Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD ARCHWILIO MEWNOL
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) yn diweddaru’r aelodau
am gynnydd Archwilio Mewnol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol, Bob
Chowdhury, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i’r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gynnydd diweddaraf Archwilio Mewnol o ran
darpariaeth gwasanaeth, darparu sicrwydd, adolygiadau a gwblhawyd, perfformiad
ac effeithiolrwydd wrth ysgogi gwelliant.
Roedd Atodiad 1 yn darparu diweddariad ar y
gwaith Archwilio Mewnol a wnaed ers yr adroddiad diweddaru diwethaf a
gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Mawrth 2024.
Ers diweddariad diwethaf y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ym mis Mawrth, roedd 10 adroddiad archwilio mewnol
wedi’u cwblhau – roedd 6 wedi cael sgôr sicrwydd uchel a 4 wedi cael sgôr
sicrwydd canolig.
Ar 3 Mehefin cyflwynwyd gwasanaeth newydd y
Cyngor i gasglu gwastraff a deunyddiau i’w hailgylchu ledled y sir. Roedd y
gwasanaeth newydd yn newid o gasglu gwastraff ailgylchu cymysg i gasgliadau ar
ymyl palmant drwy system drolibocs. Bu sawl problem wrth gyflwyno’r drefn
newydd, a arweiniodd at orfod cael cefnogaeth gan wasanaethau eraill ar draws y
Cyngor. O ganlyniad, secondiwyd tri aelod o’r tîm Archwilio Mewnol i gefnogi’r
gwasanaeth gwastraff ar sail rhan amser i ddechrau, yna aeth dau aelod o staff
at y gwasanaeth yn llawn amser am gyfnod byr. Roedd hyn wedi achosi oedi i
gynnydd y Cynllun Archwilio. Roedd gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol dîm llawn
o staff eto bellach ac roeddent yn gweithio ar gwblhau’r cynllun.
Ers mis Ebrill eleni (2024) roedd dau
ymchwiliad arbennig wedi’u cynnal a oedd wedi bod yn heriol a thrwm iawn ar
adnoddau Archwilio Mewnol. Nid oedd yr un o’r ddau ymchwiliad wedi’u cwblhau
eto. Roedd yr ymchwiliad cyntaf yn ymwneud â chwyn rhannu pryderon a’r ail
ymchwiliad yn ymwneud â chais am wasanaeth.
Roedd y Prif Archwilydd Mewnol yn falch o
hysbysu’r Pwyllgor bod y ddau Uwch Archwilydd Llwybr Gyrfa wedi pasio
cymhwyster lefel 2 gyda’r Gymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu ac wedi cofrestru ar
gyfer cymhwyster lefel 3 a fyddai’n dechrau ar 11 Medi 2024. Roedd y Prif
Archwilydd yn dal i fod ar y trywydd cywir i gwblhau a phasio ei chymhwyster
lefel 4 gyda’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac roedd y trydydd Uwch
Archwilydd Llwybr Gyrfa yn mynd i fod yn dechrau astudio ar gyfer cymhwyster
Sefydliad Archwilwyr Mewnol ar ddiwedd y flwyddyn hon.
Mae Archwilio Mewnol yn monitro perfformiad i
fynd i’r afael â chamau sy’n deillio o adolygiadau archwilio. Cyfrifoldeb y
rheolwyr yw mynd i’r afael â’r camau hyn a chofnodi’r cynnydd ar y system
rheoli perfformiad (Verto). Roedd Archwilio Mewnol yn parhau i gynnal
archwiliadau ‘dilynol’ ac yn adrodd ar gynnydd gan gyflwyno cynlluniau
gweithredu sy’n deillio o archwiliadau sicrwydd isel er mwyn sicrhau bod
gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
Nododd yr Aelodau mai dim ond un Cyngor Tref
oedd wedi cael ei archwilio a chodwyd pryderon ynglŷn â p’un a oedd Cyngor
Sir Ddinbych (CSDd) yn cael gwybodaeth o archwiliadau a gwblhawyd o fewn
Cynghorau Tref eraill. Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol y gallai unrhyw
Gyngor Tref gael ei archwilio gan gorff annibynnol. Roedd y Cyngor Tref a archwiliwyd ac y
cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad wedi dewis cael ei archwilio gan dîm Archwilio
Cyngor Sir Ddinbych ac roedd y gwaith yn cael ei gynnal yn flynyddol. Pe bai
Cynghorau Tref eraill yn gofyn am y gwasanaeth hwn gan Sir Ddinbych, byddai
angen ystyried ceisiadau ar sail argaeledd ac adnoddau’r gwasanaeth.
Esboniodd y Rheolwr Archwilio bod y Cynghorau
Tref yn cael eu harchwilio a bod canfyddiadau’r archwiliadau hynny yn cael eu
hadrodd yn ôl i’r Cyngor Tref. Ni fyddai’r canfyddiadau’n cael eu hadrodd yn ôl
i CSDd fel rheol.
Esboniodd y Swyddog Monitro bod aelodau o’r
Pwyllgor Safonau yn mynychu cyfarfodydd a gynhelir gan Gynghorau Tref a
Chymuned yn rheolaidd, a bod adborth ynghylch ymarfer da neu unrhyw
hyfforddiant y gellid ei gynnig os oedd unrhyw bryderon yn cael ei anfon atynt.
Cyfeiriodd Aelodau at gau adeilad Caledfryn a
nodwyd yn yr adroddiad a holwyd ynghylch dyfodol yr adeilad. Dywedodd y Prif
Archwilydd Mewnol bod cyfarfod agoriadol wedi’i gynnal i drafod adolygu cau
Caledfryn ac roedd gwaith eisoes wedi dechrau ar hyn. Y gobaith oedd y byddai
adborth ar gael am y darn hwn o waith yng nghyfarfod mis Tachwedd y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio.
Holodd yr Aelodau pa effaith oedd rhoi tri
aelod o staff i weithio ar helpu i gyflwyno’r Gwasanaeth Gwastraff newydd
wedi’i gael ar y Tîm Archwilio Mewnol. Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol bod
cyfarfod wedi’i gynnal i drafod defnyddio aelodau o’r Tîm Archwilio Mewnol i
helpu gyda’r gwasanaeth gwastraff. Roedd yr aelodau o’r tîm a fu’n helpu wedi
bod yno am gyfnod penodol ar y sail y byddai Gwaith Archwilio yn gallu parhau,
ac y gellid galw amdanynt yn ôl pe bai eu hangen. Oherwydd bod aelodau o’r tîm wedi’u
defnyddio, collwyd cyfanswm o 40-50 diwrnod o waith archwilio.
Eglurodd y Swyddog Monitro bod nifer y
gwirfoddolwyr a ddefnyddiwyd i helpu’r gwasanaeth gwastraff yn gymharol isel -
llai na thri gwirfoddolwr y dydd ar gyfartaledd.
Gofynnodd Aelodau a fyddai modd cynnwys
olrheinwyr arbedion yn yr adroddiad yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Archwilydd
Mewnol bod adolygiad o’r broses olrheinwyr arbedion yn mynd rhagddo ar hyn o
bryd, a disgwylid i’r canlyniad ddangos bod olrheinwyr arbedion mewn lle a’u
bod yn gweithio’n gywir. Pe bai unrhyw bryderon yn cael eu codi ynglŷn â
chanlyniadau’r olrheinwyr arbedion, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor perthnasol. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai’n ceisio dod
â’r darn hwn o waith ymlaen fel bod yr adroddiad ar gael ar gyfer cyfarfod y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Tachwedd. [BC i weithredu].
Gofynnodd Aelodau am ddiweddariad am Ysgol
Crist y Gair yn y Rhyl a oedd yn destun Mesurau Arbennig ar hyn o bryd.
Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol bod y Cyngor yn gysylltiedig, a bod camau
gweithredu’n cael eu cymryd ar lefel briodol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr Ymchwiliadau
Arbennig a nodwyd yn yr adroddiad a gofynnodd am ddiweddariad. Esboniodd y Prif
Archwilydd Mewnol bod yr Ymchwiliadau Arbennig yn parhau ac y byddai sesiwn
hyfforddiant ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei
drefnu i roi manylion yr Ymchwiliadau Arbennig, a’r broses a ddilynir.
Mynegodd yr Aelodau bryderon am yr amser a
gymerir i gwblhau Ymchwiliad Arbennig, a’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen.
Eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol nad oedd ei dîm wedi ymgymryd â'r holl
ymchwiliadau y gofynnwyd amdanynt. Cynhaliwyd trafodaethau gyda'r Swyddog
Monitro, Swyddog Adran 151 a'r Rheolwr AD i benderfynu a oedd ymchwiliad yn
cael ei gynnal yn fewnol neu'n allanol gan ystyried ffactorau megis pa mor
gyfarwydd oedd y systemau a ddefnyddiwyd. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd y byddai'r
archwiliad arfaethedig o Reoli Prosiectau yn ystyried canfyddiadau'r ymchwiliad
i gyflwyniad y gwasanaeth Casglu Gwastraff pe bai angen.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Archwilydd
Mewnol a'i dîm am eu holl waith ac roedd yn falch bod aelodau'r tîm wedi
cyflawni nifer o gymwysterau.
PENDERFYNWYD –
·
Bod y Pwyllgor yn nodi’r pwysau ar y Tîm
Archwilio Mewnol a’r angen i flaenoriaethu gwaith archwilio yn y dyfodol a -
·
Bod y Pwyllgor wedi ystyried cynnwys yr
adroddiad ac nad oedd angen sicrwydd pellach arno ynglŷn ag
unrhyw feysydd a archwiliwyd i olrhain cynnydd o ran gweithrediad y cynlluniau
gweithredu gwelliant.
Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod cafwyd egwyl o 11.05am tan 11.15am.
Dogfennau ategol:
- Council Committee Report Template - Internal Audit Update - Sept 2024, Eitem 5. PDF 214 KB
- Appendix 1 - Internal Audit Update September 24 (final), Eitem 5. PDF 746 KB