Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 41/2024/0115/PF THE WARREN, BODFARI

Ystyried cais i godi annedd menter wledig, gosod tanc septig a gwaith cysylltiedig yn The Warren, Bodfari (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gael codi annedd menter wledig, gosod tanc septig, a gwaith cysylltiedig yn The Warren, Bodfari, Dinbych.

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Rod Waterfield (o blaid) – Diolchodd y siaradwr cyhoeddus i’r pwyllgor am gael siarad. Yr oedd y cais ar gyfer annedd menter wledig, ac nid annedd amaethyddol. Mae’r safle yn 50 erw o dir yn Nyffryn Chwiler y tu allan i Fodfari; y mae’n eiddo i ymddiriedolaeth deuluol, ac wedi ei neilltuo er budd amgylcheddol, cymdeithasol a chymunedol am y 125 mlynedd nesaf. Rhannwyd y tir i ddau floc. Mae un yn 40 erw o goetir sydd â mynediad cyhoeddus caniataol iddo, mae’n rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, ac wedi ei neilltuo at ddefnydd cymdeithasol, amgylcheddol a chyhoeddus. Mae’r bloc arall yn 10 erw ac ym mhen uchaf y safle, ac yr oedd nifer o sefydliadau’n defnyddio’r bloc hwnnw. Defnyddid amrywiol beiriannau i ymgymryd â phethau fel gwaith contractio amgylcheddol, rheoli canolfan sgiliau coetir – y fwyaf yng Nghymru, mae’n debyg – ac yr oeddynt hefyd yn cynnal cyrsiau crefftau traddodiadol. Cynhelid tua saith deg o gyrsiau bob blwyddyn.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod llawer o sefydliadau a chyrff yn defnyddio’r safle ar gyfer nifer o ddigwyddiadau. Yr oedd safle carafanau bach a 14 o randiroedd yn cael eu gosod; yr oedd y ddwy nodwedd yn agored drwy gydol y flwyddyn. 

 

Yr oedd yna hefyd dri thwnnel polythen ac uned fach gydag ieir a moch ar y safle; yr oedd planhigion blodau gwylltion ar gyfer tîm bioamrywiaeth y Cyngor hefyd yn cael eu tyfu. Yr oedd y ddau beth hwn yn darparu cyfleoedd gwaith. Yr oedd yna weithdy hefyd lle gwneid eitemau ar gyfer y gymuned leol a grwpiau amgylcheddol – yr Ymddiriedolaeth Natur yn bennaf, a sefydliadau achub a sefydliadau amrywiol eraill hefyd. 

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Caniataodd y Cadeirydd i’r swyddogion dynnu sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad cyn caniatáu i’r aelodau lleol drafod y cais. Dywedodd y swyddogion fod y prif reswm dros wrthod y cais yn ymwneud â Nodyn Cyngor Technegol 6, sef “mae yna angen swyddogaethol dilys clir”. Teimlai swyddogion o’r manylion a rannwyd gan yr ymgeisydd nad oedd angen swyddogaethol oherwydd nid oedd angen i rywun fod yn bresennol ar y safle am 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos. Felly, teimlai’r swyddogion nad oedd y cais, yn y bôn, yn pasio profion Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

Heriodd y Cynghorydd Chris Evans (aelod lleol) argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais. Dadleuodd fod yr holl safle’n fendith i’r gymuned ac yn cynorthwyo’r rhai mwyaf diamddiffyn, a bod angen ei gynnal. Dadleuodd fod angen presenoldeb ar y safle oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch, gan fod sawl eitem o offer drud yno, a byddai cael rhywun ar y safle’n atal camweddau rhag digwydd.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Chris Evans y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry. Byddai’r rhesymau’n cael eu nodi cyn y bleidlais.

 

Ymatebodd y swyddogion i’r pwynt ynglŷn â diogelwch, gan gyfeirio at Nodyn Cyngor Technegol 6. Byddai’n rhaid i’r aelodau fod yn fodlon nad oes unrhyw ddewis arall parthed diogelwch ar y safle.

 

Yr oedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn cefnogi’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Evans; dywedodd fod pawb sy’n defnyddio’r safle’n canmol y cyfleuster a phopeth a gynigir ar y safle. Holodd y Cynghorydd Parry a oedd rhesymau lluosog wedi eu nodi i ddangos bod angen sylfaenol am godi annedd menter wledig; dywedodd swyddogion y byddai’n beth da eu rhestru os oedd, er mwyn cyfiawnhau mynd yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Elfed Williams ohirio’r cais. Credai nad oedd yr holl wybodaeth berthnasol ar gael ganddo i bleidleisio’n hyderus ar y mater, gan ei fod wedi clywed dadleuon cryf o bob ochr i’r ddadl.

 

Eiliodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis y cynnig i ohirio’r cais hyd nes y cyflwynid yr holl wybodaeth berthnasol, er mwyn i’r aelodau allu pleidleisio’n hyderus ar y mater.

 

Pleidlais –

O blaid – 9

Yn erbyn – 10

Ymatal – 0

 

Ni phasiwyd y bleidlais i ohirio’r cais, felly parhaodd y drafodaeth yn ei gylch.

 

Yr oedd yr aelodau’n bryderus y gallai’r cais, pe bai’n cael ei ganiatáu, osod cynsail ar gyfer caniatáu ceisiadau tebyg eraill. Dywedodd y Cadeirydd a’r swyddogion wrth yr aelodau fod pob cais yn seiliedig ar ei ystyriaethau perthnasol ei hun, yn annibynnol ar geisiadau tebyg eraill.

 

Diolchodd y Cynghorydd Parry i’r Cadeirydd am ganiatáu iddynt siarad eto. Awgrymodd, pe bai’r cais yn cael ei ganiatáu yn groes i argymhellion y swyddog, y ceid gwared â’r annedd oddi ar y safle pe bai’r busnes sy’n gysylltiedig i’r cais yn dod i ben. Dywedodd y swyddogion y byddai’r amodau’n cael eu trafod yn ddiweddarach, naill ai gyda’r aelod lleol neu drwy ddychwelyd at y pwyllgor yn ddiweddarach; cytunodd y pwyllgor i drafod yr amodau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cyn y bleidlais, caniataodd y Cadeirydd i’r aelod lleol, y Cynghorydd Chris Evans, amlinellu ei resymau dros fynd yn erbyn argymhellion y swyddog. Dywedodd na fyddai’r dewisiadau diogelwch yn caniatáu i unrhyw un ymateb yn gyflym i faterion pe bai rhywbeth yn codi. Yr oedd y safle mewn ardal wledig, a byddai angen amser i ymdrin ag unrhyw fater. Parthed lles da byw, byddai cael rhywun ar y safle’n caniatáu i’r anifeiliaid yno gael gofal ychwanegol; ac, yn olaf, byddai cael rhywun yn bresennol o fantais i’r rheiny sy’n defnyddio’r safle carafanau. Nid ystyrid bod y sefyllfa bresennol (a oedd o fudd i’r gymuned ehangach) yn gynaliadwy pan fyddai’r perchennog / rheolwr presennol yn gadael y busnes, a byddai annedd ar y safle er mwyn i reolwr safle fyw yno o gymorth i sicrhau dyfodol y fenter.  Yn dilyn y rhesymu, a’r pwyllgor yn cytuno i drafod yr amodau mewn cyfarfod yn y dyfodol, byddai’r amodau hyn yn cynnwys y cyfyngiadau ar feddiannu’r cyfleuster – i fod ar gyfer gweithiwr gwledig neu weithiwr gwledig wedi ymddeol – ac y ceir gwared â’r adeilad oddi ar y safle be bai’r busnes yn dod i ben.

 

Pleidlais –

O blaid – 17

Yn erbyn – 2

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’r cais yn groes i argymhelliad y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: