Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 15/2023/0029 BURLEY HILL GARAGE, ERYRYS

Ystyried cais i newid defnydd tir ar gyfer parcio 3 bws ar y man tarmac presennol (cais ôl-weithredol) yn Burley Hill Garage, Eryrys (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i gael newid defnydd tir ar gyfer parcio 3 coets ar y man tarmac presennol (cais ôl-weithredol) yn Burley Hill Garage, Eryrys, yr Wyddgrug (dosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Siaradwr Cyhoeddus –

 

Kean’s Coaches (ymgeisydd) (o blaid) – Dywedodd y siaradwr cyhoeddus eu bod wedi derbyn adroddiad y swyddogion cynllunio yn ei gyfanrwydd ac, ar y cyfan, eu bod yn cytuno â chynnwys yr adroddiad mewn perthynas â’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i’r cais hwn. Nodwn na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau proffesiynol. Mae gennym gefnogaeth gan y Cyngor Cymuned a chan adran briffyrdd Sir Ddinbych a swyddogion Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus fod tri o’r pum gwrthwynebiad a dderbyniwyd wedi dod o’r un eiddo. Cyflwynwyd dau o’r pump ar ôl y dyddiad cau, ac yr oedd y pryderon a godwyd yn ymwneud â sŵn. Comisiynwyd adroddiad sŵn gan yr ymgeisydd, a ganfu na fyddai unrhyw effaith negyddol ar eiddo cyfagos. Cafwyd pryderon ynglŷn â’r effaith ar ddiogelwch y briffordd. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr iard hon ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan Swyddog Priffyrdd Sir Ddinbych.

 

Yr oedd cerbydau nwyddau trwm yn arfer bod yn yr un lleoliad ar y safle, ac yr oeddynt hwy lawer mwy swnllyd na’r coetsys yr ydym yn eu defnyddio, ac yn cynhyrchu llawer mwy o allyriadau. Ni fydd unrhyw effaith weledol o gymharu â’r caniatâd cynllunio sydd eisoes ar waith ar y safle. Codwyd pryderon hefyd ynglŷn â nifer y coetsys a fydd yn cael eu parcio ar y safle. Hoffem nodi bod dwy uned fasnachol ar y safle sy’n cael eu rhentu. Mae’r ddau fusnes hwnnw’n darparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw ar gyfer cerbydau masnachol, coetsys, bysiau, faniau a cherbydau nwyddau trwm. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y cerbydau y gellir eu parcio ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw. Yn ogystal, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar symudiadau cerbydau i’r safle ac allan ohono ar unrhyw adeg, dim ond i’r adeilad ac allan ohono; neu mae’r cais ar gyfer parcio coetsys ar wahân i’r telerau cynllunio sydd eisoes ar waith ar gyfer y ddwy uned fasnachol.

 

Dywedodd y siaradwr cyhoeddus mai busnes sy’n tyfu ydyw, sy’n dod â ffyniant economaidd i gymuned wledig. Mae’n darparu cyfleoedd gwaith i breswylwyr lleol a gwasanaethau i ysgolion, grwpiau cymunedol ac elusennau. Mae gennym gontractau ysgolion ar hyn o bryd gyda Chyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Ddinbych. Felly, i gloi, os na allwn barcio coetsys, ni allwn weithredu.

 

Trafodaeth Gyffredinol –

 

Yr oedd y Cynghorydd Terry Mendies (aelod lleol) yn cefnogi’r cais yn llwyr. Mae’n gais syml – ar gyfer parcio tair coets mewn iard mewn lleoliad gwledig – a dylem fod yn annog mentrau busnes bach.

 

Fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Mendies ddiwygiad i’r cais, sef bod yr oriau bron yn cadw at amseroedd defnyddio’r iard ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, yr oriau yw 8.00am tan 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener; 8.00am tan 1.00pm ar ddydd Sadwrn; ac ni chaniateir unrhyw weithgarwch ar ddydd Sul na gwyliau cyhoeddus. Dywedodd y Cynghorydd Mendies hefyd nad oedd yn cefnogi’r cynnig ar gyfer mynediad 24/7 i’r safle.

 

Ar ôl siarad â’r preswylwyr, a chan ystyried bod y coetsys y cyfeirir atynt yn y cais hwn yn cael eu defnyddio ar gyfer mynd â phlant i’r ysgol, byddai’n briodol diwygio’r oriau i ddechrau am 7.30am, a chadw at y cyfyngiadau presennol, sef 6.00pm.

 

Mae’r iard hon yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a byddai’n annerbyniol cael coetsys yn mynd a dod drwy’r amser.

 

Amlygodd y Cynghorydd Mendies bwynt 1.7.2 yn yr adroddiad, sef ‘Nodir ei bod yn bosibl bod rhai enghreifftiau o dorri rheolaeth gynllunio yn dal i fod ar y safle, sydd y tu hwnt i reolaeth y cais cynllunio hwn. Fodd bynnag, cynghorir yr aelodau nad yw hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar y cais hwn, a gellir ymdrin â hwy ar wahân. Cynghorir yr aelodau i ystyried y cais hwn ar sail yr hyn y gofynnir amdano’n unig – parcio 3 coets / bws ar y safle.’ Gorffennodd y Cynghorydd Mendies drwy ofyn a ellid rhybuddio swyddogion cynllunio i sicrhau gorfodaeth gadarn os oes angen, gan fod yna bosibilrwydd o dorri rheolaeth gynllunio.

 

Ymatebodd y swyddogion i’r pwyntiau a godwyd gan yr aelod lleol. Amlygwyd ganddynt nad oedd unrhyw gyfyngiadau presennol ar y safle yn ymwneud â cherbydau’n mynd i’r safle ac yn gadael – gallai cerbydau fynd a dod fel y mynnent. Yr oedd yr ymgeiswyr wedi gwneud asesiad ar y sŵn a achosir gan injans bysiau yn cychwyn ar y safle, a dangosai ei bod yn debygol na fyddai’r sŵn o’r bysiau’n niweidiol i’r preswylwyr yn y cyffiniau. Fodd bynnag, nodwyd y gallai tîm Gwarchod y Cyhoedd ymdrin ag unrhyw gwynion a dderbynnid drwy ddeddfwriaeth niwsans statudol.

 

Cyn dechrau’r drafodaeth, gofynnodd y Cadeirydd am eilydd ar gyfer y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Mendies. Nid eiliwyd y cynnig, felly dilëwyd y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Merfyn Parry o blaid y cais. Dywedodd fod y cais yn cefnogi busnes lleol, ac y gallai unrhyw gyfyngiadau ar amseroedd gweithredu’r busnes fod yn rhwystr iddo.

 

Cynnig Cynigodd y Cynghorydd Merfyn Parry y dylid cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andrea Tomlin.

 

Yr oedd y Cynghorydd Tomlin yn cytuno â’r cais hefyd, ac, o brofiad personol, credai y byddai gallu gweithredu 24/7 yn hanfodol gan fod yr ymgeisydd yn cynnig gwasanaeth yn lle’r trên.

 

Pleidlais –

O blaid – 19

Yn erbyn – 0

Ymatal – 0

 

PENDERFYNWYD: y dylid CYMERADWYO’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.

 

 

Dogfennau ategol: