bydd yn bwrw’n drwm iawn. Pan fydd y tanc yn llawn, mae’n cael ei ollwng i’r môr, ond nid dim ond dŵr yw hyn, ond carthffosiaeth hefyd. Dywedwyd bod ar Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru angen dod at ei gilydd i weithio ar ateb i’r broblem hon.

(iii)           Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y gwaith yn cael ei wneud yn seiliedig ar risg ac y byddai’n dibynnu ar lefel y traffig ar ffordd benodol, ar y terfyn cyflymder a lefel y risg yn gysylltiedig â’r asesiad risg o ran pa mor gyflym y gallai’r tîm fynd i’r lleoliad ac ymdrin â’r mater. Os byddent yn cael adroddiad am broblem mewn ardal sy’n adnabyddus am ei llifogydd, ble roedd traffig trwm ac eiddo mewn perygl o lifogydd, byddai hynny’n brif flaenoriaeth. Os byddent yn cael adroddiad am broblem ar ffordd fwy gwledig ble nad oedd llawer o draffig a dim cofnod ei bod yn ardal sy’n cael llifogydd, byddai’n is ar yr asesiad risg.

Roedd gan yr Awdurdod ddau dancer, un ar gyfer gogledd y sir a’r llall ar gyfer y de. Roedd gofyn i’r ddau dancer yma fod yn gyfrifol am y sir gyfan, felly roedd yn rhaid defnyddio’r dull yn seiliedig ar risg ac asesu pob problem ar ei rhinweddau ei hun pan fydd y tîm yn cael gwybod amdani.

(iv)           Cododd y Cynghorydd Sandilands faterion yn ymwneud â gwter y Rhyl – Prestatyn, ond argymhellwyd y dylid ei drafod ymhellach y tu allan i’r cyfarfod gan nad cyfrifoldeb y Cyngor ydoedd. Yna gofynnodd y Cynghorydd Sandilands pa mor aml mae’r gridiau a gylïau yn cael eu harchwilio yn ystod y flwyddyn, yn enwedig y canghennau sy’n bwydo i gwter y Rhyl a Phrestatyn.

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y gylïau’n cael eu hasesu yn dibynnu ar risg, felly, os oedd yn ardal sy’n adnabyddus o ran llifogydd, byddant yn cael eu harchwilio’n amlach nag ardaloedd ble na chafwyd adroddiadau o lifogydd yn y gorffennol. Roedd y gylïau y cyfeiriwyd atynt yn cael eu harchwilio ddwywaith y flwyddyn ond os oedd rhybudd oren neu felyn yn cael ei dderbyn, yna byddent yn cael eu harchwilio eto. Mae’n bosibl y byddant yn cael eu harchwilio dair gwaith y flwyddyn.

Cadarnhawyd bod y berthynas rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru yn un dda, ond yn anffodus, roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru broblemau ariannol hefyd ac yn ymdrin â nhw’n briodol.

(v)             Codwyd problemau â gridiau mewn rhai ardaloedd yn Ninbych a chadarnhawyd y byddai’r Pennaeth Gwasanaeth yn ymchwilio iddynt y tu allan i’r cyfarfod.

(vi)           Cadarnhawyd bod problem recriwtio gyrwyr cynnal a chadw’r gaeaf, ond bod hon yn broblem genedlaethol nid dim ond yn lleol. Felly, os oedd angen gwneud gwaith cynnal a chadw’r gaeaf ac os oedd gyrwyr yn brin, yna, defnyddiwyd gyrwyr y tanceri. Roedd yn rhaid rheoli hyn fel gwasanaeth ac roedd wedi bod yn broblem ers blynyddoedd.

(vii)          Os byddai swyddogion a staff sy’n teithio’r sir yn rheolaidd yn deall sut rai yw’r problemau, gallent roi gwybod amdanynt, a byddai hynny’n ddefnyddiol iawn. Byddai hyn i gyd yn dibynnu ar addysgu, nid yn unig y staff, ond y cyhoedd hefyd, a chynghorwyr. Roedd llawer o waith angen ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beth oedd capasiti rhwydwaith ddraenio’r sir.  

(viii)        Gwybodaeth am Gullysmart. Cadarnhawyd bod Gullysmart bellach ar waith ond y byddai’n cymryd amser i gasglu’r holl ddata. Yn anffodus, nid oeddent yn gallu rhoi amserlen ar gyfer cwblhau, ond roedd y gwaith wedi dechrau.

(ix)           Tywod yn achosi problemau ar ôl gwyntoedd cryfion iawn ar yr arfordir.  

Cadarnhawyd bod gan y gwasanaeth Priffyrdd a’r Gwasanaethau Stryd ddull ar y cyd o glirio tywod oddi ar y priffyrdd. Os oedd y tywod ar dir preifat, yna cyfrifoldeb y perchennog oedd rheoli’r risg.   

 

Crynhodd y Cadeirydd y drafodaeth, a bod angen gweithio gyda’r Tîm Cyfathrebu i addysgu’r cyhoedd, cynghorwyr a staff. Mynegwyd pryderon am yr agweddau cynllunio, yn enwedig datblygiadau newydd. Roedd angen ymdrin â rhai eitemau y tu allan i’r cyfarfod, yn eu fforymau perthnasol.

 

Penderfynwyd, yn amodol ar y sylwadau uchod,

(i)              bod y Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi ystyried yr adroddiad a chadarnhau eu bod yn hapus y defnyddir y dull cywir o ran cynnal a chadw draeniau priffyrdd, er mwyn cael yr aliniad gorau rhwng y risg i ddefnyddwyr a’r cyllid sydd ar gael, ac

(ii)             argymhellwyd cyfathrebu â’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned i helpu i reoli adnoddau.

 

 

Dogfennau ategol: